Sophie Meredith-Smith

Dilyn gradd Bydwreigiaeth fel myfyriwr aeddfed

Bydwreigiaeth

Gwnaeth yr ystafell efelychu a'r cyfleusterau mamolaeth gafodd eu harddangos yn ystod y Diwrnod Agored greu argraff arbennig arna i.


Canfod fy llwybr trwy brofiad personol

Dechreuodd fy angerdd dros fydwreigiaeth ar ôl cael profiadau gofal da a rhai gwael yn ystod fy meichiogrwydd fy hun. Cafodd un fydwraig eithriadol effaith fawr iawn arna i, ac fe wnaeth hi fy ysbrydoli i ddilyn yn ôl ei throed. Roedd dychwelyd i addysg fel myfyriwr aeddfed ychydig yn frawychus i ddechrau, ond gwnaeth ymweld â Diwrnod Agored yn PDC roi tawelwch meddwl i fi’n syth. Gwnaeth yr awyrgylch croesawgar, y cyflwyniadau treiddgar, y darlithwyr cefnogol, a sgyrsiau gyda myfyrwyr presennol fy argyhoeddi i mai dyma lle y dylwn i wireddu fy uchelgais. 

Creodd y cyfleusterau efelychu a mamolaeth a gafodd eu dangos i ni yn y Diwrnod Agored argraff arbennig arna i. Roedd gallu rhyngweithio â'r offer a chwrdd â staff cefnogol yn dangos  safon wych yr addysg ymarferol y byddwn yn ei derbyn yn PDC, gan atgyfnerthu fy mhenderfyniad i gofrestru yma. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

FY HOFF BROFIAD OEDD FY LLEOLIAD CYMUNEDOL YM MORGANNWG LLE SYLWEDDOLAIS GYMAINT O FODDHAD MAE BYDWREIGIAETH YN GALLU EI ROI.

Sophie Meredith-Smith

Myfyriwr Bydwreigiaeth

Datblygu sgiliau a edrych tua’r dyfodol 

Mae fy lleoliadau yn PDC wedi rhoi profiadau cyfoethog ac amrywiol i fi mewn sawl ysbyty, gan fy ngalluogi i weithio gyda bydwragedd, obstetregwyr, unedau newyddenedigol, a thimau llawfeddygol. Fy hoff brofiad oedd fy lleoliad cymunedol cyntaf ym Morgannwg, lle sylweddolais gymaint o foddhad mae bydwreigiaeth yn gallu ei roi. Mae'r cyfeillgarwch a'r systemau cymorth wedi gwneud y daith hyd yn oed yn fwy gwerth chweil. 

Ar ôl graddio, byddwn wrth fy modd yn gweithio yn Ysbyty’r Faenor, ac rwy’n gobeithio dychwelyd i PDC i wneud gradd meistr, gan arbenigo ymhellach ym maes bydwreigiaeth. I'r rhai sy'n ystyried bydwreigiaeth yn PDC, mae fy nghyngor yn glir: os oes gyda chi’r angerdd, bachwch ar y cyfle!  Bydd y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael yma yn eich helpu i wireddu eich breuddwydion. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Bydwreigiaeth?

Dysgwch trwy wneud wardiau mamolaeth efelychiedig a'n lleoliadau ysbyty yn rhan fawr o'ch dysgu. Byddwch chi'n cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch chi hefyd, gyda thiwtoriaid a mentoriaid yn y Brifysgol ac ar leoliadau.