PDC yn cefnogi rhaglen allgymorth seiberddiogelwch

19 Mawrth, 2026

Mae disgyblion ysgol yn codi eu dwylo at athro ar sgrin ddigidol yn ystod gwers yn NDEC

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn cefnogi prosiect sydd wedi derbyn mwy na £740,000 i helpu i ysbrydoli miloedd o blant ledled De-ddwyrain Cymru i ystyried gyrfaoedd mewn seiberddiogelwch.

Bydd y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC) yn defnyddio'r buddsoddiad gan Gymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru i ehangu ei rhaglen allgymorth addysg seiberddiogelwch i 10,000 o ddysgwyr ledled y rhanbarth.

Mae NDEC yn darparu gweithgareddau rhyngweithiol ar fforenseg ddigidol, seiberdroseddu, a diogelwch rhyngrwyd i blant cynradd. Bydd y cyllid yn galluogi darpariaeth ddwyieithog, yn cyflwyno hyfforddiant newydd ar ddeallusrwydd artiffisial a chynaliadwyedd, ac yn helpu i fynd i'r afael â rhwystrau fel costau trafnidiaeth ac offer i ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig.

Wedi'i chyflwyno gan Thales a PDC, mae'r rhaglen yn annog pobl ifanc i ddilyn addysg a gyrfaoedd mewn seiberddiogelwch a chyfrifiadura.

Mae'r rhaglen ehangach yn adeiladu ar lwyddiant y cam cyntaf, a gyrhaeddodd 216 o ysgolion a 20,000 o ddysgwyr ledled y rhanbarth.

Dywedodd yr Athro Jill Stewart, Deon Cyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC, y bydd y cyllid ychwanegol yn gwella ymdrechion y Brifysgol i ennyn diddordeb mwy o bobl ifanc yn y sector seiber.

"Mae'n wych gallu cefnogi NDEC yn ei hymdrechion i dynnu sylw at y gwaith sy'n digwydd yn y sector seiber, a llunio cynnwys Cymraeg i gynnig mynediad i hyd yn oed mwy o bobl ifanc at adnoddau seiber," meddai'r Athro Stewart.

"Mae dadansoddiad o’r diwydiant wedi awgrymu bod prinder o fwy na 90,000 o weithwyr seiberddiogelwch proffesiynol yn bodoli ar hyn o bryd, felly mae galw gwirioneddol am bobl sydd â'r sgiliau i wneud y swyddi hyn.

"Mae ennyn diddordeb pobl ifanc yn swyddi'r dyfodol yn rhan allweddol o'n rôl ni fel Prifysgol flaengar, felly rydyn ni’n falch iawn o ychwanegu ein harbenigedd at gynlluniau fel y fenter Cymoedd Technoleg."

Dywedodd arweinydd hyfforddi NDEC, Lisa Cornford: "Rydyn ni’n hynod falch fod NDEC yn parhau i godi dyheadau ledled De-ddwyrain Cymru, gan helpu pobl ifanc i gredu yn yr hyn y gallan nhw ei gyflawni. Mae'r rhaglen ehangach hon yn caniatáu i ni gyrraedd mwy o ddysgwyr, magu eu hyder, a chyflwyno cyfleoedd digidol nad oeddent efallai wedi'u hystyried o'r blaen."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans: "Bydd y sgiliau hanfodol hyn yn helpu i gadw plant yn ddiogel ar-lein wrth agor y drysau i yrfaoedd gwerth chweil.

"Bydd ein buddsoddiad yn helpu i ysbrydoli mwy o fyfyrwyr, yn meithrin diddordeb cynnar mewn gyrfaoedd digidol, ac yn cefnogi datblygiad gweithlu seiber y dyfodol – ac rwy'n falch iawn ein bod ni nawr yn gallu cyflwyno'r rhaglen hon yn ddwyieithog."