Fe wnaeth ennyn fy chwilfrydedd, ac ar ôl cloddio ychydig yn ddyfnach i'r maes, ro’n i'n gwybod mai dyma'r llwybr iawn i fi.
Dewis astudio Fforensig Digidol yn PDC
Dewisais astudio Fforensig Digidol oherwydd bod diddordeb wedi bod gen i erioed mewn meysydd yn gysylltiedig â throseddu, ond doedd gen i fawr o ddiddordeb yn y llwybrau traddodiadol at fforensig, fel cemeg neu fioleg. Yn ystod fy nghwrs troseddeg Safon Uwch, des i ar draws Fforensig Digidol wrth ymchwilio i opsiynau gyrfa. Fe wnaeth ennyn fy chwilfrydedd, ac ar ôl cloddio ychydig yn ddyfnach i'r maes, ro’n i'n gwybod mai dyma'r llwybr iawn i fi.
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig Fforensig Ddigidol fel modiwl o fewn cyrsiau seiberddiogelwch ehangach, ond roedd PDC yn nodedig am ei bod yn ei gynnig fel rhaglen bwrpasol. Ar ôl mynd i Ddiwrnod Agored ar gampws Casnewydd ro’n i’n gwbl hyderus bod fy mhenderfyniad yn gywir - gwnaeth y cyfleusterau, y gweithgareddau diddorol yn y labordai seiber, a'r darlithwyr cyfeillgar argraff barhaol arna i.
Un o elfennau gorau’r cwrs yw'r labordai seiber. Dim ond myfyrwyr ar ein cwrs ni sy’n gallu eu defnyddio, ac maen nhw’n rhoi mynediad i ni at offer ac adnoddau o'r radd flaenaf pryd bynnag mae eu hangen nhw arnon ni. Mae'r llyfrgell hefyd wedi bod yn amhrisiadwy, yn enwedig y system 'find it', a wnaeth ymchwilio ar gyfer aseiniadau gymaint yn haws.
Rwyf hefyd wedi elwa o brofiad diwydiant. Rydyn ni wedi cael siaradwyr gwadd o sefydliadau blaenllaw fel Tarian, a rannodd fewnwelediadau a chyngor gwerthfawr. Mae'r rhyngweithiadau hyn wedi fy ysbrydoli i ymchwilio i wahanol leoliadau a pharatoi at waith yn y dyfodol.
Dewch o hyd i'ch cwrsEdrych tuag at y dyfodol a chyngor i fyfyrwyr y dyfodol
Fy hoff ran o'r cwrs yw’r aseiniadau, sy'n adeiladu'n gyson ar wybodaeth sylfaenol ac yn fy herio i dyfu. Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio dod yn Ddadansoddwr Fforensig Digidol, yn dechrau fel ymchwilydd ac wedyn datblygu o fewn y rôl.
I unrhyw un sy'n ystyried y cwrs hwn, byddwn i'n dweud ewch amdani. Mae Fforensig Ddigidol yn ehangach nag y byddech chi'n feddwl, ac mae cyfleusterau, addysgu a chefnogaeth PDC yn ei gwneud yn lle perffaith i ddechrau eich taith.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Cyfrifiadura a Seiberddiogelwch?
Mae cyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru wedi'i gynllunio nid yn unig gyda'r diwydiant mewn golwg, ond mae'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan bartneriaid proffesiynol a staff â chysylltiadau da.