Cronfa Parod i'r Dyfodol 2026/27
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig £1,000 i fyfyrwyr llawn amser cymwys a delir yn uniongyrchol iddynt yn eu blwyddyn gyntaf o astudiaethau.
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ffioedd a Chyllid
Telerau ac Amodau
I fod yn gymwys, mae angen i chi fodloni'r holl feini prawf canlynol:
- Bod yn fyfyriwr cartref.
- Bod yn gymwys i gael cymorth cynnal cyllid myfyrwyr yn y DU gan Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC),
- Student Finance England (SFE), Student Finance Northern Ireland (SFNI) neu Student Awards Agency for Scotland (SAAS)
- Derbyn incwm wedi’i asesu fel un o dan £25,000 y flwyddyn fesul aelwyd fel y'i asesir gan CMC, SFE, SFNI neu SAAS
- Bod yn astudio ar un o gampysau PDC - Pontypridd (Trefforest, Glyn-taf a’r Parc Chwaraeon), Caerdydd, Casnewydd
- Wedi ymrestru gyda blwyddyn 1 neu flwyddyn 0 gradd israddedig cymwys amser llawn sy'n para 3 blynedd neu fwy ac yn dechrau ym mis Medi 2026.
- Wedi gwneud cais i PDC a’r cais wedi’i dderbyn yn gadarn cyn dyddiad cau diofyn UCAS ym mis Mai 2026.
- Wedi eich cymeradwyo ar gyfer cyllid Myfyrwyr erbyn 31 Gorffennaf 2026.
Nid ydych yn gymwys i gael y fwrsariaeth os ydych chi'n astudio un o'r cyrsiau canlynol:
Cyn belled â'ch bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd, byddwch yn cael y fwrsariaeth yn awtomatig.
Bydd myfyrwyr cymwys yn derbyn £1,000 wedi’i dalu'n uniongyrchol iddynt, yn eu blwyddyn astudio gyntaf yn unig.
Byddwch yn cael gwybod a ydych yn gymwys ar ôl ymrestru, erbyn diwedd mis Hydref 2026. Bydd y taliad yn cael ei wneud erbyn diwedd Tachwedd 2026.
Na fyddwch, dim ond yn eich blwyddyn gyntaf o astudiaethau y mae'r fwrsariaeth ar gael.
Gallwch.
Os byddwch yn gadael cyn i chi dderbyn y taliad yn y tymor cyntaf, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y taliad.
Os byddwch yn gadael ar ôl i chi dderbyn y taliad, mae gennych hawl i'w gadw.
Na allwch. Dim ond i fyfyrwyr y mae'r Brifysgol wedi'u nodi fel myfyrwyr cartref yn y DU mae'r Gronfa Parod i'r Dyfodol ar gael .
Os ydych chi'n bwriadu dechrau eich cwrs ym mis Medi 2027, bydd angen i chi wirio manylion unrhyw gynllun bwrsariaeth neu ysgoloriaeth fydd ar gael i fyfyrwyr newydd fydd yn dechrau ym mis Medi 2027 a bodloni'r meini prawf cymhwysedd ynghlwm wrth y cynllun hwnnw, gan gynnwys gwneud cais ar yr adeg honno os yw'n briodol.
Byddwch yn dal i fod yn gymwys i dderbyn taliad ar yr adeg a fwriadwyd os byddwch yn trosglwyddo i gwrs cymwys arall.
Na fyddwch. Dim ond i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau cwrs israddedig amser llawn newydd ym mis Medi 2026 mae’r fwrsariaeth ar gael.
Na fyddwch. Dim ond i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau cwrs israddedig cymwys amser llawn newydd ym mis Medi 2026 mae’r fwrsariaeth ar gael.
Na allwch. Rhaid i bob asesiad gael ei gymeradwyo erbyn 31 Gorffennaf 2026 i fod yn gymwys.
Na allwch. Rhaid i bob asesiad gael ei gymeradwyo erbyn 31 Gorffennaf 2026 i fod yn gymwys.
Cysylltwch â [email protected].