Un foment dyngedfennol oedd bod ar leoliad Cynorthwyydd Cyntaf Llawfeddygol, lle cefais gynorthwyo llawfeddygon yn uniongyrchol.
Dewis theatr dros y swyddfa
Cyn dechrau fy ngradd, gweithiais mewn ysbyty a darganfod faint roeddwn i'n mwynhau bod o gwmpas pobl a'u helpu. Gwnaeth y profiad hwnnw wneud i mi sylweddoli nad oeddwn i eisiau swydd wrth ddesg - roeddwn i eisiau rhywbeth cyflym ag oedd yn mynd i roi boddhad i mi. Dewisais Ymarfer Adran Lawdriniaeth oherwydd ei ffocws theatr a'r cyfle i fod yng nghanol y cyffro. O'i gymharu â rolau gofal iechyd eraill, roedd yr un hon yn teimlo'n fwy uniongyrchol a chyffrous.
Roeddwn i'n rhan o garfan gyntaf y cwrs hwn yn PDC, a oedd yn frawychus ar y dechrau. Ond ar ôl cwrdd â Craig, un o'r darlithwyr, mewn diwrnod agored, roeddwn i'n gwybod fy mod yn y lle iawn. Roedd ei frwdfrydedd yn heintus, a gadawais yn teimlo'n hyderus ac yn ysbrydoledig.
Dewch o hyd i'ch cwrsAdeiladu hyder mewn amgylcheddau straenus
Mae bod ar leoliad yn heriol, ond dyma’r rhan sydd wedi rhoi’r mwyaf o foddhad i mi o fy nghwrs. Rwyf wedi gweithio mewn theatrau brys a chanolfannau mawr fel Caerdydd, lle rwyf wedi gweld rhai o'r achosion mwyaf dwys a diddorol. Un foment sy’n sefyll yn y cof oedd bod ar leoliad Cynorthwyydd Cyntaf Llawfeddygol, lle cefais gynorthwyo llawfeddygon yn uniongyrchol. Cadarnhaodd y profiad hwnnw mai dyma'n union beth rydw i eisiau ei wneud.
Mae'r cyfleusterau yn PDC, yn enwedig y ganolfan efelychu, wedi bod o gymorth enfawr. Rydym yn hyfforddi trwy efelychiadau digymell sy'n dynwared argyfyngau bywyd go iawn, sy'n adeiladu hyder a sgiliau datrys problemau o dan bwysau. Diolch i hyn i gyd, rwy'n teimlo'n gwbl barod i gamu i'r rôl ar ôl graddio. Fy nghyngor i? Peidiwch â phoeni gormod. Arhoswch yn drefnus ac ymddiried ynddo'ch hun.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Proffesiynau Iechyd?
Rydym yn cynnig cyfleusterau efelychu clinigol anhygoel a chlinigau cleifion allanol sy'n efelychu ystod amrywiol o leoliadau ysbyty, cymunedol a chlinigol.