Kirsty Pike

Mynd i Faes Nyrsio fel Myfyriwr Aeddfed

Nyrsio
Close up shot of a nursing student wearing blue scrubs and an apron in the clinical simulation centre

Cydiwch ymhob cyfle a mwynhewch y daith—mae'r amser yn gwibio heibio.


Dewis Prifysgol De Cymru i astudio Nyrsio  

"Rwy'n fyfyriwr aeddfed, ac fe gymerodd beth amser i fi benderfynu beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn i wedi astudio Seicoleg yn PDC gynt, ond ar ôl graddio, roeddwn i eisiau mynd allan ac ennill cyflog. Dros amser, sylweddolais fy mod i eisiau gyrfa oedd wir yn cyd-fynd â'r hyn roeddwn i’n angerddol drosto, ac ar ôl ymchwilio i wahanol rolau, syrthiais mewn cariad â Nyrsio Oedolion. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda phobl erioed, felly roedd yn gweddu i’r dim i fi. 

"Fe wnes i ddewis PDC am sawl rheswm. A minnau’n byw gerllaw gyda theulu ifanc, roeddwn i angen rhywle cyfleus, ac roedd PDC yn ddelfrydol. Ar ôl astudio yma o'r blaen, roeddwn i'n gyfarwydd â'r cyfleusterau, ac roedd enw da'r rhaglen nyrsio yn amlwg iawn. Gwnaeth y gefnogaeth sydd ar gael, fel goruchwylio aseiniadau ac arweiniad gan ddarlithwyr caredig, hawdd mynd atynt, wahaniaeth mawr wrth i fi symud i faes gofal iechyd heb brofiad blaenorol. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

MAE'R CYFLEUSTERAU, YN ENWEDIG Y GANOLFAN EFELYCHIADAU CLINIGOL, YN WYCH AR GYFER CYNYDDU HYDER A SGILIAU CYN MYND AR LEOLIAD.

Kirsty Pike

Myfyriwr Nyrsio Oedolion

Cyfleusterau a lleoliadau o safon y diwydiant  

"Gwnaeth gweld campws Glyn-taf a’r cyfleuster efelychiadau ar waith fy nghyffroi’n fawr. Mae'r cyfleusterau, yn enwedig y Ganolfan Efelychiadau Clinigol, yn wych ar gyfer cynyddu hyder a sgiliau cyn mynd ar leoliad. 

"Y lleoliadau oedd uchafbwyntiau fy nghwrs. Rwyf wedi cwblhau 12 ohonyn nhew mewn amryw leoliadau, a chreu rhwydweithiau gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac archwilio meysydd arbenigol. Fy ffefryn oedd yr Adran Frys, lle mae gen i swydd erbyn hyn.  

"I unrhyw un sy'n ystyried Nyrsio Oedolion, fy nghyngor i yw, Cydiwch ymhob cyfle a mwynhewch y daith—mae'r amser yn gwibio heibio! Mae PDC yn cynnig awyrgylch cefnogol, cyfeillgar a chyfleoedd diddiwedd i dyfu a llwyddo." 

Archwiliwch ein Campws Glyntaff

Diddordeb mewn Busnes a Rheolaeth?

Bydd ein graddau busnes yn eich dysgu am bob agwedd ar sut mae busnes llwyddiannus yn cael ei redeg a byddwch yn datblygu sgiliau mewn rheoli pobl, gwneud penderfyniadau a thrafod.