Kara Gwynne

Mae bod yn fydwraig yn alwad broffesiynol a phersonol

Bydwreigiaeth
Midwifery student Kara smiles at camera, wearing purple scrubs in the clinical simulation centre

O fy lleoliad gwaith cyntaf, roeddwn i'm gwybod fy mod i'n perthyn.


Tanio fy angerdd dros fydwreigiaeth  

Dechreuodd fy angerdd dros fydwreigiaeth gyda'r profiadau grymuso ges i wrth roi genedigaeth i fy mhlant fy hun. Rwy'n cofio'n bod yn 19 oed yn glir iawn, yn teimlo'n ofnus, a'r fydwraig anhygoel wnaeth fy nghysuro, gwneud i fi deimlo mai fi oedd mewn rheolaeth, a chynnig cymorth cyson. Gwnaeth y profiad dwfn hwnnw fy ysbrydoli’n fawr, a gwnaeth hynny gryfhau gyda phob plentyn arall ges i. Yn y pen draw, ar ôl blynyddoedd o weithio fel cynorthwyydd addysgu a magu fy nheulu, penderfynais ei bod o'r diwedd yn bryd gwireddu fy mreuddwyd. 

Roedd dewis PDC yn benderfyniad hawdd i fi. Gwnaeth y Diwrnod Agored atgyfnerthu'r teimlad hwnnw; roedd y darlithwyr yn gynnes ac yn groesawgar, roedd yr amgylchedd yn teimlo'n gefnogol, ac roeddwn i'n gwybod ar unwaith mai dyma lle roeddwn i eisiau astudio. Roedd angerdd ac ymroddiad y staff academaidd yn amlwg iawn, ac roeddwn i'n teimlo'n hyderus y byddai PDC yn rhoi'r sgiliau a'r gefnogaeth y byddai eu hangen i fi lwyddo. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

MAE CWRDD AG ARWEINWYR YSBRYDOLEDIG YN Y MAES, GAN GYNNWYS Y DYWYSOGES ANNE, WEDI GWNEUD FY NHAITH GYDA PDC YN UN ANHYGOEL

Kara Gwynne

Myfyriwr Bydwreigiaeth

Profiadau'n siapio’r dyfodol

Mae bydwreigiaeth yn PDC yn hynod ymarferol, yn cyfuno theori a lleoliadau gwaith o'r cychwyn cyntaf. Gwnaeth ymarfer clinigol cynnar i fi sylweddoli mor amrywiol ac effeithiol yw bydwreigiaeth mewn gwirionedd, ymhell y tu hwnt i'r hyn roeddwn i wedi'i ddychmygu. Mae lleoliadau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, sef fy nhref enedigol, wedi bod yn arbennig. Roeddwn i'n teimlo'n gartrefol yno ar unwaith, gyda chefnogaeth gan dîm anhygoel. Dyma lle rwy'n gobeithio gweithio wedi i fi ennill fy nghymwysterau. 

Mae'r cyfeillgarwch, y darlithwyr cefnogol, a chyfleoedd fel mynd i gynadleddau bydwreigiaeth a chwrdd ag arweinwyr ysbrydoledig yn y maes, gan gynnwys y Dywysoges Anne, wedi gwneud fy nhaith gyda PDC yn un anhygoel. Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried bydwreigiaeth yw byddwch yn barod - mae'n anodd, ond mae'r boddhad yn anhygoel. Os oes gyda chi’r angerdd, ewch amdani, wnewch chi fyth difaru. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Bydwreigiaeth?

Dysgwch trwy wneud wardiau mamolaeth efelychiedig a'n lleoliadau ysbyty yn rhan fawr o'ch dysgu. Byddwch chi'n cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch chi hefyd, gyda thiwtoriaid a mentoriaid yn y Brifysgol ac ar leoliadau.