Ymarfer Adran Llawdriniaeth (YAL)
Sail athronyddol y cwrs yw cynhyrchu ymarferwyr y byddai’r staff academaidd ac ymarfer yn eu dewis i ofalu amdanyn nhw eu hunain neu eu hanwyliaid.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
B992
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
112
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*
Côd UCAS
B992
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
112
Trosolwg o'r Cwrs
Lluniwyd y cwrs hwn i roi’r sgiliau i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu darparu’r gofal mwyaf effeithiol a’r ymarfer mwyaf cyfredol â phosibl, gan eu galluogi i gymhwyso a gwneud cais i gofrestru fel Ymarferydd Adran Lawdriniaeth gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Achrediadau a Chymeradwyaethau
Rydym wedi'i achredu gan Coleg yr Ymarferwyr Adran Lawdriniaeth (CODP) ac wedi'u cymeradwyo gan Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo ag amgylchedd y theatr lawdriniaeth trwy leoliad ymgyfarwyddo cychwynnol yn para un wythnos. Yna, bydd myfyrwyr yn cael sawl lleoliad mewn llawfeddygaeth (gan gyflawni rolau sgryb a chylchredeg), anesthesia a gofal ôl-anesthetig ar draws nifer o arbenigeddau llawfeddygol cyffredin (e.e. llawfeddygaeth gyffredinol, orthopedeg, gynaecoleg).
Yn ystod y flwyddyn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu ac yn datblygu’r sgiliau sy’n ofynnol i ymgymryd â gofal amdriniaethol ar gyfer mân driniaethau i driniaethau canolradd, yn ogystal â chael eu cyflwyno i’r amgylchedd amdriniaethol ehangach gyda chymysgedd o brofiadau ar draws teithiau amdriniaethol cleifion.
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno egwyddorion llawfeddygaeth ac ymarfer llawfeddygol. Bydd myfyrwyr yn archwilio theori er mwyn dechrau, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal llawfeddygol.
Bydd myfyrwyr yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau clinigol sy’n ofynnol i ymarfer yn ddiogel fel ymarferydd cylchredeg a llawfeddygol ar gyfer mân driniaethau llawfeddygol a thriniaethau llawfeddygol canolradd o fewn y tîm llawfeddygol ehangach.
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno hanfodion ymarfer anesthetig ac ôl-anesthetig. Bydd yn galluogi myfyrwyr i hwyluso sefydlu anesthetig cyffredinol sylfaenol, rhwystrau lleol a niwroechelinol ochr yn ochr ag anesthetydd yn rhan o’r tîm amlddisgyblaethol.
Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i asesu cleifion, gan allu dehongli arwyddion a symptomau clinigol yn ystod eu taith amdriniaethol.
Yn ystod y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ofal anesthetig ac ôl-anesthetig cleifion sy’n cael mân lawdriniaeth i lawdriniaeth ganolradd ac yn dechrau gwerthuso ymarfer yn y meysydd hyn.
Nod y modiwl hwn yw rhoi’r wybodaeth sylfaenol am anatomeg, ffisioleg a gwyddorau cymhwysol i fyfyrwyr sy’n ofynnol i fod yn Ymarferydd Adran Lawdriniaeth cymwys. Bydd myfyrwyr yn gallu adnabod ffurf a swyddogaethau prif systemau organau’r corff yn ogystal ag egwyddorion gwyddonol o fewn ymarfer amdriniaethol, gan gynnwys unedau SI, deddfau nwy a electrolawfeddygaeth.
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ofal cyfannol, cofleidiol y claf llawfeddygol. Bydd yn rhoi’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i fyfyrwyr i’w galluogi i gynllunio ar gyfer a thrin cleifion amdriniaethol yn effeithiol mewn modd cyfannol drwy gydol eu taith. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i’r ddeddfwriaeth allweddol sy’n gysylltiedig â gofalu am gleifion o fewn y daith amdriniaethol.
Bydd y modiwl hwn yn archwilio’r cysyniad o iechyd a lles o fewn poblogaethau, cymunedau ac unigolion trwy archwilio effaith gwahaniaethau iechyd a chymdeithasol, annhegwch o ran cyfleoedd, amrywiaeth a hawliau dynol ar iechyd a lles a’r effaith ar y claf amdriniaethol a’r ymarferydd. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil, arwain ac addysg cynnar trwy ddatblygu adnodd hybu iechyd ar gyfer cleifion neu staff sy’n ymdrin â materion yn ymwneud ag iechyd a lles corfforol a meddyliol ar lefel leol, genedlaethol neu fyd-eang.
Nod y modiwl hwn yw paratoi myfyrwyr i ymgymryd ag Ymarfer Adran Lawdriniaeth diogel ac effeithiol a chael dealltwriaeth gychwynnol o rôl yr Ymarferydd Adran Lawdriniaeth fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu’r sgiliau a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf ac yn dechrau mynd i’r afael ag arbenigeddau llai cyffredin ac achosion llawfeddygol mwy cymhleth. Erbyn diwedd y flwyddyn, bydd myfyrwyr yn gallu hwyluso’r anesthetig a’r sgryb yn gyfforddus ar gyfer achosion canolradd a rhai achosion mawr.
Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgymryd â lleoliad penodol yn yr uned gofal ôl-anesthetig, gan barhau i ddatblygu tuag at ymarfer ymreolaethol yn y drydedd flwyddyn. Bydd myfyrwyr yn cael profiad o achosion brys, pediatreg, llwybr anadlu a rennir, ac obstetreg yn ystod y flwyddyn hon.
Nod y modiwl hwn yw datblygu egwyddorion llawfeddygaeth a gyflwynwyd yn flaenorol. Bydd myfyrwyr yn cymhwyso theori i ystod o arferion llawfeddygol a fydd yn caniatáu iddynt gynllunio a datblygu gofal ar gyfer llawdriniaethau canolradd a mawr, gan gynnwys llawdriniaethau brys.
Bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu sgiliau arwain yn yr amgylchedd amdriniaethol, gan reoli rhestrau theatrau ac ymgysylltu â deddfwriaeth a phrosesau mewn ymarfer amdriniaethol.
Nod y modiwl hwn yw annog myfyrwyr i weithio tuag at ymreolaeth mewn ymarfer anesthetig ac ôl-anesthetig.
Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth o fewn ymarfer anesthetig ac ôl-anesthetig er mwyn cynllunio a hwyluso gofal cleifion sy’n cael ystod o driniaethau canolradd i fawr o dan amrywiaeth o dechnegau anesthetig ac fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol.
Nod y modiwl yw datblygu dealltwriaeth flaenorol myfyrwyr o anatomeg a ffisioleg trwy archwilio datblygiad ffisioleg o enedigaeth i farwolaeth. Bydd myfyrwyr yn dysgu am newidiadau ffisiolegol beichiogrwydd, datblygiad y ffetws i oedolaeth a marwolaeth.
Bydd y modiwl hwn hefyd yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o ffarmacoleg, gan eu galluogi i werthuso’r defnydd o gyffuriau yn ystod gofal amdriniaethol.
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i gasglu ffynonellau cadarn er mwyn gwerthuso ymarfer amdriniaethol. At hynny, mae’n ceisio llywio arfer gorau trwy ddadansoddi a chymhwyso ymchwil, archwiliadau, a gwerthusiadau gwasanaeth.
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu, gwerthuso a chymhwyso gwybodaeth am y materion proffesiynol, cyfreithiol, a moesegol sy’n berthnasol i Ymarfer Adran Lawdriniaeth.
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, sgiliau, hyfedredd, a hyder ymhellach mewn Ymarfer Adran Lawdriniaeth diogel ac effeithiol.
Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ymarfer ymreolaethol, gan gyfnerthu gwybodaeth o’r blynyddoedd blaenorol a datblygu sgiliau i ymgymryd â rolau sy’n ehangu o fewn gofal amdriniaethol a chritigol.
Bydd myfyrwyr yn profi ymarfer anesthesia a llawfeddygol tra chymhleth mewn amgylcheddau dewisol a brys.
Mae’r modiwl hwn yn datblygu rôl myfyrwyr ymhellach o lefelau 4 a 5 i ymarferydd ymreolaethol. Ar ôl y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn dangos y gallu i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal yn llwyddiannus ar gyfer ystod gymhleth o achosion llawfeddygol dewisol a brys ac ar gyfer ystod amrywiol o grwpiau o gleifion a chydafiacheddau. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o rôl wahanol y Cynorthwy-ydd Cyntaf Llawfeddygol a goblygiadau’r rôl hon i’w hymarfer proffesiynol.
Nod y modiwl hwn yw paratoi myfyrwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau a gaffaelwyd ar lefelau 4 a 5 gan gymhwyso ymarfer anesthetig ac ôl-anesthetig yn y lleoliad gofal critigol. Bydd myfyrwyr yn archwilio lleoliadau gofal critigol modern a’u rôl bosibl mewn meysydd fel Adrannau Brys, Unedau Dibyniaeth Uchel, Unedau Gofal Critigol a Thimau Rheoli Poen.
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i gefnogi ac arwain cydfyfyrwyr yn ystod eu lleoliad clinigol, gan hwyluso dysgu trwy wneud cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu cymhwyso gweithdrefnau asesu cymeradwy a rhoi adborth adeiladol yn seiliedig ar farn broffesiynol.
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau arwain a rheoli newid myfyrwyr a hwyluso’r newid o fyfyriwr i ymarferydd cofrestredig, trwy allu cymryd rhan yn y tîm amlddisgyblaethol yn yr amgylchedd amdriniaethol, ynghyd â’r angen cyson i newid a gwella er mwyn bodloni ei anghenion sy’n esblygu.
Nod y modiwl hwn yw datblygu myfyrwyr fel ymarferwyr ymreolaethol. Bydd myfyrwyr yn archwilio’r hyn mae’n ei olygu i fod yn weithiwr proffesiynol cofrestredig, gan eu paratoi ar gyfer gyrfa ym maes gofal iechyd.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch paratoi i safon uchel iawn, gyda'r nod o gynhyrchu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y byddai staff yn teimlo'n hyderus yn gofalu amdanyn nhw eu hunain neu eu teuluoedd. Mae'n canolbwyntio ar feithrin dealltwriaeth gref o theori cyn ei chymhwyso i sefyllfaoedd ymarferol cynyddol gymhleth a gofal cleifion go iawn.
Mae’r cwrs yn defnyddio ymagwedd dysgu cyfunol, felly bydd myfyrwyr yn profi ystod eang o ffyrdd o ddysgu.
Bydd myfyrwyr yn treulio 50% o’r cwrs yn dysgu yn y lleoliad ymarfer, lle byddant yn cael eu cefnogi a’u goruchwylio gan Addysgwyr Ymarfer ac ymarferwyr cymwysedig eraill i’w hwyluso i ddatblygugwybodaeth, sgiliau a hyfedredd fel ymarferydd adran lawdriniaeth.
Mae’r holl asesiadau wedi cael eu llunio i feithrin y sgiliau sy’n angenrheidiol i ddatblygu fel ymarferydd adran lawdriniaeth yn y meysydd ymarfer ac ymchwil. Lle y bo’n briodol, dyluniwyd asesiadau i’w rhannuâ’r sector, y gymuned leol neu lunwyr polisïau, gan felly ysgogi effaith gadarnhaol ar gymdeithas.
Gofynion Mynediad
Cyfweliad
Rhaid i ymgeiswyr gael cyfweliad. Bydd angen i chi ddangos dealltwriaeth a brwdfrydedd tuag at y maes. Dylech ddysgu cymaint â phosib am y proffesiwn, gan gynnwys gwybodaeth am y gweithleoedd, a’u rôl mewn gofal iechyd modern. Dylech hefyd ddangos dealltwriaeth o ran sgiliau trefnu amser a’ch gallu i reoli eich astudiaethau’n effeithiol.
Ychwanegol
- Fel arfer, mae’r Brifysgol yn gofyn am leiafswm o 5 TGAU i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg Gradd C/Gradd 4 neu well neu gymhwyster cyfatebol, ond ystyrir amgylchiadau unigol.
- Cymwysterau cyfatebol fyddai’n cael eu hystyried: Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu Sgiliau Gweithredol Lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (wedi eu cyflawni o fewn y tair blynedd diwethaf).
- Un eirda boddhaol
- Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
- Yn anffodus, gan fod y cwrs Ymarfer Adran Llawdriniaeth yn cael ei ariannu gan y GIG a bod yn rhaid i fyfyrwyr gael lleoliadau yn y Bwrdd Iechyd GIG lleol, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd angen Fisa Llwybr Myfyriwr.
- Yn anffodus, gan fod y cwrs hwn wedi ei ariannu gan y GIG, a bod yn rhaid i fyfyrwyr weithio ar leoliadau o fewn eu bwrdd iechyd lleol, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr o dramor (tu hwnt i’r UE).
112 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
BBC heb gynnwys Astudiaethau Cyffredinol
Bagloriaeth Cymru:
Gradd C a BB Lefel A heb gynnwys Astudiaethau Cyffredinol
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth Teilyngdod Teilyngdod
Mynediad i AU:
Diploma Gwyddoniaeth/Mathemateg/Gofal Iechyd/ Nyrsio. Rhaid cwblhau 60 credyd i gyd gan gynnwys o leiaf 45 ar lefel 3 ac yn hafal i 18 Rhagoriaeth, 24 Teilyngdod a 3 Llwyddo
Safon T:
Pasio (C ac uwch)
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Datganiad Derbyniadau Cyd-DestunolFfioedd a Chyllid
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. * Rhwymedig
DBS Manylach*
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein. £64.74
Gwasanaeth diweddaru’r DBS*
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach. £16
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. * Rhwymedig
DBS Manylach*
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein. £64.74
Gwasanaeth diweddaru’r DBS*
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach. £16
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Ymarfer Adran Lawdriniaeth (YAL)
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Ymarfer Adran Lawdriniaeth (YAL)
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.