Mae'r Ganolfan Efelychiadau Clinigol wedi fy ngalluogi i ymarfer sgiliau nyrsio allweddol mewn amgylchedd diogel.
Angerdd dros Nyrsio Anableddau Dysgu
Mae astudio Nyrsio Anableddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn brofiad gwirioneddol werth chweil ac yn agoriad llygad. Mae'r cwrs wedi rhoi cyfleoedd anhygoel i fi gael profiad ymarferol trwy leoliadau, sesiynau hyfforddi arbenigol, ac ymgysylltu â'r diwydiant.
Mae lleoliadau wedi bod yn rhan allweddol o fy nysgu. Rwyf ar fin dechrau fy mhumed lleoliad, ar ôl gweithio eisoes mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys ward lawfeddygol, ysgol arbennig, tîm nyrsio cymunedol, ac uned asesu a thrin. Gwnaeth fy nghyfnod gyda'r tîm cymunedol yng Nghanolbarth Cymru gael effaith fawr arna i, a rhoi cipolwg i fi ar sut mae gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol—dietegwyr, ffisiotherapyddion, a seicolegwyr—yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi cleifion. Mae hefyd wedi cyfrannu at fy nghynlluniau o ran gyrfa yn y dyfodol, gan fy mod i nawr yn gobeithio ymuno â'r un tîm hwnnw ar ôl graddio.
Mae'r dysgu ymarferol yn PDC wedi bod yr un mor werthfawr. Mae'r Ganolfan Efelychiadau Clinigol wedi fy ngalluogi i ymarfer sgiliau nyrsio allweddol mewn amgylchedd diogel. Yn ddiweddar, cwblheais hyfforddiant mewn cathetreiddio wrinol, ac rwyf hefyd wedi cael profiad o ddehongli canlyniadau peiriannau electrocardiograff—rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi ei ddeall cyn dechrau'r cwrs. Mae'r sesiynau hyn yn cynyddu hyder drwy ganiatáu i ni wneud camgymeriadau a mireinio ein technegau cyn gweithio gyda chleifion go iawn.
Dewch o hyd i'ch cwrsCynyddu hyder yn ystod fy astudiaethau
Yn ogystal â dysgu sgiliau technegol, mae'r cwrs hwn wedi trawsnewid fy hyder. Flwyddyn yn ôl, byddwn wedi bod yn swil i ymgysylltu ag uwch weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ond nawr rwy'n teimlo'n gyffyrddus iawn gyda nhw. Fy nghyngor i fyfyrwyr y dyfodol? Manteisiwch ar bob cyfle i ddysgu—byddwch chi'n synnu faint byddwch chi’n tyfu.
Diddordeb mewn Nyrsio?
Ychydig iawn o yrfaoedd sydd yr un mor werth chweil, neu sy'n caniatáu ichi weithio gyda chymaint o amrywiaeth o bobl. Bydd ein cyrsiau Nyrsio yn rhoi'r sgiliau, addysg a hyfforddiant arbenigol i chi i'ch paratoi ar gyfer y gweithle.