Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch (ICPS) yw’r ganolfan plismona a diogelwch hynaf ac uchaf ei pharch yn y DU.
Grŵp ymchwil ac arloesi troseddeg, plismona a diogelwch
Mae'r ICPS yn ymgymryd ag ymchwil sy'n llywio gwaith llywodraethau'r DU a'r UE, gan arbenigo mewn materion diogelwch allweddol fel terfysgaeth, trais gwleidyddol, seiberdroseddu a rhyfela, a throseddau cyfundrefnol trawsffiniol.
Mae'r ICPS yn cael ei harwain gan yr Athro Christian Kaunert, deiliad Cadair Rhwydwaith Jean Monnet mewn Plismona a Gwrthderfysgaeth yn Ewrop ac u o brif arbenigwyr Ewrop mewn plismona a chydweithio ym maes cyfiawnder troseddol.
Mae'r ICPS yn ymwneud yn helaeth â rhwydweithiau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol ac mae'n uchel ei barch gan sefydliadau ac asiantaethau Ewropeaidd, yn enwedig Europol.
Mae gwaith y Ganolfan wedi'i rannu'n ddwy thema gyffredinol:
Ymchwil Terfysgaeth a Diogelwch
Yr Athro Christian Kaunert sy’n arwain y gwaith Ymchwil Terfysgaeth a Diogelwch. Cyn hyn, bu’r Athro Kaunert yn Gyfarwyddwr Academaidd ac Athro yn y Sefydliad Astudiaethau Ewropeaidd, Vrije Universiteit Brwsel, yn Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn Bennaeth Disgyblaeth mewn Gwleidyddiaeth, ac yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Ewropeaidd dros Ddiogelwch a Chyfiawnder yng Nghanolfan Ragoriaeth Jean Monnet ym Mhrifysgol Dundee.
Ymchwil Plismona
Ffocws ymchwil plismona yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch yw deilliannau ymchwil cynaliadwy sy’n cael effaith ac sy'n gwella gweithgareddau'r heddlu a darpariaeth gwasanaethau plismona i'r gymuned yn gyffredinol. Mae plismona mewn ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, agweddau sefydliadol ac addysg yr heddlu yn faterion y mae ymchwilwyr y ganolfan yn ymwneud â nhw’n gyson. Nid yw plismona yn bodoli mewn gwagle ac mae gweithgareddau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, amgylcheddol a chyfreithiol ehangach yn dylanwadau arno’n gyson. Mae heriau gweithgarwch byd-eang hefyd yn dylanwadu arno . O ganlyniad, ffocws ymchwil plismona’r Ganolfan yw materion sy'n hanfodol i'r berthynas sensitif rhwng asiantaethau heddlu a chymunedau ehangach, yn enwedig yn y model plismona democrataidd a welir ledled y byd.
Mae materion fel plismona'r pandemig, Mae Bywydau Du o Bwys, a dilysrwydd yr heddlu yn faterion y mae ymchwilwyr y Ganolfan yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd ac mae ymchwilwyr wedi cynnal nifer o raglenni ymchwil a gwerthuso ar gyfer asiantaethau plismona ledled y byd. Mae'r gwaith ar hyn o bryd yn cynnwys effaith y cymwysterau plismona proffesiynol newydd ar y gweithle, yn ogystal â rôl gwirfoddolwyr yn nyfodol sefydliadau'r heddlu. Mae ymgysylltu â phartneriaid diwydiant hefyd yn agwedd bwysig ar waith canolfan ymchwil yr heddlu, ac ar hyn o bryd rydym yn cynnal rhaglenni ymchwil meistr a chyfleoedd PhD ar gyfer swyddogion a staff yr heddlu.
Ein meysydd arbenigedd
Mae ein meysydd arbenigedd yn cynnwys:
- Ymfudo a ffoaduriaid
- Astudiaethau cudd-wybodaeth
- Diogelwch ffiniau
- Terfysgaeth a gwrthderfysgaeth
- Rheoli a dadansoddi risg
- Diogelwch rhyngwladol o ran cyffuriau, masnachu pobl a throseddau cyfundrefnol
- Seiberddiogelwch a llywodraethu
- Geowleidyddiaeth adnoddau naturiol
- Diogelwch yr UE
Mae ein harbenigwyr yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, ac o bob sector, i ddatblygu syniadau, cynnyrch a gwasanaethau newydd sy'n datrys problemau penodol. Rydym yn helpu llunwyr polisïau i gasglu tystiolaeth er mwyn deall anghenion a phrofiadau sectorau neu ddiwydiannau i lywio datrysiadau gwell.
Prosiectau Ymchwil
Mae'r Athro Christian Kaunert, sy'n arwain tîm o nifer o ymchwilwyr rhagorol o Brifysgol De Cymru, wedi derbyn Cadair Jean Monnet, sydd â statws rhyngwladol hynod uchel, am dair blynedd, yn dechrau ym mis Medi 2018. Mae llawer o gystadleuaeth am Gadeiriau Jean Monnet, sy’n rhan o raglen bwysig Dysgu Gydol Oes yr Undeb Ewropeaidd. Nod y dyfarniadau mawr hyn yw ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac addysgu datblygedig iawn mewn sefydliadau ymchwil sydd ar flaen y gad yn Ewrop. Mae pob dyfarniad yn werth € 50,000. Mae'r wobr hon yn tanlinellu’r enw da sydd gan ymchwil Prifysgol De Cymru, sy’n gwneud y brifysgol yn un sydd ag iddi gydnabyddiaeth ryngwladol fel sefydliad ymchwil rhagorol ym maes plismona a gwrthderfysgaeth.
Mae Cadair Jean Monnet yn canolbwyntio ar faes polisi Cydweithredu’r Heddlu ym maes Gwrthderfysgaeth yr UE, sy’n faes sydd wedi cael ei anwybyddu'n aml mewn ymdrechion i integreiddio Ewrop. Amcan y Gadair Jean Monnet hon yw ennyn ymgysylltiad myfyrwyr, academyddion a llunwyr polisïau/ymarferwyr mewn deialog ar: (1) esblygiad polisi Gwrthderfysgaeth yr UE (dynameg a newid offerynnau, gwneud penderfyniadau, cyfranogiad sefydliadau/cymdeithas); (2) mesur sefyllfa diogelwch mewnol Ewrop; (3) datblygiadau technolegol ym maes cyfnewid data ac offer diogelwch/cudd-wybodaeth; yn ogystal â (4) herio gwneuthurwyr deddfau a chymdeithas sifil yn gyffredinol. Yn ystod oes y prosiect, gwnaeth gweithgareddau addysgu yn y tri modiwl sy’n rhan o Gadair Jean Monnet, sef Plismona, Diogelwch a Gwrthderfysgaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, arwain at ddatblygu Rhaglen Meistr mewn Diogelwch Rhyngwladol a Rheoli Risg, gyda chynadleddau, cyfres o ddarlithoedd, a dod yn rhan o ddigwyddiad addysgu EuroSIM fel rhan o rwydwaith efelychiadol trawsatlantig TACEUSS yr UE. Arweiniodd y digwyddiadau hyn at sawl allbwn ymchwil o sylwedd.
Trefnwyd gweithgareddau Cadair Jean Monnet mewn cydweithrediad â'r maes diddordeb arbennig Rhyddid, Diogelwch a Chyfiawnder gyda Chymdeithas Astudiaethau'r Undeb Ewropeaidd (EUSA). EUSA yw'r brif gymdeithas ysgolheigaidd a phroffesiynol sydd â ffocws ar yr Undeb Ewropeaidd, y broses integreiddio barhaus, a chysylltiadau trawsatlantig. Wedi'i sefydlu ym 1988, mae gan EUSA bellach bron i 1,000 o aelodau ledled Gogledd America, holl aelod-wladwriaethau'r UE, ac ar bob cyfandir, yn cynrychioli'r gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau, ymarfer busnes a'r gyfraith, y cyfryngau newyddion, a llywodraethau ar ddwy ochr yr Iwerydd. Mae EUSA yn sefydliad addysgol annibynnol, dielw. Mae'r Athro John Occhipinti a'r Athro Christian Kaunert, fel cyd-gyfarwyddwyr, wedi sefydlu maes diddordeb arbennig Rhyddid, Diogelwch a Chyfiawnder o fewn fframwaith EUSA; gwnaed y penderfyniad ffurfiol i sefydlu'r maes diddordeb arbennig hwn ym mis Tachwedd 2012.
Mae'r prosiect yn hynod berthnasol ac yn amserol am sawl rheswm. Mae 'Acquis yr UE' ar Gyfiawnder a Materion Cartref yr UE wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf; mae mwyafrif dinasyddion yr Undeb, yn ôl yr arolygon Eurobaromedr (1997-2018), yn teimlo fwyfwy bod gan weithredu ar lefel yr UE werth ychwanegol o'i gymharu â'r hyn a wneir ar lefel genedlaethol yn unig, ac mae dau o bob tri dinesydd yn cefnogi camau gweithredu ar lefel yr UE yn y frwydr yn erbyn troseddau cyfundrefnol, mudo afreolaidd a therfysgaeth. Bydd dadansoddiadau manwl o bolisïau'r UE ym maes diogelwch mewnol Ewrop o fudd mawr i gynrychiolwyr sefydliadau diplomyddol a materion cartref aelod-wladwriaethau'r UE. Bydd hyn hefyd yn rhoi mewnwelediadau pellach i’r gwaith o lunio polisïau ym maes polisi mwyaf deinamig yr Undeb Ewropeaidd, a gwaith y sefydliadau Ewropeaidd. Mae gan hyn berthnasedd ymarferol amlwg i swyddogion yr UE a swyddogion cenedlaethol sy'n gweithio i weinidogaethau cenedlaethol a llysgenadaethau ym Mrwsel. O ystyried diddordeb parhaus llywodraethau yn natblygu'r maes polisi mwyaf deinamig hwn yn yr UE, bydd y prosiect yn cael effaith bwysig ar drafodaethau academaidd a llywodraethol.
Yn y prosiect hwn, mae'r tîm ym Mhrifysgol De Cymru yn gwasanaethu fel hyb sy'n cysylltu'r gwahanol randdeiliaid ym maes plismona a gwrthderfysgaeth yr UE, h.y. llunwyr polisïau, cymdeithas sifil a'r gymuned academaidd. Mae'r prosiect yn darparu'r llwyfan sydd ei hangen ar gyfer cyfnewid cynhyrchiol rhwng llunwyr polisïau, cymdeithas sifil a'r byd academaidd. Mae'r prosiect yn un arloesol, a does dim canolfan arall debyg i hon yn bodoli yn y maes. Oherwydd ei statws uchel yn y gymuned academaidd a rhagoriaeth ei hymchwil, mae Prifysgol De Cymru mewn sefyllfa unigryw i wasanaethu fel llwyfan a chanolfan ragoriaeth. Hefyd, bydd y digwyddiadau yn gwbl hygyrch i gymdeithas sifil, sy'n cael ei chynnwys yn uniongyrchol mewn digwyddiadau penodol, a’i gwahodd i fod yn rhan ohonynt.
Cydweithrediad Ewropeaidd ar Wrthderfysgaeth
Wedi'i leoli ym Mhrifysgol De Cymru, gyda’r Athro Christian Kaunert yn cydlynu, mae Rhwydwaith Ymchwil EUCTER Jean Monnet yn darparu rhagoriaeth addysgu wedi’i harwain gan ymchwil a dysgu ar groestoriad dau faes hanfodol o ran polisïau'r UE – y maes Rhyddid, Diogelwch a Chyfiawnder (a elwid gynt yn Gyfiawnder a Materion Cartref) a pholisi a chyfraith gwrthderfysgaeth yr UE (hefyd o fewn y CFSP, yn enwedig mewn perthynas â chyllid gwrthderfysgaeth) – gyda thrawstoriad rhyngwladol o fyfyrwyr doethurol, ôl-raddedig a graddedig. Y nod yw cyflawni’r amcanion drwy hyrwyddo fformatau dysgu cyfunol arloesol, yn cynnwys dysgu o bell a dysgu rhyngddisgyblaethol a pherthnasol o ran polisi. Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd dri maes addysgu ac ymchwil cydgysylltiedig: cyfiawnder a materion cartref yr UE, gwrthderfysgaeth yr UE a chysylltiadau allanol yr UE. Er bod yr UE wedi dod yn sefydliad amlwg mewn diogelwch rhyngwladol yn ei rhinwedd ei hun yn sgil ei phwerau cynyddol ym maes cysylltiadau allanol (h.y. polisïau masnach), mae Cytundeb Lisbon hefyd wedi tanlinellu'r angen am fwy o gydweithrediad ym maes gwrthderfysgaeth yr UE.
Cynnal ffocws ar gydweithrediad a diplomyddiaeth gwrthderfysgaeth yr UE, a’i ddadansoddi, yw amcan EUCTER. Nod y prosiect yw darganfod ac egluro a yw’r UE wedi tyfu’n fwy perthnasol o ran cydweithredu ar wrth- derfysgaeth, yn ogystal â chysylltiadau allanol (h.y. CFSP/CSDP, hawliau dynol, dimensiynau cyfreithiol, ac ati) ac os a pham y gall diplomyddiaeth ychwanegu at y dulliau gwrthderfysgaeth sy’n rhan o gydweithredu’r UE â thrydydd partïon trwy ei dirprwyaethau ei hun ar y lefel ddwyochrog ac amlochrog. Mae effaith EUCTER yn sylweddol: mae'n cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o gydweithrediad a diplomyddiaeth gwrthderfysgaeth yr UE trwy ei wefan a chyhoeddiadau mewn cyfnodolion a chyfresi llyfrau rhyngwladol. Ar ben hynny, mae'n galluogi ymchwilwyr ifanc i ymchwil a chael eu haddysgu yn y maes hwn o’r UE , oedd gynt yn brin o ymchwil, drwy ysgoloriaethau ar gyfer digwyddiadau allgymorth (h.y. cyfrannu at y drafodaeth gyhoeddus trwy gyfrwng gweithdai, byrddau crwn a chynadleddau).
TUECS yw acronym Ubereiddio Strategaeth Seberdroseddu Europol (Uberization of Europol's Cybercrime Strategy). Mae'n brosiect a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan gytundeb grant Cymrodoriaethau Unigol rhif 886141 Gweithrediadau Marie Sklodowska Curie.
Amcanion
Wrth i seiberdroseddu byd-eang barhau i dyfu, mae darparu diogelwch seiberofod yn peri anhawster i lawer o lywodraethau. Mae ganddynt brinder seibersgiliau a diffyg adnoddau i fynd i'r afael â seiberdroseddau. Yn yr amgylchedd seiberddiogelwch newydd hwn, mae llywodraethau angen cymorth gan sefydliadau anllywodraethol i ddefnyddio adnoddau prin y sector cyhoeddus a phreifat yn effeithlon ar gyfer diogelwch y cyhoedd. O ganlyniad, mae modelau llywodraethu seiberddiogelwch newydd yn hanfodol i wella partneriaethau cyhoeddus-preifat (P3).
Yn hyn o beth, Europol yw'r asiantaeth plismona gyntaf i ddatgan eu bod wedi bod yn defnyddio economi rhannu fel model P3 newydd i fynd i'r afael â rhai seiberdroseddau penodol. Mae'r model llywodraethu seiberddiogelwch newydd hwn yn syniad arloesol mewn gweinyddiaeth gyhoeddus a gellir ei addasu a gyfer llawer o feysydd llywodraethu cyhoeddus. Er bod diddordeb cynyddol mewn economi rhannu yn y maes masnachol, mae economi rhannu yn gysyniad ymchwil sydd heb ei astudio o ddifrif ym maes llywodraethu cyhoeddus.
Yn seiliedig ar y bwlch gwybodaeth hwn, nod TUECS yw archwilio i ba raddau y mae Europol yn addasu’r economi rhannu i hwyluso rhannu adnoddau rhwng sefydliadau cyhoeddus a phreifat wrth fynd i'r afael â seiberdroseddu?
Mae'r prosiect yn archwilio tri maes seiberdroseddu mawr: meddalwedd wystlo; cryptowyngalchu, a chamfanteisio'n rhywiol ar blant ar-lein, y mae Europol eisoes wedi pwyso ar sefydliadau a chyrff cyhoeddus a phreifat i gydweithredu.
Canlyniadau arfaethedig
Disgwylir i TUECS effeithio'n sylweddol ar y wybodaeth am theorïau e-lywodraethu a’r economi rhannu. Mae'r ymchwil hon yn archwilio'r economi rhannu ym maes seiberddiogelwch am y tro cyntaf. Mae'n dilyn dull rhyngddisgyblaethol sy'n integreiddio fframwaith cysyniadol o economeg i wleidyddiaeth. Mae'r prosiect ymchwil yn cynnig safbwynt newydd sy’n dadlau y gellir addasu syniadau’r economi rannu at lywodraethu cyhoeddus drwy wella P3.
Mae'r ymchwil hon yn dangos bod fan Europol rôl gyfryngi ar-lein ym maes seiberdroseddu. Mae'n ei alluogi i weithredu fel gosodwr agenda mewn meysydd troseddau penodol a sensitif, ac yn pwysleisio ei berthynas â’r actorion sy'n ymwneud â'r gymuned seiberddiogelwch gymhleth. Bydd yn edrych ar y drafodaeth yn nghyd-destun gwaith Europol yn goso yr agenda ac hefyd ar ymarfer sy'n sail i’r cydweithredu newydd hwn. Bydd dadansoddi safbwyntiau cyfranwyr at y maes trwy gydol y gwaith maes helaeth yn arwain at ddadansoddiad beirniadol o'r berthynas rhyngddynt a’r heriau sy’n wynebu’r gymuned seiberddiogelwch ar-lein.
Mae'r prosiect ymchwil yn defnyddio llwyfannau economi rhannu Europol fel labordy i gael gwell dealltwriaeth o drawsnewidiadau gwleidyddol a digidol cyfoes yn y maes llywodraethu seiberddiogelwch. Am y rheswm hwnnw, bydd yr ymchwil hon yn cyfoethogi ffyrdd o feddwl am, creu ac ystyried y berthynas rhwng actorion cyhoeddus a phreifat yn ogystal â rhwng sefydliadau'r UE, gan nodi cryfderau a gwendidau ar y lefel sefydliadol a gweithredol yn y model P3 cydweithredu arloesol newydd hwn. Bydd y prosiect yn cynhyrchu canfyddiadau sylweddol fydd yn berthnasol i bolisïau P3 yn y maes seiberddiogelwch. Bydd yn astudiaeth flaenllaw yn ei maes ac mewn meysydd polisi neu sectorau eraill sy'n ei chael hi’n anodd datblygu talentau newydd yn fewnol ac sy’n chwilio am weithlu medrus allanol.
Bydd canfyddiadau gwyddonol yr ymchwil arfaethedig ar rôl gyfryngi Europol o ran atal seiberdroseddu yn datgelu deinameg yr economi rhannu fel model cydweithredu rhwng partïon niferus. Bydd yn ysbrydoli ymchwilwyr eraill mewn disgyblaethau gwyddor wleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol sydd â diddordeb mewn digideiddio modelau llywodraethu amlochrog. Gallant elwa o'r ymchwil hon gan ddefnyddio'r un model damcaniaethol i gyffredinoli eu canfyddiadau empirig.
Mae model yr economi rhannu yn cael ei archwilio fel arfer yn y disgyblaethau busnes ac economeg. Bydd yr ymchwil hon, fodd bynnag, hefyd yn integreiddio'r economi rhannu i ddisgyblaethau eraill ym maes y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys Astudiaethau Ewropeaidd (proses llunio polisïau Ewropeaidd), Polisi Cyhoeddus (system lywodraethu Ewropeaidd), Cysylltiadau Rhyngwladol (P3 wedi’i ddigideiddio), Astudiaethau Diogelwch (ffurfio buddiannau a bygythiadau rhwng actorion amlochrog) sydd â chyd-destunau'n gorgyffwrdd. Mae'r bwlch adnoddau mewn ymchwiliadau seiber yn thema arall y mae'r ymchwil hon yn ymwneud â hi. Mae'r model damcaniaethol a gynigir yn yr ymchwil hon yn darparu datrysiad cynaliadwy i P3 plismona. Felly, bydd ffocws yr ymchwil hon ar gydweithredu hefyd yn cyfrannu at astudiaethau plismona a chyfiawnder troseddol.
Mae'r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch wedi derbyn tair Cymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie (MSCA) i ymgymryd ag ymchwil i'r diwydiant diogelwch, mudo a seiberdroseddu.
Mae'r dyfarniadau’n tanlinellu sefyllfa PDC fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil plismona a diogelwch.
Mae Cymrodoriaethau Marie Curie, fel rhan o raglen ariannu ymchwil H2020 yr Undeb Ewropeaidd, yn caniatáu i academyddion ymgymryd â gweithgareddau ymchwil uwch mewn sefydliad ymchwil sy'n arwain y byd yn Ewrop. Maent yn hynod gystadleuol, a dim ond tua 10% o'r ceisiadau sy'n llwyddiannus.
Mae Cymrodoriaethau Marie Curie, fel rhan o raglen ariannu ymchwil H2020 yr Undeb Ewropeaidd, yn galluogi academyddion i ymgymryd â gweithgareddau ymchwil uwch mewn sefydliadau ymchwil sydd ar flaen y gad yn Ewrop. Mae cystadleuaeth frwd amdanynt a dim ond tua 10% o'r ceisiadau sy'n llwyddiannus.
Mae Cymrodoriaeth Unigol Dr Joana de Deus Pereira, a ddyfarnwyd yn 2018, yn ceisio deall sut ac i ba raddau mae'r diwydiant diogelwch yn siapio polisi mudo Ewrop.
"Mae bod yn Gymrawd MSCA yn gyfle ac yn anrhydedd. Rwy'n rhan o rwydwaith rhagoriaeth sydd â llais ym mhob cwr o'r byd. Mae gen i'r fraint o weithio gydag ysgolheigion enwog, fel yr Athro Christian Kaunert, ac mae'r Gymrodoriaeth wedi arwain at rolau darlithio yng Nghanolfannau Rhagoriaeth NATO ac yn PDC, lle rwy'n arwain modiwlau ar ddiogelwch rhyngwladol cyffuriau, masnachu pobl, a throseddau cyfundrefnol, a rheoli a dadansoddi risg.
Mae Dr Eyene Okpanachi yn ymchwilio i heriau mudo yn ôl yn Affrica mewn oes o argyfyngau cymhleth. Bydd yn cymharu systemau llywodraethu aml-lefel yn Ethiopia a Nigeria.
"Mae bod yn Gymrawd Marie Curie yn fy ngalluogi i ddatblygu rhwydwaith ymchwilio byd-eang gydag ymchwilwyr blaenllaw ym maes diogelwch a mudo," meddai Dr Okpanachi.
"Mae'r gwaith yn helpu i ddyfnhau fy nealltwriaeth fy hun o fudo yn ôl, ac i ledaenu'r wybodaeth hon sydd mawr ei hangen ar y gymuned ymchwil a pholisi, yn enwedig yn Affrica."
Mae Dr Ethem Ilbiz yn archwilio brwydr Europol yn erbyn seiberdroseddu yng nghyd-destun Ubereiddio.
Mae ei ymchwil yn anelu at ddatgelu deinameg y rhyngweithio rhwng Europol (asiantaeth yr Undeb Ewropeaidd i orfodi'r gyfraith), asiantaethau gorfodi'r gyfraith cenedlaethol, ac unigolion, ac yn ymchwilio i dri maes seiberdroseddu mawr: meddalwedd wystlo, cryptowyngalchu, a chamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein.
Bydd y fframwaith Ubereiddio a gynigir yn yr ymchwil hon yn gwella partneriaethau cyhoeddus-preifat mewn seiberddiogelwch ac yn galluogi defnyddio adnoddau’n effeithlon.
Dywedodd Dr Ilbiz: "Roedd cael gweithio gyda'r Athro Christian Kaunert yn un o'r prif resymau dros benderfynu dod i PDC. Mae'n un o'r arbenigwyr mwyaf blaenllaw ar gydweithredu ym maes plismona a chyfiawnder troseddol Ewropeaidd ac yn uchel ei barch gan sefydliadau ac asiantaethau Ewropeaidd, yn enwedig Europol."
Yn ystod eu cymrodoriaethau, mae'r academyddion wedi'u lleoli yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch (ICPS) - canolfan plismona a diogelwch hynaf ac uchaf ei pharch y DU – gyda’r Athro Kaunert, Cyfarwyddwr Terfysgaeth a Diogelwch PDC a Chadair Jean Monnet mewn Plismona a Gwrthderfysgaeth yn Ewrop yn eu mentora.
Dywedodd yr Athro Kaunert: "Mae’r ymchwil hon yn ymarferol berthnasol i swyddogion y DU a'r UE sy'n gweithio i gweinyddiaethau cenedlaethol a llysgenadaethau ym Mrwsel.
"O ystyried diddordeb parhaus llywodraethau yn natblygu'r maes hwn, bydd y prosiectau hyn yn cael effaith bwysig ar drafodaethau llywodraethol ac academaidd."
Mae Dr Eyene Okpanachi yn ymchwilio i heriau mudo yn ôl yn Affrica mewn oes o argyfyngau cymhleth. Bydd yn cymharu systemau llywodraethu aml-lefel yn Ethiopia a Nigeria.
"Dewisais ymgymryd â fy Chymrodoriaeth yn PDC oherwydd ei hanes gwych yn darparu cymorth i ymchwilwyr, a'i werth uchel yn nhermau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
"Mae'r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch (ICPS) yn un o'r prif ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer astudio'r sefyllfa ymfudo-diogelwch ac mae ganddi ysgolheigion o fri rhyngwladol uchel, gan gynnwys fy ngoruchwylydd, yr Athro Christian Kaunert, sydd hefyd yn ddeiliad Cadair Jean Monnet mewn Plismona a Gwrthderfysgaeth yn Ewrop. Mae'r cyfle i fanteisio ar arbenigedd a gwybodaeth helaeth yr ysgolheigion hyn yn golygu bod ICPS-PDC yn ganolfan wybodaeth ddelfrydol.
"Yn ogystal, mae'r ICPS yn cynnig y fantais unigryw o gyfuno mewnwelediadau academaidd a pholisi/ymarfer â deinameg plismona a diogelwch, ymfudo, ffiniau, a chyfiawnder yn y cyd-destun Ewropeaidd yn benodol, ond hefyd yn y cyd-destun rhyngwladol. Mae hyn yn gweddu i’r dim i fy ngwaith sy'n croesi ffiniau disgyblaethol, yn canolbwyntio ar fudo yn ôl i Affrica a'i berthynas â pholisi ffiniau allanol yr UE sy'n anelu at ffrwyno ymfudo afreolaidd, a'r argyfyngau cymhleth sy'n wynebu ymfudwyr sy'n teithio trwy Libya i Ewrop.
"Mae bod yn Gymrawd Marie Curie yn fy ngalluogi i ddatblygu rhwydwaith ymchwilio byd-eang gydag ymchwilwyr blaenllaw ym maes diogelwch a mudo," dywed Dr Okpanachi. "Gallaf ddefnyddio’r rhwydwaith hwn yn ogystal â rhwydwaith helaeth fy ngoruchwyliwr i wneud allbwn fy ymchwil yn fwy gweladwy.
"Mae'n helpu i ddyfnhau fy nealltwriaeth fy hun o fudo yn ôl, ac hefyd i ledaenu'r wybodaeth hon sydd mawr ei hangen ar y gymuned ymchwil a pholisi, yn enwedig yn Affrica."
Mae Dr Eyene Okpanachis yn rhan o'r maes Ymchwil Terfysgaeth a Diogelwch, dan arweiniad yr Athro Christian Kaunert. Mae'n un o dri Chymrawd Marie Curie yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch.
Maes ymchwil a diddordeb academaidd eang Eyene yw gwleidyddiaeth gymharol a chysylltiadau rhyngwladol, ond mae ganddo ddiddordeb penodol mewn mudo/symudedd, diogelwch (gan gynnwys terfysgaeth a gwrthderfysgaeth), prosesau gwrthdaro a heddwch, ffederaliaeth a llywodraethu aml-lefel, gwleidyddiaeth adnoddau naturiol, sefydliadau a diwygiadau sefydliadol, polisi cyhoeddus, a gwleidyddiaeth gwneud penderfyniadau gan lywodraethau.
ALLBYNNAU AC EFFAITH YMCHWIL
EIN PARTNERIAID
Rydym yn cydweithio'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda phartneriaid o’r byd diwydiant a'r byd academaidd i ddarparu gwybodaeth ac effaith sydd ar flaen y gad drwy’r byd ac mae gennym berthynas gref ag ystod o randdeiliaid/defnyddwyr ymchwil allweddol. Mae gennym hanes rhagorol o ymgysylltu a gweithio'n agos gyda heddluoedd a phartneriaid allanol eraill, gan gynnwys:
- Heddlu Dyfnaint a Chernyw
- Heddlu Dorset
- Heddlu Dyfed Powys
- Heddlu De Cymru
- Heddlu Gwent
- Cwnstabliaeth Swydd Gaerloyw
- Heddlu Wiltshire
EIN HAELODAU
Mae'r tîm ICPS yn cynnwys grŵp amrywiol o arbenigwyr sydd â gwybodaeth helaeth mewn plismona, gwrthderfysgaeth, a heriau diogelwch amrywiol, gan gynnwys materion yn ymwneud â mudo a ffoaduriaid, astudiaethau cudd-wybodaeth, a diogelwch ffiniau. Dan arweiniad arbenigwyr adnabyddus fel yr Athro Christian Kaunert, deiliad Cadair Jean Monnet mewn Gwrthderfysgaeth yr UE, mae ein hymchwilwyr yn rhagori wrth fynd i'r afael â phynciau cymhleth fel terfysgaeth a gwrthderfysgaeth, gyda chefnogaeth rhwydweithiau fel Canolfan Ragoriaeth Jean Monnet a Rhwydwaith Jean Monnet ar Wrthderfysgaeth yr UE, sy'n ein cysylltu â 14 o bartneriaid rhyngwladol.
Mae ein hymrwymiad at ddiogelwch rhyngwladol yn ymestyn i feysydd hollbwysig fel masnachu cyffuriau, masnachu pobl, a throseddau cyfundrefnol, yn ogystal â seiberddiogelwch a llywodraethu, maes sy’n esblygu’n gyflym. Yn ogystal, rydym yn archwilio dimensiynau geowleidyddol adnoddau naturiol a'u goblygiadau o ran diogelwch yr UE. Trwy fentrau fel Rhwydwaith Hyfforddiant Doethurol Marie Curie Horizon Europe EUGLOCTER a'n tair Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Marie Curie, rydym yn meithrin y genhedlaeth nesaf o ysgolheigion i fynd i'r afael â'r materion dybryd hyn.
Rydym hefyd yn cynnal partneriaethau cryf gyda heddluoedd amrywiol, gan gynnwys Dyfnaint a Chernyw, Dorset, a De Cymru, ymhlith eraill, gan sicrhau bod ein hymchwil wedi'i seilio ar ymarferoldeb, i wella galluoedd gorfodi'r gyfraith. Trwy gydweithio'n agos â phartneriaid gorfodi'r gyfraith ac academaidd, mae tîm ICPS yn cynhyrchu ymchwil effeithiol sy'n llywio penderfyniadau polisi ac yn cryfhau fframweithiau diogelwch ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan atgyfnerthu ein hymroddiad i ragoriaeth ymchwil a pherthnasedd ymarferol yn y maes diogelwch.
Dr Gareth Cuerden
Hannah Coombs
Jay Dave
Dr Edwin Ezeokafor
Mike Edwards
Dr James Gravelle
Dr Ethem Ilbiz
Yr Athro Christian Kaunert
Yr Athro Sarah Leonard
Helen Martin
Dr Eyene Okpanachi
Yr Athro Ian Pepper
Clive Perry
Roger Phillips
Huw Smart
Daniel Welch
Yr Athro Peter Vaughan
Dr. Ori Wertman
Mae Dr Amal Abu-Bakare yn ddarlithydd mewn gwleidyddiaeth hil ac astudiaethau dad-drefedigaethu ym Mhrifysgol Lerpwl. Derbyniodd ei PhD mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth. Fel dinesydd deuol Canada a'r Deyrnas Unedig a anwyd yn Saudi, ei theulu o Nigeria, mae gan Abu-Bakare ddiddordeb mewn popeth rhyngwladol, yn enwedig gwleidyddiaeth.
Mae gan Dr Amal Abu-Bakare brofiad ymchwil ac ymarferol sylweddol mewn damcaniaethu Perthnasoedd Rhyngwladol a gwrthderfysgaeth. Ei maes ymchwil yw theori gwrth-drefedigaethol mewn gwleidyddiaeth Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwrthderfysgaeth. Teitl ei phrosiect presennol yw 'The ‘Colour’ in Counterterrorism: A postcolonial analysis of racialisation.
Mae'r Athro Gwadd Philip Birch yn Athro Cyswllt Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol Technoleg Sydney. Cyn hynny, bu’n gweithio i Brifysgol Gorllewin Sydney, Prifysgol De Cymru Newydd, Sydney, Awstralia a Phrifysgol Huddersfield yn y Deyrnas Unedig (DU).
Cyn mynd i'r byd academaidd, roedd Philip yn gweithio ar waith maes troseddeg, gyda swyddi yng ngwasanaeth carchardai'r DU yn ogystal ag ym maes trosedd ac anhrefn, a oedd yn cynnwys rheoli uned troseddu arbenigol. Mae Philip wedi cyhoeddi'n rhyngwladol, gan gynnwys llyfrau, penodau llyfrau, erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid ac adroddiadau i Lywodraethau yn ei brif feysydd ymchwil – rheoli troseddwyr ac adsefydlu; ymarfer heddlu, carchardai a phrawf; trais ar sail rhywedd, gyda ffocws penodol ar drais domestig mewn teuluoedd, a gwaith rhyw.
Philip oedd cyd-sylfaenydd a phrif olygydd cyntaf y Journal of Criminological Research, Policy and Practice (JCRPP, 2014-2017) ac Abuse: An International Impact Journal (2020 – Presennol). Mae hefyd yn brif olygydd Salus: An International Journal for Law Enforcement and Public Safety (2018 – Presennol) ac mae'n aelod o fwrdd golygyddol y Journal of Aggression, Conflict and Peace Research.
Yr Athro Oldrich Bures oedd sefydlydd, a chyfarwyddwr cyntaf, y Ganolfan Astudiaethau Diogelwch ac mae’n Athro Cysylltiadau Gwleidyddol Rhyngwladol ym Mhrifysgol Metropolitan Prague. Ffocws ei ymchwil yw meysydd Datrys Gwrthdaro a Diogelwch Rhyngwladol, gyda phwyslais arbennig ar breifateiddio diogelwch, (gwrth-) derfysgaeth ac yn ddiweddar hefyd ymfudo.
Mae ei waith wedi'i gyhoeddi yn Security Dialogue, Cooperation and Conflict, Terrorism and Political Violence, Studies in Conflict and Terrorism, International Studies Review, International Peacekeeping, Intelligence and National Security, Global Governance a’r Journal of Business Ethics, ymhlith cyfnodolion allweddol eraill.
Mae'n awdur sawl monograff, gan gynnwys EU Counterterrorism Policy: A Paper Tiger? (Ashgate, 2011) a Private Security Companies: Transforming Politics and Security in the Czech Republic (Palgrave Macmillan, 2015), a (chyd-)olygydd sawl cyfrol, gan gynnwys A Decade of EU Counter-Terrorism and Intelligence: A Critical Assessment (Routledge 2017) a Security Privatization: How Non-security-related Private Businesses Shape Security Governance (Springer 2018).
Mae Dr Briony Callander yn ysgolhaig annibynnol. Enillodd Dr Callander BSc mewn Systemau Busnes Awyrofod ac MA mewn Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Diogelwch o Brifysgol Salford a PhD mewn Gwleidyddiaeth yr UE o Brifysgol Dundee. Bu Dr Callander yn gweithio fel Darlithydd mewn Astudiaethau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Salford. Fel ymchwilydd PhD, mae Dr Callander wedi cael llwyddiant wrth ennill cyllid ymchwil sylweddol, gan gynnwys sicrhau Ysgoloriaeth UACES ac Ysgoloriaeth yr Arglwydd Cockfield.
Mae Dr Callander wedi ysgrifennu llyfr gyda'r Athro Kaunert ar faes diogelwch hedfan yr UE. Bydd ei hymchwil yn y dyfodol yn ehangu ei gwaith ar wleidyddiaeth diogelwch hedfan y tu allan i'r UE ac ar yr effaith ar wrthderfysgaeth a diogelwch rhyngwladol yn yr ystyr ehangach.
Yn ddiweddar, mae staff academaidd Coleg yr Awyrlu Brenhinol Cranwell wedi bod yn trafod gyda Dr Callander am gydweithredu posibl yn y dyfodol ym maes datblygu Pŵer Awyr gyda ffocws ar reoleiddio a deddfwriaeth.
Mae Dr Callander wedi gweithio yn y diwydiant ers bron i ddegawd – yn wreiddiol fel Swyddog Diogelwch Hedfan ac yna ym maes Cynllunio Adnoddau, Mewnwelediad a Chymorth Gweithredol ar gyfer Grŵp Meysydd Awyr Manceinion, yn nhrydydd maes awyr mwyaf y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, mae hi wedi meithrin cysylltiadau cryf â gwahanol feysydd eraill yn enwedig Profiad Gwesteion (sy'n gyfrifol am Hwyluso), Hyfforddiant Diogelwch a Chydymffurfiaeth.
Mae Ali Chakari yn gweithio ar brosiectau dad-radicaleiddio ac wedi gwasanaethu fel cynghorydd polisi yng Ngweinyddiaeth Diogelwch a Chyfiawnder yr Iseldiroedd.
Mae Ali wedi gweithio ar Becyn Gofal Teulu, oedd â ffocws ar deuluoedd a oedd yn ddioddefwyr radicaleiddio. Prif nod y prosiect oedd dod yn gyfarwydd ag ideoleg a meddylfryd yr unigolion oedd wedi eu radicaleiddio. I gyd-fynd â hynny, datblygodd raglen wrth-naratif ac ail-integreiddio i helpu'r unigolion hyn i gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas.
Mae hefyd wedi gweithio ar raglenni dinasyddiaeth ar gyfer ysgolion, gyda ffocws ar sut i wella cyd-ddealltwriaeth, parch i'r ddwy ochr ac i bobl â gwahanol barn.
Mae gan Ali brofiad sylweddol yn y damcaniaethol ac mae ganddo wybodaeth ymarferol fanwl am radicaleiddio a gwrthderfysgaeth, sy'n werthfawr iawn, ac yn cyflwyno persbectif newydd.
Mae gan Dr Edwin Ezeokafor brofiad sylweddol yn ymchwilio ac yn addysgu ym maes diogelwch; terfysgaeth a gwrthderfysgaeth, yn ogystal â diogelwch byd-eang, adnoddau naturiol/diogelwch a geowleidyddiaeth ehangach. Mae wedi addysgu terfysgaeth yn rhanbarthau Maghreb, Sahel a Gwlff Guinea. Mae hefyd wedi addysgu'r cysylltiad rhwng adnoddau naturiol a gweithgareddau terfysgol. Mae wedi addysgu diogelwch rhyngwladol a chysylltiadau rhyngwladol, heriau diogelwch byd-eang sy'n dod i'r amlwg a dadansoddi risgiau gwleidyddol.
Ar ôl cwblhau astudiaethau israddedig mewn Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Nigeria, aeth Edwin yn ei flaen i gwblhau astudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Aberdeen ac wedyn PhD mewn Diogelwch Rhyngwladol ym Mhrifysgol Dundee o dan oruchwyliaeth yr Athro Christian Kaunert yn 2015.
Ers hynny, mae ffocws diddordebau Dr Edwin wedi bod ar ymgynghori diogelwch ac argyfwng; rhyfeloedd a gwrthdaro; terfysgaeth a gwrthderfysgaeth, yn enwedig yn y Maghreb, Sahel a Gwlff Guinea. O ddiddordeb arbennig iddo mae gweithgareddau grwpiau milwriaethus a môr-ladron yn Affrica. Mae wedi cyhoeddi'n sylweddol yn y maes hwn. Dr Edwin oedd sylfaenydd Rhwydwaith Ymchwil Affricanaidd Dundee (DARN) ym Mhrifysgol Dundee.
Mae'r Athro Bernhard Frevel yn Athro Gwyddor Wleidyddol a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth Gymhwysol ar gyfer yr Heddlu a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yng Ngogledd Rhine-Westphalia, ac yn Athro Cysylltiol yn y Sefydliad Gwyddor Wleidyddol ym Mhrifysgol Wilhelms Westphalian Münster.
Mae meysydd diddordeb arbennig Bernhard a ffocws ei ymchwil mewn llywodraethu diogelwch lleol, trefniadaeth yr heddlu, ac addysg yr heddlu. mae wedi arwain prosiectau ymchwil diogelwch wedi’u hariannu gan drydydd partïon ar wleidyddiaeth diogelwch cydweithredol, atal llygredd, mudo a diogelwch dinesig a chomisiynodd ymchwil ar atal trais mewn gweinyddiaeth ddinesig, ac ar Oruchwyliaeth Sifil Lluoedd Diogelwch Mewnol.
Mae Bernhard wedi bod yn cydweithio'n agos â Phrifysgol De Cymru ers 2011, gan drefnu'r Ysgol Haf Ryngwladol flynyddol gyda myfyrwyr heddlu o Gymru, yr Iseldiroedd a'r Almaen, a chyhoeddiadau ar y cyd â'r Athro Colin Rogers ar atal troseddu, plismona mewn partneriaethau, ac addysg yr heddlu
Mae Amparo Pamela Fabe yn Aelod Cyfadran yn Awdurdod Addysg, Hyfforddiant ac Athrawiaeth Lluoedd Arfog y Philipinau ac yng Ngholeg Heddlu Cenedlaethol y Philipinau. Mae hi hefyd yn addysgu dosbarthiadau diogelwch uwch ar gyfer y Lluoedd Arbennig, y Gwarchodlu Morol y Philipinau (uned elit y troedfilwyr amffibiaidd), Llu Gweithredu Arbennig Heddlu Cenedlaethol y Philipinau (uned elit gwrthderfysgaeth yr heddlu) a Gwylwyr y Glannau y Philipinau (uned elit gorfodi'r gyfraith forwrol). Helpodd Fabe i ysgrifennu Deddf Gweriniaeth 11479, sef Deddf Gwrthderfysgaeth 2020 y Philipinau , yn enwedig yr adran ar gosbi cefnogi terfysgaeth yn faterol. Mae'r gyfraith hon yn ddefnyddiol wrth erlyn terfysgwyr dynodedig a sefydliadau terfysgol yn llwyddiannus yn y Philipinau.
Mae Fabe yn gweithio yn nau Faes Blaenoriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer De-ddwyrain Asia: Gwrthderfysgaeth/Atal Eithafiaeth Dreisgar (CT/PVE), a Diogelwch Morol. Fabe yw Arbenigwr Pwnc Gwrth-Wyngalchu Arian a Gwrthweithio Ariannu Terfysgaeth Dirprwyaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) i Indonesia a Brunei Darussalam a’r Genhadaeth i ASEAN, sy'n gweithio o dan Gynghorydd Gwrthderfysgaeth/Diogelwch yr UE, Mr Marc Vierstate-Verlinde. Roedd hi'n ymwneud â llunio'r Cynllun Gwaith ar Wrth-Terfysgaeth ac Atal/Gwrthweithio Eithafiaeth Dreisgar yn Ne-ddwyrain Asia 2020-2024. Ariennir ei phrosiect ymchwil ar y cyd gan y Deutsche Gesellschaft für Internationale Zusammenarbeit (GIZ) GmbH ac Expertise France. Mae gan ei phrosiect ymchwil dri cholofn: Deialog Polisi, Cydweithredu a Meithrin Gallu a Diplomyddiaeth Gyhoeddus. Mae Fabe hefyd yn gwneud ymchwil carcharu ar ymladdwyr IS (Islamic State) ac Ymladdwyr Terfysgol IS Tramor (FTF) sydd yn y carchar yn Indonesia, Malaysia a'r Philipinau. Mae ei hastudiaethau yn cynnwys: a.) Ffocws ar ddiogelwch (asesu, rheoli a monitro bygythiadau a risgiau’n effeithiol); b.) Rhaglenni adsefydlu ar ffurf ymyriadau wedi'u teilwra yn seiliedig ar anghenion unigol; c.) Hyfforddiant galwedigaethol a chyflogaeth i helpu cyflogaeth yn y dyfodol; a d.) Ymdrechion ailintegreiddio.
Ym maes Diogelwch Morol, mae Fabe yn un o Gynrychiolwyr y Philipinau ar Grŵp Cyswllt Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig ar Fôr Sulu a Celebes. Mae hi'n cynorthwyo i werthuso polisi a rheoliadau morwrol y Philipinau. Roedd hi'n aelod o Weithgor Technegol ASEAN ar Fôr De Tsieina rhwng 2010-2015.
Mae Fabe yn helpu i greu rheoliadau terfysgaeth a phlismona ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Fabe yw Cynrychiolydd Heddlu Cenedlaethol y Philipinau ar Ysgrifenyddiaeth ASEAN ac Uwch Swyddogion ASEAN ar Droseddau Cyfundrefnol Trawswladol (SOMTC), ac mae’n aelod o Weithgor Cryptoarian y Cenhedloedd Unedig.
Mae hi'n Uwch Economegydd Hedfan gydag Asiantaeth yr Unol Daleithiau ar Ddatblygu Rhyngwladol sy'n cynghori Awdurdod Hedfan Sifil y Philipinau, yn yr Adran Drafnidiaeth. Mae hi'n goruchwylio diogelwch hedfan ar gyfer chwe maes awyr rhyngwladol ac 82 o feysydd awyr domestig yn unol â safonau'r Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol.
Mae Dr Uche Igwe yn ddadansoddwr risgiau gwleidyddol, yn ysgolhaig diogelwch ac yn arbenigwr cyfathrebu gydag ugain mlynedd o brofiad ymarferol yn gweithio gyda seneddau, asiantaethau llywodraethol, sefydliadau anllywodraethol lleol a rhyngwladol, y cyfryngau, melinau trafod ymchwil a'r sector preifat.
Mae ganddo radd PhD mewn Gwleidyddiaeth o Ganolfan Astudio Llygredd Sussex, Adran Gwleidyddiaeth, Prifysgol Sussex a gradd Meistr yn y Celfyddydau mewn Llywodraethu a Datblygu o'r Sefydliad Astudiaethau Datblygu (IDS) hefyd yn Sussex.
Mae'n sylwebydd rheolaidd ar faterion cyfoes gwleidyddiaeth a llywodraethu ar y cyfandir, gan gynnwys democratiaeth, llygredd, gwrthdaro ac ansicrwydd, ariannu terfysgaeth, amddiffyn cymdeithasol, ymgysylltiad Tsieina ag Affrica, a seiberdroseddu.
Mae'r Athro Adrian James, cyn-dditectif gyda Scotland Yard, yn Ddarllenydd ym maes Astudiaethau'r Heddlu yng Nghanolfan Astudiaethau Uwch yr Heddlu, Prifysgol John Moores Lerpwl, y DU. Dyfarnwyd ei ddoethuriaeth gan iddo Ysgol Economeg Llundain am astudiaeth i darddiad a datblygiad plismona wedi’i arwain gan gudd-wybodaeth, ac mae Adrian wedi cyhoeddi'n helaeth ar bolisi ac ymarfer ymchwiliadau. Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys monograff ymchwil ar Fodel Cudd-wybodaeth Cenedlaethol y DU, sy'n cael ei ystyried yn aml fel y templed ar gyfer modelau plismona wedi’i arwain gan gudd-wybodaeth sydd wedi dod i'r amlwg ledled y byd. Mae ganddo gysylltiad cryf o hyd â'r sefydliad plismona trwy ei waith ymchwil ac ymgynghori ac yn ddiweddar cwblhaodd astudiaeth ar gyfer Coleg Plismona y DU ar ‘yr hyn sy'n gweithio' yng nghyd-destun ymarfer cudd-wybodaeth yr heddlu.
Mae Dr Andreea Stoian Karadeli yn ymchwilydd o Dwrci ac yn gydweithredwr â sawl sefydliad rhyngwladol (NATO, CENHEDLOEDD UNEDIG, UE).
Mae ymchwil Dr Karadeli yn amlddisgyblaethol gyda'r prif ffocws ar esblygiad terfysgaeth wedi’i hysbrydoli gan grefydd ar ôl y Gwanwyn Arabaidd, yn arbenigo ar Daesh ac al-Qaeda, datrys gwrthdaro, cyfathrebu rhyngddiwylliannol, technegau darllen wynebau a phroffilio. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi gan gyhoeddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae hi wedi bod yn siaradwraig wadd mewn amryw o gynadleddau, fforymau, seminarau a thrafodaethau teledu ledled y byd. Yn ogystal â’i gwaith academaidd, mae Dr Karadeli wedi bod yn cyflwyno cyrsiau'n gysylltiedig â therfysgaeth ac wedi darparu cwnsela academaidd ar gyfer rhaglenni hyfforddi wedi’u trefnu gan y Ganolfan Ragoriaeth - Amddiffyn yn erbyn Terfysgaeth yn Ankara, Twrci. Bu’n gweithio fel darlithydd tramor yn Adran Gwyddor Wleidyddol a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Cyfadran y Gwyddorau Gwleidyddol, Prifysgol Sakarya, a graddiodd gyda'r teitl Summa cum Laude o'r rhaglen PhD mewn Diogelwch Cenedlaethol a Cudd-wybodaeth a wnaeth yn Academi Cudd-wybodaeth Genedlaethol Mihai Viteazul Rwmania.
Mae Dr Karadeli hefyd yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerwysg, y Deyrnas Unedig, lle astudiodd BA mewn Astudiaethau Arabeg a'r Dwyrain Canol a Meistr drwy Ymchwil mewn Diogelwch, Gwrthdaro a Chyfiawnder. Yn ystod ei gradd BA, gwnaeth ymchwil maes ar Iaith, Llenyddiaeth a Diwylliant Arabeg ym Mhrifysgol Damascus am 10 mis.
Mae Dr Oluwabamidele Kogbe wedi gwneud gwaith ymchwil sylweddol ar heddwch rhanbarthol a’r elfen llywodraethu diogelwch dynol o fewn ymdrechion integreiddio crefyddol/rhanbarthol cymharol ac mae ganddo brofiad ymarferol yn y maes.
Mae ei arbenigedd mewn llywodraethu diogelwch rhanbarthol a rhybuddion cynnar yn cynnig mewnwelediadau i broses ddemocrataidd plismona ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a byd-eang, ac yn cynnig mewnwelediad newydd o ran meddwl ac ailfeddwl am wrthderfysgaeth o safbwynt academaidd a pholisi.
Mae’r Athro Christian Kaunert wedi bod yn fentor ar Dr Oluwabamidele Kogbe am y pum mlynedd diwethaf. Dechreuodd Dr Kogbe fel myfyriwr PhD gyda’r Athro Kaunert ym Mhrifysgol Dundee, yr Alban, ym mis Tachwedd 2014 a chyflawnodd ei PhD ‘Rethinking Civil Society Regionalism in Africa: Critical Reflections on West Africa’ ym Mhrifysgol Dundee yn 2020. Ar wahân i'w gymwysterau israddedig (Nigeria) ac ôl-raddedig (DU) mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Diplomyddiaeth, y Gyfraith a Newid Byd-eang, yn y drefn honno, cyflwynodd ei PhD fframwaith newydd ac arloesol i ddadansoddi sut mae dinasyddion a'u grwpiau a rhwydweithiau rhanbarthol, fel sefydliadau cymdeithas sifil, yn gweithredu mewn ymateb i faterion llywodraethu heddwch a diogelwch sy'n deillio o strwythurau rhanbarthol a gynrychiolir yn aml gan grwpiau o wladwriaethau fel yr Undeb Affricanaidd, yr Undeb Ewropeaidd a'u tebyg.
Oherwydd ei ddiddordeb cynhenid mewn effaith academaidd, fe greodd Rwydwaith Ymchwil Affrica Dundee (DARN) ym mis Mehefin 2015, rhwydwaith sydd wedi cael effaith fawr drwy hyrwyddo cydweithredu rhyngddisgyblaethol ac ymgysylltu â'r cyhoedd ar ymchwil Affrica yn Dundee.
Mae'r Athro Anthony Masys yn uwch wyddonydd amddiffyn gyda'r Ganolfan Gwyddor Diogelwch, Ymchwil a Datblygu Amddiffyn Canada, Adran Amddiffyn Cenedlaethol. Bu’n gynghorydd gwyddonol i Farch-heddlu Brenhinol Canada (RCMP). Mae’n Athro Cyswllt a chyn Gyfarwyddwr Rheoli Trychinebau Byd-eang, Cymorth Dyngarol a Diogelwch Cartref Prifysgol De Florida.
Mae'r Athro Masys wedi cynnal ymchwil, darlithoedd a gweithdai ar bum cyfandir, yn gweithio gyda rhanddeiliaid diogelwch a phlismona amrywiol i ddeall argyfyngau/trychinebau byd-eang yn well a llunio strategaethau gwytnwch ar gyfer diogelwch y cyhoedd a diogelwch yn gyffredinol. Mae gan Dr Masys BSc mewn Ffiseg ac MSc mewn Acwsteg Tanddwr ac Eigioneg o Goleg Milwrol Brenhinol Canada a PhD o Brifysgol Caerlŷr.
Mae'n Brif Olygydd y Springer Series: ‘Advanced Sciences and Technologies for Security Applications.’ Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ym meysydd ffiseg a'r gwyddorau cymdeithasol. Ffocws ei ddiddordebau ymchwil yw plismona a diogelwch, diogelwch iechyd byd-eang, fforenseg trychinebau, diogelwch, rheoli risg, rheoli argyfyngau a thrychinebau, gwytnwch, meddwl systemau, cynllunio senarios, diogelwch dynol, gwrthderfysgaeth, dadansoddi systemau cymdeithasol-dechnegol cymhleth, modelu ac efelychu, ymchwil gweithredu.
Mae Dr Amber McKinley yn Ddioddefolegydd Clinigol a Fforensig ac yn uwch ddarlithydd yn Ysgol Plismona a Diogelwch Uwchraddedig Awstralia (AGSPS) Prifysgol Charles Sturt (CSU) lle mae'n darlithio mewn Dioddefoleg Ddamcaniaethol, Gymhwysol a Fforensig a Masnachu Pobl: Persbectif byd-eang.
Cwblhaodd ei thraethawd doethurol gyda Heddlu NSW gyda'r teitl, “Homicide Solvability and Applied Victimology in New South Wales, 1994-2013”. Ar hyn o bryd mae Amber wedi cofrestru ym Mhrifysgol Maryland, Baltimore yn astudio Tystysgrif i Raddedigion mewn Heneiddio a Thanatoleg Gymhwysol.
Mae ei hymchwil ar hyn o bryd yn cynnwys: hanes llofruddiaethau teuluol Awstralia o 1816 – 2021; dioddefwyr llofruddiaeth gyfresol yn Awstralia o 1806-2021; datrysedd llofruddiaethau; y gostyngiad mewn cyfraddau llofruddio yn Awstralia; trawma dirprwyol ar gyfer ymatebwyr cyntaf; troseddau rhyngbersonol yn Llu Amddiffyn Awstralia ac astudiaeth o danatoleg a hunanladdiad ar gyfer Llu Amddiffyn Awstralia.
Mae Amber yn gweithio gydag Uned Heddlu Milwrol Cyfunol Llu Amddiffyn Awstralia, lle mae'n ymchwilio ac yn ysgrifennu adroddiadau ar droseddau rhyw a marwolaethau sydyn ar gyfer Profost Farsial Llu Amddiffyn Awstralia. Mae hi hefyd yn darlithio yn Ysgol Plismona'r Llu Amddiffyn, ar gyfer Heddlu Ffederal Awstralia ac asiantaethau eraill y llywodraeth.
Mae Anant Mishra yn Ymchwilydd yn y Ganolfan Astudiaethau Rhyfela Tir (CLAWS), Delhi Newydd, lle mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar strategaeth a thactegau milwrol. Mae ganddo ddiddordeb a dealltwriaeth gref o ffwndamentaliaeth radical, milwriaeth Islamaidd, gwrthryfel, plismona gwrthderfysgaeth yn Ewrop, tactegau a chydweithrediad cudd-wybodaeth gyda phwyslais arbennig ar genhedloedd Fewndir Asia a’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA).
Yn ystod ei gyfnod gyda Choleg Rhyfel Byddin India a Choleg Amddiffyn Awstralia (ADC), dadansoddodd Anant ddulliau dadansoddi, lledaenu a chasglu cudd-wybodaeth mewn sefydliadau diogelwch yn India ac Awstralia, mewn sefydliadau cudd-wybodaeth milwrol ac mewn rhyngweithiadau rhyng-asiantaeth sifil a heddlu.
Roedd ei ddadansoddiad o’r berthynas oedd wedi chwalu rhwng y Taliban ac Al Qaeda yn dyngedfennol yn natblygiad sgyrsiau rhwng Cadlywyddion sector NDS a charfannau'r Taliban. Arweiniodd y gudd-wybodaeth at arestio dau darged blaenllaw oedd wedi cymryd rhan a/neu arwain ymosodiadau ar ganolfannau ISAF yn Kunar ac yn Panjshir.
Mae ganddo gefndir academaidd mewn diogelwch cenedlaethol, cysylltiadau rhyngwladol, astudiaethau'r Cenhedloedd Unedig (UN) a gwrthderfysgaeth. Darparodd ei ymchwil Meistr ym Mhrifysgol Gwyddorau Fforensig Gujarat ar Boko Haram ddeunydd ysgrifenedig enfawr ar gyfer sefydliadau diogelwch cenedlaethol India. Mae ei ymchwil wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth India, y Cenhedloedd Unedig a Llywodraeth Nigeria.
Mae gan Anant gyhoeddiadau helaeth yng Nghanolfan Astudiaethau Rhyfela ar y Cyd Byddin India, Coleg Byddinoedd Rhyfel yr Unol Daleithiau, Prifysgol Llu Awyr yr Unol Daleithiau, Coleg Amddiffyn Awstralia, cyhoeddiadau Pencadlys Byddin Awstralia a PME Byddin Awstralia. Mae'n aelod o'r Sefydliad Dadansoddi Astudiaethau Amddiffyn a'r Ganolfan Astudiaethau Rhyfela ar y Cyd, lle mae'n cymryd rhan yn helaeth mewn trafodaethau ac yn cyhoeddi adroddiadau polisi.
Mae Dr Carlos Morgado Braz yn arbenigo mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, Astudiaethau Diogelwch ac Astudiaethau Terfysgaeth. Mae Carlos wedi darlithio ar bynciau'n amrywio o Faterion Gwleidyddol mewn Llenyddiaeth, Theori Cysylltiadau Rhyngwladol, Theori Diogeleiddio (Astudiaethau Diogelwch) i Bolisi Diogelwch yr UE. Mae'n gyd-olygydd "A participação militar portuguesa em Timor Leste e o impacto nas dinâmicas informais da reconstrução da paz" yn Freire, Raquel (gol.), Consolidação da Paz e a sua sustentabilidade: as missões da ONU em Timor Leste e a contribuição de Portugal. Coimbra: Gwasg Prifysgol Coimbra.
Derbyniodd ei Gymrodoriaeth PhD yn 2016 gyda thraethawd hir o'r Transnational Terrorism and the imaginary of Portuguese Politicians: Security practices and responsible policy decision-making. Derbyniodd ei radd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn 2013 o Ysgol Economeg Prifysgol Coimbra, am archwilio cyfranogiad milwrol Portiwgal yn Timor-Leste a'r effaith ar ddeinameg adeiladu heddwch: o UNTAET i UNMISET. Gosododd ei ymchwil y sylfaen ar gyfer astudiaeth fwy cadarn o ddimensiynau gweithredol a strategol Datrys Gwrthdaro mewn amgylchedd ôl-wrthdaro (Kosovo, Bosnia Herzegovina a Timor Leste).
Mae'n aelod o'r Observatoire collaboratif du terrorisme, de l'antiterrorisme et des violences (CERI/Sciences PO Paris – CNRS / ESPOL-ICL) ac yn Uwch Ymchwilydd Cyswllt gyda CINAMIL (Canolfan Ymchwil yr Academi Filwrol) a'r CISDI (Canolfan Ymchwil Diogelwch ac Amddiffyn) Rhwydwaith Prifysgol y Sefydliad Milwrol ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol, Diogelwch ac Amddiffyn (IUM).
Mae Dr Joerg Monar yn Rheithor Emeritws Coleg Ewrop ac yn gyn Gyfarwyddwr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Gweinyddol Coleg Ewrop, Athro Astudiaethau Ewropeaidd Cyfoes a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ewropeaidd Sussex, Prifysgol Sussex, deiliad Cadair Rhagoriaeth Marie Curie yr UE a Chyfarwyddwr prosiect SECURINT ar lywodraethu diogelwch mewnol yr UE ym Mhrifysgol Robert Schuman yn Strasbwrg, Athro Gwleidyddiaeth a Chyfarwyddwr y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Sefydliadau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerlŷr, a Chyfarwyddwr y Sefydliad Gwleidyddiaeth Ewropeaidd (IEP) yn Bonn, yr Almaen.
Yn ogystal â'i ymchwil a'i addysgu, mae'r Athro Monar wedi cyflawni aseiniadau ymgynghori gyda Senedd Ewrop, y Comisiwn Ewropeaidd, Staff Cynllunio Gweinyddiaeth Materion Tramor yr Almaen, Cyngor Gwyddonol yr Iseldiroedd ar gyfer Polisi Llywodraeth (WRR, Yr Hâg), Bundestag yr Almaen, Commissariat général au Plan Ffrainc, Paris, a Thŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin ym Mhrydain. Mae hefyd wedi cael ei ethol yn Gymrawd gan y Gymdeithas Hanes Frenhinol, Llundain.
Mae gan yr Athro Monar PhD mewn Hanes Modern (Prifysgol Munich, 1989) ac mewn Gwyddorau Gwleidyddol a Chymdeithasol (Sefydliad Prifysgol Ewrop, 1991). Mae wedi cyhoeddi dros 200 o erthyglau a llyfrau ar ddatblygiad gwleidyddol a sefydliadol yr UE, cyfiawnder a materion cartref yr UE a chysylltiadau allanol yr UE. Mae hefyd yn un o olygyddion sylfaenol yr Adolygiad Materion Tramor Ewropeaidd.
Mae gan Sarah Simons ystod o ddiddordebau ymchwil gan gynnwys Dioddefoleg Affricanaidd, Dioddefoleg Fforensig, Menywod, Heddwch a Diogelwch yn Affrica, Iechyd Meddwl Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, Grymuso Menywod Ifanc Affricanaidd, Troseddeg Fforensig, Seicoleg Fforensig a Seiciatreg Fforensig (PTSD) a Dioddefoleg.
Hyfforddodd Sarah gyda'r heddlu yn Pasenda, UDA mewn proffilio cyn dychwelyd i Kenya i hyfforddi aelodau’r heddlu i'w galluogi i dracio môr-ladron. Ar hyn o bryd mae Sarah yn gweithio yng Ngweriniaeth Ddemocratig y Congo, wedi sefydlu uned cymorth i dioddefwyr trais rhyw. Ar ben hyn mae hefyd yn astudio Fforensig Dioddefwyr a Throseddeg.
Mae Dr Kristan Stoddart yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe a chyn hynny bu'n Ddarllenydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth lle roedd hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Cudd-wybodaeth ac Astudiaethau Diogelwch Rhyngwladol.
Rhwng 2014 a 2017, bu'n gweithio ar brosiect gwerth £1.2 miliwn yn archwilio Cylchoedd Bywyd Seiberddiogelwch wedi’i ariannu gan Airbus Group a Llywodraeth Cymru gyda’r nod o gael effaith ar y llywodraeth ac o fod yn astudiaeth achos effaith ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Roedd yn aelod o Banel Moeseg Ddigidol Annibynnol y DU mewn Plismona am sawl blwyddyn hyd at 2018, yn aelod o'r Prosiect ar Faterion Niwclear, yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanes Frenhinol. Mae wedi siarad mewn nifer fawr o gynadleddau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys NATO, Awdurdod Strategol yr UD, GCHQ, a Swyddfa Cabinet y DU ac mae wedi cyflwyno tystiolaeth i ymholiadau seneddol. Mae hefyd wedi gweithio gyda’r cyfryngau, gan gynnwys y BBC, Channel 4, a'r wasg genedlaethol. Mae'n awdur neu'n gyd-awdur nifer o lyfrau a llawer o erthyglau gan gynnwys: The British Nuclear Experience: The Role of Beliefs, Culture and Identity (gyda John Baylis) (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014); Facing Down the Soviet Union: Britain, the USA, NATO and Nuclear Weapons 1976-1983 (Palgrave Macmillan, 2014); a The Sword and the Shield: Britain, America, NATO and Nuclear Weapons 1970-1976 (Palgrave Macmillan, 2014).
Mae ganddo gysylltiadau agos â heddluoedd cenedlaethol a rhyngwladol, byddin y DU, NATO, diwydiant, a llawer o gysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol o fewn y byd academaidd.
Mae gan Steven Stottlemyre yrfa yng ngwasanaethau cyhoeddus yr Unol Daleithiau (UDA). Mae wedi treulio mwyafrif ei yrfa, a ddechreuodd gyda Byddin yr Unol Daleithiau, yn gweithio yn y maes cudd-wybodaeth. Fel milwr, gwasanaethodd am 12 mis yn Irac yn gweithio fel Casglwr Cudd-wybodaeth Dynol yn ystod Operation Iraqi Freedom. Derbyniodd Fedal Clod Byddin yr Unol Daleithiau am ei wasanaeth.
Yn ddiweddarach, datblygodd ac addysgodd Steve gyrsiau ffurfiol ar sut i gynnal holiadau cudd-wybodaeth cyfreithlon, moesegol yn ystod rhyfeloedd yng Nghanolfan Ragoriaeth Cudd-wybodaeth Byddin yr Unol Daleithiau a Chanolfan Ragoriaeth ar y Cyd Hyfforddiant Cudd-wybodaeth Dynol Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau. Aeth Steve yn ei flaen i wasanaethu gydag Adran Wladol yr Unol Daleithiau (DOS) fel yr uwch ddadansoddwr bygythiadau ar gyfer buddiannau diplomyddol yr Unol Daleithiau yng Ngogledd Affrica yn ystod gwrthryfeloedd y Gwanwyn Arabaidd yn 2011. Cafodd ei ddisgrifio fel yr un “gyrhaeddodd agosaf at y gwir" o ran bygythiadau yn Libya o blith holl ddadansoddwyr cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau, gan y Llysgennad Thomas R. Pickering, Cadeirydd Bwrdd Adolygu Atebolrwydd Benghazi. Dyfarnwyd Gwobr Anrhydedd Uwch Adran Wladol yr Unol Daleithiau iddo am ei ddadansoddiad o fygythiadau yn 2014. Gwasanaethodd Steve hefyd fel uwch ddadansoddwr bygythiadau i'r Adran Wladol yn ystod sawl cyfarfod rhyngwladol, gan gynnwys Uwchgynhadledd Americas 2015, ac Uwchgynhadledd NATO 2012, y derbyniodd Wobr Anrhydedd Teilwng.
Recriwtiodd Swyddfa Diogelwch Asiantaeth Datblygu Rhyngwladol yr Unol Daleithiau (USAID) Steve yn 2016 i sefydlu adran cudd-wybodaeth bygythiadau bach yn debyg i’r Adran Wladol. Esboniodd y bygythiadau posibl i Weinyddwr USAID yn bersonol yn ystod ei theithiau tramor ac eiriolodd dros fanteision dadansoddi cudd-wybodaeth ar gyfer gweithrediadau cymorth diogel.
Mae Steve hefyd wedi ei benodi i sawl prosiect academaidd, gan gynnwys fel Aelod Cyfadran yn y Brifysgol Cudd-wybodaeth Genedlaethol, sefydliad ysgolheigaidd mwyaf blaenllaw Cymuned Cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau. Mae ei ymchwil ôl-radd wedi ffocysu’n bennaf ar sail ddamcaniaethol cudd-wybodaeth a materion Gogledd Affrica yr 20fed ganrif. Ar hyn o bryd mae Steve yn cynnal ymchwil ar seiliau damcaniaethol deallusrwydd fel disgyblaeth academaidd unigryw. At y diben hwnnw, mae wedi cyhoeddi dwy erthygl a adolygwyd gan gymheiriaid ar theori cudd-wybodaeth.
Mae'r Athro Christoph Weller ar hyn o bryd yn Athro a Chadeirydd Gwyddor Wleidyddol, Astudiaethau Heddwch a Gwrthdaro ym Mhrifysgol Augsburg (Yr Almaen), a chyn hynny bu’n Athro Prifysgol Astudiaethau Heddwch a Gwrthdaro ym Mhrifysgol Philipps Marburg (yr Almaen).
Mae gan yr Athro Weller brofiad sylweddol yn y meysydd canlynol:
- Ymchwil gwrthdaro, heddwch a thrais
- Cymdeithaseg gwybodaeth am wleidyddiaeth ryngwladol
- Polisi tramor yr Almaen
- Methodoleg ymchwil gwrthdaro a gwleidyddiaeth y byd
- Brwydrau dehongli
Cwblhaodd Weller ei astudiaethau doethurol yn Adran y Gwyddorau Cymdeithasol a Hanesyddol Prifysgol Technoleg Darmstadt gydag astudiaeth ryngddisgyblaethol ar ddelweddau o'r gelyn wrth ddod â’r gwrthdaro dwyrain-gorllewin i ben a hyrwyddodd gysylltu dulliau adeiladolaidd CRh ag agweddau ar astudiaethau heddwch a gwrthdaro. Cyhoeddodd yn eang yn y maes hwn a bydd yn dod â gwerth ychwanegol sylweddol i PDC.
Mae'r Athro Weller wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ennill cyllid ymchwil o ystod o ffynonellau gan gynnwys Sefydliad Ymchwil Heddwch yr Almaen a Sefydliad Ymchwil yr Almaen, ac mae ganddo brofiad sylweddol o drefnu digwyddiadau ymchwil, gweithdai, seminarau a chydweithrediadau rhyngddisgyblaethol, sydd wedi arwain at nifer sylweddol o gyhoeddiadau.
Mae Dr Martin Wright yn Gymrawd Gwadd yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch, Prifysgol De Cymru. Roedd yn swyddog heddlu am 30 mlynedd ac ef wnaeth greu’r rhaglen diogelwch cymunedol y Cyswllt Radio Manwerthwyr. Ym 1999, ef oedd yr unig swyddog heddlu erioed i gael Ysgoloriaeth Ddoethurol gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain, a hynny i ymgymryd ag ymchwil i gysylltiadau radio a sicrwydd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerlŷr. Roedd yn aelod o Grŵp Strategaeth E-Droseddu Cenedlaethol y DU ac ym mis Tachwedd 2007 cyflwynwyd Tystysgrif Teilyngdod i Martin gan Gymdeithas Plismona’r Seiberofod mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Bangkok.
Ar ôl gadael yr heddlu, ymunodd â Phrifysgol Wolverhampton yn 2008. Yn y brifysgol ef oedd Cyfarwyddwr y Sefydliad Canolog ar gyfer Astudio Diogelu'r Cyhoedd a Phennaeth Adran Gwasanaethau Iwnifform gyda chyfrifoldeb am y radd BSc Plismona, gradd BSc Tân ac Achub a gradd BSc y Lluoedd Arfog.
Ar hyn o bryd mae ganddo nifer o swyddi eraill: Uwch Gymrawd Ymchwil Gwadd yng Nghanolfan Ymchwil Plismona Caergaint ym Mhrifysgol Eglwys Crist Caergaint, Golygydd Cyfres Routledge Advances in Police Practice and Knowledge a Rheolwr Olygydd a Golygydd Adolygiadau Llyfrau yr Oxford Journal of Policing ac mae'n gwirfoddoli gyda Heddlu Dyfed Powys.
Mae Dr. Arif Sahar yn wyddonydd gwleidyddol, ysgolhaig diogelwch ac arbenigwr y maes yr economi wleidyddol ryngwladol gyda deng mlynedd o brofiad ymarferol yn gweithio gyda senedd-dai, asiantaethau llywodraethol, sefydliadau anllywodraethol lleol a rhyngwladol, y cyfryngau, melinau trafod ymchwil a'r sector preifat. Mae'n cydweithio’n agos ar ymchwil agos gyda'r Athro Christian Kaunert ar ddiogelwch yn Asia. Mae ganddo radd PhD yn yr Economi Wleidyddol Datblygu mewn cyd-destunau y mae gwrthdaro yn effeithio arnynt o Goleg Prifysgol Llundain (UCL) a gradd Meistr yn y Celfyddydau mewn Gwleidyddiaeth, Diogelwch ac Integreiddio hefyd o Goleg Prifysgol Llundain (UCL). Rhoddodd traethawd PhD ar economi wleidyddol addysg yn Afghanistan ar ôl 2001 fewnwelediad ar sut y gall gwleidyddiaeth gyd-destunol ynghyd â gwrthdaro, llywodraethu gwan a radicaleiddio lunio gwleidyddiaeth, disgyrsiau, a chanfyddiadau o adeiladu gwladwriaethau a sefydliadau mewn cyd-destunau bregus. Gweithiodd Arif fel uwch gynghorydd i Lywodraeth Afghanistan, UNDP, a DFID (2010 – 2015), gan roi cyngor polisi ar ystod o faterion. Ers 2016, mae Arif wedi bod yn gweithio ar nifer o brosiectau mawr Horizon2020 ym Mhrifysgol Sheffield Hallam (DU), gyda ffocws arbennig ar fygythiadau a thirwedd diogelwch y dyfodol yn Aelod-wladwriaethau'r UE.
Yn ogystal, mae Dr Sahar ar hyn o bryd yn gweithio, gyda'r Athro Christian Kaunert, ar brosiect ymchwil sy'n archwilio gwleidyddiaeth, disgyrsiau ac arferion diogelu addysg uwch yng nghyd-destun gwrthdaro Afghanistan. Yn Afghanistan, sefydlodd Dr Sahar y Ganolfan Astudiaethau Heddwch a Datblygu yn Kabul sy'n gwasanaethu fel melin drafod flaenllaw, gan ddarparu cyngor polisi, a gwaith ymgynghori a dadansoddi i ystod eang o endidau llywodraeth, I/NGO ac endidau preifat ar faterion llywodraethu, diogelwch, datblygu, a meithrin gallu. Bu hefyd yn darparu gwaith dadansoddi rheolaidd a sylwebaeth wleidyddol i'r gymdeithas sifil a'r cyfryngau yn Afghanistan. Mae wrth ei fodd yn teithio ac mae'n dal i roi sylwebaeth rheolaidd ar faterion gwleidyddol cyfoes i gyfryngau Afghanistan.
Ar hyn o bryd mae Dr. Bahrullah Safi yn Is-lywydd Rhyngwladol ym Mhrifysgol Acacia, Arizona, UDA sy'n rhan o Grŵp Addysg Westford (WEG), sy’n ddarparwr addysg ryngwladol achrededig a hyfforddiant corfforaethol i ddysgwyr uchelgeisiol ledled y byd. Mae hefyd yn Gynghorydd Academaidd yn Myracle.io, Berlin, yr Almaen. Mae Myracle yn dod ag addysg drwy brofiad yn fyw yn y byd o'n cwmpas, gyda golygfeydd, synau, rhyngweithiadau, a symudiad corfforol. Mae'n Brif Werthuswr yn Ecole Superieure Robert De Sorbon, Ffrainc lle mae'n gyfrifol am werthuso proffiliau ceisiadau. Mae Dr. Bahrullah Safi yn gweithio fel Athro Cynorthwyol yn Ysgol Peirianneg Saveetha, Tamil Nadu, India, ac mae'n cyflwyno darlithoedd a hyfforddiant ar-lein i fyfyrwyr o wahanol adrannau. Mae gan Dr. Safi y fraint o fod yn Llysgennad Cynaliadwyedd Byd-eang yn gweithio gyda Menter SPSC, y Deyrnas Unedig (DU), i hyrwyddo cynaliadwyedd a chefnogi Nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (Cenhedloedd Unedig). Mae Dr. Bahrullah Safi yn aelod o Fyrddau Golygyddol a Chynghori amrywiol gyfnodolion rhyngwladol a gwahanol sefydliadau gan gynnwys International Journal of Social Sciences and Education, Twrci, International Journal of Management and Technical Research, India, Canolfan Addysgol ac Ymchwil ETCOR, Y Philipinau, Sefydliad Ymchwil Busnes Bangladesh, Sefydliad Rhyngwladol Dylanwadwyr, Oman, a Llysgenhadon Cynaliadwyedd Byd-eang, Emiradau Arabaidd Unedig.
Yn ogystal, mae Dr. Bahrullah Safi wedi gweithio gyda gwahanol golegau a phrifysgolion megis Sefydliadau Grŵp Sri Sai, India, Prifysgol Chandigarh, India, Grŵp Sefydliadau Quest India, Coleg Technoleg a Rheoli Delhi, India, a Phrifysgol Sharda, India. Roedd Dr. Bahrullah Safi hefyd yn hyfforddwr cyfathrebu busnes yn Ysgol Ieithoedd Langma, Delhi Newydd, India. Mae Dr. Safi hefyd wedi gweithio fel Darlledwr gydag Is-adran Gwasanaethau Allanol All India Radio, Delhi Newydd, India, a Canghellor Prifysgol Mirwais Neeka, Kandhar, Afghanistan. Enillodd Dr. Bahrullah Safi radd Baglor mewn Gweinyddu Busnes (BBA) a Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) o Brifysgol Jamia Hamdard, Delhi Newydd, India. Enillodd Dr. Safi ei PhD o Brifysgol Sharda, Delhi Newydd, NCR, India.
Mae Dr. Bahrullah Safi wedi cyhoeddi 15 o bapurau ymchwil mewn Cyfnodolion Mynegeio Scopus cenedlaethol a rhyngwladol, a thri llyfr. Mae Dr. Bahrullah Safi wedi mynychu tuag ugain cynhadledd ryngwladol ac wedi cymryd rhan mewn mwy nag ugain o Raglenni Datblygu Cyfadrannau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae Dr. Bahrullah Safi wedi cyflwyno mwy na hanner cant o weminarau ac wedi cymryd rhan weithredol mewn llawer o ddigwyddiadau rhyngwladol fel prif westai, prif siaradwr, cadeirydd sesiynau, aelod o pwyllgorau ac ati. Mae Dr. Bahrullah Safi wedi derbyn gwahanol wobrau, fel Gwobr Cyfarwyddwr Ifanc Gorau’r Flwyddyn, Gwobr Addysgwyr ac Ymchwil Rhagorol, Gwobr Rhagoriaeth Academaidd a llawer mwy ac mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys Llywodraethu Academaidd, Polisïau TechAdd, Fframweithiau Achredu, Ymchwil a Datblygu, Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat, Rheoli Newid Sefydliadol, Uno a Chaffaeliadau, Trawsnewid Digidol, Datblygu Busnes a Rheoli Cyfalaf Dynol.
Mae Dr. Bahrullah Safi yn Ymgynghorydd Addysg Uwch o fri, yn ysgolhaig, ac yn perthyn i rwydweithiau Sefydliadau Addysg Uwch enfawr. Mae ganddo gysylltiadau ledled y byd, yn enwedig yn Asia, y Dwyrain Canol, ac Affrica. Yn ogystal, mae Dr. Bahrullah Safi yn aelod o wahanol sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ychwanegu gwerth sylweddol i’w gyfraniad at ryngwladoli a gweithgareddau ymgysylltu byd-eang PDC.
Yn ystod ei gyflogaeth gydag All India Radio, Delhi Newydd, un o orsafoedd radio hynaf y byd ar ôl y BBC, ffurfiodd berthynas a chysylltiadau cryf ag asiantaethau llywodraethol a llysgenadaethau gwahanol wledydd, gan ei alluogi i rymuso ac adeiladu systemau addysg rhyngwladol yn fwy effeithlon. Mae gan Dr. Bahrullah Safi berthynas gref iawn â chyhoeddwyr a chwmnïau trefnu digwyddiadau ledled y byd lle mae wedi cyfrannu'n sylweddol at ymdrechion i wneud addysg yn fwy atebol i anghenion pobl go iawn. Mae Dr. Bahrullah Safi wedi gweithio gyda gwahanol fentrau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) lle mae wedi grymuso myfyrwyr o wledydd llai datblygedig a gwledydd sy'n datblygu trwy ysgoloriaethau wedi’u noddi gan y Mentrau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol hyn.
Mae gan Dr. Bahrullah Safi hanes hir o addysgu. Dechreuodd ei daith addysgu pan oedd yn yr ysgol uwchradd sy'n beth prin iawn, ac fe ysgrifennodd lyfr yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol uwchradd. Mae Dr. Bahrullah Safi yn adnabyddus am amrywiaeth ei ddiddordebau, sydd â ffocws arbennig ar Addysg, Addysg Uwch a Rhyngwladoli Addysg Uwch, ac Addysg Ar-lein neu Ddigidol. O ystyried ei arbenigedd a'i brofiad unigryw yn hyn o beth, gall Dr. Bahrullah Safi chwarae rhan bwysig mewn ymdrechion i greu strategaethau pwerus, adolygu polisi, cyhoeddi ymchwil, addysgu a rhyngwladoli a mentrau ymgysylltu byd-eang. Gall Dr. Bahrullah Safi gyfrannu at bartneriaethau sefydliadau ac at gyllido a ymchwil a mentrau eraill. Yn ogystal, mae nodweddion a sgiliau proffesiynol Dr Bahrullah Safi yn fuddiol iawn o ran blaenoriaethau a diddordebau sefydliadau mewn ymchwil, addysgu a chefnogaeth i fyfyrwyr ac ysgolheigion rhyngwladol.
Mae Dr. Bassant Hassib wedi cydweithio ar ymchwil gyda'r Athro Christian Kaunert ers amser maith. Roedden nhw eisoes yn cydweithio ym Mhrifysgol Dundee, yn rhan o Ysgol Haf Jean Monnet i gychwyn, ac yn ddiweddarach fel rhan o brosiect yr Academi Brydeinig gyda Phrifysgol Cairo, lle dyfarnwyd PhD iddi. Ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda'i gilydd ar lawysgrif llyfr gydag Edward Elgar. Mae gan Dr. Hassib PhD mewn Astudiaethau Ewro- Mediteranaidd Cyfadran Economeg a Gwyddor Wleidyddol Prifysgol Cairo. Roedd ei thraethawd ymchwil yn dadansoddi rôl yr Undeb Ewropeaidd yn hyrwyddo democratiaeth a hawliau dynol yn yr Aifft, gydag asesiad manwl o'r offeryn Cyfleuster Cymdeithas Sifil ar ôl 2011.
Ar hyn o bryd mae Dr Hassib yn Ysgolhaig Dibreswyl gyda'r Rhaglen Technolegau Strategol a Seiberddiogelwch yn Sefydliad y Dwyrain Canol. Mae hi hefyd yn ymgynghorydd gyda'r Rhaglen Diogelwch Rhyngwladol yn Chatham House fel rhan o'r prosiect Rhywedd a Seiberddiogelwch, ac yn aelod o'r Bartneriaeth Fyd-eang ar gyfer Ymddygiad Seiber Cyfrifol yn RUSI, lle mae'n rhan o ffrwd waith sy'n canolbwyntio ar ranbarth y Dwyrain Canol ac Affrica. Cyn hynny, bu Dr. Hassib yn Athro Cynorthwyol Gwyddor Wleidyddol Prifysgol Prydain yn yr Aifft (2017-2023), lle roedd hi’n dysgu gwleidyddiaeth gymharol, gwleidyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd a gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol yn gyffredinol, ac amrywiaeth o gyrsiau ar bynciau arbenigol fel rhywedd mewn gwleidyddiaeth, hawliau dynol a pholisi cyhoeddus. Roedd Dr.
Hassib yn gymrawd gwadd yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Caerlŷr (LIAS) ym Mhrifysgol Caerlŷr, ar y prosiect "The Securitization of Cyberspace in Egypt: Implications on Democracy, Human Rights, Economy and Society". Roedd Dr. Bassant ymhlith yr unig dri ymgeisydd a enillodd gymrodoriaeth a'r unig ysgolhaig Gwyddor Gwleidyddol. Roedd hi hefyd yn ymgynghorydd gyda MENASource a Cyber Statecraft yng Nghyngor yr Iwerydd. Derbyniodd Dr. Bassant ysgoloriaeth GERSS bwysig gan Wasanaeth Cyfnewid Academaidd yr Almaen (DAAD) yn 2015 i ymuno â Sefydliad Arnold Bergstraesser Prifysgol Freiburg yr Almaen, ac ysgoloriaeth "Myfyriwr Rhyngwladol Credydau Symudol Cydnabyddedig Erasmus +" i ymuno â'r Gyfadran Astudiaethau Rhyngwladol ac Ewropeaidd ym Mhrifysgol Genedlaethol y Gwasanaeth Cyhoeddus yn Budapest yn nhymor y gaeaf 2016/2017.
Mae Dr. Hassib yn siarad yn aml mewn digwyddiadau llunio polisi a strategaeth ar raddfa ryngwladol. Ymhlith y rhai mwyaf nodedig, roedd y Fforwm Seiberddiogelwch Byd-eang yn Riyadh, a drefnwyd gan Awdurdod Seiberddiogelwch Cenedlaethol KSA, lle cyfrannodd at drafodaethau ar ddad-ddwysáu seiber rhanbarthol a llywodraethu seiberddiogelwch, gan fynd i'r afael ag agweddau hanfodol ar ddiogelu'r Dwyrain Canol rhag bygythiadau seiber. Yn ogystal, cymedrolodd banel ar Ddeallusrwydd Artiffisial a rhyfela seiber yn "9fed Trafodaeth Strategol Abu Dhabi (ADSD)" Canolfan Polisi’r Emiradau, cynhadledd enwog sy'n casglu ynghyd arbenigwyr a llunwyr polisi blaenllaw ledled y byd. Gan arddangos ei harbenigedd ymhellach, cyflwynodd ar reoleiddio technoleg fyd-eang yn Neialog Raisina Sefydliad Ymchwil yr Observer yn Deli Newydd, gan ymgysylltu â llunwyr polisi, academyddion ac arweinwyr diwydiant ar faterion brys mewn geowleidyddiaeth a geoeconomeg. Parhaodd yr ymgysylltiad hwn yn Uwchgynhadledd Amddiffyn Firstpost, lle trafododd risgiau, moeseg a rheoleiddio Deallusrwydd Artiffisial mewn rhyfela ochr yn ochr â dadansoddwyr amddiffyn a llunwyr polisi blaenllaw, gan danlinellu ymrwymiad i fynd i'r afael â'r heriau sy’n dod i’r amlwg yn y sector amddiffyn.
Mae Dr Bassant wedi cyhoeddi erthyglau awdurdodol mewn cyfnodolion o'r radd flaenaf fel y Journal of Cybersecurity and Middle East Policy, ac wedi cyfrannu penodau i gyfrolau wedi'u golygu gan gweisg blaenllaw fel Taylor & Francis a Gwasg Prifysgol Manceinion. Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu erthygl academaidd ar gyfer International Affairs – un o gyfnodolion pwysicaf y maes Cysylltiadau Rhyngwladol.
Mae ei gwahanol feysydd ymchwil o ddiddordeb ac arbenigedd yn cynnwys gwleidyddiaeth a llywodraethu seiberddiogelwch yn y Dwyrain Canol, awdurdodaeth ddigidol, (gwrth)wyliadwriaeth, bygythiadau seiberddiogelwch rhywedd, geowleidyddiaeth seiberddiogelwch, seilwaith y rhyngrwyd a'r economi ddigidol, gwrthderfysgaeth a chymdeithas sifil, hawliau digidol a seiberactifyddiaeth, galluoedd Deallusrwydd Artiffisial milwrol a seiber, diogelu cryptoarian yn MENA, a chynhyrchu gwybodaeth yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae ei hymchwil bresennol yn rhyngddisgyblaethol; mae'n archwilio croestoriad technolegau digidol â chysylltiadau gwladwriaethau a chymdeithas, a gyda'r ddeinameg geowleidyddol yn rhanbarth MENA. Mae hi'n dangos sut gall technolegau gael eu defnyddio mewn ffordd ddeuol, megis ysbïwedd gwyliadwriaeth, Technoleg Ariannol, Deallusrwydd Artiffisial ac apiau’r cyfryngau cymdeithasol. Ar un llaw, gall technolegau digidol ryddhau cymdeithas i arfer ei hawliau a datblygu a diogelu economi ddigidol gwladwriaethau a chymdeithas, a chaethiwo ar y llaw arall.
Mae Dr Carlos Ortiz yn ysgolhaig annibynnol sy’n gweithio o Sussex ac sydd hefyd wedi gweithio i’r heddlu dros y degawd diwethaf. Cyn ymuno â Heddlu Sussex, roedd yn gysylltiedig â'r Ganolfan Economi Wleidyddol Fyd-eang (CGPE) ym Mhrifysgol Sussex, lle derbyniodd ei radd doethuriaeth hefyd. Yn ystod ei astudiaethau doethurol, bu’n gydlynydd ar gyfer y CGPE a chyfrannodd at ei lansio a chreu ei weledigaeth. Ar ôl ennill ei PhD, gwnaeth gyfraniad nodedig i gyhoeddi ac allbwn ymchwil y CGPE, gan gynnwys llyfr ar gyfer cyhoeddwr blaenllaw ac erthyglau ar gyfer cyfnodolion. Yn rhan o tapestri ehangach o waith y 1990au, cafodd y fraint o fod yn un o blith tuag ugain o arbenigwyr a roddodd gychwyn i astudio Cwmnïau Milwrol Preifat (PMCau) yn ysgolheigaidd. Roedd traethawd doethurol Dr Ortiz yn archwilio effaith diwygiadau Rheoli Cyhoeddus wrth gydgrynhoi’r diwydiant milwrol preifat, mewnwelediad arloesol y cafodd ei wahodd i'w gyflwyno i aelodau o Lluoedd EM ac a fu’n rhan o nifer o'i gyhoeddiadau (am PMCau, rheoli cyhoeddus diogelwch, rheoleiddio, a hanes milwrol). Yn ogystal, llwyddodd i ledaenu gwybodaeth trwy PrivateMilitary.org, adnodd academaidd ar-lein a ddaeth yn bwynt cyfeirio hanfodol yn ystod rhyfel Irac. Cyflwynodd Dr Ortiz ei ymchwil yn fynych mewn cynadleddau rhyngwladol ac mae'n parhau i fod yn gyfrannwr rheolaidd i gonfensiwn blynyddol y Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol ac yn ffigwr uchel ei barch yn y maes.
Mae Dr Ortiz wedi llwyddo i ddenu diddordeb yn ei ymchwil a bod yn rhan o brosiectau wedi’u hariannu. Sicrhaodd ei astudiaethau doethurol ysgoloriaeth gan y Consejo Nacional de Ciencia y Tecnología. Fel ymchwilydd ôl-ddoethurol, roedd yn rhan o brosiect rhyngwladol wedi’i noddi gan RAND, sef The Markets for Force, a ddadansoddodd gyfansoddiad y farchnad fyd-eang ar gyfer gwasanaethau milwrol a diogelwch preifat. Roedd ei gyfraniad yn canolbwyntio ar y DU fel astudiaeth achos, ffocws cyffredin ei ymchwil, yn ogystal â'r marchnadoedd Affrica ac America ar gyfer grym milwrol. Tra'n rhan o CGPE, roedd yn aelod o bwyllgor trefnu'r 'Gynhadledd Ryngwladol ar Reoleiddio Byd-eang,' a ddenodd gefnogaeth CEPREMAP (Paris), ESRC, Le Monde Economie, a'r Review of International Political Economy. Yn fwy diweddar, sicrhaodd Dr Ortiz gefnogaeth Prif Gwnstabl Heddlu Sussex, Giles York (sydd bellach wedi ymddeol) i lansio'r prosiect 'Bringing the international into local policing,' prosiect a lwyddodd i ddenu cefnogaeth gychwynnol dau brif gwnstabl arall. Mae'r prosiect wedi ei ohirio oherwydd y pandemig, ond mae Dr Ortiz yn parhau i ymchwilio i ffyrdd o wella meddylfryd swyddogion a staff yr heddlu wrth ddelio â phroblemau heddlu lleol gydag elfen ryngwladol. Yn wir, mae Dr Ortiz yn angerddol am wybodaeth gymhwysol a thrawsnewidiol, rhywbeth a all fod yn fanteisiol wrth wneud cais am gyllid a cheisio cefnogaeth gan bartneriaid allanol.
Trwy'r gwaith a wnaeth ar gyfer ei lyfr cyntaf, datblygodd Dr Ortiz raglen ymchwil at y dyfodol, sy'n un gwreiddiol ac arwyddocaol. Yn Private Armed Forces and Global Security, pwysleisiodd ymddangosiad hollt yn y sector preifat rhwng lluoedd preifat cyfreithlon a rhai anghyfreithlon, a chwblhaodd ddadansoddiad teipolegol o'r rhai anghyfreithlon. I sicrhau bod y ddadl o ddiddordeb ehangach i wneuthurwyr polisi ac ymarferwyr, defnyddiodd ddiffiniadau ac egwyddorion cyfreithiol. Gwnaeth y fframwaith hwn arwain at ddau gyfeiriad ymchwil, y cyntaf yn archwilio patrymau’r cysylltiadau rhwng gwahanol fathau o 'luoedd preifat gwrthwynebus (APFau), a’r ail yn canolbwyntio ar fodelu gwrthdaro yn yr 21ain ganrif fel brwydr rhwng 'partneriaethau diogelwch' (cyhoeddus-preifat) a chyfuniadau amrywiol o APFau. Mae'r traethawd arloesol a chyfoes hwn yn taflu goleuni newydd, neu naratif amgen, ar bensaernïaeth yr hyn a elwir yn 'barth llwyd.' Mae trydedd agwedd ar ei ymchwil, parhad o'i waith ar drefniadau rheoli cyhoeddus yn y maes diogelwch, yn cynnwys theori lles cyhoeddus cymhwysol a dadansoddiad ynghylch y graddau mae diogelwch preifat yn rhan o'r 'maint effeithlon' o fesurau ddiogelwch er lles pawb. Mae hyn yn faes perthnasol i ysgolheigion a llunwyr polisi na fu llawer o ymchwil iddo. Mae Dr Ortiz wedi cyflwyno papurau ar y ddwy agwedd ddiwethaf ac yn eu datblygu ymhellach i'w cyhoeddi fel erthyglau ar gyfer cyfnodolion wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae ei brosiectau ymchwil yn eistedd ar groesffordd amlddisgyblaethol unigryw a byddant yn dod â gwerth ychwanegol i PDC ac yn darparu digon o gyfle ar gyfer mwy o gyhoedd.
Ar yr un pryd, bu trawsbeillio rhwng ymchwil diogelwch Dr Ortiz a'i waith plismona. Yn ogystal â'r prosiect a ddechreuodd cyn y pandemig, mae cyfle i addasu ei fodel gwrthdaro i heddluoedd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Gallai'r ymchwil hon wedyn ddatblygu i fod yn thema ymchwil. Mae Dr Ortiz wedi meithrin cysylltiadau cryf a dealltwriaeth drylwyr mewn sawl maes plismona – e.e., seiberdroseddu, canllawiau'r heddlu, a chysylltiad cyhoeddus. Bydd ei brofiad yn sicr yn ddefnyddiol i ICPS wrth gynnal prosiectau ymchwil annibynnol ac arloesol mewn meysydd diogelwch rhyngwladol sy'n gorgyffwrdd â phlismona. Mae hefyd yn frwdfrydig iawn dros gyfrannu at waith goruchwylio.
Mae Dr Cyprian Aleksander Kozera yn ymchwilydd yn Sefydliad Ymchwil Affrica ym Mhrifysgol Obuda (Budapest, Hwngari), ac yn arbenigwr yn y Ganolfan Ymchwil Rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Warsaw (Gwlad Pwyl). Mae hefyd yn gweithio fel Dadansoddwr ac Arbenigwr Pwnc (ar y Sahel a Gorllewin Affrica) ynn Ngweinyddiaeth Amddiffyn Gwlad Pwyl. Graddiodd gyda BA mewn Astudiaethau Affricanaidd (Prifysgol Warsaw), ac MA gydag anrhydedd mewn Astudiaethau Heddwch a Datblygu (Prifysgol Ewropeaidd Tischner, Cracow, Gwlad Pwyl). Yn ystod ei astudiaethau cyfrannodd at waith ysgolheigaidd yn Institut National des Langues et Civilisations Orientales (Paris, 2009). Yn 2011 dechreuodd interniaeth ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil ar gyfer Heddwch ac Urddas Dynol yn yr Academi Athroniaeth Ryngwladol yn Nhywysogaeth Liechtenstein yn ymchwilio i rôl theori Gwrthdaro Gwareiddiadau wrth esbonio'r meddwl Islamaidd radical a therfysgaeth. Ar ôl blwyddyn bwlch, lle bu'n gweithio fel Arbenigwr TG Iau, dechreuodd astudiaethau doethurol yn 2012 yn y Brifysgol Amddiffyn Genedlaethol (Warsaw, Gwlad Pwyl) lle enillodd PhD yn 2016. Roedd ei draethawd doethurol yn ymwneud â therfysgaeth a throseddau cyfundrefnol yn y Sahel gydag astudiaeth achos o ogledd Mali (Adrar des Ifoghas) wedi'i ymchwilio trwy brism theori'r Smotyn Du Byd-eang. Ar yr un pryd bu'n darlithio cyrsiau fel Cysylltiadau Rhyngwladol, Diogelwch Gwladol, a Gwleidyddiaeth Affrica. Yn ystod ei astudiaethau PhD cymerodd ran mewn ysgolheictod ac ymweliadau ymchwil ag Academi Filwrol Twrci (Ankara, Twrci), Coleg Rhyfel Llynges yr Unol Daleithiau (New Port, Rhode Island), Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Astudiaethau Diogelwch George C. Marshall, cynhaliodd dri chwrs proffesiynol yng Nghanolfan Ragoriaeth NATO - Amddiffyn yn erbyn Terfysgaeth, a chymerodd ran mewn ymweliadau ymchwil maes yn Irac (2014, 2015) a Mali (2015). Ar ôl cwblhau ei PhD yn 2016, daeth yn uwch ddarlithydd mewn Astudiaethau Diogelwch ym Mhrifysgol Astudiaethau Rhyfel (Warsaw, Gwlad Pwyl), gyda phynciau y bu’n darlithio arnynt yn cynnwys: Diogelwch Rhyngwladol, Terfysgaeth ac Eithafiaeth Dreisgar, a Rhyfela Afreolaidd. Cymerodd ran mewn ymchwil maes yn y Balcanau gyda KFOR (Kosovo) ac EUFOR (Bosnia a Herzegovina), a bu’n rhan o ysgoloriaeth Rhyfela Gwleidyddol yng Ngholeg Fu Hsing Kang (Taipei, Taiwan). Dilynodd hyfforddiant fel swyddog hefyd yn y Brifysgol Technoleg Filwrol a graddiodd o Academi Diplomyddiaeth Ewrop. Mae wedi cyflwyno mewn digwyddiadau ynghylch rhyfela afreolaidd a hybrid wedi’u trefnu gan Rwydwaith Jean Monnet ar Wrthderfysgaeth yr UE (EUCTER, 2021) a gan Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Astudiaethau Diogelwch George C. Marshall (2016-2023) ac wedi cymryd rhan yng nghynadleddau Cymdeithas Ryngwladol y Gwyddorau Milwrol (2013-2022). (EUCTER, 2021) a Chanolfan Ewropeaidd ar gyfer Astudiaethau Diogelwch George C. Marshall (2016-2023). Bu hefyd yn rhan o gynadleddau gafodd eu cynnal gan Gymdeithas Ryngwladol y Gwyddorau Milwrol (2013-2022).
Mae Dr Cyprian Kozera yn arbenigo mewn Rhyfela Afreolaidd, Terfysgaeth, a Rhyfela Dirprwyol yn Affrica Is-Sahara. Yn ddiweddar mae wedi cyd-olygu a chyd-awduro antholeg o'r enw Proxy Wars from a Global Perspective. Non-State Actors and Armed Conflicts (Bloomsbury, Llundain 2023). Ysgrifennodd benodau: "Towards Conceptualization of Contemporary Proxy Warfare" (cyd-awdur gyda Paweł Bernat) a "Proxy Warfare in Mali: New Rendition of Divide et Impera and Cautious French Saviorism". Yn flaenorol, mae hefyd wedi cyhoeddi pennod o'r enw "Building Sandcastles in the Desert? MINURSO Military Component: Tasks, Duties, and Their Fulfillment” (cyd-awdur gyda Błażej Popławski) yn: Conflict and Peace in Western Sahara The Role of the UN's Peacekeeping Mission (MINURSO) wedi'i olygu gan: János Besenyő, R. Joseph Huddleston, Yahia H. Zoubir. Routledge, Llundain 2022; a’r erthyglau canlynol yn 2021: "Russia's Global Game of Proxies", Per Concordiam - Journal of European Security and Defense Issues, 11(4): 54-59; erthygl "Non-State Actors as Security Providers: Dwekh Nawsha – Sectarian Militia, Counter-Terrorism Partner, or Proxy?", Safety and Defense, 7(3):56-70; cyd-awdur gydag Ömer Faruk Cantenar (2021) “Fighting ISIS in Syria: Operation Euphrates Shield and the lessons learned from the al-Bab Battle”, Small Wars & Insurgencies. Yn 2020, roedd yn gyd-olygydd Rhifyn Arbennig o’r Security and Defence Quarterly ar Luoedd Dirprwyol mewn Rhyfela Modern, yn gyd-awdur (gyda Paweł Bernat, Cüneyt Gürer, Błażej Popławski, Mehmet Alper Sözer) yr erthygl: "Game of Proxies – Towards a new model of warfare: Experiences from the CAR, Libya, Mali, Syria, and Ukraine", Security and Defence Quarterly, 2020; 31(4): 77–97; ac yn awdur "Fitness OSINT: Identifying and tracking military and security personnel with fitness applications for intelligence gathering purposes", Security and Defence Quarterly, 2020; 32(5): 41–52. Y gwaith o’i eiddo a ddyfynnir amlaf yw erthygl o'r enw "Military Use of Unmanned Aerial Vehicles – A Historical Study", Safety & Defense 2018, 4(1):17-21.
Mae Dr Cyprian Kozera yn bwriadu ffocysu ei ymchwil yn y dyfodol ar alluoedd cynyddol actorion anwladwriaethol ym mharth y gofod. Bydd democrateiddio technoleg y gofod, ynghyd â chynnydd Deallusrwydd Artiffisial, yn rhoi galluoedd digynsail i actorion anwladwriaethol, sefydliadau terfysgol a lluoedd dirprwyol yn y dyfodol agos, gan waethygu bygythiadau a heriau rhyfela hybrid ymhellach. Gyda'i erthygl ddiweddaraf o'r enw " Space terrorism: a historical study " (wedi’i hysgrifennu ar y cyd â Paweł Bernat ac yn disgwyl ei chyhoeddi), mae Dr Kozera yn gosod y seiliau sylfaen ar gyfer ymchwil bellach ganddo i ddefnydd actorion anwladwriaethol o asedau’r gofod, a'r bygythiad y maent yn ei gynrychioli i asedau a gosodiadau yn y gofod.
Mae Dr Oludolapo (Dolapo) Fakuade yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Derby ac mae hefyd wedi gweithio ym maes ymchwil, addysgu a gwasanaethau diogelwch dros y degawd diwethaf. Bu Dolapo yn Athro Cynorthwyol yn Academi Rabdan (RA); sefydliad uwch ddiogelwch ar gyfer yr heddlu, y fyddin ac endidau llywodraethol eraill yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Cyn ymuno ag RA, roedd yn Gyfarwyddwr am gyfnod byr ar gangen Seland Newydd o CIFAL, Prifysgol Newcastle, Awstralia. Mae CIFAL yn sefydliad cyswllt â Sefydliad Hyfforddiant ac Ymchwil y Cenhedloedd Unedig (UNITAR). Yn ystod y degawd diwethaf, bu Dr Dolapo yn gweithio ar wahanol brosiectau rheoli argyfwng, ymateb i argyfyngau, gwytnwch yn wyneb trychinebau, a phrosiectau â ffocws ar y gymuned mewn gwahanol wledydd yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia. Bu’n gweithio mewn cydweithrediad â'r Gwasanaeth Tân, yr Heddlu, y Groes Goch, Amddiffyn Sifil, endidau Llywodraethol (Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol) yn y DU, Awstralia a Seland Newydd yn ogystal ag yn rhyngwladol trwy UNESCO, UNICEF ac UNITAR.
Ers 2013, bu Dolapo yn ymgynghorydd, yn gymrawd ymchwil, yn ddirprwy neu’n athro gwadd mewn 8 o brifysgolion yn Ewrop, UDA ac Awstralasia gan hyrwyddo dysgu ac ymchwil argyfyngau, diogelwch, trychinebau, gwytnwch a gwaith dyngarol ag effeithiau lleol a byd-eang. O 2014 tan ddiwedd y prosiect, bu'n cynghori ar ymchwil wedi’i ariannu gan yr ESRC yn archwilio ymateb y cyhoedd i seilwaith critigol a fethodd yn y DU, UDA, Seland Newydd, Japan a'r Almaen, er mwyn cyfrannu at lunio polisïau.
Rhwng 2014 a 2017 bu'n gweithio ym Mhrifysgol Canterbury (UC) Seland Newydd yn cefnogi ac yn arwain rhaglen datblygu capasiti DRM ar gyfer uwch swyddogion llywodraethau gwledydd ASEAN. Fel oedd yn ofynnol ar y prosiect, a ariannwyd gan Weinyddiaeth Materion Tramor a Masnach Seland Newydd (MFAT), dyluniodd gyfres o gyrsiau gweithredol a phreswyl ar ymateb i drychinebau, yn ogystal â hwyluso ac addysgu ar gyrsiau eraill oedd yn rhan o’r rhaglen. Yn 2016, pleidleisiodd hyfforddeion Canolfan Cymorth Dyngarol ASEAN (Canolfan AHA) dros Dolapo i fod yn un o hwyluswyr gorau'r rhaglen ACE 6 mis a addysgwyd ac a gyflwynwyd gan wahanol sefydliadau rhyngwladol gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Iechyd y Byd, y Groes Goch ac ati.
Roedd rhan o'i rôl yn y Ganolfan Risg, Gwydnwch ac Adnewyddu yn UC hefyd yn cynnwys arwain y bartneriaeth rhwng UC a Lluoedd Amddiffyn Sifil Singapore (SCDF). Yn ystod y cyfnod hwn, cyd-gynlluniodd y ‘Leadership Programme in Disaster Management’ (LPDM) gyda SCDF a dysgodd yn Singapore. Yn ystod y cyfnod hwn (2013 – 2017), derbyniodd ei gradd doethuriaeth gan UC.
Mae wedi gwasanaethu ar amrywiol bwyllgorau arbenigol ar ddiogelwch yng Nghabinet Prif Weinidog Seland Newydd, ac mae wedi bod yn llwyddiannus wrth gyfnewid gwybodaeth o fewn gwahanol heddluoedd a gweinidogaethau ledled y byd. Mae hi wedi arwain ymarfer ar gyfer tîm arwain heddlu (2017), wedi llunio strategaeth ymateb rhyng-asiantaethol ar gyfer tîm patrôl cymdogaeth, wedi cefnogi heddlu rhanbarthol (sirol) i ddatblygu digwyddiadau a chynlluniau strategol (2018) yn Seland Newydd. Yn 2018, cafodd ei gwahodd i Sefydliad Rheoli Heddlu Awstralia (AIPM) i gyflwyno dull 'atal yn gyntaf' Seland Newydd a'i effaith ryngwladol.
Yn 2019 fe'i gwahoddwyd i ymuno â thîm ymchwil yn yr Almaen i archwilio deinameg 'Migration and safety in the city'. Nod y prosiect ymchwil oedd adnabod heriau diogelwch i'r heddlu, yn gysylltiedig â phresenoldeb ymfudwyr. Mae cydweithrediad parhaus gyda Phrifysgol Gwyddoniaeth Gymhwysol Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr Almaen i bennu strategaethau ar gyfer rheoli gweithgareddau goruchafiaeth wen a hwliganiaeth mewn amgylcheddau adeiledig. Ers 2020 mae hi wedi bod yn ymchwilio, addysgu a rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu yn UDA, yr Almaen, Seland Newydd a’r Emiradau Arabaidd Unedig ar rôl yr heddlu wrth ymateb i'r annisgwyl, gwrthdroi terfysgaeth a thrais, radicaleiddio digidol, plismona mewn pandemig, a radicaleiddio digidol y dde eithafol.
Ar yr un pryd, bu trawsbeillio rhwng ymchwil diogelwch Dr Fakuade a'i gwaith (ymchwil, addysgu a hyfforddi) gydag adrannau'r heddlu mewn gwahanol wledydd. Mae cyfle i addasu ei harbenigedd rheoli argyfwng, defnyddio gwersi o faterion plismona rhyngwladol a defnyddio ei rhwydweithiau rhyngwladol ar gyfer heddluoedd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Yn dilyn hynny, gallai ei dull 'pracademaidd' ddatblygu i fod yn ddyluniad cwricwlwm, gyda datblygu rhaglenni gweithredol a pholisi ac ymarfer yn llywio ymchwil a gwaith ymgynghori. Mae Dr Fakuade wedi meithrin cysylltiadau cryf a dealltwriaeth drylwyr o sawl maes heddlu sy'n dod i’r wyneb – e.e. radicaleiddio, arwain yr heddlu, a chysylltiadau â'r cyhoedd. Bydd ei phrofiad yn sicr yn ddefnyddiol i ICPS wrth gynnal prosiectau ymchwil annibynnol ac arloesol mewn meysydd diogelwch rhyngwladol sy'n gorgyffwrdd â phlismona. Mae hi hefyd yn frwdfrydig iawn dros gyfrannu at waith goruchwylio ac addysgu.
Mae Dr Eldad Ben Aharon yn ymchwilydd cyswllt yn Sefydliad Ymchwil Heddwch Frankfurt (PRIF), ac yn arbenigwr ar y Dwyrain Canol a Hil-laddiad, yn enwedig fel y'i hastudir trwy theori diogeleddu. Mae gan ei waith yn y maes gysylltiad agos â'r Athro Christian Kaunert. Ymhlith diddordebau ymchwil presennol Dr Ben Aharon mae 'Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth' y Rhyfel Oer, prosesau diogeleddu mewn cyfundrefnau awdurdodol yn y Dwyrain Canol, yn enwedig yn Iran a Thwrci, sectoreiddio gwrthdaro Nagorno-Karabakh a gwerth ysgolheictod diogeleddu i ddadansoddi astudiaethau achos hanesyddol.
Mae ei waith yn archwilio sut mae cyd-destunau hanesyddol yn cyfrannu at ddadleuon cyfoes ac i'r gwrthwyneb, ym meysydd cof, diogelwch a gwrthderfysgaeth. Mae ymchwil Dr Ben Aharon wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw fel Intelligence and National Security, Studies in Conflict & Terrorism, Oral History Review, a Cold War History ymhlith eraill. Ar ben hynny, mae ei waith hefyd yn cynnwys dwy bennod ar gyfer cyfrolau pwysig - un ar gwadu hil-laddiad yn yr 21ain ganrif ac un ar Gyfiawnder Trosiannol. Mae monograff sydd ar y gweill, o'r enw Israeli-Turkish Relations at the End of the Cold War: The Geopolitics of Denying the Armenian Genocide, ar hyn o bryd o dan gontract gyda Gwasg Prifysgol Caeredin ac wedi ei dderbyn yn ddiamod i'w gyhoeddi. Mae'n cynnig ail-archwiliad beirniadol o berthynas Israel â Thwrci yn ystod degawdau olaf y Rhyfel Oer. Mae'r llyfr yn mynd â'r darllenydd y tu ôl i lenni swyddfeydd tramor Israel, Twrci a'r Unol Daleithiau yn yr 1980au i ail-archwilio sut y gwnaeth yr actorion gwladwriaethol hyn leihau atgofion am hil-laddiad Armenia yn strategol trwy ddiffinio atgofion am yr Holocost mewn Cysylltiadau Rhyngwladol.
Ar ôl ennill ei PhD o Royal Holloway, Prifysgol Llundain yn 2019, roedd Dr Ben Aharon yn gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol Minerva Stiftung rhwng 2020 a 2022, ac roedd yn gymrawd ac Ymchwilydd Cyswllt yn Sefydliad Ymchwil Heddwch Frankfurt. Gwnaeth yr amgylchedd hwn ei alluogi i ddyfnhau ei aeddfedrwydd deallusol a gwella ei sgiliau fel ysgolhaig ifanc: derbyniodd ac ysgrifennodd adolygiadau trylwyr gan ac i gymheiriaid, cafodd brofiad o gyd-ysgrifennu, datblygu syniadau gyda chydweithwyr hŷn, a chyflwyno papurau mewn cynadleddau rhyngwladol. Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddodd hefyd dros 20 o ddarnau barn byrrach ar gyfer y cyhoedd ehangach, gan gysylltu themâu'r prosiect â materion cyfoes, a ymddangos yn Newsweek, The Conversation, The Jerusalem Post, Haaretz, The National Interest, Times of Israel, ac eraill.
Mae addysgu hefyd yn elfen graidd o broffil academaidd Dr Ben Aharon a'i ddatblygiad deallusol. Cyn cyrraedd yr Iseldiroedd ar gyfer ei astudiaethau MA yn 2012, bu Dr Ben Aharon yn addysgu materion dinesig a hanes mewn ysgolion uwchradd yn Israel (2009–2012). Ers hynny, mae wedi bod yn ymwneud ag addysgu mewn prifysgolion trwy gydol ei astudiaethau doethurol (2015–2019) ac yn y tair blynedd diwethaf fel ysgolhaig ôl-ddoethurol (2019–2022). Bu Dr Ben Aharon yn gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Leiden ac yn Rijksuniversiteit Groningen. Helpodd y profiadau addysgu hyn ef i lywio ei ddiddordeb ymchwil newydd mewn astudiaethau cof a diogelwch beirniadol. Agorodd addysgu lwybrau newydd ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, yn eu plith rôl Israel yn y Dwyrain Canol yn ystod y Rhyfel Oer ac yng Ngwrthdaro 2020 Nagorno-Karabakh.
Mae gan Dr Akcay brofiad sylweddol ym maes materion tramor Twrci. Mae hyn yn cynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn (gwasanaeth milwrol gorfodol), Uned Materion yr UE a Chydweithrediad Trawsffiniol Asiantaeth Cydweithredu a Datblygu Rhyngwladol Prif Weinidogaeth Twrci (TIKA), Gwerthusiad Allanol o brosiectau wedi’u hariannu gan yr UE yn yr Uned Cyllid a Chontractau Canolog, a Swyddfa Breifat a Swyddfa Ryngwladol y Weinyddiaeth Gartref. Yn ystod ei brofiad unigryw fel gwas sifil a diplomydd, cafodd gyfle i gymryd rhan mewn llawer o gyfarfodydd dwyochrog/amlochrog swyddogol gyda swyddogion eraill ynghylch cymorth tramor, diogelwch a materion diplomyddol. Yn ystod y cyfnod hwn, dilynodd Dr Akcay nifer o raglenni hyfforddi/interniaethau canol-broffesiynol fel Gohebu Swyddogol a Sgiliau Negodi (mewn cydweithrediad â'r Cyngor Prydeinig); Monitro, Gwerthuso a Datrys Gwrthdaro (Active Learning Centre-Scotland); Diogelwch a Chymuned (Pencadlys Heddlu Strathclyde); Llywodraethu a’r Sector Gwirfoddol (SCVO - Cyngor Mudiadau Gwirfoddol yr Alban).
Mae gan Dr Akcay arbenigedd sylweddol yn y byd academaidd hefyd a bu'n gweithio fel Darlithydd Rhagorol, Dirprwy Bennaeth Adran, ac Is-Ddeon ym Mhrifysgol Turgut Ozal; darlithydd gwadd Erasmus+ yn y Ffindir, Gwlad Pwyl a Slofacia; Deon Cyswllt ym Mhrifysgol Kigali (Rwanda); Academydd Gwadd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth / Prifysgol Caerdydd, ac yn y Swyddfa Ryngwladol / Prifysgol Fetropolitan Caerdydd lle enillodd statws Gymrodoriaeth gyda’r Academi Addysg Uwch mewn cydnabyddiaeth o’i gyflawniadau yn erbyn Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU ar gyfer cymorth addysgu a dysgu mewn addysg uwch. Mae ei aelodaeth/cysylltiadau â sefydliadau rhyngwladol niferus yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y Cyngor Academaidd ar System y Cenhedloedd Unedig (Aelod), Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion (Aelod), FCO (Cyn-fyfyrwyr Chevening), Journal of Human Security (Aelod o'r Bwrdd Golygyddol), Chatham House (Aelod Arsylwi), y Gymdeithas ar gyfer Astudiaethau Libya (Aelod), y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol-DU (Aelod), a'r Cenhedloedd Unedig (Gwirfoddolwr Ar-lein).
Mae Dr Akcay wedi cyhoeddi 12 erthygl mewn cyfnodolion wedi’u hadolygu gan gymheiriaid; yn ogystal â 3 pennod llyfr, 3 llyfr a gyd-olygwyd, ac mae ei draethawd PhD wedi'i gyhoeddi ar ffurf llyfr. Fel Prif Ymchwilydd ac fel Cynghorydd, dyfarnwyd 2 grant ymchwil iddo. Ar ôl gwasanaethu fel Gwerthuswr Allanol ac Aseswr Annibynnol ar gyfer prosiectau ymchwil amlochrog wedi’u hariannu gan yr UE, ac ar y cyd â’r UE, mae gan Dr Akcay bersbectif rhagorol wrth ysgrifennu a gwerthuso cynigion ymchwil. Gan ei fod bellach yn drafftio ceisiadau i'r cronfeydd ymchwil yn gyffredinol a chynnig penodol i'r Academi Brydeinig o dan gyfarwyddyd, mae’n siŵr y bydd mwy o opsiynau i gydweithio ar wneud ceisiadau cyllido a chyhoeddi ar y cyd. Mae Dr Akcay wedi gwasanaethu fel golygydd cylchgrawn academaidd ei gyfadran ac ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel Aelod o Fwrdd Golygyddol y Journal of Human Security, felly y disgwyl yw y bydd yn cyfrannu’n olygyddol at waith y ganolfan. Ar sail ei rolau gweinyddol yn y cyfadrannau y mae wedi’u gwasanaethu a'i rolau cynghori ym Model y Cenhedloedd Unedig, a Chlwb Unedig Affrica, gall Dr Akcay roi adborth i'n cwricwlwm, a chynorthwyo ein cydweithwyr i fentora ein myfyrwyr rhyngwladol ac i oruchwylio traethodau meistr a PhD yn allanol.
Astudiodd Dr Engin Akcay Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol (BA) ym Mhrifysgol Istanbul (ymhlith y 1% o fyfyrwyr gorau); Cysylltiadau Rhyngwladol (MA) ym Mhrifysgol Fatih / Istanbul (ysgoloriaeth lawn); Cysylltiadau Llywodraeth â Chyrff anllywodraethol a Chymdeithas Sifil (Ôl-radd) ym Mhrifysgol Glasgow (Cymrodoriaeth Chevening), a Rheoli Diogelwch Rhyngwladol (PhD) yn Academi Heddlu Twrci (gradd Anrhydedd Uchel). Yn ddiweddar, mae wedi ennill Diploma Lefel 7 mewn Cyfieithu (SAES-TR) yn y CIOL - Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion (gyda gradd teilyngdod yn y Gyfraith). Fel cyfieithydd ardystiedig, mae Dr Akcay hefyd wedi bod yn darparu gwasanaethau cyfieithu, asesu a phrawfddarllen i sefydliadau cyhoeddus yn cynnwys Cynghorau/Gwasanaethau Cymdeithasol, Llysoedd, Ysbytai, Swyddfeydd y Gyfraith, yr Heddlu, ac ysgolion. Ymhlith asiantaethau iaith arloesol, mae Dr Akcay yn ieithydd cofrestredig yng Ngwasanaeth Dehongli a Chyfieithu WITS-Cymru ar gyfer y Sector Cyhoeddus yn cyfieithu rhwng Saesneg a Thwrceg. Mae Dr Akcay hefyd yn gyfarwydd ag Arabeg, ieithoedd Twrcaidd (Canolbarth Asia), ac mae ganddo wybodaeth sylfaenol o Kinya Rwanda a’r Gymraeg. Yn amlwg, mae ei sgiliau ieithyddol yn ased ychwanegol, sy’n ei alluogi i wneud gwahaniaeth go iawn wrth gyfathrebu â myfyrwyr rhyngwladol, ynghyd â chysylltu â grwpiau targed a sefydliadau. Gall hyn wasanaethu ymdrechion y brifysgol yn gyffredinol i ryngwladoli.
Mae'r Athro Gaynor Johnson yn cydweithio ar ymchwilio gyda’r Athro Christian Kaunert ac mae’n Athro Hŷn ym Mhrifysgol Caint. mae wedi bod yn hanesydd diplomyddiaeth ryngwladol a thrawswladol proffesiynol ers dros bum mlynedd ar hugain, yn gweithio ar faterion diogelwch a diplomyddiaeth ryngwladol. Ar hyn o bryd mae'n Athro Hanes Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caint, Caergaint, y DU ac wedi bod yn y swydd honno ers mis Medi 2013. Mae ganddi hanes cadarn o ennill grantiau a chyhoeddi ym maes hanes polisi tramor a diogelwch Prydain yr ugeinfed ganrif, gyda ffocws arbennig ar gysylltiadau â phob un o brif wladwriaethau gorllewin Ewrop, yn ogystal â'r Almaen a Rwsia/yr Undeb Sofietaidd. Mae hefyd wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes ac ymarfer diplomyddiaeth yn yr oes fodern, ac ar hyn o bryd mae'n rhan o nifer o brosiectau uchelgeisiol sydd wedi denu cyllid sylweddol gan y cyngor ymchwil, ac sy'n herio methodolegau cyfredol mewn hanes trawswladol. Yn benodol, y defnydd o prosopograffeg i astudio hanes rhyngwladol a thrawswladol. Mae ganddi hanes rhagorol o ennill grantiau ac ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu cais pellach i'r AHRC i hwyluso prosiect arall mewn hanes trawswladol. Mae hi'n ysgolhaig o'r radd flaenaf gyda record gyhoeddi ragorol, ac mae’n cael ei chydnabod fel awdurdod byd-eang blaenllaw ar bolisi tramor a strategol Prydain o ran Ewrop a'r Unol Daleithiau, hanes gwleidyddol Prydain, diplomyddiaeth llysgenhadol a hanes a gweithrediad y Swyddfa Dramor. Mae hi wedi ysgrifennu a golygu nifer fawr o lyfrau ar hanes rhyngwladol yr ugeinfed ganrif, yn ogystal â nifer sylweddol o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodai mewn llyfrau wedi'u golygu.
Graddiodd aseswr allanol ei gwaith ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil blaenorol ar 3*/4*. Mae'n goruchwylio myfyrwyr PhD ar hyn o bryd ac mae ganddi hanes cryf mewn arweinyddiaeth academaidd. Mae ganddi hanes cryf hefyd o drefnu cynadleddau sydd wedi cynnwys paneli rhyngwladol o siaradwyr a chynulleidfaoedd rhyngwladol. Mae trafodion y digwyddiadau hyn i gyd wedi'u cyhoeddi. Mae hi'n athro prifysgol brofiadol iawn ac mae wedi dysgu ystod eang o lefelau gallu. Mae ganddi broffil proffesiynol allanol amlwg, gan gynnwys: (1) Aelod o Bwyllgor Gwaith Grŵp Hanes Rhyngwladol Prydain; (2) Cyfres Seminarau Hanes Rhyngwladol Cynullydd Sefydliad Ymchwil Hanesyddol Prifysgol Llundain; (3) Golygydd Cyffredinol y Gyfres 'General Affairs' ar gyfer y Dogfennau Prydeinig ar Faterion Tramor, The Foreign Office Confidential Print, 1951-ymlaen, a gyhoeddir yn flynyddol gan University Publications of America; (4) Cymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol; (5) Aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain; (5) Aelod o Fyrddau Golygyddol Central and Eastern European Review, Diplomacy and Statecraft, Contemporary British History a'r Journal of Transatlantic Studies; (6) Cyn-Ysgrifennydd y Gymdeithas Astudiaethau Trawsatlantig; (7) aelod o'r rheithgor Prydeinig ar gyfer Gwobr Lionel Gelber 2012 a 2013; (8) Bwrdd cynghori academaidd y Ganolfan Archifau, Coleg Churchill, Caergrawnt.
Yr Athro Gaynor Johnson hefyd yw golygydd newydd y cyfnodolyn dylanwadol Diplomacy & Statecraft. Wedi'i gyhoeddi gan Taylor a Francis, mae'n un o gyfnodolion allweddol y maes hanes rhyngwladol. Mae golygyddiaeth yr Athro Johnson yn cynrychioli cydnabyddiaeth bwysig a haeddiannol o'i chyflawniadau fel ymchwilydd blaenllaw yn ei maes. Sefydlwyd Diplomacy & Statecraft ym 1989 fel cyfrwng i ddadansoddi hanes diplomyddiaeth ac archwilio gwladweinyddiaeth gyfoes (yr hyn mae’r rhifyn cyntaf yn ei alw’n "weithgaredd proffesiynol") gyda ffocws ar ddiplomyddiaeth economaidd a dadansoddi polisi tramor. Ers hynny, mae'r cylchgrawn wedi cyhoeddi nifer o erthyglau dylanwadol ar wahanol bynciau, gan gynnwys chwaraeon mewn diplomyddiaeth, y defnyddio’r cyfryngau at ddibenion diplomyddiaeth a digwyddiadau hanesyddol allweddol ym maes diplomyddiaeth. Mae'i golygyddiaeth, sydd fel arfer yn para 5 mlynedd, hefyd yn adlewyrchu cylch cyfan yn hanes proffesiynol yr Athro Johnson, gan i’w herthygl gyhoeddedig gyntaf 'Curzon, Lloyd George and the control of British foreign policy, 1919–22: A reassessment' ymddangos yn y cyfnodolyn dros 20 mlynedd yn ôl – rhywbeth sy’n rhoi cryn bleser iddi. Wrth edrych tua’r dyfodol, mae'n edrych ymlaen yn eiddgar at gryfhau'r cysylltiadau rhwng hanes ac ymarfer diplomyddiaeth drwy ailgyflwyno erthyglau gan gyn-ddiplomyddion a diplomyddion presennol.
Mae Dr. Ismail Suardi Wekke yn cydweithio ar ymchwil gyda'r Athro Christian Kaunert o Brifysgol De Cymru. Mae Dr Ismail Suardi Wekke yn ysgolhaig ac addysgwr o Indonesia. Fe'i ganed yn Tangkuli, Camba, pentref tua 89 cilomedr o ddinas Makassar yn Ne Sulawesi. Ar ôl cwblhau ei addysg gynradd yn ei bentref, parhaodd â'i astudiaethau yn Makassar, a elwid bryd hynny yn Ujung Pandang1. Mae'n Gadeirydd Consortiwm Prifysgolion Indonesia ar Astudiaethau Crefyddol Cymdeithasol (IUCSRS) ers 2022, yn ogystal â Phwyllgor Gwyddonol, Symudedd Academaidd De-ddwyrain Asia (SEAAM). Mae hefyd yn Arwain Grŵp Ymchwil Dde-ddwyrain Asia, cydweithrediad rhwng prifysgolion Indonesia ac Universiti Teknikal Malaysia Melaka (UTeM). Mae Dr Ismail Suardi Wekke yn Athro ac ymchwilydd sy'n astudio addysg, addysgeg a datblygiad cwricwlwm Islamaidd. Mae wedi cyhoeddi llawer o erthyglau a phenodau mewn cyfnodolion a llyfrau academaidd. Ar hyn o bryd mae'n academydd cyswllt gydag Institut Agama Islam Negeri Sorong ac Universiti Kebangsaan Malaysia.
Mae Dr Joana de Deus Pereira yn cydweithio a ymchwil gyda'r Athro Christian Kaunert. Ymunodd â'r ICPS yn wreiddiol ym mis Tachwedd 2018 fel Uwch Gymrawd Ymchwil Marie Skłodowska-Curie ym Mhrifysgol De Cymru, dan oruchwyliaeth yr Athro Christian Kaunert. Ffocws ei hymchwil ar hyn o bryd yw rôl darparwyr diogelwch preifat yn rheoli'r hyn sy’n cael ei alw’n argyfwng ymfudo, ei effaith ar Agenda Ewrop ar gyfer Ymfudo, a sut mae diogelwch preifat a'r diwydiant amddiffyn yn siapio polisi rheoli ymfudo Ewropeaidd y tu mewn a'r tu allan i ffiniau'r UE. Mae gan Joana PhD mewn Astudiaethau Diogelwch o Goleg y Brenin Llundain - Adran Astudiaethau Rhyfel ac Astudiaethau Amddiffyn, gyda thraethawd ymchwil ar rôl contractwyr diogelwch preifat yn y sector olew yn Angola a Nigeria. Tra yng Ngholeg y Brenin, cyd-sefydlodd hefyd y Grŵp Ymchwil Milwrol a Diogelwch Preifat, a oedd â’r nod o gynyddu dealltwriaeth o PMSCau a hyrwyddo dull amlddisgyblaethol o astudio PMSCau.
Yn flaenorol, mae Joana wedi gweithio fel ymgynghorydd diogelwch annibynnol yn cynnal dadansoddiadau risg geowleidyddol a gwladol ar gyfer sawl cwmni ymgynghori, yn cynhyrchu dadansoddiadau blaengar o ddigwyddiadau gwleidyddol ac economaidd a allai effeithio ar y sector diogelwch - gyda ffocws ar ddadansoddi risgiau cudd-wybodaeth, diogelwch preifat, dadansoddi polisi a dylunio rhaglenni diogelwch wedi'u teilwra yn ôl gwahanol lefelau bygythiad, a’u rhoi ar waith. Cyn hynny, dechreuodd ei gyrfa fel gwas sifil ynn Ngweinyddiaeth Gyfiawnder Portiwgal, lle roedd yn rhan o'r tîm ymchwil y tu ôl i ddatblygu a chyflwyno Cynlluniau Datrys Anghydfodau Amgen yn y wlad, a bu’n gyd-awdur ar gyhoeddiadau cynharaf y wlad ar ynadon heddwch. Mae Dr. Joana de Deus Pereira wedi'i henwebu i fod yn Gymrawd Gwadd yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch, Prifysgol De Cymru (PDC) yng ngwanwyn 2024. Yn ystod ei chysylltiad proffesiynol â PDC mae wedi ymwneud yn sylweddol ag addysgu ac ymchwilio, yn enwedig ym meysydd diogelwch rhyngwladol a rheoli risg.
Mae Dr. de Deus Pereira wedi arwain modiwlau ar gyfer rhaglenni MSc, gyda ffocws ar gymhlethdodau masnachu pobl a chyffuriau, troseddau difrifol a chyfundrefnol, a rheoli a dadansoddi risg. Yn ogystal, mae ei rôl fel arweinydd modiwl Dulliau Ymchwil yn seiliedig ar Dystiolaeth mae wedi cyfrannu at lunio galluoedd ymchwil gweithwyr proffesiynol plismona a diogelwch y dyfodol.
Y tu hwnt i'w chyfraniadau yn PDC, mae Dr. de Deus Pereira wedi dal sawl swydd bwysig sy'n dangos ei harbenigedd a'i dylanwad yn y maes. Fel Uwch Gymrawd Ymchwil yn RUSI-Europe, arweiniodd hyfforddiant thematig yr UE ar Atal a Gwrthsefyll Eithafiaeth Dreisgar, gan gydlynu â'r Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Radicaleiddio (RAN) a chyfrannu arbenigedd technegol ar wrthderfysgaeth mewn nifer o wahanol gyd-destunau rhyngwladol. Mae hefyd yn Athro Cynorthwyol yn Sciences Po, Ysgol Materion Rhyngwladol Paris, lle mae hi wedi rhannu gwybodaeth am astudiaethau a rheoli ffiniau, gan gyfoethogi dealltwriaeth myfyrwyr o heriau a naratifau esblygol diogelwch ffiniau. Mae gwaith Dr. de Deus Pereira fel Darlithydd yng Nghanolfan Ragoriaeth NATO, Amddiffyn yn Erbyn Terfysgaeth (COE-DAT) yn enghraifft bellach o'i hymrwymiad i wella addysg diogelwch a gwrthderfysgaeth. Yma, rhannodd fewnwelediadau ar groestoriad strategaethau sefydliadau rhyngwladol â diogelwch ffiniau, a bygythiadau dynol, technolegol a thrawswladol yn y maes rheoli ffiniau.
Mae ei rôl fel Gwerthuswr Prosiectau'r UE ar gyfer ANI - Agência Nacional de Inovação yn adlewyrchiad o’i rôl ganolog yn y gwaith o graffu ac arwain prosiectau'r UE, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau diogelwch ac arloesi ehangach. Mae hanes cyhoeddi Dr. de Deus Pereira yn helaeth ac yn amrywiol, yn amrywio o ddarnau’n dadansoddi gwrthderfysgaeth yr UE a dadansoddiadau geowleidyddol, i astudiaethau manwl ar ddeinameg diogelwch yn Affrica Is-Sahara. Mae ei gwaith wedi cyfrannu'n sylweddol at y drafodaeth ar ddiogelwch rhyngwladol, gan gynnig safbwyntiau newydd ar heriau byd-eang dybryd. Yn ei rôl nesaf, bydd Dr. de Deus Pereira yn parhau â'i hymchwil a'i hymgysylltiad â materion diogelwch byd-eang, sy’n cael gwir effaith, a bydd yn tynnu ar ei phrofiad helaeth a'i harbenigedd rhyngddisgyblaethol
Mae Dr. Kobi Michael yn uwch ymchwilydd yn INSS ac yn olygydd " Strategic Assessment". Ymhlith ei brif ddiddordebau ymchwil mae datrys gwrthdaro; strategaeth; diogelwch cenedlaethol; cysylltiadau sifil-milwrol; cysylltiadau cymdeithasol-filwrol; gwladwriaethau sydd wedi methu a gweithrediadau cadw heddwch ac adeiladu gwladwriaethau; a gwrthdaro Israel-Palestina. Byddai Dr Michael yn cryfhau ffocws ymchwil a gweithgaredd ymchwil mewn perthynas â chysylltiadau sifil-milwrol yn Israel a gwladwriaethau democrataidd, gwrthdaro Israel-Palestina, astudiaethau rhanbarthol, astudiaethau strategaeth a diogelwch cenedlaethol yn ogystal ag astudiaethau cudd-wybodaeth. Mae gan Dr Michael gefndir unigryw fel ysgolhaig ac ymarferydd, mae'n gyfarwydd iawn â'r sefydliadau diogelwch a chudd-wybodaeth yn Israel ac mae ganddo brofiad helaeth o ran materion Palestina.
Gwasanaethodd Dr. Michael fel dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol a phennaeth desg Palestina a Gwledydd Cyfagos yn y Weinyddiaeth Materion Strategol (2009-2013) a chyn hynny fel pennaeth Gweithrediadau Palestina a Chadw Heddwch ym Mhencadlys Diogelwch Cenedlaethol Israel (2007). Bu’n aelod cyfadran ym Mhrifysgol Ben Gurion (2008-2011), yn uwch aelod cyfadran ym Mhrifysgol Ariel (2013-2015), ac yn athro gwadd ym Mhrifysgol Northwestern yn Illinois (2006-7) a Phrifysgol Peking yn Beijing (2017).
Mae wedi cyhoeddi'n eang yn ei faes - gan gynnwys 20 o lyfrau a monograffau a dros 100 o erthyglau a phenodau mewn llyfrau - ac mae wedi derbyn sawl gwobr academaidd, yn eu plith, Gwobr Yariv, Gwobr Tshetshik, Gwobr Yitzhak Sadeh, a Gwobr Cymdeithas Gwyddoniaeth Wleidyddol Israel, a ddyfarnwyd am y llyfr gorau yn 2008-9.
Mae Dr Munir Zamir yn ymarferydd, ymchwilydd a chydweithiwr academaidd gyda'r Athro Christian Kaunert. Yn ddiweddar mae wedi cwblhau PhD o Brifysgol De Cymru. Mae'r prosiect hwn a'i ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar rôl cyfathrebu strategol mewn ymdrechion ar-lein i wrthsefyll eithafiaeth yn y gofod ar-lein.
Mae gan Munir MSc mewn Astudiaethau Terfysgaeth o Brifysgol Dwyrain Llundain – Adran y Gyfraith a Throseddeg, gyda thraethawd ymchwil ar gysyniadau radicaleiddio a dadradicaleiddio. Mae gan Munir gefndir helaeth ac effaith uchel fel ymarferydd yn y gofod gwrthderfysgaeth. Mae wedi gweithio ar lefel uwch yn y cyd-destun byd-eang, gan ddarparu hyfforddiant, pecynnau cymorth ac ymyriadau i brif actorion yn y maes. Mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am greu a lleoli rôl 'gwrth-naratifau' fel offeryn pwysig yn y frwydr yn erbyn eithafiaeth ar-lein ac all-lein.
I'r perwyl hwn mae wedi cyflwyno amrywiol ymyriadau a phrosiectau ar gyfer Swyddfa Gartref y DU (swyddfa diogelwch a gwrthderfysgaeth), Swyddfa'r Gymanwlad a Datblygu Tramor (FCDO), Senedd Ewrop, Cyfarwyddwr Cyffredinol HOME yr Undeb Ewropeaidd, Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Radicaleiddio (RAN), NATO, a'r Cenhedloedd Unedig. Mae Dr Zamir yn cael ei ystyried yn arloeswr ym maes gwrth-eithafiaeth ymarferol a gweithredadwy. Mae ganddo gasgliad anghyffredin o sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu ynghyd â phrofiad uniongyrchol o gyflwyno rhai o'r ymyriadau mwyaf risg-uchel i droseddwyr terfysgol radicalaidd euogfarnedig yng nghyd-destun Ewrop a’r Byd. Mae Munir wedi goruchwylio'n bersonol ymyriadau ar gyfer rhai o gynllwynion terfysgol mwyaf difrifol y cyfnod rhwng 2006-2011 yn y DU, yn aml yn cyflwyno ei waith mewn cyd-destunau diogelwch llyn. Mae wedi cynghori swyddfeydd Prif Weinidogion, Swyddfeydd Cabinet a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu ar bolisi a strategaeth gwrthderfysgaeth.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Munir wedi gwneud newid strategol i ganolbwyntio'n fwy uniongyrchol ar rôl, defnyddio a datblygu offer sy'n seiliedig ar gyfathrebu i fynd i'r afael â chynnwys eithafol ar-lein. I'r perwyl hwn mae'n aelod allweddol o'r Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Wrthsefyll Terfysgaeth (GIFCT) ac mae wedi cynhyrchu ymchwil arloesol ar ddylunio a gwerthuso offer ar gyfer GIFCT. Mae Dr Zamir yn awyddus i hyrwyddo ei ddiddordebau ymchwil yn y cyd-destun hwn trwy ddatblygu dysgu a chysyniadau allweddol a all fynd i'r afael â chynyddu deallusrwydd artiffisial yn y frwydr yn erbyn eithafiaeth a phropaganda terfysgol.
Phil Gurski yw Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Borealis Threat and Risk Consulting, wedi'i leoli yn Russell, Ontario, Canada. Bu’n gweithio yng nghymuned cudd-wybodaeth Canada am 32 mlynedd: 17 mlynedd a hanner fel dadansoddwr SIGINT amlieithog gyda Communications Security Establishment (CSE) yn arbenigo yn y Dwyrain Canol a 15 gyda Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Diogelwch Canada (CSIS) fel dadansoddwr strategol gwrthderfysgaeth. Bu’n gweithio hefyd fel cynghorydd strategol yn swyddfa diogelwch cenedlaethol Public Safety Canada o 2013-2015 ac fel cynghorydd strategol i Adran Gwrthderfysgaeth Heddlu Taleithiol Ontario (OPP-PATS) yn 2015. O 2018-2019 roedd yn Gyfarwyddwr Diogelwch i Grŵp SecDev yn Ottawa ac o 2019-2022 roedd yn Gyfarwyddwr y rhaglen diogelwch cenedlaethol yn Sefydliad Datblygu Proffesiynol Prifysgol Ottawa. Mae'n awdur saith llyfr hyd yn hyn.
Mae Dr Pnina Shuker yn gymrawd ymchwil yn y JISS (Sefydliad Strategaeth a Diogelwch Jerwsalem), yn Ddirprwy Olygydd ar gyfer y "Jerusalem Strategic Tribune" – cyfnodolyn lled-academaidd deufisol sy'n cyhoeddi yn yr Unol Daleithiau ac Israel. Mae hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bar Ilan, yn ogystal ag yng Ngholeg Shalem, Canolfan Academaidd y Gyfraith a Gwyddoniaeth, a choleg Milwrol yr IDF. mae wedi dysgu cyrsiau, fel "Israel Politics", "The phenomenon of war throughout history", "Regulation: from theory to practice", "Israeli civil-society" a "psychological warfare in the digital era".
Yn flaenorol, bu’n gweithio fel cydlynydd rhaglenni rhyngwladol yng Nghanolfan Dayan ar gyfer Astudiaethau'r Dwyrain Canol ac Affrica, Prifysgol Tel Aviv. Roedd hi'n gyfrifol am drefnu gweithdy rhyngwladol blynyddol ar gyfer arbenigwyr y Dwyrain Canol o bob cwr o'r byd. O ran Cytundebau Abraham, hi oedd yn gyfrifol am reoli " Israel-Gulf Policy Forum " - rhaglen ar gyfer ymarferwyr ac aelodau academaidd o Israel a Gwladwriaethau’r Gwlff, a hefyd fforwm "Hiwar", gweminar misol, sy'n dod ag arbenigwyr ynghyd i drafod materion y Dwyrain Canol.
Cyn ymuno â Phrifysgol Tel Aviv, roedd yn ymchwilydd gydag INSS (Sefydliad Diogelwch Cenedlaethol) yn y rhaglen ar gyfer diogelwch cenedlaethol a democratiaeth mewn oes o ôl-wirionedd a newyddion ffug. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ysgrifennodd ychydig o erthyglau, ar ei phen ei hun a gyda chydweithwyr, lle disgrifiodd y bygythiad a achosir gan gam-wybodaeth i werthoedd democrataidd a chynnig ffyrdd i'w chanfod a delio â hi’n effeithiol. Trefnodd hefyd ddwy gynhadledd ryngwladol flynyddol a bu’n cyfarwyddo interniaid. Cafodd ei gwahodd yn ddiweddar i wasanaethu fel cynghorydd i Weinyddiaethau Amddiffyn Georgia ac Estonia, ym maes diogelu rhag camwybodaeth. Ar yr un pryd, sefydlodd, ynghyd â chydweithwyr, raglen academaidd newydd ar ryfel a diplomyddiaeth yng Ngholeg Shalem yn Jerwsalem, ar gyfer Bagloriaid.
Mae'r rhaglen eisoes wedi derbyn yr holl awdurdodiadau angenrheidiol gan Gyngor Addysg Uchel Israel ac mae disgwyl iddi agor yn hydref 2023. Mae Dr. Shuker yn rhannu ei gwybodaeth mewn fframweithiau academaidd, ac hefyd gyda Gweinyddiaeth Iechyd Israel, lle mae'n gwasanaethu fel cynghorydd ar gyfer y frwydr yn Covid-19, ac mae hi hefyd yn gwasanaethu fel milwr wrth gefn yn yr is-adran gweithrediadau a ffrynt cartref yr IDF.
Mae'r Athro Sefer Yilmaz yn gydweithiwr ymchwil i'r Athro Christian Kaunert ac yn Uwch Athro ym Mhrifysgol Ankara Prifysgol Yildirim Beyazit. Mae wedi bod yn rheolwr diogelwch proffesiynol yn rôl Llywodraethwr Ardal ers tua phymtheg mlynedd ac yn swyddog cyhoeddus yn rôl Dirprwy Is-ysgrifennydd ers tua chwe blynedd. mae ganddo brofiad ymarferol mewn pynciau fel plismona, atal troseddu, brwydro yn erbyn terfysgaeth, rheoli gwrthdaro, rheoli trychinebau, eithafiaeth, a mudo.
Ar hyn o bryd mae'n Athro yn Ysgol Fusnes Prifysgol Yildirim Beyazit, Ankara, Twrci a bu’n Athro yno ers mis Medi 2019. Mae ganddo cefndir cryf ym meysydd gwrthderfysgaeth, plismona a diogelwch. Mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am bapurau ar ymddygiad sefydliadol, polisi cyhoeddus, a diogelwch rhyngwladol. Bu ei ffocws pennaf ar natur newidiol bygythiadau i'r cyhoedd a ffyrdd o reoli'r bygythiadau hynny'n effeithiol. Mae wedi ysgrifennu a golygu llyfrau ar ddiogelwch a rheoli yn ogystal â nifer fawr o erthyglau mewn cyfnodolion cyfoedion wedi’u hadolygu gan gymheiriaid a phenodau mewn llyfrau wedi'u golygu. Mae ganddo brofiad o oruchwylio myfyrwyr ôl-radd ac mae wedi dysgu sawl darlith er gwaethaf baich trwm ei yrfa broffesiynol. Mae wedi mynychu llawer o gynadleddau a chyfarfodydd ar lefel ryngwladol, er enghraifft Cynhadledd Diogelwch Halifax, a chyhoeddwyd rhai o'r papurau a gafodd eu cyflwyno yn y cynadleddau.
Cyhoeddwyd erthyglau mawr cyntaf yr Athro Yilmaz yn Journal of Organizational Change Management yn 2013 fel "Tailoring Model in Reforming Police Organisations Towards Community Policing" a "The impact of change management on the attitudes of Turkish security managers towards change". Yn 2014, cyhoeddodd "From Community Policing to Policing Homeland Security Shareholders" yn Journal of Police Sciences. Cyhoeddwyd "The Frozen Victory of Great Powers" yn 2019 yn Conflict Studies Quarterly. Cyhoeddwyd "The Greening of Homeland Security" yn 2021 yn Journal of Homeland Security and Emergency Management. " Energy Security Concept: A Discussion in light of 1973 Oil Crisis”, a gyhoeddwyd yn Journal of International Crises and Policy Studies, yw ei astudiaeth fawr arall sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch ar lefel ryngwladol. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf New Homeland Security Management in Combating Terrorism yn 2012. Mae'n olygydd amrywiol lyfrau gwyddonol ar astudiaethau rheoli a threfnu. Ef hefyd oedd golygydd cyfieithu "From me to We" (GARNER, Janine, 2020). Roedd "Has There Been Adequate Level of Survival Anxiety at the UN, Regarding the Security Council Reform?” a gyflwynodd yn yr 2il Gynhadledd Ryngwladol ar Reoli a Gwyddorau Cymdeithasol, yn astudiaeth bwysig ganddo, lle defnyddiodd gysyniadau rheoli ac astudiaethau rhyngwladol ar y cyd. Ymhlith ei bynciau darlithio, roedd rheoli strategol, ymddygiad sefydliadol, damcaniaethau rheoli, a methodolegau ymchwil.
Mae Dr. Robinson Tombari Sibe yn arbenigwr seiberddiogelwch a fforensig digidol sydd gweithio o Nigeria ar hyn o bryd. Ef yw Cyd-sylfaenydd Digital Footprints Nig Limited, prif gwmni ymgynghori Fforensig a Seiberddiogelwch Digidol Nigeria. Yn y rôl hon, arloesodd gyda labordy fforensig digidol o'r radd flaenaf, sydd ar hyn o bryd o dan ei oruchwyliaeth. Mae hefyd yn Ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Gyfrifiadurol, Prifysgol Rivers State. Mae hefyd yn gwasanaethu fel goruchwyliwr a mentor mewn diwydiant ar gyfer myfyrwyr meistr a PhD seiberddiogelwch, ym Mhrifysgol Agored Genedlaethol Nigeria.
Mae gan Sibe PhD mewn Technoleg Gwybodaeth (Arbenigedd Fforensig Ddigidol) a Meistr Gwyddoniaeth mewn Fforensig Ddigidol o Brifysgol Cumberlands, Kentucky, UDA. Mae ganddo hefyd radd Meistr mewn Peirianneg Drydanol/Electronig (Arbenigedd Telathrebu) o Brifysgol Port Harcourt, Nigeria. Mae ganddo radd baglor mewn Peirianneg Gyfrifiadurol o Brifysgol Rivers State, Nigeria. Roedd ei draethawd doethurol yn ymchwilio i'r diffyg adnoddau fforensig yn asiantaeth troseddau ariannol Nigeria. Roedd yr ymchwil hon yn astudiaeth achos o'r Comisiwn Troseddau Economaidd ac Ariannol (EFCC) ac uned Seiberdroseddu Heddlu Nigeria, ac edrychodd arno yn unigryw o safbwynt mewnol. Dewiswyd y traethawd hir hwn fel un o oreuon 2021 ym Mhrifysgol Cumberlands, UDA, ac fe'i cynhwyswyd yng ngweithdy ymchwil y brifysgol. Mae Dr. Sibe hefyd wedi gweithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith, ac ar hyn o bryd mae'n cymryd rhan mewn gwaith hyfforddi.
Mae'n aelod o'r Gymdeithas Ymchwilio i Droseddau Uwch-dechnoleg (HTCIA), ac yn aelod o'r Rhwydwaith Ymchwilwyr Technoleg Gyfrifiadurol (CTIN). Mae ganddo hefyd sawl ardystiad diwydiant mewn fforensig ddigidol a seiberddiogelwch, megis Arholwr Symudol Ardystiedig Cellebrite (CCME), Dadansoddwr Ffisegol Ardystiedig Cellebrite (CCPA), Gweithredwr Ardystiedig Cellebrite (CCO), Hanfodion Symudol Ardystiedig Cellebrite (CMFF), Ymchwilydd Dyfeisiau Symudol (MDI), Gweithredwr Symudol Atafaelu Dyfeisiau Ardystiedig Paraben (DSMO), Gweithredwr P2CO-P2C Ardystiedig Paraben, Gweithiwr Proffesiynol Sicrwydd Seiberddiogelwch Ardystiedig (Crossbow Labs), Ymddiriedolwr Ardystiedig CyberArk, Dadansoddwr Cyfathrebu Symudol a Fforensig Celloedd (SecurCube), ac ati. Mae wedi ei ardystio gan y National White Collar Crime Centre (NW3C), UDA fel Archwilydd ardystiedig Fforensig Troseddau Economaidd (CECFE) ac Arholwr Troseddau Seiber Ardystiedig (3CE).
Mae gan Dr. Sibe werth dau ddegawd o brofiad proffesiynol, mewn gwahanol feysydd Technoleg Gwybodaeth. Ym mlynyddoedd cynnar ei yrfa, bu’n weinyddwr systemau, yn ddadansoddwr systemau, a hefyd yn rhaglennydd cyfrifiadurol. Mae ganddo hefyd brofiad helaeth mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, wedi gweithio ar sawl prosiect, yn ogystal â rhoi cyflwyniadau a chynhyrchu papurau technegol. Mae wedi cymhwyso technolegau geo-ofodol i faes yr amgylchedd, yn ogystal ag mewn telathrebu. Mae'r meysydd hyn yn hanfodol iawn i astudiaethau diogelwch, a bydd y tîm yn elwa o'i brofiad. Cyn cyd-sefydlu Digital Footprints Nig Limited, sefydlodd Dr. Sibe hefyd E-Sense Technologies Ltd yn 2006, cwmni gydag arbenigedd mewn dadansoddi geo-ofodol a datblygu cymwysiadau. Roedd ei yrfa hefyd yn cynnwys cyfnodau byr yn y sector gwasanaethau ariannol, gan weithio i fanc hynaf yn Nigeria, First Bank PLC, ac un o fanciau newydd mwyaf Nigeria, Guaranty Trust Bank. Bydd y profiad a'r cefndir crwn hwn yn ddefnyddiol i'n tîm. Mae'n beiriannydd cyfrifiadurol cofrestredig gan COREN (Cyngor Rheoleiddio Peirianneg yn Nigeria), aelod o Gymdeithas Peirianwyr Nigeria (NSE), a Sefydliad Peirianwyr Electroneg Trydanol (IEEE). Mae hefyd yn aelod o Gyngor Technoleg Forbes.
ASTUDIWCH GYDA NI
Rydym yn croesawu ceisiadau i ddilyn astudiaethau PhD neu Feistr drwy Ymchwil yn un o'n meysydd arbenigedd. Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, ar y campws neu o bell. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol a bod gennych ymchwil ar y gweill eisoes, gallai PhD drwy Bortffolio fod yn addas i chi.
Mae tîm goruchwylio yn cael ei neilltuo i ymchwilwyr ôl-raddedig sydd â'r arbenigedd a'r profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil doethuriaeth, yn eich cynghori ar greu rhwydweithiau a sefydlu eich gyrfa.
Ein Myfyrwyr Ymchwil
Sarah Bradbeer
Troseddoli digartrefedd yng Nghymru.
Romany Carpenter
Strategaeth Rhyfela Hybrid Tsieina: Diplomyddiaeth Trap Dyled.
Courtney Childs
Archwiliad beirniadol o'r defnydd o gwnstabliaid arbennig yr heddlu ym mhandemig COVID-19.
Victoria (Vickey) Clifford
Llais y dioddefwyr : Ymchwiliad i'r cydweithrediad rhwng gwasanaethau cymorth yng Nghymru, yn cwmpasu barn dioddefwyr ac ymarferwyr.
Mike Edwards
Eithafiaeth Treisgar, Rhyfela Hybrid ac Ymatebion Plismona Ewropeaidd yn y Mileniwm newydd.
Menna Evans
Ansicrwydd, Gwrthdaro a Throseddu Dŵr: Rôl Mesurau Addasu at Newid Hinsawdd yn Mesurau Gwydnwch yn Afghanistan.
Teodora Diana Fologea
Y Rhaglen Ysbrydoli Teuluoedd: Gwerthusiad o'r prosiect peilot a gynhaliwyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i gefnogi teuluoedd y mae trais domestig wedi effeithio arnynt ac sydd wedi dewis aros gyda'i gilydd.
Shiraz Hassan
Dadansoddiad o baramedrau polisi tramor Twrci - o Ganolbleidiaeth Orllewinol gynt i Gyfansoddiad Dwyrain Canol ac Asiaidd ganolog.
Simone Hatchard
Deall y defnydd o fforensig ddigidol wrth ymchwilio ac erlyn troseddau mawr yng Nghymru a Lloegr.
Christodoulos Ioannou
Gweithgaredd hybrid fel bygythiad gwrth-gudd-wybodaeth.
Lewis Jones
Gorwel Ansicr: Dadansoddiad o ddiogelwch rhanbarthol Dwyrain Asia a'r bygythiadau y mae'n eu hwynebu
William Kingsberry
Effaith ddynol prosiectau lleihau adnoddau parhaus ar Fodel plismona gweithredol PSNI o fewn ardal blismona Belfast: Archwiliad beirniadol o ganfyddiadau ‘gwerth’ gan swyddogion rheng flaen.
Rhian Kinsella
Dadansoddiad beirniadol o'r economi gymysg darparu gwyddoniaeth fforensig i blismona yng Nghymru a Lloegr.
Nicky Lipscombe
Archwiliad beirniadol o ganfyddiadau 'gwerth' gan swyddogion rheng flaen.
Ruth Mandigo
Oedolion ar goll: Dadansoddiad beirniadol o oblygiadau cyfreithiol, cymdeithasol ac ymarferol mynd ar goll.
Orlando Mardner
Archwiliad o baradocs diogelwch fel proffesiwn a gydnabyddir yn fyd-eang ledled Ewrop.
James McCormack
Ydy Rhagfarn Gwybyddol yn dylanwadu ar benderfyniadau Ymchwilwyr Lleoliadau Trosedd (CSI) wrth archwilio lleoliadau trosedd?
Anant Mishra
Prosiect gwrthderfysgaeth UE-Brexit.
Nerys Musgrove
Llais plant mewn gweithdrefnau troseddol cyn achosion llys.
Rebecca Nicholls
Deall y gostyngiad yn y gyfradd gyhuddo mewn troseddau llofruddiaeth yng Nghymru a Lloegr.
Oluwadamiola (Dami) Omole
Beth fydd ei angen? Harneisio pŵer a mewnwelediadau’n codi o brofiad byw mewn cymunedau i sbarduno newid systemig trwy gyd-ddylunio rhaglenni hyfforddi'r heddlu.
Steven Stottlemeyer
Datblygu diffiniad strwythurol gweithiol o ddeallusrwydd sy'n cyfrif am arferion moesegol yn y
Farjana Sultana
gwaith o gasglu a lledaenu cudd-wybodaeth.
Jennie Wade-Hemming
Trawma seicogymdeithasol yn gysylltiedig â’r cyswllt rhwng pobl a chŵn: Yr achos dros ddiwygio.
Bushra Waheed
Gwerthusiad beirniadol o fisogynedd yn y gwasanaethau brys yng Nghymru a Lloegr.
Daniel Welch
Gwerthusiad beirniadol o weithredu polisi'r heddlu wrth blismona cam-drin domestig yng Nghymru.
Katrina Whale
Camfanteisio Troseddol ar Blant - Archwiliad o brofiadau dioddefwyr Camfanteisio Troseddol ar Blant gyda’r System Cyfiawnder Ieuenctid.
Julia Williams
Camfanteisio troseddol a’r llwybrau mae pobl ifanc sydd ar goll yn eu dilyn.
Katrina Whale
Camfanteisio Troseddol ar Blant - Archwiliad o brofiadau dioddefwyr Camfanteisio Troseddol ar Blant gyda’r System Cyfiawnder Ieuenctid.
Julia Williams
Camfanteisio troseddol a’r llwybrau mae pobl ifanc sydd ar goll yn eu dilyn.
Lulu Zacharia
Dadansoddiad beirniadol o’r rhesymau pam mae trais domestig yn dal i fod yn broblem fawr yn ein cymdeithasau.
Dadansoddiad beirniadol o’r rhesymau pam mae trais domestig yn dal i fod yn broblem fawr yn ein cymdeithasau.