Nyrsio (Plant)
Bydd cwblhau'r radd nyrsio plant hon yn llwyddiannus yn caniatáu mynediad i chi i Gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel nyrs plant gymwys ac yn barod i gychwyn ar yrfa werth chweil.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/bsc-nursing-child.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
B702
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r radd nyrsio plant tair blynedd hon yn cyfuno theori ac ymarfer mewn ffordd arloesol, i ganolbwyntio ar ofal plant mewn amrywiaeth eang o leoliadau gofal iechyd.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Y rhai sy'n chwilio am yrfa ddeinamig a heriol.
Achredir gan
- Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Sgiliau a addysgir
- Gwneud penderfyniadau gwybodus
- Arwain a rheoli gofal
- Deall anghenion datblygiadol plant
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg
Mae nyrsys plant yn gallu deall anghenion datblygiadol plant o'u genedigaeth hyd at drosglwyddo i fywyd fel oedolyn a sut mae salwch yn effeithio ar hyn. Mae rhaniad cyfartal rhwng theori ac ymarfer, sydd wedi'i integreiddio drwy gydol ein holl gyrsiau nyrsio. Rhennir pob blwyddyn academaidd yn bedwar tymor. Yn nhymor un, byddwch yn astudio mewn bloc theori yn y Brifysgol ac yna bloc mewn ymarfer clinigol. Mae'r patrwm hwn yn cael ei ailadrodd drwy gydol y rhaglen tair blynedd.
Hanfodion Ymarfer Nyrsio
Asesu Anghenion a Chreu Cyfleoedd Therapiwtig
Hyrwyddo Iechyd a Lles*
Datblygu Hyder mewn Ymarfer: Ymarfer 1
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Gwella Asesu ac Ymyriadau ar sail Tystiolaeth
Materion Proffesiynol, Cyfreithiol a Moesegol mewn Nyrsio
Gwneud Penderfyniadau Gwybodus yn yr Amgylchedd Ymarfer
Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth: Gwerthuso Gofal yng Nghyd-destun Ymarfer
Hyrwyddo Gwybodaeth, Sgiliau ac Ymyriadau Therapiwtig
Arwain a Rheoli Gofal o Safon ar draws Lleoliadau
Y Nyrs fel Addysgwr
Dod yn Ymarferydd Hyfedr
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Byddwch chi'n astudio gyda myfyrwyr o bob maes a phroffesiynau eraill, yn ogystal â chael sesiynau sy'n benodol i'ch maes chi. Mae’n ofynnol gweithio gyda chleientiaid a chleifion o feysydd eraill hefyd, fel y gallwch ofalu am gleifion ag anghenion lluosog a chymhleth. Mae'r radd Nyrsio’n para o leiaf 42 wythnos. Mae lleoliadau ymarfer dan oruchwyliaeth yn rhan annatod o'r rhaglen. Mae rhaniad cyfartal rhwng theori ac ymarfer, sydd wedi'i integreiddio yn ein holl gyrsiau nyrsio.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/subject-nursing-child-35629.jpg)
Lleoliadau
Mae lleoliadau dan oruchwyliaeth yn rhan annatod o'r rhaglen nyrsio plant. Mae'r rhain yn ein byrddau iechyd partneriaeth, yn ogystal ag yn y sector cymunedol ac annibynnol. Cewch gefnogaeth lawn ar leoliadau clinigol gan nyrs gymwys, sy'n gweithredu fel mentor drwy gydol eich lleoliad. Pan fyddwch chi'n gweithio gyda'ch mentor mewn practis clinigol, rhaid i chi weithio patrymau shifft y maes clinigol rydych chi wedi'ch dyrannu iddo. Mae cyfle hefyd i astudio ac ymarfer dramor mewn nifer o wledydd yn ystod eich ail flwyddyn. Bydd hyn yn eich galluogi i ddod i ddeall gwahanol systemau gofal iechyd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/subject-nursing-child-35534.jpg)
Cyfleusterau
Drwy gydol eich hyfforddiant nyrsio plant, byddwch chi'n dysgu yn ein cyfleusterau iechyd trawiadol. Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol yn efelychu amgylcheddau clinigol ar gyfer addysg a hyfforddiant. Mae'r rhain yn cynnwys dwy gilfan pedwar gwely i efelychu lleoliad ysbyty, cyfleusterau pediatreg a mamolaeth pwrpasol, gan gynnwys uned gofal arbennig i fabanod, amgylchedd gofal dwys ac adran achosion brys gydag efelychydd ambiwlans gyda’r holl gyfarpar. Mae yna fflat dwy ystafell wely hefyd i efelychu darparu gofal iechyd mewn amgylchedd cartref.
Defnyddir y Ganolfan ar gyfer addysg gofal iechyd a hyfforddiant nyrsys, gan ymdrin â phopeth o sgiliau clinigol hanfodol i senarios clinigol cymhleth, amlddisgyblaethol. Byddwch yn defnyddio'r un offer ag y byddwch chi'n ei weld mewn lleoliadau gofal iechyd, ac yn gweithio ar efelychwyr cleifion sy'n dynwared ymatebion y corff i salwch, gofal a thriniaeth.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/162-glyntaff-facilities/campus-facilities-glyntaff-child-nursing-35727.jpg)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/campus-exterior-glyntaff-tramsheds-rain-11762.jpg)
Mae 94% o fyfyrwyr mewn gwaith neu astudiaeth bellach bymtheg mis ar ôl graddio o PDC
Ar y brig
yng Nghymru o ran addysgu, adnoddau dysgu, cymorth academaidd, asesu ac adborth.
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024Mae 94% o fyfyrwyr mewn gwaith neu astudiaeth bellach bymtheg mis ar ôl graddio o PDC
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BBB i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- Bagloriaeth Cymru: Gradd B a BB ar Lefel A i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC: Teilyngdod Rhagoriaeth Diploma Estynedig BTEC
- Mynediad i AU: Rhaid cwblhau 60 credyd yn gyffredinol gydag o leiaf 45 ar Lefel 3 a 15 ar Lefel 2. O'r 45 credyd ar Lefel 3, byddwch angen o leiaf 24 Rhagoriaeth, 18 Teilyngdod a 3 Pasio.
Rydym yn cynghori ymgeiswyr yn gryf i fanteisio ar y cyngor sydd ar gael ar-lein, o ddangos bod gennych y cymwysterau neu brofiad perthnasol, awgrymiadau ar ysgrifennu eich datganiad personol i gyngor ar baratoi ar gyfer cyfweliad, mae gennym gyfoeth o gymorth ac arweiniad ar gael i ymgeiswyr i sicrhau eich bod yn gallu dangos bod gennych yr hyn sydd ei angen a gwneud eich cais y gorau y gall fod. Darllenwch: Cyngor Ymgeisio.
Gofynion Ychwanegol:
- Mae gofyn i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad. I gael cymorth pellach ar baratoi ar gyfer cyfweliad a beth i'w ddisgwyl yn y cyfweliad, darllenwch ein Cyngor cyn Ymgeisio.
- Un geirda boddhaol gan rywun sy’n gallu rhoi sylwadau ar eich agwedd a’ch dull o ymdrin â dysgu mewn ystyr broffesiynol neu academaidd.
- Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
- Bydd angen prawf meddygol boddhaol unwaith y bydd cynnig wedi’i wneud. Byddwn yn cysylltu â chi yn nes at eich dyddiad dechrau gyda manylion sut i gael y rhain.
- Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
- Y cymwysterau cyfwerth a ystyrir yw Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Swyddogaethol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg. (Rhaid bod wedi ei gyflawni ers 2016).
Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol
Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r gwasanaeth diweddaru yn cael ei argymell.
Cost: £64.74 y flwyddyn ar gyfer DBS uwch a £16 am y gwasanaeth diweddaru.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.