Canllawiau Talu
Peidiwch â chael eich dal wrth dalu am eich hyfforddiant a'ch llety. Dilynwch ein cynghorion defnyddiol i gadw'n ddiogel ac osgoi sgamiau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-cardiff-50444.jpg)
Pwy all wneud taliad?
Rydym yn cynghori’n gryf eich bod chi neu aelod dibynadwy agos o’ch teulu (Mam/Tad/Brawd/Chwaer/Gŵr/Gwraig/Modryb neu Ewythr) yn gwneud taliadau ar gyfer eich Dysgu neu Lety ac ni ddylai taliadau gael eu gwneud gan drydydd parti neu berson nad yw'n perthyn i chi. Bydd unrhyw ad-daliad o arian a dalwyd i Brifysgol De Cymru ond yn cael ei ad-dalu i’r talwr gwreiddiol drwy’r dull talu/cyfrif gwreiddiol.
Cyngor cyn gwneud taliad
Mae ymgeiswyr a myfyrwyr yn aml yn cael eu targedu gan dwyllwyr wrth dalu eu ffioedd prifysgol. Bydd twyllwyr yn cynnig gostyngiadau sylweddol, cymhellion, neu gyfraddau cyfnewid deniadol i annog myfyrwyr/ymgeiswyr i ddefnyddio'r dulliau hyn o dalu. Nid yw Prifysgol De Cymru yn cynnig unrhyw gymhellion i dalu drwy drydydd parti. Nid yw'r Brifysgol yn gyfrifol am unrhyw golled ariannol i unrhyw fyfyriwr/ymgeisydd o ganlyniad i weithgarwch twyllodrus. Mae gan y Brifysgol agwedd dim goddefgarwch tuag at dwyll.
Sut i gadw'n ddiogel
- Peidiwch â gofyn i bobl eraill wneud taliadau ar eich rhan.
- Defnyddiwch lwybrau talu cymeradwy’r Brifysgol bob tro.
- Peidiwch â thalu eich ffioedd i unrhyw un, nid hyd yn oed Asiantau. Dim ond drwy ddefnyddio'r dudalen Taliadau y dylech dalu'r Brifysgol.
- Peidiwch â thalu unrhyw un sy'n cynnig gostyngiad ar eich ffioedd dysgu – mae hyn yn fwyaf tebygol o fod yn dwyllodrus.
- Gofynnwch am rif i'w ffonio'n ôl. Fel arfer, ni fydd twyllwr byth yn rhoi ei fanylion. Peidiwch â rhannu unrhyw beth dros y ffôn. Peidiwch â rhannu manylion eich cyfrif banc, cerdyn credyd neu ddebyd ag unrhyw un. Ni fydd eich banc na’r Brifysgol byth yn gofyn am fanylion llawn dros y ffôn, fel rhif PIN.
- Peidiwch â rhannu eich cerdyn adnabod, rhif myfyriwr neu fanylion mewngofnodi'r Brifysgol ag unrhyw un, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol gyda dieithriaid neu unrhyw asiant trydydd parti.
- Byddwch yn ofalus o gynigion o ennill arian yn hawdd neu ostyngiadau. Os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod.
- Byddwch yn wyliadwrus o gyfraddau cyfnewid ffafriol a ddarperir gan asiantau digroeso.
- Peidiwch â theimlo dan bwysau i drosglwyddo arian i unigolyn anhysbys.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, neu unrhyw gwestiynau am opsiynau talu, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ein gwefannau neu ddogfennau swyddogol.
Canlyniadau
Gall colli arian ar ffioedd dysgu/llety gael canlyniadau difrifol. Mae gwyngalchu arian yn drosedd ddifrifol ac os yw’r Brifysgol yn cael ei hysbysu am, neu’n amau, gweithgarwch talu twyllodrus, bydd yn cymryd camau priodol yn unol â’i phrosesau Atal Gwyngalchu Arian a Thwyll. Mewn achosion o dwyll talu, boed hynny’n fwriadol neu heb wybod:
- Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wrthod cais neu dynnu Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) yn ôl.
- Byddwch yn atebol am unrhyw daliadau twyllodrus, a geisiwyd neu a dderbyniwyd, a wneir i'r Brifysgol hyd yn oed os na wnaethoch y taliad yn uniongyrchol.
- Mae'n bosibl y byddwch mewn perygl o golli'ch arian a bydd angen i chi dalu erbyn y dyddiad talu o hyd.
- Er mwyn gwirio ffynhonnell y taliad, efallai y bydd angen tystiolaeth o'r taliad yn clirio eich cyfrif banc arnom cyn i'r taliad gael ei ddyrannu i'ch cofnod.
Sgamiau talu ffioedd
Twyll Cerdyn Ffioedd Dysgu
Mae asiantau trydydd parti allanol/ffrindiau yn honni gwneud taliad ar ran y myfyriwr/yr ymgeisydd. Gall twyllwr a/neu fyfyriwr arall hefyd gysylltu â myfyrwyr/ag ymgeiswyr naill ai wyneb yn wyneb neu ar gyfryngau cymdeithasol. Byddant yn cynnig cymorth i dalu ffioedd dysgu/llety. Bydd y twyllwr yn talu’r ffioedd gan ddefnyddio manylion banc neu gerdyn debyd/credyd sydd wedi’i ddwyn. Fodd bynnag, pan fydd deiliad gwirioneddol y cerdyn yn adrodd hyn, caiff yr arian ei alw'n ôl sy'n golygu nad yw'r ffioedd dysgu wedi'u talu.
Bydd yn ymddangos bod yr asiant trydydd parti/ffrind wedi talu’n llwyddiannus trwy anfon copi o'r dderbynneb atoch sy’n dangos y taliad llawn a wnaed i'r brifysgol. Mewn gwirionedd, y cyfan y maent wedi'i wneud yw talu swm llai’n llwyddiannus gan ddefnyddio cerdyn debyd/credyd wedi'i ddwyn ac yna newid y dderbynneb i'w gwneud i edrych fel eu bod wedi talu'r ffioedd dysgu.
Mulod arian
Mae’r sgam ‘mul arian’ yn golygu bod myfyrwyr yn cael cynnig o daliad yn gyfnewid am dderbyn arian dros dro i’w cyfrif banc. Yna gofynnir i fyfyrwyr dynnu'r arian parod neu ei drosglwyddo i gyfrif arall. Mae’r math hwn o sgam yn cynyddu, gan dargedu myfyrwyr sy’n brin o arian ac a allai gael eu temtio gan gynigion i ‘ennill arian yn hawdd’ ar wefannau swyddi neu gyfryngau cymdeithasol.