Gofal Iechyd

Canllaw i wneud cais am Nyrsio a Bydwreigiaeth

Ni ddylai gwneud cais i brifysgol fod yn brofiad brawychus. Rydym wedi llunio adnodd pwrpasol sy’n cynnwys cyngor ac arweiniad i’ch cefnogi drwy’r broses ymgeisio.

Gofal Iechyd Gwneud Cais
Lecturer, Tamara Edwards, stood in the nursing simulation centre in front of a mannequin in a hospital bed.

O ddyddiadau cau ceisiadau a dyddiadau allweddol, i gryfhau eich cais ac awgrymiadau ar baratoi ar gyfer cyfweliad, mae nifer o ffyrdd i wella eich cais.


student-25

Paratoi i Ofalu

Mae'r angen am weithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus yn fwy nag erioed ac mae llawer o broffesiynau arbenigol y gallwch eu hastudio ym Mhrifysgol De Cymru, pob un yn gofyn am sgiliau a chryfderau gwahanol.

Mae'r rhain yn cynnwys graddau mewn nyrsio a bydwreigiaeth, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi, ac ymarfer yr adran llawdriniaethau. Mae ein graddau nyrsio hefyd yn cwmpasu meysydd gofal arbenigol gan gynnwys oedolion, plant, iechyd meddwl ac anableddau dysgu, felly mae’n bwysig ystyried beth mae pob math o rôl yn ei olygu i’ch helpu i benderfynu pa lwybr i’w ddilyn.


Dyddiadau Allweddol a Therfynau Cau

Mae pryd i wneud cais yn dibynnu ar ba gwrs a dyddiad cychwyn y byddwch yn gwneud cais amdano, ond ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi, rydym yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais erbyn dyddiad cau Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau (UCAS) i sicrhau ei fod yn sicr o gael ei ystyried ar gyfer eich dewis cyntaf. Y dyddiad cau hwn yw dydd Mercher olaf mis Ionawr. 

Rydym yn derbyn ceisiadau trwy gydol y flwyddyn, ond yn argymell bod ymgeiswyr yn cwblhau eu cais yn gynnar a rhwng mis Medi a mis Ionawr. Mae angen i chi wneud cais erbyn mis Ionawr i sicrhau bod eich cais yn sicr o gael ei ystyried.

Os ydych yn gymwys am gyfweliad, fe'ch gwahoddir i drefnu dyddiad cyfweliad rhwng mis Hydref a mis Mawrth neu unwaith y bydd eich cais wedi'i asesu. Rydym hefyd yn cynnal cyfweliadau rheolaidd y tu allan i'r cyfnod hwn ar gyfer ceisiadau hwyr neu'r rhai sy'n dechrau ym mis Mawrth. 

Yn dilyn eich cyfweliad, byddwch yn dechrau derbyn cynigion, os byddwch yn llwyddiannus, o fis Chwefror hyd at fis Mehefin. Mae penderfyniadau a chynigion yn tueddu i gael eu gwneud yn fuan ar ôl eich cyfweliad cychwynnol. Gan ddibynnu a ydych wedi bodloni’r holl feini prawf, byddwch yn cael cynnig amodol neu ddiamod.

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig astudio, mater i chi yw cadarnhau eich penderfyniad a’ch lleoliad drwy ymateb i’r Brifysgol erbyn dyddiad cau UCAS. Byddwn yn anfon nodiadau atgoffa atoch pryd i ymateb. Gallwch ddewis ni fel eich dewis cyntaf, yswiriant neu wrthod.

Peidiwch â phanicio! Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau trwy gydol y flwyddyn, felly peidiwch â phoeni os byddwch yn methu’r dyddiad cau hwn. Gallwch wneud cais yn ddiweddarach o hyd, yr unig wahaniaeth – ni fydd eich cais yn cael ei warantu mwyach i gael ystyriaeth gyfartal, a dim ond os bydd lleoedd yn parhau ar gael y caiff ei ystyried.

Mae PDC yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau i fodloni’r meini prawf mynediad cwrs rhestredig.

Mae cymwysterau nodweddiadol yn cynnwys Safon Uwch, Diplomâu Estynedig BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Tystysgrifau Her Sgiliau, a chymwysterau Mynediad i Addysg Uwch a gynigir mewn Coleg Addysg Bellach.

Cymwysterau rydym yn eu derbyn

Dechrau eich Cais

Unwaith y byddwch wedi dewis eich cwrs, mae’n bryd dechrau ar eich cais. I wneud cais am gwrs israddedig amser llawn mewn prifysgol, rhaid i chi wneud cais ar-lein trwy UCAS. 

Ein cod sefydliad UCAS yw W01. Rhestrir codau cwrs ar ein gwefan. Mae gwefan UCAS yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol ac yn esbonio pob cam o'r broses ymgeisio.

Y cam cyntaf i wneud cais i brifysgol yw creu cyfrif ar-lein ar wefan UCAS.

Mae rhai adrannau y bydd yn rhaid i chi eu cwblhau yn y cais ar-lein hwn a chewch eich tywys trwy'r rhain ar wefan UCAS. 

Cofiwch ddefnyddio'r flwyddyn ymgeisio gywir a gofyn i'ch ysgol neu goleg am eu bri-air (buzzword) oherwydd bydd angen hwn arnoch i wneud cais. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn mynychu ysgol neu goleg ar hyn o bryd yn gwneud cais fel unigolyn. 

Cofiwch, os ydych yn gwneud cais i brifysgolion lluosog yn uniongyrchol, bydd angen i chi fod yn drefnus iawn o ran ymateb iddynt erbyn dyddiadau penodol gan na fydd yr e-byst i gyd yn cael eu harddangos yn yr un lle. 

Mae'r datganiad personol yn agwedd allweddol ar y broses ddethol; dyma’ch cyfle i esbonio i ni pam eich bod am wneud y cwrs rydych wedi’i ddewis, beth sydd wedi’ch ysbrydoli i ddewis y rôl honno, ac i ddangos y sgiliau a’r rhinweddau sydd gennych sy’n addas ar gyfer y rôl honno. Mae pum thema allweddol yr ydym yn edrych amdanynt mewn datganiadau personol. Bydd sicrhau eich bod wedi ymdrin yn glir â’r rhain ac wedi mynd i’r afael â’r rhain yn eich datganiad personol yn cryfhau ac yn gwella eich cais ymhellach a gobeithio yn sicrhau gwahoddiad i gyfweliad. 

Darllenwch ein hawgrymiadau ar sut i berffeithio eich Datganiad Personol.

Nid oes rhaid i gyfweliad fod yn brofiad brawychus…

A close up shot of a nurse, wearing scrubs and a stethoscope, looking at information on an iPad.

Cwestiynau Cyffredin Cyfweliad

Unwaith y byddwn wedi gwirio a chadarnhau eich cymhwysedd ar gyfer y cwrs, byddwn yn anfon e-bost atoch yn eich gwahodd i drefnu cyfweliad. Fe'ch cyfarwyddir i archebu dyddiad ac amser ar ein gwefan. Bydd nifer o ddewisiadau ar gael, gan gynnwys yr opsiwn i fynychu ar-lein neu wyneb yn wyneb. 

Os na allwch ddod i unrhyw un o’r dyddiadau cyfweld sydd ar gael, neu os ydych wedi archebu lle ond angen aildrefnu, gallwch gysylltu â’n Tîm Mynediadau (e-bost: [email protected]) a fydd yn helpu i ddod o hyd i ddyddiad addas i chi. 

Bydd y panel cyfweld yn cynnwys darlithydd a chlinigydd ac, mewn llawer o achosion, rydym hefyd yn gwahodd defnyddwyr gwasanaeth i fod yn rhan o'n panel cyfweld. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, gofynnir cyfres o gwestiynau i chi am eich maes dewisol, eich dealltwriaeth o’r rôl, a’r rhinweddau sydd eu hangen ar nyrs neu fydwraig.

Dealltwriaeth o'r proffesiwn 

  • Beth ydych chi'n meddwl y mae nyrs yn ei wneud? 
  • Ydych chi wedi siarad ar ran rhywun yn enwedig os oedd ganddynt bryderon? 
  • Sut mae'n gwneud i chi deimlo pan fyddwch chi'n clywed am bobl yn cael eu cam-drin? 

Cymhellion ar gyfer ymuno â'r proffesiwn 

  • Pam ydych chi eisiau bod yn nyrs neu'n fydwraig gymwys? 
  • Beth wnaeth eich ysbrydoli i ystyried y proffesiwn hwn? 
  • Pam ydych chi'n meddwl eich bod chi'n addas iawn i ddod yn nyrs neu'n fydwraig yn y dyfodol? 

Dealltwriaeth o'r cwrs a'i ofynion 

  • Pa rannau o'r cwrs ydych chi'n meddwl fydd fwyaf heriol i chi? 
  • Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf am y cwrs? 
  • Ble ydych chi'n gobeithio gwneud y gwahaniaeth mwyaf? Pam? 

Ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau a gwerthoedd proffesiynol 

  • Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i fod yn broffesiynol? 
  • Beth ydych chi'n ei wneud sy'n dangos ymddygiad proffesiynol? 
  • Sut mae eich gwerthoedd yn cyd-fynd â gwerthoedd y GIG a sut ydych chi'n dangos y gwerthoedd hynny? 

Diwrnodau Agored i ddod

A student ambassador, wearing red USW sunglasses and a branded tshirt, dancing outside at the Glyntaff campus.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.