Deallusrwydd Artiffisial
Ymunwch â ni i archwilio dyfodol technoleg a deallusrwydd artiffisial wrth i ni edrych ar feysydd blaengar fel adnabod lleferydd, prosesu lluniau, diagnosis clefydau a modelu iaith mawr.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsiwch â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/msc-artificial-intelligence.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mynd i’r afael â phroblemau gwirioneddol sy’n wynebu’r byd technoleg ddeallus wrth i chi ddysgu sgiliau allweddol y mae diwydiant yn gofyn amdanynt ar gyfer rolau mewn AI cymhwysol.
Cynlluniwyd ar gyfer
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer datryswyr problemau angerddol gyda sgiliau cyfrifiadura a rhaglennu sylfaenol sydd eisiau ennill dealltwriaeth fanwl ac uwch o ddeallusrwydd artiffisial. Byddwch yn edrych ar gymwysiadau cyfrifiant a phroblemau dysgu cymhleth wrth edrych ar gymhwyso systemau ymreolaethol yn y byd go iawn.
Wedi’i achredu gan
- BCS, Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG
Llwybrau Gyrfa
- Peiriannydd Dysgu Peirianyddol
- Gwyddonydd Data
- Peiriannydd Prosesu Iaith Naturiol (NLP)
- Peiriannydd Delweddau Cyfrifiadurol
- Gwyddonydd Ymchwil ym maes Deallusrwydd Artiffisial
Y sgiliau a addysgir
- Dadansoddi a Dehongli Data
- Algorithmau Dysgu Peirianyddol
- Rhaglennu a Datblygu Meddalwedd
- Arbenigedd Dysgu Dwfn
- Ymchwil a Datrys Problemau
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Cwrs
Agorwch ddrysau i yrfa ddeallusrwydd artiffisial ddeinamig, gymhwysol gyda’n harchwiliad cynhwysfawr o gymwysiadau AI. O drawsnewid iaith i ddadansoddi teimladau, adnabyddiaeth weledol, cynrychioli gwybodaeth a dadansoddi data gan ddefnyddio pecynnau Python, mae myfyrwyr yn ennill arbenigedd mewn meysydd AI amrywiol.
Rheoli Prosiectau a Methodoleg Ymchwil
Cynlluniwch brosiect sy’n ystyried risgiau a materion moesegol perthnasol wrth gwblhau adolygiad maes a gweithgareddau datblygu eraill wrth i chi wella eich dealltwriaeth o’r sefyllfa a/neu gynhyrchu newid sefydliadol.
Egwyddorion Cyfrifiadura
Arddangoswch eich dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol mewn technoleg gyfrifiadurol, rhaglennu a systemau cronfa ddata trwy gynhyrchu datrysiad i broblem gyda llawer o ffactorau rhyngweithiol gan ddefnyddio arferion, offer a thechnegau priodol.
Cymwysiadau Cyfrifiadurol o Ddeallusrwydd Artiffisial
Ehangwch eich gwybodaeth am gymwysiadau cyfrifiad o fewn deallusrwydd artiffisial, rheoli data cymhleth a pheirianneg. Byddwch yn asesu sefyllfaoedd ymarferol a dehongli defnyddiau cysyniadau dadansoddi ystadegol uwch y byd go iawn a’u gwerth mewn gwyddoniaeth data.
Systemau sy’n Seiliedig ar Wybodaeth
Dysgu sgiliau ymarferol wrth ddylunio a datblygu systemau sy’n seiliedig ar wybodaeth a ddefnyddir i gefnogi penderfyniadau dynol ac am eu heffeithiau cymdeithasol. Byddwch yn archwilio’r arferion gorau a’r dulliau moesegol o gynhyrchu datrysiadau wedi’u pweru gan AI.
Dysgu Peiriannau a Systemau Ymreolaethol
Creu dealltwriaeth sylfaenol o ddysgu peiriannau, cefnogi peiriannau fector, lleihau dimensiynoldeb, a modelau AI ystadegol. Byddwch yn dysgu am egwyddorion dysgu atgyfnerthu ac archwilio cymwysiadau, offer, a’u goblygiadau cymdeithasol.
Dysgu Dwfn
Adeiladwch ar eich gwybodaeth dysgu peirianyddol ac archwiliwch ddysgu dwfn a’i gymhwysiad. Byddwch yn darganfod ein hoffer arloesol a’r gwahanol ffyrdd o ddylunio a datblygu atebion i broblemau gwirioneddol.
Prosiect MSc
Arddangos sgiliau cyfrifiadura ac ymchwil trwy ymchwilio’n fanwl i’ch pwnc amserol, sy’n berthnasol i wobr, i gynhyrchu datrysiad y gellir ei gyfiawnhau i broblem sylweddol wedi’i lywio gan adolygiad beirniadol o ymchwil.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Cyflwyno ac Asesu
Rhennir y cwrs ôl-raddedig dwys hwn yn bedwar bloc mawr. Mae myfyrwyr llawn amser yn neilltuo 12 awr dosbarth a 24 awr astudio annibynnol bob wythnos, tra bod myfyrwyr rhan-amser yn ymrwymo tua chwe awr yr wythnos.
Mae 100% o’r asesu yn seiliedig ar waith cwrs ac yn amrywio o bapurau arddull ymchwil a chyflwyniadau i aseiniadau ymarferol. Byddwch yn dewis eich ffocws ar gyfer prosiect ymchwil sylweddol sy’n gofyn am sgiliau meddwl annibynnol cryf, dadansoddi beirniadol a rheoli prosiect.
Mae myfyrwyr yn profi amser dosbarth strwythuredig ac astudiaeth annibynnol fel rhan o’r cwrs deinamig hwn sy’n cynnwys darlithoedd, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, seminarau a phrosiectau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/161-treforest-facilities/campus-facilities-treforest-ai-masters-robotics-52225-814X789.jpg)
Staff Addysgu
Byddwch yn cael eich addysgu a’ch cefnogi gan dîm ymroddedig o athrawon medrus o ystod eang o gefndiroedd diwydiannol ac ymchwil. Mae eu profiad amhrisiadwy yn sicrhau bod myfyrwyr nid yn unig yn dysgu am dechnolegau a methodolegau sydd ar flaen y gad yn y maes cyfrifiadureg ond bod myfyrwyr hefyd yn dysgu sut maent yn cael eu cymhwyso. Byddwch yn dysgu am ein grŵp ymchwil Cyfrifiadura, Seibrddiogelwch, Mathemateg a Gwybodeg (CCMI) cyfredol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-academic-staff-computing-msc-artificial-intelligence-dr-mabrouka-abuhmida-52263-1-794X800.jpg)
Cyfleusterau
Byddwch yn gweithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, o’n labordai cyfrifiadurol diweddaraf a chyfleusterau Mac i’n ci roboteg, KAI-9. O brosesu data dwys i ddylunio creadigol, mae myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i archwilio, arloesi a rhagori. Byddwch yn barod am yrfa wrth i chi ddatrys problemau byd go iawn.
Gyda chyfuniad o theori ac ymarfer, byddwch yn ennill yr holl sgiliau allweddol i wynebu heriau deinamig y dirwedd ddigidol sydd ohoni. Byddwch yn gweithio gyda phensaernïaeth CNN, RNN, LSRM a thrawsnewidwyr yn ogystal ag offer fel Hugging Face, Streamlit a Gradio wrth archwilio Deep Learning. Rydym yn cefnogi eich astudiaethau annibynnol trwy eich deunydd DataCamp.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/computing/Cyber-Security-photoshoot---April-2024_55065.jpg)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at raddedigion sydd ag o leiaf gradd Anrhydedd 2: 2 neu gyfwerth a hoffai ehangu eu gwybodaeth bresennol ac agor llwybr gyrfa newydd.
Croesewir ceisiadau gan raddedigion peirianneg, TG, gwyddoniaeth, mathemateg neu fusnes yn benodol.
Mae'r cwrs yn seiliedig ar offer ac os oes angen unrhyw sgiliau rhifedd bydd yn cael ei gynnwys yng nghynnwys y modiwlau.
Gellir ystyried profiad perthnasol yn y diwydiant hefyd.
Mae'r cwrs yn croesawu pynciau nad ydynt yn gysylltiedig â STEM.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol penodol yn gysylltiedig â'r rhaglen, er y dylai myfyrwyr ddisgwyl talu treuliau achlysurol am fân bethau, er enghraifft argraffu, deunydd ysgrifennu neu gludiant. Gall myfyrwyr benderfynu cefnogi eu hastudiaethau trwy ddarparu offer ychwanegol fel gliniadur. Er ein bod yn argymell hyn, nid yw'n ofynnol.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2025 Llawn Amser
- Medi 2025 Rhan-amser
- Medi 2026 Llawn Amser
- Chwefror 2026 Llawn Amser
- Medi 2026 Rhan-amser
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.