Seiberddiogelwch Cymhwysol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Mae Seiberddiogelwch yn croesi ffiniau technoleg a diwydiant a byddwch chi'n meistroli'r cyfan ar y cwrs hwn sy'n datblygu eich sgiliau wrth ddatrys problemau'r byd go iawn.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
7B8F
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Casnewydd
Côd y Campws
C
Pwyntiau UCAS
48
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*
Trosolwg o'r Cwrs
Mae byd deinamig seiberddiogelwch angen graddedigion sy'n barod i weithredu. Dyna pam y byddwch chi'n defnyddio technoleg flaengar mewn labordai sy'n efelychu’r byd go iawn ar ein cwrs gradd Seiberddiogelwch Gymhwysol. Byddwch yn datrys problemau byw ochr yn ochr ag arbenigwyr diwydiant gan arfogi’ch hun ar gyfer ystod o rolau seiberddiogelwch.
Heriau amrywiol o fewn seiberddiogelwch sy’n profi eich sgiliau technegol a'ch gallu i ddadansoddi, ymchwilio a datrys problemau. Os ydych chi eisiau datblygu'r doniau hyn a gweithio mewn rolauseiberddiogelwch ar draws sectorau gorfodi'r gyfraith, y llywodraeth a'r sector preifat, mae Seiberddiogelwch Cymhwysol ar eich cyfer chi.
Achrediadau
Rydym wedi ein hachredu gan y BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Dysgwch hanfodion yr offer, systemau, arferion a deddfwriaeth seiberddiogelwch diweddaraf.
Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn archwilio heriau byd go iawn, yn meithrin sgiliau ymarferol, academaidd, a gwaith tîm, ac yn datblygu chwilfrydedd, hyder, a galluoedd datrys problemau i baratoi ar gyfer astudiaeth ac effaith yn y dyfodol.
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau rhaglennu craidd ac arferion datblygu meddalwedd, gan eich helpu i gynllunio, ysgrifennu, profi a mireinio cod wrth feithrin sgiliau datrys problemau a hyder, gan ddefnyddio amgylcheddau a methodolegau datblygu modern.
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno systemau gwybodaeth a chronfeydd data, gan ddangos i chi sut i gasglu, trefnu a diogelu data. Trwy enghreifftiau o'r byd go iawn, byddwch yn darganfod sut mae data yn pweru penderfyniadau clyfar, diogel a chyfrifol sy'n gyrru newid go iawn.
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Mae hwn yn gwrs ymarferol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, wedi'i gynllunio i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn gweithwyr proffesiynol seiberddiogelwch heddiw. Byddwch chi’n dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai, sesiynau labordy arbenigol ac astudio annibynnol, gan roi eich gwybodaeth ar waith gyda heriau'r byd go iawn o ddechrau eich gradd. Ein ffocws yw eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn seiberddiogelwch, gan roi profiad ymarferol i chi gydag offer a thechnolegau safonol y diwydiant mewn cyfleusterau pwrpasol. Trwy friffiau byw, prosiectau ymarferol a chydweithio â phartneriaid yn y diwydiant, byddwch chi’n graddio gyda'r hyder a'r profiad sydd eu hangen i fynd i'r afael â bygythiadau seiberddiogelwch modern.
Mae’n cwrs yn sicrhau eich bod nid yn unig yn barod i weithio ac yn barod i ddelio â heriau mwyaf dybryd y diwydiant, ond hefyd yn paratoi i barhau â'ch taith o ddatblygiad proffesiynol. Mae tua hanner eichaseiniadau yn 'briffiau byw' a osodir gan arbenigwyr seiberddiogelwch yn seiliedig ar broblemau cyfredol yn y sector. Mae hyn yn golygu bod llawer o'ch 12-16 awr o amser astudio wythnosol yn ymarferol 'wrthy bysellfwrdd', ac rydych chi'n cael blas go iawn ar fywyd yn gweithio fel gweithiwr proffesiynol seiberddiogelwch.
O ystyried natur ddeinamig seiberddiogelwch, cedwir arholiadau ffurfiol i'r lleiafswm. Yn lle hynny, byddwch yn cael eich asesu trwy gyfuniad o ymchwil academaidd sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwaithprosiect ymarferol sy'n adlewyrchu arfer diwydiant yn y byd go iawn. Mae'r dull hwn yn caniatáu ichi ddangos eich galluoedd technegol a'ch gallu i ddadansoddi, gwerthuso a datrys heriau seiberddiogelwchcymhleth.
Mae’n cysylltiadau â sefydliadau allweddol yn golygu y byddwch yn ennill profiad gwaith hanfodol ac yn meithrin cysylltiadau drwy gydol y cwrs. Byddwch yn gweithio gydag arweinwyr y diwydiant ac yn caelcyfleoedd lleoliadau gan Bridewell, Heddlu Gwent, Airbus, Y Bathdy Brenhinol, Thales a rhagor. Mae eu harbenigwyr yn cyflwyno gweithdai ac yn eich arwain mewn briffiau byw, lle byddwch chi'n gweithio ynein hamgylcheddau seiber o'r radd flaenaf sy'n efelychu canolfannau'r byd go iawn. Ym maes Fforensig Digidol, byddwch yn dysgu sut i gasglu tystiolaeth o'n 'tŷ lleoliad trosedd' a'i gyflwyno yn y llys dan archwiliad yn ein ffug lys, gyda chyfle i gael hyfforddiant ychwanegol gan ymgynghorwyr cyfreithiol Bond Solon.
Cynhelir y rhan fwyaf o'ch astudiaethau ar gampws Casnewydd, cartref yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol yng nghanol prifddinas dechnoleg fywiog Cymru. Rydych wedi'ch lleoli'n berffaith at chwaraewyr mawr y diwydiant, fel Airbus. Gyda dau lawr cyfan wedi'u neilltuo ar gyfer seiberddiogelwch, mae'r cwch gweithgaredd hwn yn lle perffaith i ddatblygu eich sgiliau digidol. Mae’n Canolfan Gweithrediadau Diogel (SOC) yn adlewyrchu canolfannau diwydiant presennol ac yn cynnwys yr holl seilwaith a thechnoleg uchel y bydd eu hangen arnoch i frwydro yn erbyn seiberdroseddu. Mae’n Labordy Ymchwilio Digidol yn adlewyrchu'r rhai a ddefnyddir gan orfodi'r gyfraith a dadansoddwyr corfforaethol yn ystod ymchwiliadau.
Arweinydd y Cwrs
Dr Richard Ward
Dr Richard Ward yw arweinydd y cwrs BSc Seiberddiogelwch Cymhwysol ar ein campws Dinas Casnewydd. Mae diddordebau academaidd Richard yn cynnwys gweithredu seiberddiogelwch mewn meysyddfel cryptograffeg ac SCA. Mae Richard yn mwynhau rhannu ei frwdfrydedd dros faes seiber, boed yn darlithio ar un o'n cyrsiau seiber arobryn, yn goruchwylio ei fyfyrwyr PhD neu mewn digwyddiadauallgymorth.
Mae croeso i chi e-bostio Richard i gael gwybod mwy am y cwrs.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni48 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
DD
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Diploma BTEC Pasio Pasio
Mynediad i AU:
Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
Safon T:
Pasio (D neu E)
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU Gradd C neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg (Rhifedd a Mathemateg yng Nghymru) ac Iaith Saesneg. I'r rhai sy'n cymryd TGAU yn Lloegr, ystyrir bod Gradd 4 yn cyfateb i C.
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Teithiau Maes
Bydd nifer o ddigwyddiadau, megis sgyrsiau ar yrfaoedd, darlithoedd gwadd ac ati ar gael i fyfyrwyr a gallant gael eu cynnal mewn lleoliadau heblaw am gampws Casnewydd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu costau teithio i'r digwyddiadau hyn, a fydd wrth gwrs yn dibynnu ar ble mae myfyrwyr yn byw. £0 - £25
Tystysgrifau Diwydiant a Phroffesiynol Ychwanegol
Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu, gan weithio tuag at dystysgrifau proffesiynol a dan arweiniad diwydiant fel Cyber Ops CISCO, Bond Solon Expert Witness Skills, Haciwr Moesegol Ardystedig Cyngor EC. Mae rhai o’r tystysgrifau hyn ar gael am gost ychwanegol i fyfyrwyr, ond maent i gyd yn cael eu cynnig am bris gostyngol addysgol na fydd o bosib ar gael y tu allan i Addysg Uwch. Amrywiol
Fesul blwyddyn

Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Seiberddiogelwch Cymhwysol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
-
Llawn Amser, 4 blynedd
-
Medi
-
Casnewydd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion