/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-midwifery-niquita-mace.jpg)
Mae bydwreigiaeth yn waith caled ond mae’n swydd sy’n rhoi boddhad enfawr - ewch amdani
Cael fy ngalw i fod yn Fydwraig
Fy mhrofiadau personol i ddechreuodd fy nhaith i fydwreigiaeth. Pan arweiniodd cymhlethdodau yn ystod fy meichiogrwydd at aros yn hirach na’r disgwyl yn yr ysbyty, gwnaeth cymorth a chefnogaeth y bydwragedd effeithio'n fawr iawn arna i. Awgrymodd dwy fydwraig, yn annibynnol ar ei gilydd, y dylwn ystyried gyrfa yn y maes, a dyna wnaeth i fi feddwl y gallai hyn fod yn wir opsiwn i fi. Ar y dechrau, roeddwn i’n bryderus ynghylch dychwelyd i addysg, ond gwnaeth anogaeth gan bobl yn fy mywyd adeiladu fy hyder, a gwnaeth hynny fy arwain i gofrestru gyda PDC.
Dewisais PDC oherwydd argymhellion cryf gan gyn-fyfyrwyr oedd yn canu clodydd system gymorth eithriadol y brifysgol. Gwnaeth y sicrwydd roddodd hynny i fi am gefnogaeth academaidd ac emosiynol fy argyhoeddi mai PDC oedd y lle delfrydol i astudio bydwreigiaeth.
Dewch o hyd i'ch cwrsProfiadau ymarferol a nodau yn y dyfodol
Mae fy lleoliadau gwaith yn PDC wedi fy ngalluogi i gael profiad mewn sawl maes o fewn bydwreigiaeth a disgyblaethau eraill. Ges i fwynhad arbennig yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel obstetregwyr, anesthetyddion, a nyrsys newydd-eni. Mae cael profiadau rhyng-broffesiynol fel hyn wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o'r amgylchedd gofal iechyd a rhoi mwy o werthfawrogiad i fi o rolau fy nghydweithwyr.
Ar ôl graddio, rwy'n gobeithio gweithio ar ward genedigaethau achos bod yr amgylchedd cyflym yn gweddu i fy mhersonoliaeth, ond rwy’n dal i fod yn agored i gyfleoedd mewn meysydd eraill hefyd. I ddarpar fyfyrwyr, mae fy nghyngor yn syml: peidiwch â bod ofn y bydd pethau’n dod i’ch bwrw oddi ar eich echel - bydd pob her y gwnewch chi ei goresgyn yn eich gwneud chi'n gryfach. Os ydych chi'n teimlo'n angerddol dros gefnogi menywod trwy gyfnod pan allan nhw deimlo’n fregus iawn, mae bydwreigiaeth yn PDC yn ddewis perffaith i chi.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Bydwreigiaeth?
Dysgwch trwy wneud wardiau mamolaeth efelychiedig a'n lleoliadau ysbyty yn rhan fawr o'ch dysgu. Byddwch chi'n cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch chi hefyd, gyda thiwtoriaid a mentoriaid yn y Brifysgol ac ar leoliadau.