/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/subjects-nursing-child-nursing-12160.jpg)
Sylweddolais mai'r cam naturiol nesaf oedd cymhwyso fel nyrs.
Dewis Prifysgol De Cymru i astudio Nyrsio
Dewisais astudio nyrsio ar ôl blynyddoedd o weithio mewn ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gofal preswyl, ac fel cynorthwyydd personol yn helpu plant ag anghenion iechyd cymhleth a chyflyrau oedd yn cyfyngu ar fywyd. Roedd fy ngwaith yn aml yn cynnwys cyfrifoldebau nyrsio, er mai ym meysydd addysg a gofal cymdeithasol roeddwn i’n gweithio, a sylweddolais mai'r cam naturiol nesaf oedd cymhwyso fel nyrs.
Wrth benderfynu ar brifysgol, fe wnes i ystyried Caerdydd, Abertawe, a Phrifysgol De Cymru. Ar ôl mynd i ddiwrnodau agored, roedd PDC yn ddewis hawdd i fi—y ganolfan efelychiadau clinigol, sy'n efelychu lleoliad ysbyty go iawn, oedd yr orau i fi ei gweld, ac roedd y staff yn groesawgar ac yn gefnogol. Roeddwn i hefyd yn adnabod pobl oedd wedi graddio o PDC ac wedi mynd yn eu blaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus neu hyd yn oed wedi dychwelyd ar gyfer astudiaethau pellach, ac roedd hyn yn galondid mawr i fi.
Yn ystod fy nghyfnod yn PDC, rwyf wedi bod ar dri lleoliad y flwyddyn, yn cynnwys mewn ysbytai, timau nyrsio cymunedol, a lleoliad oddi cartref ym Mhowys. Mae pob lleoliad wedi cynnig lefel wahanol o gyfrifoldeb, gan fy helpu i droi theori yn ymarfer a datblygu fy sgiliau clinigol. Mae canolfan sgiliau PDC wedi bod yn allweddol wrth fy mharatoi, gyda hyfforddiant mewn trin â llaw, pigiadau, mewnosod tiwbiau trwyn i'r stumog, cathetreiddio, gofalu am glwyfau, a sefyllfaoedd brys gan ddefnyddio technoleg Realiti Rhithwir.
Dewch o hyd i'ch cwrsCynlluniau gyrfa yn y dyfodol
Wrth edrych tua’r dyfodol, rwy'n bwriadu arbenigo mewn gofal dwys i’r newydd-anedig ac yn y pen draw wneud cais i weithio yn Ysbyty Great Ormond Street Llundain. Mae PDC wedi rhoi'r sylfaen orau i fi ar gyfer y daith hon, gyda chyfleusterau rhagorol, darlithwyr cefnogol, a lleoliadau sydd wedi'u strwythuro'n dda.
I unrhyw un sy'n ystyried nyrsio, mae PDC yn ddewis ardderchog. Mae'r profiad ymarferol, y cysylltiadau â’r diwydiant a'r amgylchedd dysgu cefnogol wedi bod yn amhrisiadwy wrth fy mharatoi ar gyfer fy ngyrfa.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Busnes a Rheolaeth?
Bydd ein graddau busnes yn eich dysgu am bob agwedd ar sut mae busnes llwyddiannus yn cael ei redeg a byddwch yn datblygu sgiliau mewn rheoli pobl, gwneud penderfyniadau a thrafod.