Mae’r cwrs wedi rhoi dealltwriaeth drylwyr i mi o ddeallusrwydd artiffisial, gan roi sgiliau i mi sy’n ddymunol iawn ym marchnad swyddi heddiw.
Pam dewisais astudio Deallusrwydd Artiffisial yn PDC
Rob Whittey ydw i, myfyriwr ôl-raddedig sy'n dilyn gradd meistr mewn Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol De Cymru. Dewisais PDC ar gyfer fy astudiaeth ôl-raddedig oherwydd ei henw da am addysg o ansawdd uchel, cyfleusterau o safon diwydiant, a chymorth cadarn i fyfyrwyr.
Wedi fy swyno gan dwf cyflym a dylanwad deallusrwydd artiffisial yn ein bywydau, penderfynais ymchwilio i'r maes hwn, er mwyn deall yn well y byd digidol deinamig yr ydym yn byw ynddo. Mae'r cwrs wedi rhoi dealltwriaeth drylwyr i mi o ddeallusrwydd artiffisial, gan roi sgiliau i mi sy'n ddymunol iawn ym marchnad swyddi heddiw.
Dewch o hyd i'ch cwrsFy mhrofiad a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol
Yn ystod fy astudiaeth, cefais y cyfle i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant mewn ffeiriau a chynadleddau gyrfaoedd amrywiol a drefnwyd gan PDC. Rhoddodd hyn wybodaeth werthfawr o ran fy rhagolygon gyrfaoedd ym maes deallusrwydd artiffisial. Mae'r cwrs yn defnyddio rhaglennu Python yn bennaf, offeryn hanfodol mewn deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol. Er nad oedd gennyf wybodaeth am Python i ddechrau, mae'r cwrs wedi'i gynllunio'n arbenigol i gynorthwyo myfyrwyr o bob lefel sgiliau i gyrraedd hyfedredd.
Rwy’n hyderus bod y cwrs hwn yn fy arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i lwyddo yn y diwydiant deallusrwydd artiffisial. Mae gwasanaethau cymorth rhagorol y brifysgol hefyd wedi bod yn allweddol yn fy nhaith academaidd, yn enwedig y seminarau a drefnwyd ganddynt ar ysgrifennu traethodau hir.
I unrhyw un sy'n ystyried astudio deallusrwydd artiffisial yn PDC, rwy’n dweud: peidiwch ag oedi! Mae'r gefnogaeth, y cyfleoedd dysgu, a'r profiadau cyfoethogi yma yn ddigyffelyb. Peidiwch â bod yn swil i ofyn am gymorth pan fo angen, ymgollwch yn y cyfleoedd a gyflwynir, a chofleidiwch fyd cyffrous deallusrwydd artiffisial.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch?
Mae cyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru wedi'i gynllunio nid yn unig gyda'r diwydiant mewn golwg, ond mae'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan bartneriaid proffesiynol a staff â chysylltiadau da.