Pam dewis PDC ar gyfer astudiaeth israddedig?
Os dewiswch Brifysgol De Cymru, byddwn yn ehangu eich gorwelion ac yn dysgu ffyrdd newydd i chi o edrych ar y byd o'ch cwmpas.
Diwrnodau Agored Cyrsiau/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-why-usw.png)
Mae ein graddedigion yn barod ar gyfer yfory, yn barod i adeiladu eu gyrfaoedd a gwneud gwahaniaeth. Dewch o hyd i'ch yfory yn PDC.
Byddwch yn ymarferol
Mae gennym ymagwedd unigryw at addysgu trwy brofiad ymarferol a phartneriaethau ag arweinwyr yn y diwydiannau. Mae'n eich paratoi ar gyfer cyfeiriad eich proffesiwn dewisol yn y dyfodol, ac yn eich helpu i ddod yn rhan o'r proffesiwn hwnnw cyn i chi raddio. Dyna pam mae 95% o’n graddedigion mewn gwaith llawn amser neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis. Dysgwch fwy trwy ein tudalen cyflogadwyedd a gyrfaoedd.
Tri lleoliad cysylltiedig
Creadigrwydd bywiog Caerdydd … sbardun mentrau Casnewydd … y natur arw o amgylch Pontypridd, Glyn-taf a Threfforest … a phopeth yn y canol. Mae gennym dri lleoliad, rydym yn un Brifysgol. Mae pob campws wedi’i gysylltu’n dda â’i gilydd ac mae pob lleoliad yn agored i chi fel myfyriwr PDC. Pa bynnag gampws sy'n cynnal eich cwrs, gallwch archwilio'r gorau o Dde Cymru.
Pam PDC?
Ar y brig yng nghymru
ar gyfer busnesau newydd am y 5ed flwyddyn yn olynol, ac yn y 6ed safle yn y DU.
HE Business and Community Interaction (HE-BCI) Survey 2023/24-
3ydd yn y DU am y nifer o fusnesau graddetid gweithredol (1af yng Nghymru).
-
Enwyd yn y 50 sefydliad gorau yn y DU am bŵer ymchwil gan y Times Higher Education.
Pam PDC?
96%
o raddedigion PDC mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach 15 mis ar ôl graddio.
Arolwg Hynt Graddedigion 2021/223ydd yn y DU am y nifer o fusnesau graddetid gweithredol (1af yng Nghymru).
Enwyd yn y 50 sefydliad gorau yn y DU am bŵer ymchwil gan y Times Higher Education.
Byddwch yn ffitio I mewn
Mae Prifysgol De Cymru mor groesawgar ac chartrefol â'r lle rydym yn ei alw'n gartref. Mae ein dosbarthiadau pwrpasol o fach, pwyslais ar gydweithio a staff cyfeillgar yn golygu bod pob math o fyfyriwr yn ffynnu yma. Er ein bod yn un o’r prifysgolion mwyaf yn y DU, fe welwch fod ein darlithwyr yn adnabod pob un o’u myfyrwyr wrth eu henwau. P'un ai mai chi yw'r genhedlaeth gyntaf i fynychu'r brifysgol neu'n parhau â thraddodiad teuluol, yn edrych i astudio am y tro cyntaf neu'n rhan-amser, byddwch yn ffitio i mewn. Edrychwch ar ein tudalennau bywyd myfyrwyr i ddysgu mwy.
Dysgu wedi'I ail-lunio
Y ffordd orau o fod yn barod am yrfa ar ôl i chi raddio, yw astudio gan ddefnyddio'r un cyfleusterau, meddalwedd a thechnegau ag y byddwch yn eu defnyddio yn eich gyrfa. Mae ein holl gyfleusterau wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ac o safon diwydiant. Ac mae pob cwrs yn darparu cyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau gyda chwmnïau blaenllaw. Mae astudio ym Mhrifysgol De Cymru mor agos ag y gallwch chi at fod yn eich diwydiant wrth yn y brifysgol. Dyna sy’n rhoi cymaint o hyder i gyflogwyr yng ngraddedigion PDC.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-treforest-psychology-44478.jpg)
Cysylltiadau diwydiant eithriadol
Nid yw llwyddiant yn ymwneud â'r hyn rydych chi'n ei wybod yn unig, ond pwy rydym yn ei wybod. Rydym yn datblygu ac yn cyflwyno ein cyrsiau mewn partneriaethau unigryw gyda chyflogwyr, gan gynrychioli arweinwyr diwydiant, y sector cyhoeddus a chyrff cenedlaethol. Mae eich gradd PDC yn canolbwyntio 100% ar yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr yn y dyfodol. Mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau hefyd yn darparu achrediadau proffesiynol ychwanegol, gan roi mantais gystadleuol ychwanegol i chi pan fyddwch chi'n graddio.
Cefnogaeth anhygoel
Neilltuir Hyfforddwr Academaidd Personol i bob myfyriwr israddedig, yn annibynnol ar eu cwrs, i'w helpu gyda'u hanghenion unigol. Maen nhw yno i'ch helpu chi i gael y gorau o astudio a bywyd tra byddwch yn PDC. Gallwch hefyd gael mynediad rhwydd at wasanaethau cymorth proffesiynol ar gyfer pob agwedd ar fywyd yn y brifysgol – gan gynnwys lles, gyrfaoedd a chyflogaeth, entrepreneuriaeth, cymorth astudio a chlybiau a chymdeithasau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/nursing-aston-46447.jpg)
Gwneud cyfeillion gydol oes
Mae PDC yn gymuned agored o fyfyrwyr sy’n amrywiol a chroesawgar bob amser, lle mae cyfeillgarwch gydol oes yn cael ei wneud. Gyda’r amrywiaeth eang o bethau i’w gwneud, eu gweld a’u profi ar draws ein lleoliadau, mae bob amser rhywbeth newydd i’w ddarganfod. P’un a ydych chi yng nghanol Caerdydd neu ym mryniau’r Parc Cenedlaethol, dydych chi byth mwy nag 20 munud i ffwrdd o rywbeth hollol wahanol. Beth bynnag fo’ch diddordebau, mae yna gymdeithas neu glwb PDC lle byddwch chi’n cwrdd â myfyrwyr o’r un meddylfryd. Edrychwch ar ein tudalennau bywyd myfyrwyr i ddysgu mwy.
Ymchwil sy'n newid bywydau
Mae ein hymchwil a'n haddysgu yn canolbwyntio ar yr heriau byd-eang a fydd yn effeithio ar bob cymuned yn y dyfodol. Gydag 81% o effaith ymchwil PDC wedi’i ddosbarthu fel un sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, mae ein darganfyddiadau a’n cydweithrediadau yn helpu i newid bywydau a’n byd yn ymarferol er gwell, o ynni gwyrdd, i gyfiawnder troseddol a datblygiadau meddygol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/chemical-and-pharmaceutical-sciences/subjects-chemistry-students-at-chemistry-labs-30091.jpg)
Er gwell yfory
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym bob amser yn anelu'n uwch ac yn gweithio'n galetach. Mae'n rhaid i ni. Rydym yn Brifysgol gymharol ifanc, gyda dull gwahanol iawn o weithio – gan bartneru â diwydiannau a chymunedau i baratoi myfyrwyr i lunio’r dyfodol er gwell. A barnu yn ôl canlyniadau, mae ein hymagwedd yn gweithio. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi symud i fyny 44 o leoedd yn nhablau cynghrair Prifysgolion y DU (The Guardian, 2021). Mae angen momentwm i greu newid – ymunwch â PDC ac elwa o’n un ni.