Bywyd Myfyrwyr

Cymorth Costau Byw

Rydym yn deall bod costau cynyddol yn cael effaith enfawr ar fyfyrwyr, ond peidiwch â phoeni, rydym yma i helpu! Cymerwch olwg ar ein hadnoddau defnyddiol i helpu.

Ydw i'n gallu fforddio mynd i'r Brifysgol?
5 ffordd I wneud bywyd myfyrwyr yn fwy ffordiadwy

Gall bywyd prifysgol fod yn gyffrous ac yn heriol, ac mae rheoli eich cyllid yn rhan fawr o'r profiad. Gyda chostau byw yn codi, rydym yn gwybod y gall cyllidebu deimlo'n llethol. Dyna pam rydym yma i'ch cefnogi gyda chyngor ymarferol, adnoddau ariannol ac awgrymiadau i'ch helpu i wneud y gorau o'ch arian. 

Archwiliwch ein hadnoddau i ddysgu mwy am reoli treuliau, cael mynediad at gymorth, a gwneud i'ch cyllideb weithio i chi. P'un a oes angen help arnoch gyda chostau llety, cyllidebu bwyd, neu gymorth ariannol, rydym yma i chi. 

Sut gallwn ni eich helpu chi

A group of students cooking in a shared kitchen.

Bwyd a Diod

Rydym yn deall bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd, gan gynnwys pris nwyddau cartref a hanfodion bwyd. Cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud i'ch arian fynd ymhellach gyda'ch treuliau bwyd.

Bwyd a Diod
A student ambassador handing out leaflets at the open day registration desk.

Ennill wrth ddysgu

Os ydych chi'n awyddus i ennill arian ychwanegol wrth astudio, mae PDC yma i'ch helpu chi wrth i chi chwilio am y rôl ran-amser berffaith sy'n addas i chi a'ch astudiaethau. Gall ein Gwasanaeth Gyrfaoedd profiadol eich cefnogi.

Ennill wrth ddysgu
A person stood using their phone on a bus.

Trafnidiaeth a theithio

Angen teithio ymhellach i gyrraedd y campws? Mae gan Dde Cymru gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych ac mae mynd a dod o'r Brifysgol yn syml! Cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau trafnidiaeth a theithio am ragor o wybodaeth ddefnyddiol.

Trafnidiaeth a theithio
A group of four students are taking a selfie at a bowling alley named Roxy Lanes in Cardiff. There are neon lights lighting the room.

Adloniant a Hamdden

Fel myfyriwr, mae gennych fynediad at amrywiaeth o fuddion, ac mae yna lawer o ffyrdd i gadw costau i lawr. Gweler ein cyngor ar sut allwch chi gadw costau i lawr heb beryglu cael y profiad myfyriwr llawn.

Adloniant a Hamdden
Part of the sitting area in Lumis, featuring a pink sofa and low hanging ceiling lights

Tai a Llety

Rydyn ni'n gwybod y gall bywyd myfyriwr fod yn ddrud, yn enwedig o ran dod o hyd i'r lle iawn i fyw. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i archwilio opsiynau tai fforddiadwy. P'un a ydych chi'n byw ar y campws neu'n rhentu'n breifat, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi.

Tai a Llety
A student smiling and working in the library with a friend.

Ffioedd Dysgu a Chostau Astudio

Yn poeni am ffioedd dysgu neu gost astudio? Mae gennym lawer o gymorth ar gael i chi! Archwiliwch ein hysgoloriaethau, bwrsariaethau, cyllid a chyngor myfyrwyr, neu cysylltwch â'n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.

Ffioedd Dysgu a Chostau Astudio

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Yn PDC mae gennym ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i'n myfyrwyr. Darganfyddwch a ydych chi'n gymwys i gael benthyciadau, grantiau neu fwrsariaethau i helpu tuag at eich ffioedd dysgu a'ch costau byw.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
A group of students sat laughing over drinks at Treforest Student's Union
  • Mae'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a gwybodaeth i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich sefyllfa ariannol. 

Dechrau prifysgol a byw ar eich pen eich hun? Mae'n newid mawr, a gall rheoli rhent, biliau a chostau dyddiol fod yn llawer o waith. Ond peidiwch â phoeni - nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae gennym ni gefnogaeth i'ch helpu i addasu a rheoli eich arian.

Pontio i Fyw'n Annibynnol
Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr
  • Mae'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a gwybodaeth i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich sefyllfa ariannol. 


student sat on campus in treforest

Cronfa Parod i'r Dyfodol

Rydym yn cynnig £1,000 i fyfyrwyr llawn amser cymwys, wedi’i dalu’n uniongyrchol iddyn nhw yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio. Edrychwch ar y manylion heddiw!

Cysylltu â ni

Eisiau siarad â rhywun am arian neu gael rhagor o gyngor ar sut y gallwn eich cefnogi? Bwciwch apwyntiad gyda'n Tîm Cyngor Arian Myfyrwyr neu cysylltwch â'n Timau Ysgoloriaethau a Chronfa Cymorth i Fyfyrwyr.

Bwcio Apwyntiad

  • Mae apwyntiadau'n para 30 munud 
  • Ar gael i'w bwcio o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm 
  • Ar gael yn bersonol, ar Teams neu dros y ffôn 

 

Archebu apwyntiad

Cysylltwch â ni

Ymholiadau cyffredinol
Ffôn: 01443 483778
(Dydd Llun - dydd Gwener 9am-12pm)
[email protected] 

Ysgoloriaethau: 
[email protected]  

Cronfa Cymorth Myfyrwyr: 
[email protected] 

Llety:
[email protected]