Mae pob diwrnod yn brofiad dysgu, a thaith – nid cyrchfan – yw nyrsio iechyd meddwl.
Newid cyfeiriad gyrfa
Cododd fy angerdd dros nyrsio iechyd meddwl o brofiadau personol. Cafodd ffrind agos ddiagnosis o gyflyrau iechyd meddwl cymhleth, ac roeddwn i’n teimlo’n euog iawn nad oeddwn i wedi adnabod yr arwyddion yn gynt. Dyna sbardunodd fy niddordeb yn y maes. Ar ôl gweithio ym maes gofal iechyd am sawl blwyddyn, roeddwn i wastad wedi gwybod fy mod i eisiau bod yn y proffesiwn iechyd, ond gwnaeth y profiad hwn hi’n eglur i fi mai mewn iechyd meddwl y dylwn arbenigo.
Roedd dewis Prifysgol De Cymru yn benderfyniad hawdd. Er bod llawer o brifysgolion yn cynnig y cwrs, roedd PDC yn unigryw am sawl reswm, gan gynnwys mor odidog mae’r lleoliad. Gan fy mod wrth fy modd yn yr awyr agored, fe wnaeth rhaeadrau, cestyll a harddwch naturiol De Cymru fy nenu’n syth. Gwnaeth mynd i ddiwrnod agored gadarnhau fy newis—roedd y cyfleuster efelychiadau’n wahanol i unrhyw beth roeddwn i wedi'i weld o'r blaen, ac fe wnaeth angerdd staff a myfyrwyr fy argyhoeddi mai dyma lle'r oeddwn i eisiau bod.
Dewch o hyd i'ch cwrsCynlluniau ar ôl graddio
Un o gryfderau mwyaf fy nghwrs oedd y profiad ymarferol. Gyda thri lleoliad gorfodol y flwyddyn, rwyf wedi gweithio gyda sawl bwrdd iechyd, ysbyty a chanolfan adsefydlu. Fy lleoliad presennol yn Ysbyty Cwm Taf sydd wedi cael yr effaith fwyaf arna i, lle mae cyn-fyfyrwyr bellach yn fy mentora. Ar ôl graddio, rwy'n bwriadu parhau i weithio ym maes iechyd meddwl a dilyn gradd meistr yn PDC.
Fy nghyngor i? Dechreuwch gyda meddwl agored. Mae pob dydd yn brofiad dysgu, a thaith – nid cyrchfan – yw nyrsio iechyd meddwl.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Nyrsio?
Ychydig iawn o yrfaoedd sydd yr un mor werth chweil, neu sy'n caniatáu ichi weithio gyda chymaint o amrywiaeth o bobl. Bydd ein cyrsiau Nyrsio yn rhoi'r sgiliau, addysg a hyfforddiant arbenigol i chi i'ch paratoi ar gyfer y gweithle.