Gwyddor Data
Rhowch hwb i’ch gyrfa gyda’n rhaglen MSc Gwyddor Data arobryn.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsiwch â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/data-science/msc-data-science.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae ein cwrs, a enillodd wobr "Rhaglen Academaidd Orau'r Flwyddyn" yng Ngwobrau FinTech Cymru, yn cynnig cyfle unigryw i ragori ym maes deinamig gwyddor data.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae’r rhaglen hon, sydd wedi’i chynllunio ar gyfer darpar selogion data, graddedigion diweddar, a gweithwyr proffesiynol sy’n ceisio gwella eu sgiliau dadansoddi, p’un a ydych chi’n dod o gefndir STEM neu’n awyddus i newid i rolau sy’n cael eu gyrru gan ddata, yn rhoi’r arbenigedd sydd ei angen arnoch i ragori ym maes gwyddor data sy’n esblygu.
Wedi’i achredu gan
- BCS, Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG
Mewn partneriaeth ag
- SAS, Dadansoddeg, Meddalwedd a Datrysiadau
Llwybrau Gyrfa
- Gwyddonydd Data
- Dadansoddwr Gwybodaeth Busnes
- Peiriannydd Dysgu Peirianyddol
- Peiriannydd Data / Cwmwl
- Gwyddonydd Ymchwil Deallusrwydd Artiffisial
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/data-science/subject-data-science-classroom-msc-46907.jpg)
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Mae ein MSc mewn Gwyddor Data yn cynnig chwe modiwl craidd, wedi'u rhannu'n feddylgar yn ddwy ffrwd er hwylustod i chi. Ar y cyd â'n dulliau astudio amrywiol, mae'r hyblygrwydd hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio i integreiddio eu hastudiaethau'n ddi-dor â'u gyrfaoedd.
Mae Ffrwd 1 yn canolbwyntio ar ddadansoddi ystadegol, cloddio data, a rhagweld ystadegau, ac fe’i haddysgir ar ddydd Mercher.
Ystadegau Cymhwysol ym maes Gwyddor Data
Mae'r modiwl hwn yn archwilio technegau caffael data a dadansoddi ystadegol sy'n hanfodol ar gyfer gwyddonwyr data mewn gwahanol ddiwydiannau. Mae’n pwysleisio datblygiad sgiliau meddal wrth gyfathrebu canlyniadau’n effeithiol, agwedd hanfodol i randdeiliaid busnes. Mae’r cymwysiadau ymarferol yn cwmpasu sectorau amrywiol fel gwasanaethau ariannol, gofal iechyd a gweithgynhyrchu, gan ddarparu sylfaen gynhwysfawr ar gyfer heriau gwyddor data yn y byd go iawn.
Cloddio Data a Rhagolygon Ystadegol
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar yr offer a'r technegau hanfodol a ddefnyddir ar gyfer Cloddio Data a Modelu Ystadegol. Mae cloddio data yn galluogi sefydliadau i gael dealltwriaeth werthfawr o ddata testun distrwythur, gan hwyluso penderfyniadau gwybodus ar sail adborth defnyddwyr a ffynonellau data eraill. Mae modelu a rhagweld ystadegol yn chwarae rhan hollbwysig wrth ragweld tueddiadau yn y dyfodol, yn enwedig yn y sector ariannol. Mae'r modiwl yn cynnwys astudiaethau achos yn y dosbarth, ymarferion ac aseiniadau sy'n cynnig cyd-destun gwerthfawr a phrofiad ymarferol mewn diwydiannau sy'n dibynnu ar y technegau hyn.
Methodoleg Ymchwil a Rheoli Prosiectau
Mae'r modiwl hwn yn rhoi sgiliau hanfodol i fyfyrwyr ar gyfer cynnal a rheoli prosiectau ymchwil yn annibynnol. Mae'n canolbwyntio ar agweddau hanfodol ar ymchwil, gan gynnwys cynnal adolygiadau llenyddiaeth a mireinio sgiliau ymchwil ac ysgrifennu. Drwy feistroli’r hanfodion hyn, mae myfyrwyr yn barod i gychwyn ar eu prosiectau ymchwil eu hunain, gan feithrin sylfaen gref mewn methodoleg ymchwil a rheoli prosiectau.
Prosiect Ymchwil MSc
Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn cychwyn ar brosiect ymchwil annibynnol, a allai gynnwys cydweithio â chwmnïau, cynigion ymchwil a gynigir gan staff, neu syniadau a gynhyrchir gan fyfyrwyr. Ar gyfer myfyrwyr amser llawn, mae'r prosiect yn cwmpasu un bloc 12 wythnos o hyd, tra bod gan fyfyrwyr rhan-amser ddau floc 12 wythnos. Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr arddangos eu gwaith ymchwil, gan eu galluogi i ddangos eu harbenigedd a chyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr i'w maes astudio dewisol.
Mae Ffrwd 2 yn cynnwys rhaglennu, Dysgu Peirianyddol, Deallusrwydd Artiffisial, a Thechnolegau Data Mawr, ac fe’i haddysgir ar ddydd Gwener.
Egwyddorion Cyfrifiadura
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i hanfodion systemau rheoli cronfeydd data, gan gynnwys SQL ac Oracle, sy'n uchel eu parch yn y diwydiant. Ar ben hynny, mae’r modiwl yn cynnig trosolwg ehangach o ieithoedd rhaglennu cyffredinol. Trwy'r modiwl hwn, mae myfyrwyr yn caffael sgiliau a gwybodaeth hanfodol mewn rheoli cronfeydd data a rhaglennu, gan osod sylfaen gref ar gyfer eu gyrfa ym maes Gwyddor Data.
Dysgu Peirianyddol Cymhwysol a Dysgu Dwfn
Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn edrych ar ddadansoddi setiau data yn y byd go iawn ar sail data gan ddefnyddio technegau modelu dan oruchwyliaeth a heb oruchwyliaeth. Mae'r cymwysiadau'n rhychwantu ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys cyllid, gweithgynhyrchu, gofal iechyd a cherbydau awtonomaidd.
Peirianneg Data Mawr a’i Chymwysiadau
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar yr offer a'r technegau sy'n hanfodol ar gyfer ymdrin â symiau enfawr o ddata strwythuredig a distrwythur. Mae myfyrwyr yn cael cipolwg ymarferol ar rôl Peiriannydd Data, gyda phrofiad ymarferol mewn fframweithiau cyfrifiadura cwmwl fel Amazon Web Services (AWS) drwy ein cysylltiad â rhaglen Academi AWS. Mae hyn yn paratoi myfyrwyr i reoli a thrin data’n effeithiol mewn sefyllfaoedd go iawn, gan eu gwneud yn asedau gwerthfawr yn oes data mawr.
Prosiect Ymchwil MSc
Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn cychwyn ar brosiect ymchwil annibynnol, a allai gynnwys cydweithio â chwmnïau, cynigion ymchwil a gynigir gan staff, neu syniadau a gynhyrchir gan fyfyrwyr. Ar gyfer myfyrwyr amser llawn, mae'r prosiect yn cwmpasu un bloc 12 wythnos o hyd, tra bod gan fyfyrwyr rhan-amser ddau floc 12 wythnos. Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr arddangos eu gwaith ymchwil, gan eu galluogi i ddangos eu harbenigedd a chyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr i'w maes astudio dewisol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Mae ein rhaglen yn mabwysiadu dull dysgu cyfunol deinamig, gan gyfuno cyswllt wyneb yn wyneb ag adnoddau ar-lein amrywiol i gynnig profiad dysgu cynhwysfawr. Mae pob modiwl yn cynnwys o leiaf tair awr o gyswllt wyneb yn wyneb wythnosol, ac eithrio modiwl y Prosiect MSc. Mae darlithoedd, sy'n ymdrin â chynnwys, methodolegau, technegau a materion cysylltiedig, yn cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb ac yn anghydamserol ar-lein. Mae seminarau a thiwtorialau a gefnogir gan diwtoriaid yn cynnig amser hyblyg yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer dysgu, trafod a datrys problemau
ymarferol. Mae astudio annibynnol yn cael ei hwyluso drwy gyfoeth o adnoddau sydd ar gael drwy’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir, gan gynnwys DataCamp ac AWS Educate/Academy, ochr yn ochr â thestunau llyfrgell, papurau cyfnodolion, a ffynonellau electronig.
Asesir pob modiwl yn gyfan gwbl drwy weithgareddau gwaith cwrs sy'n amrywio o adroddiadau, arddangosiadau, cyflwyniadau a thasgau codio.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/data-science/subject-data-science-classroom-msc-46905.jpg)
Staff Addysgu
Mae Ieuan Griffiths, Arweinydd y Cwrs MSc Gwyddor Data, yn dod â chyfoeth o arbenigedd i'r rhaglen gyda'i BSc mewn Mathemateg a PhD mewn Gwyddor Data, a oedd yn cynnwys cydweithio diwydiannol gyda TATA Steel. Mae gan y darlithydd ymroddedig Joel Harris sylfaen gref mewn mathemateg, gyda gradd BSc yn y pwnc. Mireiniodd ei sgiliau ymhellach drwy waith ymchwil ar gwrs gradd meistr, gan gydweithio â'r GIG i gymhwyso technegau gwyddor data ar gyfer monitro llwybrau cleifion. Cwblhaodd Sam Jobbins, aelod gwerthfawr o'n tîm, PhD mewn cemeg cyn mynd ymlaen i weithio swydd ôl-ddoethurol. Mae llawer mwy o ddarlithwyr profiadol yn gysylltiedig â'n rhaglen arobryn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/data-science/subject-data-science-case-study-dr-rebecca-peters-49490.jpg)
Cyfleusterau
Mae ein myfyrwyr MSc Gwyddorau Data yn cael mynediad unigryw i labordai cyfrifiadurol o'r radd flaenaf, sydd wedi'u teilwra ar gyfer ymdrin â chymwysiadau data mawr a modelau cyfrifiadurol- ddwys fel Rhwydweithiau Niwral. Yn ogystal, mae’n gyfleus iddynt ddefnyddio ystafelloedd myfyrwyr sydd â chaledwedd perfformiad uchel union yr un fath, gan sicrhau profiad dysgu ymdrochol ac effeithlon.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/computing/subject-computing-facilities-classroom-44989.jpg)
Gofynion Mynediad
Yn addas ar gyfer graddedigion sydd ag o leiaf gradd Anrhydedd 2: 2 neu gyfwerth mewn disgyblaeth rifol ar draws unrhyw bwnc STEM neu fusnes. Gellir ystyried profiad perthnasol o'r diwydiant hefyd.
Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol ac yn gofyn am Saesneg ar lefel IELTS 6.0 gydag isafswm o 5.5 ym mhob cydran neu gyfwerth.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol penodol yn gysylltiedig â'r rhaglen, er y dylai myfyrwyr ddisgwyl talu treuliau achlysurol am fân bethau, er enghraifft argraffu, deunydd ysgrifennu neu gludiant. Gall myfyrwyr benderfynu cefnogi eu hastudiaethau trwy ddarparu offer ychwanegol fel gliniadur. Er ein bod yn argymell hyn, nid yw'n ofynnol.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2025 Rhan-amser
- Medi 2025 Llawn Amser
- Medi 2026 Llawn Amser
- Medi 2026 Rhan-amser
- Chwefror 2026 Llawn Amser
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.