BSc (Anrh)

Bydwreigiaeth

Mae'r radd hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa gydol oes, gan gysylltu theori â phrofiad ymarferol. Dysgwch sgiliau hanfodol mewn hyrwyddo iechyd, iechyd y cyhoedd, y gyfraith a moeseg, ochr yn ochr â lleoliadau gwaith clinigol mewn byrddau iechyd lleol, gan ddarparu gofal cyfannol, sy'n canolbwyntio ar fenywod trwy gydol beichiogrwydd, genedigaeth, a thu hwnt.

How to apply Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    B722

  • Dyddiad Cychwyn

    Ebrill

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

Paratowch ar gyfer gyrfa werth chweil mewn bydwreigiaeth, gyda sgiliau bydwreigiaeth ymarferol o flwyddyn un ymlaen. Profwch leoliadau clinigol, cymhwyswch wybodaeth ddamcaniaethol, a darparwch ofal cyfannol, sy'n canolbwyntio ar fenywod.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os ydych chi'n angerddol am ofalu am fenywod, unigolion sy’n rhoi genedigaeth a theuluoedd. Byddwch yn cael profiad dilys drwy leoliadau gwaith ymarferol, yn dysgu sgiliau bydwreigiaeth hanfodol, ac yn astudio mewn amgylchedd proffesiynol, diogel a chynhwysol lle cewch eich cefnogi bob cam o’r ffordd.

Achredir gan

  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Llwybrau gyrfa

  • Bydwreigiaeth mewn ysbyty
  • Bydwreigiaeth gymunedol
  • Iechyd meddwl amenedigol
  • Ymchwil
  • Addysg/y byd academaidd

Sgiliau a addysgir

  • Proffesiynoldeb ac arweinyddiaeth dosturiol
  • Ymreolaeth
  • Sgiliau bydwreigiaeth ymarferol
  • Gwneud penderfyniadau
  • Cyfraith a moeseg

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cwrs wedi'i ddylunio a'i gyflwyno gan gyfrifwyr gweithredol ac mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu gyrfaoedd.


Uchafbwyntiau'r Cwrs

Dysgu cyfunol

Cwblhewch asesiadau a modiwlau dilys sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag ymarfer bydwreigiaeth yn y byd go iawn.

Staff addysgu arbenigol

Dysgwch gan ddarlithwyr sydd ag arbenigedd clinigol sylweddol a goruchwylwyr mewn amgylcheddau ymarfer go iawn.

Lleoliadau amrywiol

Enillwch brofiad amrywiol gyda lleoliadau gwaith amrywiol ar draws byrddau iechyd lleol sy'n cwmpasu pob agwedd ar fydwreigiaeth.

Cyfleusterau o'r radd flaenaf

Hyfforddwch mewn amgylcheddau dysgu rhithwir manwl gywir ac ystafelloedd efelychu o'r radd flaenaf.

Trosolwg o'r Modiwl

Profwch gyfuniad deinamig o theori ac ymarfer. Dros dair blynedd, byddwch yn raddol yn meithrin eich sgiliau a'ch gwybodaeth, gan ddod yn fydwraig hyderus a chymwys. Cwblhewch y cwrs a byddwch yn barod i ymuno â'r gofrestr broffesiynol (Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) ac i ddechrau cael effaith go iawn.

Ym Mlwyddyn Un, byddwch yn dysgu sgiliau bydwreigiaeth sylfaenol ac arferion gofal sylfaenol, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo iechyd, gwyddorau bywyd, a phroffesiynoldeb. Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau cyfathrebu a hyder mewn lleoliadau clinigol.

Hyrwyddo Iechyd a Lles 

Byddwch yn archwilio hyrwyddiad iechyd, atal ac amddiffyn, ac yn deall rôl y fydwraig o safbwyntiau lleol i fyd-eang.  

Datblygu Proffesiynoldeb mewn Bydwreigiaeth 

Dysgwch am broffesiynoldeb mewn bydwreigiaeth, gan ganolbwyntio ar gyfathrebu effeithiol a sgiliau rhyngbersonol.  

Ymarfer Bydwreigiaeth Gyffredin 

Adeiladwch ddealltwriaeth o agweddau gofal hanfodol o fewn bydwreigiaeth gyffredin i gefnogi eich sgiliau ymarferol.

Gwyddorau a Gymhwysir i Fydwreigiaeth 

Astudiwch anatomeg, ffisioleg, a ffactorau eraill sy'n hanfodol i ymarfer bydwreigiaeth, gan gynnwys agweddau seicolegol a gwybyddol.

Datblygu Hyder yn Ymarferol 

Paratowch ar gyfer dysgu seiliedig ar ymarfer, gan ganolbwyntio ar sgiliau clinigol diogel ac effeithiol.  

Ym Mlwyddyn Dau, byddwch yn mynd i'r afael â thasgau bydwreigiaeth fwy cymhleth, fel rheoli argyfyngau, deall materion proffesiynol a chyfreithiol, ac archwilio babanod newydd-anedig. Byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wneud penderfyniadau gwybodus wrth ymarfer.

Asesu a Rheoli Sefyllfaoedd Brys a Chymhleth 

Datblygwch sgiliau er mwyn adnabod, asesu a rheoli argyfyngau a chymhlethdodau mewn gofal bydwreigiaeth a newyddenedigol. 

Materion Proffesiynol, Cyfreithiol a Moesegol mewn Bydwreigiaeth 

Dysgwch sut i werthuso a chymhwyso gwybodaeth am faterion proffesiynol, cyfreithiol a moesegol mewn ymarfer bydwreigiaeth.  

Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth 

Gwerthuswch a chymhwyswch ganfyddiadau ymchwil ac archwiliadau i wella gofal bydwreigiaeth yn seiliedig ar dystiolaeth.  

Rôl y Fydwraig wrth Archwilio'r Newydd-anedig 

Datblygwch sgiliau i gynnal asesiadau iechyd a chorfforol trylwyr o fabanod newydd-anedig.  

Gwneud Penderfyniadau Gwybodus yn Ymarferol 

Gwellwch eich sgiliau a'ch hyder i reoli gwyriadau mewn gofal bydwreigiaeth a newyddenedigol yn effeithiol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth dosturiol, rheoli newid a gofal cyfannol. Bydd y sgiliau uwch hyn yn gwella eich ymreolaeth fel ymarferydd ac yn eich paratoi ar gyfer cofrestriad bydwreigiaeth.

Arweinyddiaeth Dosturiol, Rhagoriaeth, a Rheoli Newid 

Arweiniwch a gwerthuswch wasanaethau bydwreigiaeth yn feirniadol, gan gychwyn a rheoli newid i wella ymarfer ac ysgogi gwelliannau i wasanaethau.  

Rôl y Fydwraig wrth Ddarparu Gofal Cyfannol 

Datblygwch sgiliau i asesu a darparu gofal cynhwysol, gan fynd i'r afael ag anghenion bio-seicogymdeithasol ac ysbrydol unigolion sy’n cael plant.  

Gofal Bydwreigiaeth ar gyfer Unigolion ag Anghenion Ychwanegol 

Datblygwch eich gwybodaeth er mwyn asesu a rheoli cyflyrau corfforol a seicolegol yn ystod genedigaeth, gan weithio gyda thimau amlddisgyblaethol ar gyfer y gofal gorau posibl.  

 

Asesu a Rheoli Gofal mewn Sefyllfaoedd sy'n Newid yn Gyflym 

Dysgwch sut i reoli dirywiadau iechyd acíwt mewn unigolion sy'n cael plant, gan wella eich sgiliau ar gyfer gofal effeithiol mewn tîm.  

Dod yn Ymarferydd Ymreolaethol 

Cyfunwch eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ymarfer yn hyderus fel bydwraig annibynnol drwy gydol y continwwm geni. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae eich hyfforddiant Bydwreigiaeth yn cyfuno diwrnodau astudio, wythnosau addysgu bloc, ac astudiaeth breifat, gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol gydag elfennau cydamserol ac anghydamserol. Mae theori ac ymarfer yn cael eu rhannu'n gyfartal, gydag asesiadau yn y ddau faes ar gyfer pob modiwl. Byddwch yn cael eich gwerthuso drwy amrywiol ddulliau mewn lleoliadau clinigol ac academaidd, gan ddatblygu sgiliau bydwreigiaeth hanfodol. Byddwch yn cwblhau portffolio electronig bob blwyddyn, ynghyd ag asesiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, a phrosiect gwella ymarfer. 

Staff addysgu

Yn PDC, byddwch yn dysgu gan staff academaidd profiadol, gan gynnwys uwch ddarlithwyr, hyfforddwyr sgiliau bydwreigiaeth, a darlithwyr cyswllt sy'n gweithio'n weithredol mewn ymarfer clinigol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn elwa o fewnwelediadau i'r byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch dysgu academaidd. Mae ein polisi drws agored yn creu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol lle gallwch feithrin perthnasoedd proffesiynol agos, gan wneud i chi deimlo'n rhan o gymuned debyg i'r teulu. Hefyd, rydym yn dod ag arbenigwyr mewn meysydd fel geneteg a ffarmacoleg i roi gwybodaeth ymarferol arloesol i chi sy'n cadw'ch dysgu'n ffres ac yn berthnasol. 

Lleoliadau

Fel rhan o'ch hyfforddiant bydwreigiaeth, byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith clinigol ar draws sawl bwrdd iechyd lleol, gyda phob un yn para sawl wythnos. Gall y lleoliadau hyn gynnwys teithio estynedig a sifftiau sy'n cynnwys nosweithiau hwyr, boreau cynnar a phenwythnosau. Byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn a'ch goruchwylio gan ymarferwyr cofrestredig a'r tîm amlbroffesiynol ehangach, gan ddarparu gofal mewn lleoliadau amrywiol i unigolion sy'n cael plant. Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch hefyd yn cael ymgymryd â lleoliad gwaith wedi'i negodi, naill ai yn y DU neu dramor, i ddatblygu eich profiad ymhellach.  

Cyfleusterau

Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol o'r radd flaenaf yn efelychu amgylchedd y GIG, gan ddarparu cyfleusterau clinigol manwl gywir i fyfyrwyr bydwreigiaeth. Byddwch yn gweithio gydag efelychwyr genedigaeth a mamol datblygedig i brofi gwahanol gamau beichiogrwydd, o enedigaethau gweiniol naturiol i weithdrefnau llawdriniaethol. Mae'r gyfres efelychu hyd yn oed yn dynwared lleoliadau cartref, cymunedol ac ysbyty go iawn, gan wella eich sgiliau ymarferol mewn lleoliad diogel a rheoledig. Rydym hefyd yn defnyddio actorion go iawn ar gyfer ymarfer chwarae rôl, gan roi mewnwelediad i chi i safbwynt y claf. Mae'r profiad ymdrochol hwn yn helpu i fagu hyder cyn i chi ymgymryd â lleoliadau gwaith yn y byd go iawn. 

campus-facilities-glyntaff-midwifery-birthing-simulation-49316.jpg

Ymhlith y 10 uchaf yn y DU ar gyfer Bydwreigiaeth 

(Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae bydwragedd yn gweithio mewn lleoliadau gofal iechyd amrywiol, yn gofalu am unigolion, teuluoedd a babanod newydd-anedig. Mae llawer o fydwragedd yn datblygu rolau arbenigol mewn meysydd fel uwchsain, meddygaeth ffetysol, gofal dwys babanod newyddenedigol, iechyd y cyhoedd, ac addysg magu plant. Gallech hefyd ddilyn gyrfa mewn addysg uwch neu ymchwil. Mae bydwreigiaeth yn cynnig nifer o lwybrau gyrfa, o arbenigwr clinigol i fydwraig ymgynghorol, pennaeth gwasanaethau bydwreigiaeth, neu reoli ar lefel byrddau iechyd lleol. Hefyd, mae cyfleoedd cyffrous i weithio dramor, gan ehangu eich gyrfa hyd yn oed ymhellach.  

Partneriaid yn y diwydiant 

Yn PDC, mae ein cwrs BSc Bydwreigiaeth wedi'i adeiladu ar berthnasoedd cryf â phartneriaid yn y diwydiant, gan roi mynediad uniongyrchol i chi at brofiad yn y byd go iawn sy'n gwella eich dysgu. Rydym yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd enwog y GIG, gan gynnwys Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Aneurin Bevan, a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys lle byddwch yn treulio 50% o'ch amser ar leoliad gwaith. Mae'r partneriaethau hyn yn golygu y byddwch yn gweithio ochr yn ochr â bydwragedd profiadol a thimau amlbroffesiynol, gan ennill sgiliau amhrisiadwy mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol. Wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae'r cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn graddio gyda'r cymwysterau a'r profiad ymarferol sydd eu hangen i sicrhau gyrfa lwyddiannus mewn bydwreigiaeth. 

Cymorth gyrfaoedd

Mae tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd PDC yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd. Bydd gennych fynediad at apwyntiadau un i un, cyngor gyrfa wedi'i deilwra, gweithdai CV, cyfweliadau ffug, a phrofion seicometrig. Gyda'n cronfa ddata o gyflogwyr, hysbysiadau swyddi, a sesiynau datblygu gyrfa, byddwch mewn sefyllfa dda i sicrhau eich swydd ddelfrydol. 

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: BBB i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
  • Bagloriaeth Cymru: Gradd B a BB ar Lefel A i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth Rhagoriaeth Teilyngdod
  • Mynediad i AU: Rhaid cwblhau 60 credyd yn gyffredinol gydag o leiaf 45 ar lefel 3 a 15 ar Lefel 2. O'r 45 credyd ar lefel 3, bydd angen o leiaf 24 o Ragoriaeth, 18 Teilyngdod a 3 phas arnoch.

Cyngor Ymgeisio 

Rydym yn cynghori ymgeiswyr yn gryf i fanteisio ar y cyngor sydd ar gael ar-lein, o ddangos bod gennych y cymwysterau neu brofiad perthnasol, awgrymiadau ar ysgrifennu eich datganiad personol i gyngor ar baratoi ar gyfer cyfweliad, mae gennym gyfoeth o gymorth ac arweiniad ar gael i ymgeiswyr i sicrhau eich bod yn gallu dangos bod gennych yr hyn sydd ei angen a gwneud eich cais y gorau y gall fod. Darllenwch: Cyngor Ymgeisio 

Gofynion Ychwanegol:

  • Mae gofyn i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad. I gael cymorth pellach ar baratoi ar gyfer cyfweliad a beth i'w ddisgwyl yn y cyfweliad, darllenwch ein Cyngor cyn Ymgeisio.
  • Un geirda boddhaol gan rywun sy’n gallu rhoi sylwadau ar eich agwedd a’ch dull o ymdrin â dysgu mewn ystyr broffesiynol neu academaidd.
  • Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
  • Bydd angen prawf meddygol boddhaol unwaith y bydd cynnig wedi’i wneud. Byddwn yn cysylltu â chi yn nes at eich dyddiad dechrau gyda manylion sut i gael y rhain.
  • TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
  • Y cymwysterau cyfwerth a ystyrir yw Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Swyddogaethol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg. (Rhaid bod wedi ei gyflawni ers 2016).

Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol

Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,250

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Mae 50% o'r cyrsiau yn cael eu cynnal ar leoliad. Yn ystod y lleoliad, efallai y bydd angen i fyfyrwyr dalu costau sy'n gysylltiedig â theithio. Mae costau teithio ar gael am bellteroedd sy'n fwy na'r pellter o'r cartref i'r Brifysgol. Darperir gwisgoedd ond bydd disgwyl bod gan fyfyrwyr ddillad ychwanegol fel esgidiau priodol sy'n cydymffurfio â Pholisi Gwisg GIG Cymru.

Cost: Tua £30

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein.

Cost: £64.74

Mae amrywiaeth eang o lyfrau ac e-lyfrau ar gael drwy'r llyfrgell. Gall myfyrwyr ddewis prynu rhai gwerslyfrau.

Cost: Amrywiol

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 


Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.