Ariannu eich Astudiaethau
Mae gan gyrsiau israddedig ddau brif gost – ffioedd dysgu, a all amrywio o gwrs i gwrs, a chostau byw. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth benodol am ffioedd cyrsiau o dan 'Ffioedd a chyllid' ar bob tudalen cwrs.
Ffioedd a Chyllid Ffioedd a Chyllid Rhyngwladol
Eich Canllaw i Gymorth Ariannol ar gyfer Fyfyrwyr Prifysgol
I'ch helpu i fforddio'r brifysgol, mae nifer o opsiynau cymorth ariannol ar gael gan y Brifysgol, y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a ffynonellau cyllid eraill, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad ydynt) Os ydych chi'n ystyried mynd i'r brifysgol, efallai y bydd gennych chi gwestiynau am arian. Er enghraifft, faint o gefnogaeth sydd ar gael i chi i helpu gyda rhent, bwyd a hanfodion.
Yma fe welwch wybodaeth i helpu i’ch arwain drwy’r cymorth ariannol sydd ar gael i’ch helpu i ariannu eich amser yn y Brifysgol:
Sut i dalu am y BrifysgolDiweddariadau i'ch ffioedd dysgu
Ym mis Tachwedd 2025, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd y cap ffioedd dysgu yn cynyddu. Ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2026, cynigiwyd cynyddu'r uchafswm ffi ddysgu israddedig amser llawn y gall prifysgolion yng Nghymru ei godi o £9,535 i £9,790 y flwyddyn. Mae'r cynnydd hwn yn y cap ffioedd dysgu yn dod â Chymru yn unol â'r cap ffioedd yn Lloegr.
O ganlyniad, bydd y ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr newydd sy'n dechrau ym Mhrifysgol De Cymru o fis Medi 2026 ymlaen yn cael eu gosod ar £9,790 y flwyddyn (ar gyfer cyrsiau cymwys). Bydd y swm benthyciad ffioedd sydd ar gael yn cael ei gynyddu yn unol â hynny.
Er bod y cap ffioedd yn codi, nid yw hyn yn effeithio ar y ffordd y mae ffioedd dysgu yn cael eu talu ymlaen llaw: gall myfyrwyr cymwys barhau i ddefnyddio cyllid myfyrwyr felly nid oes angen ffioedd ar adeg cofrestru.
Dylai myfyrwyr gysylltu â'u darparwr cyllid myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth am gymorth cyllid myfyrwyr. Ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru neu Cyllid Myfyrwyr Lloegr i weld a ydych yn gymwys a thelerau perthnasol.
Unrhyw Gwestiynau?
Os oes gennych gwestiynau, e-bostiwch ni ar [email protected], ffoniwch ni ar 03455 76 77 78 neu siarad â ni ar-lein.
Cymorth ychwanegolFfioedd Dysgu Blwyddyn Sylfaen
Mae'r ffi dysgu i fyfyrwyr y DU ar flynyddoedd sylfaen yn amrywio o £5,760 i £9,790, yn dibynnu ar y cwrs. Bydd ffioedd ar gyfer blynyddoedd dilynol y cwrs gradd yn cael eu codi yn unol â'n ffioedd israddedig cartref amser llawn safonol. Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, lle bo'n berthnasol, mae'r ffi blwyddyn sylfaen yn amrywio o £16,800 to £17,200.
Edrychwch ar dudalen y cwrs perthnasol i gael gwybodaeth fanwl am y ffioedd penodol sy'n berthnasol i'ch cwrs ac i gadarnhau cymhwysedd ar gyfer y ffioedd a nodwyd.
Wedi astudio cwrs Israddedig o'r blaen?
Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael rhagor o gyllid – dyma’r rheolau perthnasol.
Astudiaethau blaenorol