Pontio i Fyw'n Annibynnol
Nid ar chwarae bach mae symud oddi cartref a dechrau astudio gradd yn rhywle newydd. Darllenwch ein hawgrymiadau ar sut i wneud y broses mor ddidrafferth â phosib.
Llety Bywyd Myfyrwyr/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/75-cafe-bars-pubs/student-life-students-on-campus-treforest-su-52657.jpg)
O arian i goginio, mae gyda ni gyngor gwych!
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/72-students-union/student-life-students-union-52669.jpg)
Coginio
Ffaith: Un o'r pethau gorau am fyw ar eich pen eich hun yw coginio ar eich cyfer chi’ch hun! Efallai bod eich tsili yn dod â dŵr i’r dannedd, neu efallai eich bod chi'n gwybod (fwy neu lai) sut i ferwi wy. Beth bynnag yw lefel eich sgiliau yn y gegin, dyma ychydig o awgrymiadau ar fwyd, coginio a chyllidebu.
Lluniwch gyllideb bwyd: O wneud hyn, byddwch chi'n gwybod yn union faint o arian sydd gennych i'w wario ar fwyd. Gallwch hyd yn oed gynnwys pethau fel coffi tecawê neu brydau bwyd mewn caffis neu dai bwyta yn y gyllideb.
Cynlluniwch: Gallwch arbed arian drwy gynllunio ymlaen llaw. Gall creu cynllun prydau ar gyfer wythnos neu bythefnos ar y tro eich helpu i arbed amser, arian ac egni. Mae Yummly yn ap am ddim sy'n eich helpu i gynllunio'ch prydau bwyd. Mae dros 2 filiwn o ryseitiau ynddo hefyd.
Coginiwch gartref: Os ydych chi am arbed arian, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n coginio’r rhan fwyaf o'ch prydau gartref. (Mae ambell bryd bach allan yn iawn, wrth gwrs.)
Trowch goginio’n hwyl: Mae coginio yn dod â phobl at ei gilydd. Felly, beth am gymryd tro yn coginio i'ch cyd-letywyr? Gallwch osod themâu fel Dydd Llun heb Gig neu ddydd Mawrth Tacos i gadw pethau'n ddiddorol. Yn hwyl, yn gost-effeithiol ac yn flasus!
Coginiwch fwy nag sydd angen: Gallwch arbed amser ac arian trwy goginio mwy nag sydd angen ar gyfer un pryd, a rhewi’r gweddill i’w fwynhau rywbryd eto.
Byddwch yn greadigol: Does dim rhaid i fwyd fod yn ddrud i fod yn flasus. Arbrofwch gyda blasau! I gael ysbrydoliaeth, beth am gael golwg ar 'Coginio ar Gyllideb' ar ein tudalen Facebook?
Rhowch gynnig ar rywbeth newydd: Mynd i’r brifysgol yw'r adeg berffaith i ehangu eich gorwelion a blasu bwyd o wahanol rannau o'r byd.
Chwiliwch am ostyngiadau i fyfyrwyr a chwponau ar-lein: Gallwch arbed arian gyda gostyngiadau a chodau cwpon sy'n addas i fyfyrwyr. Cofiwch, o geiniog i geiniog yr â’r arian yn bunt!
Iawn, nawr bod gennych syniad ynghylch ble hoffech chi fyw, dewch i ni sôn am yr ‘A’ mawr (Ie, arian.)
Mae dechrau yn y brifysgol yn aml yn golygu rheoli eich cyllid yn annibynnol am y tro cyntaf, ac efallai y bydd angen ychydig o amser i ddod i arfer â hyn. Ond mae llawer o gefnogaeth ar gael a all eich helpu i reoli eich arian yn dda.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod faint o arian sy’n dod i mewn a faint sy’n mynd allan: Efallai y bydd hyn yn teimlo’n ddiflas, ond byddwch chi'n falch yn y diwedd! Cofnodwch eich incwm i gyd (benthyciad myfyriwr, ysgoloriaethau neu grantiau, cyflogau gwaith, cymorth gan y teulu). Wedyn, cofnodwch eich gwariant i gyd (rhent, biliau, tanysgrifiadau, taliadau aelodaeth, petrol ac ati).
Gwnewch gyllideb: Ar ôl i chi wybod faint o arian sydd angen arnoch chi bob mis, gallwch greu cyllideb fanwl. Penderfynwch faint byddwch chi'n ei wario ar bethau fel bwyd, hanfodion bywyd, teithio, (a chael hwyl hefyd). Mae apiau cyllidebu fel Walley neu Money Dashboard Neon yn ddefnyddiol ac yn eich helpu i reoli’ch arian.
Defnyddiwch ap cynilo: Efallai na fydd gennych lawer o arian sbâr i gynilo ond mae pob ceiniog yn cyfrif. Gallwch arbed arian yn awtomatig heb hyd yn oed sylwi eich bod chi’n gwneud hynny drwy ddefnyddio apiau fel Plum neu Moneybox.
Prynwch bethau ail-law: Pan fyddwch chi ar gyllideb, bydd gwefannau marchnad a siopau elusen yn hafan ddiogel i chi! Mae llwyth o fargeinion i’w cael felly chwiliwch am opsiwn ail-law cyn prynu rhywbeth newydd sbon.
Byddwch yn siopwr doeth: Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod pa siopau sy'n cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr i wneud yn fawr o’ch arian. Gwnewch eich siopa bwyd ychydig yn hwyrach yn y dydd, pan fydd yr archfarchnadoedd yn gostwng prisiau bwydydd. Mae'r ap Too good To Go yn ffordd arall o brynu bwyd mewn archfarchnadoedd/tai bwyta am bris llawer is na’r pris gwreiddiol.
Meddyliwch cyn gwario: Cyn gwario ar rywbeth, gofynnwch i chi'ch hun oes wir ei angen arnoch chi. Dydyn ni ddim yn awgrymu gwneud hyn drwy'r amser (fyddai hynny ddim yn hwyl!) Ond mae'n werth meddwl am yr hyn rydych chi'n gwario arian arno, fel nad yw’n wastraff yn y pen draw.
Defnyddiwch ein hadnoddau am ddim: Mae gennym lawer bethau i’ch helpu ar ein gwefan i reoli arian ac i gyllidebu. Chwiliwch am 'Costau Byw' ar wefan PDC.
Siaradwch â'n Tîm Cymorth Ariannol: Rydyn ni yma ar eich cyfer chi ar bob cam o'ch taith brifysgol. Os bydd angen cyngor arnoch, gallwn ni eich helpu chi gyda chymorth ariannol, cwnsela, gwneud ceisiadau am ysgoloriaethau, grantiau, rhaglenni astudio-gweithio a mwy.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/72-students-union/student-life-students-union-52663.jpg)
Iechyd a Lles
Mae'n bwysig gofalu am eich iechyd meddyliol a chorfforol yn y brifysgol. Y cam cyntaf yw deall pa bethau sy'n gwneud lles i chi ac yna eu hymgorffori yn eich ffordd o fyw a'ch lleoliad newydd.
Dyma rai o'n prif awgrymiadau o ran gofalu am eich lles:
Symudwch eich corff: Boed yn sesiwn ymarfer corff trwyadl mewn campfa, yn ddosbarth yoga ar fore Sul, neu’n barti dawnsio yn eich cegin – gwnewch rywbeth sy'n gwneud i chi deimlo'n dda wrth symud. Mae llwyth o glybiau a chymdeithasau yn Undeb y Myfyrwyr all eich helpu i symud eich corff.
Neilltuwch amser i chi’ch hun: Cadwch ddyddiadur. Myfyriwch. Gweddïwch. Cadwch gofnod o’r hyn rydych chi’n ddiolchgar amdano. Gwnewch ychydig o weu. Lliwiwch i mewn. Gwnewch rywbeth rydych chi'n ei fwynhau ac sy'n eich helpu i deimlo'n gadarn ac yn heddychlon.
Siaradwch â rhywun: Mae sgwrs dda bob amser yn help. Gall hyn fod ar ffurf trafod eich teimladau gyda ffrind dros baned neu siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Y peth pwysig yw peidio â chadw pethau i chi'ch hun.
Cofiwch anadlu: Gall canolbwyntio ar eich anadlu leihau teimladau o straen a'ch helpu i ymlacio. Mae’r hyn sy’n cael ei alw’n “box breathing” yn ymarfer anadlu hawdd y gallwch ei ymarfer unrhyw le, unrhyw bryd. Anadlwch i mewn a chyfrif i bedwar – daliwch eich anadl am bedwar – anadlwch allan a chyfrif o bedwar.
Bwytwch yn dda: Mae bwyd yn hollbwysig felly cofiwch gael tanwydd i’ch corff gyda bwyd da, maethlon. Bwytwch lawer o brotein, ffrwythau, llysiau gwyrdd deiliog, a brasterau iach. Yfwch ddigon o ddŵr a chymryd fitaminau neu atchwanegiadau os oes angen.
Cysgwch yn dda: Dyw caen napyn ganol prynhawn ddim fel arfer yn rhywbeth y byddwch yn ei flaenoriaethau, ond mae cwsg yn bwerus. Mae'n effeithio ar bopeth, o’ch gallu i ganolbwyntio i’ch hwyliau. Ceisiwch gael 8 awr o gwsg y rhan fwyaf o nosweithiau ac osgowch edrych ar sgriniau yn syth cyn mynd i’r gwely. Byddwch yn bwyllog adeg aseiniadau a chyfnod yr arholiadau ac osgowch yr angen i weithio drwy'r nos.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/75-cafe-bars-pubs/student-life-cardiff-coffee-shop-43029.jpg)
Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth. Dyma sut rydyn ni'n eich cadw'n ddiogel ar y campws.
Gwasanaeth 24 awr: Mae staff diogelwch ar bob un o'n campysau 24-7 a theledu cylch cyfyng ar waith.
Cyfarfodydd ymsefydlu ar-lein: Os ydych chi'n byw mewn llety prifysgol, byddwch chi'n mynychu cyfarfod sefydlu ar-lein fel rhan o'ch cytundeb trwydded. Cewch yr holl wybodaeth allweddol am fyw mewn neuadd brifysgol a bod yn ddiogel.
Yswiriant: Rydym wedi ymuno ag Endsleigh, prif ddarparwr yswiriant myfyrwyr y DU, i drefnu yswiriant eiddo. Mae hyn ar waith ar gyfer teclynnau, ceir, teithio a mwy. Gwiriwch fanylion eich polisi ar wefan Endsleigh i weld beth sy’n rhan o’ch yswiriant.
Cadw’n ddiogel y tu hwnt i'r campws
Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’ch cadw eich hun, eich pethau a'ch ffrindiau yn ddiogel.
Mae busnesau ledled Caerdydd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y ddinas yn lle diogel: Os ydych chi ar noson allan yn y ddinas, mae llawer o leoliadau sy’n cynnig lloches os oes ofn arnoch chi neu os ydych chi’n teimlo mewn perygl. I gael gwybod mwy ac i lawrlwytho'r ap, ewch i forasafercardiff.com/cy.
Byddwch yn ymwybodol o bopeth sydd o’ch cwmpas bob amser a gofalwch am eich eiddo: Peidiwch â gadael i unrhyw ffrind fynd adref ar ei ben ei hun ar ôl noson allan, a gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn rhoi gwybod ble rydych chi i rywun.
Mae llwyth o apiau am ddim all helpu i'ch cadw chi'n ddiogel: Mae Safezone yn eich galluogi i roi gwybod am bryder, yn ffordd o gadw mewn cysylltiad pan yn gweithio ar eich pen eich hun, yn eich cysylltu ag adnoddau iechyd meddwl, a dangos hysbysiadau am ddigwyddiadau o bwys. Mae What3words yn eich galluogi i ddod o hyd i union leoliadau, a rhannu ac arbed eich union leoliad - defnyddiol iawn os byddwch yn mynd ar goll neu’n cael eich gwahanu oddi wrth eich ffrindiau.