Bwyd a Diod
Wrth i hanfodion bob dydd fynd yn ddrytach, mae dysgu siopa'n glyfar am fwydydd yn bwysicach nag erioed. Dyma rai awgrymiadau ymarferol ac effeithiol i'ch helpu i arbed arian wrth barhau i fwyta'n dda!
Cymorth Costau Byw
Gall bod yn glyfar yn yr archfarchnad wneud gwahaniaeth mawr. Gadewch i ni eich helpu i siopa'n ddoethach, nid yn galetach!
Ein prif awgrymiadau ar gyfer arbed arian ar eich siopa bwyd
Chwiliwch am frandiau cartref
Nid yw prynu nwyddau â brand cartref yn golygu eich bod yn aberthu ansawdd er mwyn gallu arbed rhywfaint o arian. Yn amlach na pheidio, fe welwch wahaniaeth mawr mewn prisiau wrth gymharu nwyddau brand cartref â nwyddau brand.
Manteisiwch ar ostyngiadau
Mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd gynllun cerdyn teyrngarwch lle gallwch gasglu pwyntiau, cwponau neu gael mynediad at brisiau rhatach. Fel myfyrwyr hefyd, gallwch wneud defnydd o ostyngiadau a chynigion myfyrwyr naill ai yn y siop neu ar-lein, peidiwch ag oedi cyn gofyn!
Gwnewch restr (a glynu wrthi)
Mae cael eich temtio gan bethau wrth fynd o gwmpas y siop yn anochel, ond er mwyn gallu cadw at eich cyllideb fwyd, mae creu rhestr a glynu wrthi yn hanfodol. Gall creu cynllun prydau wythnosol helpu gyda'r hyn sydd angen i chi ei brynu - canolbwyntiwch eich rhestr siopa o amgylch yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud eich prydau bwyd.
Rhewch brydau bwyd
Cofiwch rewi eich prydau bwyd os ydych chi'n gwneud mwy nag un ar y tro mewn swmp. Bonws - bydd hyn hefyd yn arbed amser i chi!
Gwnewch giniawau pecyn
Ffordd hawdd arall o gadw at y gyllideb yw paratoi rhai ciniawau pecyn ar gyfer diwrnod prysur o ddarlithoedd neu os ydych chi'n trefnu trip undydd. Nid oes rhaid i ginio pecyn olygu brechdan ddiflas, gallech chi gymryd rhywfaint o basta dros ben (a wnaethoch chi fel rhan o'ch cynllun prydau bwyd) neu gawl mewn fflasg.
Cysylltu â ni
Eisiau siarad â rhywun am arian neu gael rhagor o gyngor ar sut y gallwn eich cefnogi? Bwciwch apwyntiad gyda'n Tîm Cyngor Arian Myfyrwyr neu cysylltwch â'n Timau Ysgoloriaethau a Chronfa Cymorth i Fyfyrwyr.
Bwcio Apwyntiad
- Mae apwyntiadau'n para 30 munud
- Ar gael i'w bwcio o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm
- Ar gael yn bersonol, ar Teams neu dros y ffôn
Cysylltwch â ni
Ymholiadau cyffredinol
Ffôn: 01443 483778
(Dydd Llun - dydd Gwener 9am-12pm)
[email protected]
Ysgoloriaethau:
[email protected]
Cronfa Cymorth Myfyrwyr:
[email protected]
Llety:
[email protected]