Ar gael yn Clirio BSc (Anrh)

Seiberddiogelwch Cymhwysol

Dechreuwch eich gyrfa gydag addysg seiberddiogelwch arbenigol yn gweithio ar brosiectau seiberddiogelwch yn y byd go iawn wrth ennill sgiliau a phrofiad hynod werthfawr, gyda’r cyfle ychwanegol i ymgymryd ag ardystiad arbenigol.

Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Eich paratoi i ymladd troseddau seiber.
Eich paratoi i ymladd troseddau seiber.

Côd UCAS

7B9P

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Casnewydd

Côd y Campws

C

Pwyntiau UCAS

104


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*

Trosolwg o'r Cwrs

Gan fod mwy a mwy o darfu ar ein systemau hanfodol a’n data personol, mae angen graddedigion seiberddiogelwch medrus iawn arnom nawr yn fwy nag erioed.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio ar gyfer y rheini sydd â diddordeb brwd mewn seiberddiogelwch, profion hacio, ymchwilio i droseddau digidol, llywodraethu seiber, risg a chydymffurfiaeth, ac ymateb iddigwyddiadau.

Achrediadau

BCS

Rydym wedi ein hachredu gan y BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG


Pam astudio'r cwrs hwn?

Profiad o'r byd go iawn

Ennill profiad yn y byd go iawn yn gweithio gydag Uned Fforenseg Digidol Heddlu De Cymru, Bridewell, Airbus, Y Bathdy Brenhinol, Thales a rhagor.

Cyfleusterau heb eu hail

Hyfforddi mewn labordai arbenigol gydag offer sy'n arwain y diwydiant fel Kali Linux a VMWare. Ymchwilio i droseddau seiber yn ein 'tŷ lleoliad trosedd'.

Arobryn

Cawsom ddyfarniad Prifysgol Seiberddiogelwch y Flwyddyn a hynny bedair blynedd yn olynol yng Ngwobrau Diogelwch Seiber Cenedlaethol y DU.

Canolfan Ragoriaeth

Mae PDC wedi ennill statws Canolfan Ragoriaeth Academaidd Safon Aur mewn Seiberddiogelwch, a ddyfarnwyd gan y Ganolfan Diogelwch Seiberlaethol Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o GCHQ.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Dysgwch hanfodion yr offer, systemau, arferion a deddfwriaeth seiberddiogelwch diweddaraf.

Ymgysylltu â phartneriaid yn y diwydiant mewn gweithdai a dechrau defnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau i broblemau'r byd go iawn.

Datblygu gwybodaeth am agweddau cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol ar gyfrifiadura. Gwella sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau academaidd beirniadol ynghylch hunanfyfyrio ac ymchwil.

Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg

Dod yn gyfarwydd ag agweddau gwahanol ar seiberddiogelwch a'r offer a'r arferion a ddefnyddir yn y diwydiant yng nghyd-destun materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol.

Ewch i'r afael â'r bensaernïaeth a'r systemau cyfrifiadurol sylfaenol sy'n sail i agweddau ymarferol seiberddiogelwch a fforensig digidol.

Ymarfer dylunio, gosod a ffurfweddu rhwydwaith gan gynnwys protocolau a gwasanaethau rhwydweithio mewn technolegau a safonau rhwydwaith presennol ac sy'n dod i'r amlwg.

Dysgwch hanfodion rhaglennu gweithdrefnol a deall y ffactorau sy'n gysylltiedig â datblygu cymwysiadau. Hefyd, addasu ac adeiladu cymwysiadau syml.

Datblygu eich gwybodaeth o egwyddorion sylfaenol allweddol Llywodraethu TG a Diogelwch Gwybodaeth.

Ymgymryd â briffiau byw mewn labordai pwrpasol, gan gynnwys ein Canolfan Gweithrediadau Diogel.

Wrth i chi ddyfnhau eich gwybodaeth am feysydd mwy arbenigol o ddiogelwch seiber a datblygu sgiliau gwerthuso a rheoli strategol, byddwch yn dechrau ystyried y rolau rydych am eu dilyn.

Wrth i chi ddysgu sut i ddatblygu meddalwedd ddiogel, byddwch chi'n deall gwendidau diogelwch mewn arferion rhaglennu cymwysiadau ar y we ac yn amddiffyn ecsbloetio posibl.

Fel ditectif digidol, byddwch chi'n gwerthuso, ymchwilio ac yn creu'r prosesau i gynorthwyo i ddadansoddi ar ôl digwyddiad.

Datblygu eich gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o ddulliau ac ymarfer diogelwch cyfrifiadurol. Cynyddu eich dealltwriaeth o fygythiadau seiberddiogelwch a'u hatal, canfod a lliniaru.

Deall offer, technegau, fframweithiau a deddfwriaeth seiber-lywodraethu a chydymffurfio. Gwerthuso strategaethau rheoli risg, llywodraethu a chydymffurfio i reoli seilwaith diogelwch.

Archwilio rôl ymchwil a gwerthuso o fewn seiberddiogelwch ac ennill sylfaen mewn dulliau ymchwil ffurfiol wrth baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil blwyddyn olaf.

Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg

Astudiwch systemau sydd yn dod i'r amlwg mewn ystod o barthau ansafonol, a bygythiadau cysylltiedig. Dysgwch am ficroreolwyr a phensaernïaeth systemau wedi'u gwreiddio a phrotocolau casglu, storio a throsglwyddo data.

Arbenigo mewn Diogelwch System naill ai, lle byddwch yn astudio ardystiad Cyngor y Comisiwn mewn profion hacio a threiddiad moesegol neu Fforenseg Ddigidol, lle y byddwch yn paratoi ar gyfer croesholi llys ac adroddiadau tyst arbenigol gan ddderbyn hyfforddiant ac ardystiad gan Bond Solon.

Arfogwch eich hun â'r theori a'r wybodaeth dechnegol fanwl am brofion treiddiad tîm coch a thîm glas a meistroli'r offer a'r technegau uwch dan sylw.

Ymchwilio, dylunio, datblygu a gwerthuso ateb i broblem hanfodol sy'n berthnasol i'ch rhaglen astudiaeth arbenigol.

Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg

Caffael gwybodaeth dechnegol am y cysyniadau sy'n gysylltiedig â monitro seiberddiogelwch, a chanfod digwyddiadau, dadansoddi ac adfer.

Atgyfnerthu eich cyflogadwyedd, arferion proffesiynol a nodweddion graddedigion yn unol â strategaeth 2030. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o ymddygiad yn y gweithle, cydraddoldeb ac amrywiaeth a deddfwriaeth.

Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Mae hwn yn gwrs ymarferol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, wedi'i gynllunio i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn gweithwyr proffesiynol seiberddiogelwch heddiw. Byddwch chi’n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai, sesiynau labordy arbenigol ac astudio annibynnol, gan roi eich gwybodaeth ar waith gyda heriau'r byd go iawn o ddechrau eich gradd. Ein ffocws yw eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn seiberddiogelwch, gan roi profiad ymarferol i chi gydag offer a thechnolegau safonol y diwydiant mewn cyfleusterau pwrpasol. Trwy friffiau byw, prosiectau ymarferol a chydweithio â phartneriaid yn y diwydiant, byddwch chi’n graddio gyda'r hyder a'r profiad sydd eu hangen i fynd i'r afael â bygythiadau seiberddiogelwch modern. 

Byddwch chi'n dysgu drwy wneud, drwy weithgareddau byd go iawn a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol. Byddwch chi'n cael eich annog i ofyn cwestiynau, archwilio syniadaunewydd a gweithio gydag eraill, yn ogystal ag yn annibynnol. Mae addysgu'n meithrin hyder, meddwl beirniadol a myfyrio, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i olrhain cynnydd, cynllunio'r camau nesaf ac adeiladu gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer astudiaeth lefel uwch.

Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau, a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau'n seiliedig ar waith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm, a chyfathrebu. Byddwch hefyd ynmyfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau ac offer digidol y brifysgol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.

Mae gan y Brifysgol gysylltiadau rhagorol â diwydiant, gyda myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau gwaith gyda'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), Cangen Ymchwil Datblygu Gwyddonol y Swyddfa Gartref(Llundain), GCHQ, Qinetiq, Cy4or, gwasanaethau ariannol, banciau rhyngwladol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cwmnïau fforenseg ddigidol ac adrannau amrywiol o’r llywodraeth. Mae gennym hefydgysylltiadau cryf ag asiantaethau diogelwch, sefydliadau ymateb i ddigwyddiadau sy’n delio ag ymosodiadau seiber a heddluoedd lleol.

Cynhelir y rhan fwyaf o'ch astudiaethau ar gampws Casnewydd, cartref yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol yng nghanol prifddinas dechnoleg fywiog Cymru. Rydych wedi'ch lleoli'n berffaith at chwaraewyr mawr y diwydiant, fel Airbus. Gyda dau lawr cyfan wedi'u neilltuo ar gyfer seiberddiogelwch, mae'r cwch gweithgaredd hwn yn lle perffaith i ddatblygu eich sgiliau digidol. Mae’n Canolfan Gweithrediadau Diogel (SOC) yn adlewyrchu canolfannau diwydiant presennol ac yn cynnwys yr holl seilwaith a thechnoleg uchel y bydd eu hangen arnoch i frwydro yn erbyn seiberdroseddu. Mae’n Labordy Ymchwilio Digidol yn adlewyrchu'r rhai a ddefnyddir gan orfodi'r gyfraith a dadansoddwyr corfforaethol yn ystod ymchwiliadau.

Arweinydd y Cwrs

Dr Richard Ward

Dr Richard Ward yw arweinydd y cwrs BSc Seiberddiogelwch Cymhwysol ar ein campws Dinas Casnewydd. Mae diddordebau academaidd Richard yn cynnwys gweithredu seiberddiogelwch mewn meysyddfel cryptograffeg ac SCA. Mae Richard yn mwynhau rhannu ei frwdfrydedd dros faes seiber, boed yn darlithio ar un o'n cyrsiau seiber arobryn, yn goruchwylio ei fyfyrwyr PhD neu mewn digwyddiadauallgymorth.

Mae croeso i chi e-bostio Richard i gael gwybod mwy am y cwrs.

Rhagolygon Gyrfa

Mae Seiberddiogelwch Cymhwysol yn eich paratoi ar gyfer llawer o rolau y mae galw amdanynt mewn canolfannau gweithrediadau diogelwch a reolir, asiantaethau gorfodi'r gyfraith, sefydliadau corfforaethol, sefydliadau ymateb i ddigwyddiadau, asiantaethau cudd-wybodaeth milwrol a llywodraeth a chwmnïau diogelwch preifat ac ymgynghori.

Eich gyrfa yn y dyfodol

Mae gennych gyfleoedd i ennill achrediadau uwch, adeiladu profiad yn y byd go iawn ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant i arddangos eich sgiliau a meithrin perthnasoedd. Mae hyn yn rhoi cyfleeithriadol i chi sicrhau rôl yn eich maes dewisol. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Dadansoddiad diogelwch ac archwilio
Hacio moesegol 
Llywodraethu Diogelwch Gwybodaeth, Risg a Chydymffurfio 
Profion treiddiad 
Swyddogion cudd-wybodaeth 
Fforensig digidol 
Ymateb digwyddiad

A smiling man with tattoos and a trimmed beard stands confidently with arms crossed in front of large digital screens displaying cybersecurity data and graphs. He is wearing a black

"Mae mynychu darlithoedd diwydiant wedi fy ngalluogi i ffurfio cysylltiadau proffesiynol anhygoel o werthfawr."

Ross Wills, Myfyriwr Seiberddiogelwch Cymhwysol

Dysgwch fwy

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Seiberddiogelwch Cymhwysol agor cyfleoedd ar draws Seiberddiogelwch a'r sector Cyfrifiadura ehangach. Mae gyrfaoedd Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch yn cynnig potensial enillion cryf:

 

Cyflog canolrifol

DU: £53.7k y flwyddyn
Cymru: £43.4k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025

DU: 1.76m
Cymru: 44,279

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Adeiladwch eich gyrfa eich hun

Nid oes rhaid i'ch gyrfa olygu gweithio i rywun arall. Os ydych chi eisiau gweithio'n llawrydd, dechrau busnes neu ddatblygu syniad, gall Menter PDC eich helpu gyda mentora un-i-un, gweithdai ymarferol a chyfleoedd ariannu drwy Gronfa Cychwyn Busnes Menter PDC.
 
Bydd gennych hefyd fynediad at fannau Stiwdio Sefydlu yn ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest. Ar ôl graddio, gallwch gael aelodaeth am ddim am hyd at dair blynedd, gan roi gweithle i chi a rhwydwaith o sylfaenwyr eraill.
 
P'un a ydych chi'n dewis cyflogaeth, gweithio'n llawrydd neu ddechrau busnes, byddwn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau, hyder a'r cysylltiadau i symud ymlaen.

Menter PDC

Partneriaid diwydiant

Mae gennym gysylltiadau cryf â phobl a sefydliadau allweddol ym maes seiberddiogelwch, sy'n datblygu briffiau byw gyda ni ac yn cynnig cyfleoedd lleoliad. Mae'r rhain yn cynnwys adrannau'r llywodraeth felyr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, Cangen Ymchwil Datblygiad Gwyddonol y Swyddfa Gartref, GCHQ, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Bathdy Brenhinol. Hefyd, asiantaethau gorfodi'r gyfraith fel UnedFforenseg Digidol Heddlu De Cymru, Uned Troseddau Hi-Tech Heddlu Gwent, Heddlu’r Met ac amryw o gwmnïau fforensig digidol. Rydym hefyd yn gweithio gyda chwmnïau preifat fel Airbus, Thales, Bridewell, Cyber Wales ac amryw fanciau rhyngwladol a darparwyr gwasanaethau ariannol.

Gofynion Mynediad

Ychwanegol

Fel rheol, mae'r Brifysgol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

104 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
BBC

Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C/B a BC - CC Safon Uwch

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod

Mynediad i AU:
Pasio y Diploma Mynediad i AU a chael o leiaf 104 pwynt tariff UCAS

Safon T:
Pasio (C ac uwch)

 

Os na fyddwch yn cyrraedd y gofynion mynediad ar gyfer Blwyddyn 1, mae Blwyddyn Sylfaen hefyd ar gael fel dewis amgen ar gyfer y cwrs hwn.

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Three students of the global majority sit around a laptop and discuss their work in a cyber security workshop. They all have concentrating facial expressions

Prifysgol Seiber y Flwyddyn yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol, pedair blynedd yn olynol (2019-22), ac yn y rownd derfynol eto yn 2025.  

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

 Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd a'r 7fed yn y DU (HEBCIS)

Archwiliwch ein cyfleusterau

Camwch i ddyfodol diogelwch digidol gydag amrywiaeth o brofiadau ymarferol.

Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol Cymru

Gyda dau lawr cyfan wedi'u neilltuo i seiberddiogelwch, mae'r lle hwn sy’n ferw o weithgarwch yn berffaith i ddatblygu eich sgiliau digidol. Mae ein Canolfan Gweithrediadau Diogelwch (SOC) yn adlewyrchucanolfannau diwydiant cyfredol ac yn cynnwys yr holl seilwaith a thechnoleg manyleb uchel y byddwch chi eu hangen i fynd i’r afael â seiber-droseddu.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Seiberddiogelwch Cymhwysol

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Casnewydd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Storïau Myfyrwyr

"Paratoi ar gyfer llwyddiant ym maes Seiberddiogelwch."

Savva Graddedig Seiberddiogelwch

Gweld Proffil Myfyrwyr

Storïau Myfyrwyr

"Troi angerdd dros ddiogelwch seiber yn yrfa."

Ross Wills Myfyriwr Seiberddiogelwch

Gweld Proffil Myfyrwyr

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?