/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-midwifery-fiona-lewkowicz.jpg)
Mae pob shifft yn fy atgoffa pam rwy'n caru bydwreigiaeth – dyma'r swydd fwyaf gwerth chweil bosibl.
Canfod y llwybr Iawn i fi ym maes Bydwreigiaeth
Dechreuodd fy angerdd dros fydwreigiaeth pan welais i’r gofal gafodd fy mam yn ystod genedigaeth fy chwaer pan oeddwn i’n bump oed. Mae dysgu am anghydraddoldebau yn y gofal sy’n cael ei roi i famau, yn enwedig i fenywod o liw, wedi fy ysbrydoli ymhellach i ddilyn yr yrfa hon. Dewisais PDC oherwydd bod ganddi enw mor dda am gefnogi myfyrwyr bydwreigiaeth ac am ei bod yn gyfleus i fy nghartref yng Nghaerdydd.
Yn PDC, mae elfennau ymarferol y cwrs wedi bod yn amhrisiadwy, yn enwedig fy lleoliad ar Ward Genedigaethau Ysbyty’r Faenor. Mae'r amgylchedd yn un â llawer o bwysau, a gwnaeth hyn fy ngalluogi i gyfrannu'n ystyrlon. Rhoddodd hyn hwb i fy hyder ac fe wnaeth wella fy sgiliau clinigol yn sylweddol. Roeddwn i hefyd wir yn gwerthfawrogi’r staff addysgu cefnogol a'r adnoddau dysgu eithriadol yn y ganolfan efelychu.
Dewch o hyd i'ch cwrsAdeiladu sgiliau ar gyfer dyfodol gwerth chweil
Drwy fy astudiaethau, rwyf wedi datblygu sgiliau hanfodol gan gynnwys gwneud penderfyniadau clinigol, trefnu a chyfathrebu rhyngbersonol. Yr hyn rwyf fwyaf balch amdano hyd yn hyn yw’r enedigaeth gyntaf y gwnes i gynorthwyo gyda hi, yn cefnogi mam ifanc trwy gyfnod heriol. Gwnaeth hyn ddwysáu fy ymrwymiad i fydwreigiaeth.
Ar ôl graddio, rwy'n gobeithio parhau i weithio ar Ward Genedigaethau Ysbyty’r Faenor, ac wedyn symud i fydwreigiaeth gymunedol yn Ysbyty Ystrad Fawr yn y pen draw. I unrhyw un sy'n ystyried bydwreigiaeth, mae fy nghyngor yn syml: os oes gennych yr angerdd a'r ysfa i helpu menywod yn ystod un o gyfnodau mwyaf arwyddocaol eu bywydau, ewch amdani - mae'n her sy’n talu ar ei chanfed.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Bydwreigiaeth?
Dysgwch trwy wneud wardiau mamolaeth efelychiedig a'n lleoliadau ysbyty yn rhan fawr o'ch dysgu. Byddwch chi'n cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch chi hefyd, gyda thiwtoriaid a mentoriaid yn y Brifysgol ac ar leoliadau.