Cyngor Cais

Paratoi ar gyfer Cyfweliad

Mae ffug gyfweliad yn gyfle gwych i ymarfer a datblygu eich atebion i gwestiynau cyffredin, derbyn adborth a gwneud unrhyw newidiadau i'ch ymatebion a'ch dull, os oes angen.

Gofal Iechyd Cyngor Cais
A prospective student practising her interview answers before her interview

Mae ymarfer ar gyfer cyfweliad yn eich helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â'r broses gyfweld.


student-25

BETH I'W DDISGWYL

Unwaith y byddwch wedi neulltio eich cyfweliad prifysgol, byddwch yn cael eich gwahodd i drefnu ffug gyfweliad. Mae nifer o ddyddiadau ar gael i'w neulltio ar-lein. Unwaith y byddwch wedi trefnu eich ffug gyfweliad, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau a manylion y camau nesaf.
Rydym yn eich annog i drin eich ffug gyfweliad fel pe bai'n gyfweliad go iawn. Adolygwch ein cyngor ar baratoi ar gyfer cyfweliad.


Gallwch ymarfer eich atebion mewn amgylchedd diogel, datblygu strategaethau cyfweliad, gwella eich sgiliau cyfathrebu a gwella'r broses o gyflwyno eich ymatebion. Mae derbyn adborth gan y ffug gyfwelydd yn eich galluogi i fyfyrio ar yr hyn a aeth yn dda a beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol.

Cynhelir ein ffug gyfweliadau ar Microsoft Teams, ac nid ydynt yn para mwy na 30 munud, sy'n cynnig yr hyblygrwydd i chi ddewis amgylchedd sy'n gyfforddus i chi gael eich cyfweliad ynddo. Rydym hefyd yn recordio'ch ffug gyfweliad a gallwch ofyn am gopi. Bydd aelod o'n tîm allgymorth myfyrwyr yn cynnal y ffug gyfweliad ac yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi ac yn rhoi adborth i chi ar y diwrnod.