Cymorth Costau Byw

Ffioedd Dysgu a Chostau Astudio

Gall deall cyllid a ffioedd Prifysgol deimlo'n frawychus i ddechrau, ond mae nifer o opsiynau ar gael i chi. Rydym yma i'ch helpu a'ch cynghori ar eich taith fel myfyriwr yn PDC.

Cymorth Costau Byw Ydw i'n gallu fforddio mynd i'r Brifysgol?
student-life-study-spaces-cardiff-38848

Mae ffioedd dysgu yn amrywio yn dibynnu ar eich cwrs a'ch lefel astudio ac yn talu am eich cymorth addysgu ac academaidd. Gellir dod o hyd i ffioedd dysgu llawn y cwrs ar dudalennau gwe ein cyrsiau. 

Y tu hwnt i'ch ffioedd dysgu, gall eich cwrs gynnwys costau ychwanegol fel teithiau maes, gwerslyfrau, argraffu neu offer arbenigol. Gellir dod o hyd i fanylion llawn costau ychwanegol hefyd ar dudalennau gwe ein cyrsiau. 

Credwn fod pawb yn haeddu'r cyfle i gael mynediad at addysg uwch, waeth beth fo'u sefyllfa ariannol. Dyna pam yn PDC rydym yn cynnig ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau wedi'u teilwra sydd wedi'u cynllunio'n benodol i'ch helpu i reoli eich treuliau.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
student sat on campus in treforest

Cronfa Parod i'r Dyfodol

Rydym yn cynnig £1,000 i fyfyrwyr llawn amser cymwys, wedi’i dalu’n uniongyrchol iddyn nhw yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudio. Edrychwch ar y manylion heddiw!

Cysylltu â ni

Eisiau siarad â rhywun am arian neu gael rhagor o gyngor ar sut y gallwn eich cefnogi? Bwciwch apwyntiad gyda'n Tîm Cyngor Arian Myfyrwyr neu cysylltwch â'n Timau Ysgoloriaethau a Chronfa Cymorth i Fyfyrwyr.

Bwcio Apwyntiad

  • Mae apwyntiadau'n para 30 munud 
  • Ar gael i'w bwcio o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm 
  • Ar gael yn bersonol, ar Teams neu dros y ffôn 

 

Archebu apwyntiad

Cysylltwch â ni

Ymholiadau cyffredinol
Ffôn: 01443 483778
(Dydd Llun - dydd Gwener 9am-12pm)
[email protected] 

Ysgoloriaethau: 
[email protected]  

Cronfa Cymorth Myfyrwyr: 
[email protected] 

Llety:
[email protected]