Pecyn Cymorth Gwneud Cais
Crëwyd Pecyn Cymorth Gwneud Cais PDC i sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn gwneud cais Prifysgol.
Gwneud CaisCymorth with PDC
Ydy Addysg Uwch yn werth chweil?
Ar gyfartaledd, mae graddedigion yn ennill £10,000 y flwyddyn yn fwy na'r rhai nad ydynt yn raddedigion, oherwydd bod ganddynt fynediad at lawer o swyddi â chyflog uwch. Ar wahân i fanteision ariannol, mae addysg uwch hefyd yn rhoi cyfle i ddilyn yr hyn rydych chi’n angerddol drosto, cyflawni eich nodau gyrfa, a datblygu sgiliau hanfodol sydd â manteision gydol oes.
Ydy mynd i Brifysgol yn realistig i fi?
Mae 350 o ddarparwyr addysg uwch yn y DU, a dros 33,000 o gyrsiau israddedig i ddewis rhyngddynt, sy'n golygu bod rhywbeth at ddant pawb. Mae hefyd yn golygu bod amrywiaeth o ofynion derbyn ar gyfer cyrsiau. Yma yn PDC, rydym yn ystyried cefndir a phrofiad myfyriwr ochr yn ochr â chymwysterau, i sicrhau bod addysg uwch yn hygyrch i bawb. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Datganiad Derbyniadau Cyd-destunol.
A allaf fforddio mynd i'r brifysgol?
Mae mynd i'r brifysgol yn fuddsoddiad ariannol yn eich dyfodol, ac mae cyllid ar gael i dalu costau ffioedd dysgu a chymorth gyda chostau byw wrth i chi astudio. I gael rhagor o wybodaeth am y benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr, gweler ein canllawiau Cyllid Myfyrwyr.
Prentisiaethau Gradd
Mae prentisiaethau gradd yn ffordd wych o ennill profiad go iawn yn y gweithle wrth weithio tuag at radd. Mae myfyrwyr yn ennill cyflog wrth iddynt ddysgu gan fod prentisiaethau gradd yn cyfuno dysgu addysg uwch ag amser cyflogedig mewn amgylchedd gwaith.
Bydd prentisiaethau gradd yn eich galluogi i fwrw iddi’n syth yn eich gyrfa wrth i chi ennill sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd amhrisiadwy yn ogystal â gradd lawn.
Sut alla i ymgeisio a beth alla i ei astudio?
Nid oes amser penodol lle mae ymgeiswyr yn cael eu derbyn sy'n golygu y gall swyddi gwag ddod ar gael ar unrhyw adeg. Mae ein prentisiaethau gradd yn para rhwng tair a phum mlynedd, ac maent yn ymdrin â meysydd fel plismona, peirianneg a thechnoleg.
I wneud cais am brentisiaeth gradd gyda PDC, neu i weld y manylion ar sut i wneud cais a dyddiadau cau, gweler y dudalen Prentisiaethau Gradd ar ein gwefan.
Rhwydwaith75
Mae Rhwydwaith75 yn cyfuno lleoliad gwaith a llwybr astudio rhan-amser sy'n eich galluogi i weithio, ennill a dysgu. Yn ystod y tymor, mae myfyrwyr Rhwydwaith75 yn treulio tri diwrnod yr wythnos yn gweithio i'w cwmni cynnal a deuddydd yn astudio tuag at eu gradd. Yn ystod gwyliau, bydd myfyrwyr yn mynychu eu lleoliad gwaith pum diwrnod yr wythnos.
Beth alla i ei astudio?
Mae gan Rhwydwaith75 gysylltiadau â mwy na 400 o gwmnïau, ac mae lleoliadau gwaith ar gael mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau mewn cwmnïau o bob maint.
Gyda graddau mewn Cyfrifeg, Busnes, Cyfrifiadureg, Peirianneg, y Gyfraith ac Arolygu, gall myfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth academaidd i waith yn y byd go iawn o fewn cwmni.
Sut alla i ymgeisio?
Mae gan Rhwydwaith75 broses ymgeisio ar wahân i UCAS, ac rydym fel arfer yn anelu at dderbyn ceisiadau erbyn mis Mawrth. I wneud cais, bydd angen i chi lawrlwytho ffurflen gais a'i dychwelyd atom drwy e-bost.
Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu PDC ar gyfer cyfweliad - mae'r rhain fel arfer yn digwydd o fis Ionawr i fis Mai. Bydd gofyn i chi hefyd fynychu cyfweliad gyda'r cwmni cynnal, a byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch lle ar ôl derbyn eich canlyniadau ar yr amod eich bod wedi bodloni'r gofynion mynediad.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Rhwydwaith75.
Y cam cyntaf wrth wneud cais i brifysgol yw creu cyfrif ar-lein gydag UCAS. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw nodyn o'ch manylion mewngofnodi fel y gallwch gael mynediad at eich cyfrif yn nes ymlaen. Bydd angen i ymgeiswyr nad ydynt yn mynd i ysgol neu goleg ar hyn o bryd wneud cais fel unigolyn.
Y peth olaf y bydd angen i chi ei wneud ar y cam hwn fydd uwchlwytho’r datganiad personol hollbwysig. Wedi iddo gael ei wirio, ei wirio am yr ail dro, a’i wirio am y trydydd tro, gan aelod o’ch teulu, eich ysgol, neu goleg, yna gallwch uwchlwytho eich datganiad personol.
Bydd athro neu diwtor yn eich ysgol neu goleg yn ysgrifennu geirda i gefnogi eich cais. Byddant hefyd yn llwytho'r geirda ar eich rhan.
Wedi i chi wirio bod y manylion i gyd yn gywir a thalu ffi ymgeisio UCAS (os ydych yn gwneud cais drwy ysgol neu goleg efallai y byddant yn talu hyn ar eich rhan), mae eich cais i astudio yn y brifysgol yn barod i’w anfon. Byddwch yn gallu gwirio statws eich cais drwy Hyb UCAS.
Efallai y derbyniwch e-byst pan fydd diweddariad ar eich cais, ond gallwch wirio eich cyfrif yn Hyb UCAS am ddiweddariadau ar unrhyw adeg a gweld pa brifysgolion allai fod wedi cynnig lle i chi.
Medi: Cyfnod Ymgeisio’n Agor
Efallai y byddwch eisoes wedi edrych ar wefannau rhai prifysgolion, wedi pori drwy ambell brosbectws a hyd yn oed wedi mynd i Ddiwrnod Agored neu ddau. Ond Medi yw'r cynharaf y gallwch gyflwyno eich cais UCAS, a chofiwch mai dim ond hyd at bum prifysgol y cewch chi eu dewis.
15 Hydref: Dyddiad Cau Cyflwyniadau Cynnar
Yn ystyried gwneud cais i astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth neu Wyddoniaeth Filfeddygol, neu i Brifysgol Rhydychen neu Gaergrawnt? Yna bydd angen i chi gyflwyno'ch cais erbyn 15 Hydref. Cofiwch y bydd angen i'ch athrawon hefyd gael amser i ddarllen eich cais ac ychwanegu geirda.
29 Ionawr: Dyddiad Cau Ymgeisio
Efallai y bydd gan eich ysgol neu goleg ddyddiad cau mewnol cynharach y dylech gadw ato. Pan fydd eich cais yn barod ac wedi'i adolygu, ceisiwch ei gyflwyno cyn gynted ag y gallwch yn hytrach na'i adael tan y diwrnod olaf posibl. Cofiwch y bydd angen i'ch athrawon hefyd gael amser i ddarllen eich cais ac ychwanegu geirda.
Diwedd mis Chwefror: UCAS Extra yn Agor
Os ydych wedi defnyddio'r pum dewis yn eich cais ac heb gael cynigion, gallech ddal i gael lle drwy ddefnyddio Extra. Gallwch ychwanegu dewis Extra drwy Hyb UCAS.
Canol Mai: Prifysgolion yn Penderfynu ar Geisiadau
Os gwnaethoch eich cais ym mis Ionawr, dylech fod wedi clywed gan bob un o'ch prifysgolion dewisol. O blith y cynigion sydd gennych, bydd angen i chi wneud dewis cyntaf (cadarn). Fe'ch cynghorir hefyd i wneud ail ddewis (yswiriant), gyda meini prawf derbyn is fel arfer, fel dewis wrth gefn. Bydd unrhyw brifysgolion nad ydych yn eu dewis fel dewis Cadarn neu Yswiriant yn cael eu gwrthod.
Dechrau mis Gorffennaf: Clirio yn agor
Os nad ydych wedi cael lle mewn prifysgol neu os ydych wedi newid eich meddwl ac eisiau dilyn cwrs arall neu fynd i brifysgol arall, bydd angen i chi wneud cais drwy’r system Glirio. Bydd prifysgolion yn hysbysebu pa leoedd sydd ar ôl ar eu gwefannau eu hunain a gwefan UCAS ac mae'n syniad da ffonio'r brifysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi i glywed mwy a gweld a ydych yn gymwys.
Awst: Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch
Ar yr adeg hon, byddwch yn gwybod a ydych wedi cyflawni gofynion derbyn eich dewis cadarn neu eich dewis yswiriant, neu a ydych wedi cael cynnig arall ar gyfer cwrs gwahanol. Os nad yw hyn wedi digwydd, mae clirio yn opsiwn sydd ar gael.
Os ydych yn dymuno gwneud cais yn uniongyrchol i brifysgol, yna byddwch yn gwneud cais drwy wefan y brifysgol berthnasol. Sylwer bod yn rhaid gwneud pob cais israddedig llawn amser drwy UCAS, ac o dderbyn cais uniongyrchol, bydd PDC yn gwirio a ydych eisoes yn UCAS. Os ydych, bydd eich cais uniongyrchol yn cael ei dynnu'n ôl.
Yn PDC bydd angen i chi gofrestru cyfrif ar ein gwefan, a bydd angen i chi gyflwyno manylion personol tebyg i’r rhai a gyflwynir wrth wneud cais i UCAS. Rydym yn gofyn i bob ymgeisydd gyflwyno datganiad a personol a geirda. Gallai hyn fod gan eich tiwtor, neu gyflogwr os ydych wedi gadael yr ysgol neu'r coleg.
Y prif wahaniaeth wrth ymgeisio'n uniongyrchol yw nad oes ffi ymgeisio, a bydd y brifysgol yn cysylltu â chi'n uniongyrchol yn hytrach na thrwy Hyb UCAS.
Cofiwch, os ydych chi'n gwneud cais i sawl prifysgol, rhaid i chi wneud hynny drwy UCAS.
Lleoliad perffaith
Mae ein cyrsiau’n cael eu cyflwyno ar dri champws, yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Bontypridd. Mae gan bob campws gyfleusterau pwrpasol o safon y gwahanol ddiwydiannau, ac felly mae bod yn fyfyriwr yn PDC yn sicrhau y byddwch yn astudio mewn ffordd mor realistig â phosibl yng nghyd-destun eich diwydiant.
Mae gan bob campws gysylltiadau da o ran trafnidiaeth gyhoeddus ac ar ba gampws bynnag y bydd eich cwrs, byddwch o fewn cyrraedd hwylus i’r gorau sydd gan dde Cymru i'w gynnig.
Cyflogadwyedd
Mae gan PDC ddull unigryw o addysgu trwy brofiad ymarferol a phartneriaethau gydag arweinwyr diwydiannol i'ch paratoi ar gyfer y dyfodol yn eich proffesiwn dewisol.
Rydym yn sicrhau y bydd eich gradd yn canolbwyntio 100% ar yr hyn fydd ei angen ar gyflogwyr nawr ac yn y dyfodol trwy ddatblygu a chyflwyno ein cyrsiau mewn partneriaethau unigryw â chyflogwyr, arweinwyr diwydiannol, y sector cyhoeddus a chyrff cenedlaethol.
Cefnogaeth wych i fyfyrwyr
Mae ein gwasanaethau cymorth yn amrywio o'n gwasanaeth anabledd, ein gwasanaeth iechyd meddwl a lles i'n Caplaniaeth. Gellir cael mynediad i'n holl wasanaethau cymorth trwy ein Parth Cynghori Ar-lein, sy'n siop un stop ar gyfer pob ymholiad gan fyfyrwyr.
Bywyd myfyrwyr amrywiol a chroesawgar
Mae gan PDC gymuned amrywiol a chroesawgar o fyfyrwyr lle byddwch yn gwneud ffrindiau oes. Byddwch yn rhan o amgylchedd cefnogol ar gyfer astudio a byw, lle mae myfyrwyr newydd yn ymgartrefu’n gyflym. Yn PDC fe welwch bobl yn union fel chi, sy'n rhannu eich diddordebau, eich credoau a'ch cymhellion.
Mae dros 100 o gymdeithasau a chlybiau i ddewis rhyngddynt, ynghyd â chefnogaeth, gweithgareddau a digwyddiadau di-ben-draw i wirfoddoli a datblygu sgiliau. Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymdrechu i sicrhau eich bod yn cael cyfle i gyfoethogi pob agwedd ar eich bywyd fel myfyriwr.
Fel arfer, mae dau fath o fenthyciad:
Benthyciad Ffi Dysgu
Mae Benthyciad Ffi Dysgu yn talu cost ffioedd eich cwrs israddedig drwy gydol eich astudiaethau. Bydd y cyllid hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch prifysgol ar ôl i chi gofrestru. Dim ond pan fyddwch wedi gorffen eich astudiaethau ac yn ennill dros £27,295 y flwyddyn y byddwch yn dechrau ad-dalu hwn (yn amodol ar delerau ac amodau).
Benthyciad Cynhaliaeth
Bwriad hyn yw helpu gyda chostau llety, teithio, bwyd, a deunyddiau academaidd, a chi sydd i benderfynu sut rydych yn dyrannu'r arian.
Mae cymorth cynhaliaeth yn destun prawf modd, felly bydd y swm a gewch yn seiliedig ar incwm eich cartref a ble y byddwch yn byw neu'n astudio.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu edrychwch ar ein llyfryn Cyllid i Fyfyrwyr Israddedig Cymru.
Ad-dalu'ch benthyciad
Mae ad-daliadau'n dechrau pan fyddwch yn ennill £27,295 y flwyddyn. Os na fyddwch wedi ad-dalu'r cyfanswm sy'n ddyledus o fewn 30 mlynedd, bydd y swm sydd ar ôl yn cael ei ddileu.
Bydd eich ad-daliadau yn cael eu tynnu o'ch cyflog ar yr un pryd â threth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn gyflogai. Bydd eich slipiau cyflog yn dangos faint sydd wedi'i ddidynnu. Dylech wirio bod eich cyflogwr wedi eich rhoi ar y cynllun ad-dalu cywir.
Cofiwch ddiweddaru eich manylion cyswllt fel y gallwch gael negeseuon ynghylch eich benthyciad.
I gael rhagor o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau ewch i wefan y llywodraeth.
Fel arfer, mae dau fath o fenthyciad:
Benthyciad Ffi Dysgu
Mae Benthyciad Ffi Dysgu yn talu cost ffioedd eich cwrs israddedig drwy gydol eich astudiaethau. Nid yw faint o Fenthyciad Ffi Dysgu a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Bydd Student Finance England yn talu'ch Benthyciad Ffi Dysgu yn uniongyrchol i PDC.
Dim ond pan fyddwch wedi gorffen eich astudiaethau ac yn ennill dros £25,000 y flwyddyn y byddwch yn dechrau ad-dalu hwn (yn amodol ar delerau ac amodau).
Benthyciad Cynhaliaeth
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth, mae hyn ar ben eich Benthyciad Ffi Dysgu. Y bwriad yw helpu gyda chostau llety, teithio, bwyd, a deunyddiau academaidd, a chi sydd i benderfynu sut rydych yn dyrannu'r arian.
Mae’r Benthyciad Cynhaliaeth yn destun prawf modd, felly bydd y swm a gewch yn seiliedig ar incwm eich cartref a ble y byddwch yn byw neu'n astudio.
Bydd rhaid i chi ad-dalu'r benthyciad hwn yn y pendraw.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Student Finance England neu edrychwch ar ein llyfryn Cyllid i Fyfyrwyr israddedig Lloegr.
Sut i ad-dalu'ch benthyciad
Mae ad-daliadau'n dechrau pan fyddwch yn ennill £25,000 y flwyddyn. Os na fyddwch wedi ad-dalu'r cyfanswm sy'n ddyledus o fewn 40 mlynedd, bydd y swm sydd ar ôl yn cael ei ddileu.
Bydd eich ad-daliadau yn cael eu tynnu o’ch cyflog ar yr un pryd â threth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn gyflogai. Bydd eich slipiau cyflog yn dangos faint sydd wedi'i ddidynnu. Dylech wirio bod gan eich cyflogwr wedi eich rhoi ar y cynllun ad-dalu cywir i chi.
Rydym yma i Helpu
P’un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses gwneud cais neu unrhyw beth arall, gallwch gysylltu â ni mewn nifer o wahanol ffyrdd ac rydym yn awyddus iawn i siarad gyda chi.
Siarad â niDewis y radd sy’n addas i chi
Rydym yn deall y gallai dewis cwrs deimlo’n llethol ac mae gennych lawer o bethau i'w hystyried. Rydyn ni wedi llunio canllaw ar sut i ddewis y radd iawn i chi.