Cymwysterau rydym yn eu derbyn
Mae Prifysgol De Cymru yn derbyn ystod o gymwysterau i fodloni meini prawf mynediad y cyrsiau rhestredig ar gyfer ein graddau Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae cyfuniad o gymwysterau yn dderbyniol ac mae'r rhai a dderbynnir gan amlaf wedi'u rhestru yma.
Gofal Iechyd Cyngor Cais/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/nursing-aston-46447.jpg)
- Safon Uwch gyda TGAU – 3 Lefel A (mewn unrhyw bwnc) BBB ynghyd â 5 TGAU gradd C neu Radd 4 (neu uwch) sy'n gorfod cynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol.
- TGAU Cyfwerth - Bydd Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol Lefel 2* neu Lefel 3 mewn Cymhwyso Rhif yn cael eu derbyn yn lle TGAU Mathemateg/Rhifedd. Bydd Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol Lefel 2* neu 3 mewn Cyfathrebu yn cael eu derbyn yn lle TGAU Saesneg Iaith. *Rhaid cyflawni Lefel 2 ers 2016.
- Diploma Estynedig BTEC gyda TGAU - Diploma Estynedig BTEC gyda graddau Rhagoriaeth, Rhagoriaeth, Teilyngdod ynghyd â 5 TGAU gradd C neu Radd 4 (neu uwch) sy'n gorfod cynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol.
- TGAU Cyfwerth - Bydd Sgiliau Allweddol/S*Rhaid cyflawni Lefel 2 ers 2016.giliau Gweithredol Lefel 2* neu Lefel 3 mewn Cymhwyso Rhif yn cael eu derbyn yn lle TGAU Mathemateg/Rhifedd. Bydd Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol Lefel 2* neu 3 mewn Cyfathrebu yn cael eu derbyn yn lle TGAU Saesneg Iaith.
- Bagloriaeth Cymru, Safon Uwch gyda TGAU - Bagloriaeth Cymru gradd B a 2 Lefel A graddau BB ynghyd â 5 TGAU gradd C neu Radd 4 (neu uwch) sy'n gorfod cynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol.
- TGAU Cyfwerth - Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol Bydd Lefel 2*neu Lefel 3 mewn Cymhwyso Rhif yn cael eu derbyn yn lle TGAU Mathemateg/Rhifedd. Bydd Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol Lefel 2* neu 3 mewn Cyfathrebu yn cael eu derbyn yn lle TGAU Iaith Saesneg. *Rhaid cyflawni Lefel 2 ers 2016.
- Bagloriaeth Cymru, Diploma BTEC gyda TGAU - Bagloriaeth Cymru gradd B a Diploma BTEC â graddau Rhagoriaeth, Teilyngdod ynghyd â 5 TGAU gradd C neu Radd 4 (neu uwch) sy'n gorfod cynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol.
- TGAU Cyfwerth - Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol Bydd Lefel 2* neu Lefel 3 mewn Cymhwyso Rhif yn cael eu derbyn yn lle TGAU Mathemateg/Rhifedd. Bydd Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol Lefel 2* neu 3 mewn Cyfathrebu yn cael eu derbyn yn lle TGAU Iaith Saesneg. *Rhaid cyflawni Lefel 2 ers 2016.
Diploma Mynediad (Iechyd neu Nyrsio) - Diploma Mynediad (Iechyd neu Nyrsio) – 60 credyd yn gyffredinol gydag o leiaf 45 ar Lefel 3 heb ddim llai na 24 Rhagoriaeth, 18 Teilyngdod a 3 gradd Pasio ar Lefel 3 a 15 credyd heb eu graddio ar o leiaf Lefel 2. Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu'r holl ofynion gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Efallai na fydd Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch eraill yn bodloni'r gofynion Mathemateg a Saesneg. I fodloni'r gofyniad, rhaid i chi gyflawni 15 credyd ar Lefel 3 mewn modiwlau cysylltiedig â Mathemateg a Saesneg.
- Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (K102) - K102 – Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Y Brifysgol Agored) ynghyd â 5 TGAU gradd C neu Radd 4 (neu uwch) y mae'n rhaid iddynt gynnwys Mathemateg/Rhifedd ac Iaith Saesneg.
- TGAU Cyfwerth - Bydd Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol Lefel 2* neu Lefel 3 mewn Cymhwyso Rhif yn cael eu derbyn yn lle TGAU Mathemateg/Rhifedd. Bydd Sgiliau Allweddol/Sgiliau Gweithredol Lefel 2* neu 3 mewn Cyfathrebu yn cael eu derbyn yn lle TGAU Saesneg Iaith. *Rhaid cyflawni Lefel 2 ers 2016.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon - 120 pwynt tariff UCAS o ganlyniadau'r Dystysgrif Gadael Uwch ynghyd â C3 (neu'n uwch) mewn Mathemateg a Saesneg ar Lefel Gyffredin Tystysgrif Gadael cyn 2017 neu H6 / O3 (neu’n uwch) mewn Mathemateg a Saesneg o 2017 ymlaen.
- QQI FETAC - QQI FETAC 6 Rhagoriaeth a 2 Teilyngdod ynghyd â C3 (neu'n uwch) mewn Mathemateg a Saesneg ar Lefel Gyffredin Tystysgrif Gadael (cyn 2017) neu H6 / O3 (neu uwch) mewn Mathemateg a Saesneg o 2017 ymlaen. Rhaid i FETAC gynnwys unedau Mathemateg. Noder: rhaid i chi nodi ar eich ffurflen gais UCAS eich bod yn astudio'r uned hon.
Gallwch hefyd fodloni'r gofynion cymhwyster gydag ystod o gymwysterau derbyniol eraill gan gynnwys cymhwyster gradd, DipHE, CertHE, HND, HNC, NVQ4, neu Ddiploma CACHE.
Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried os disgwylir am gymwysterau TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd ac Iaith Saesneg - rhaid cyflawni'r rhain cyn cyflwyno'r cais. Mae tystiolaeth o gymhwysedd mewn Saesneg a Mathemateg yn un o ofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).