Grŵp Ymchwil ac Arloesi

Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC)

Mae ymchwil ac arloesi Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) PDC yn sbarduno datblygiadau mewn dealltwriaeth, technoleg ac arferion, i drawsnewid y ffordd mae cymdeithas yn rhyngweithio â'r amgylchedd ac adnoddau naturiol.

Abstract close up shot of the George Knox building.

Rydym yn ymgymryd ag ymchwil arloesol sydd â ffocws ar dechnoleg yn yr economi gylchol, sero net a'r amgylchedd cynaliadwy.


ARBENIGEDD AC AELODAU

Gydag arbenigwyr amlddisgyblaethol mewn bioleg, peirianneg, cemeg a ffiseg, mae SERC wedi bod yn mynd i'r afael â heriau ynni ac amgylcheddol mawr trwy ddatrysiadau cynaliadwy ers dros dri degawd, gan gymryd rhan mewn nifer o brosiectau cenedlaethol a rhyngwladol.


EFFAITH

Mae SERC yn arwain ymchwil arloesol mewn microbioleg ddiwydiannol, gan archwilio bioburo, systemau bioelectrocemegol; Dal, Defnyddio a Storio Carbon (DDSC); systemau ynni hydrogen, storio ynni, bionwy, treulio anaerobig, asidau brasterog anweddol (ABA), rheoli maetholion, trin gwastraff a dŵr gwastraff ac adfer adnoddau.

Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac yn creu manteision cymunedol sylweddol.

Yn Ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021:

  • Mae 78% o'n hallbynnau peirianneg yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*)
  • Ail ar y cyd yng Nghymru ar gyfer effaith o blith o bum prifysgol - yn seiliedig ar 4* / 3* 
  • Nawfed ar y cyd ar gyfer effaith o blith 42 o brifysgolion ôl-92 - yn seiliedig ar ymchwil 4* / 3*
Cyhoeddiadau ac allbynnau ymchwil
Llun o bibellau nwy gyda chae yn y cefndir.

Polisi a thechnoleg ar gyfer datblygu nwy adnewyddadwy

Ymchwil yn Gyrru Twf Biomethan, gydag Effaith ar y Sector Ynni.

Planhigion treulio anaerobig.

Newidiadau polisi a datblygiadau byd-eang technoleg adfer gwastraff cynaliadwy

Ymchwil yn gyrru Datblygiadau mewn Treulio Anaerobig.

Cyflawniadau

Gyrru polisi

Arweiniodd ymchwil SERC at newidiadau polisi a chreu seilwaith treulio anaerobig (TA) o'r radd flaenaf ledled y DU, Ewrop ac yn fyd-eang, gan gynnwys sefydlu hybiau ailgylchu gwastraff bwyd.

Gwella perfformiad

Fe wnaeth ein hymchwil wella perfformiad cyfleusterau TA dŵr gwastraff gan fwy na 30%, gan arwain at werth £140m o fuddsoddiadau a lleihau costau cludo llaid gan 85%, gydag arbedion pellach ar glystyryddion.

Arwain datgarboneiddio

Mae ymchwil SERC wedi cyfrannu at lunio polisïau'r DU a Llywodraeth Cymru ar hydrogen, gan hyrwyddo ymdrechion datgarboneiddio yn sectorau ynni, trafnidiaeth a diwydiant.

Ynni gwyrdd

Mae ymchwil SERC wedi llywio newidiadau polisi a chymhelliannau ariannol ledled yr UE, gan arwain at gynhyrchu 2.4 biliwn m³ y flwyddyn o fiomethan i’w ddefnyddio drwy’r grid ac ar gyfer trafnidiaeth, gan hyrwyddo defnyddio biomethan ymhellach yn rhyngwladol.

Gwobrau

Enillodd ein proses Ffatri VFA Wobr Lettinga 2022, y tro cyntaf i unrhyw grŵp ymchwil o’r DU wneud hynny.

Meysydd Ffocws Ymchwil

Yr Economi Gylchol

Bioburo ac Adfer Bioadnoddau
Mae SERC wedi datblygu technolegau ar gyfer trosi biomas a chyfansoddion CO a CO2 yn ABAau. Rydym wedi sicrhau dros £5m gan H2020, UKRI, BEIS, OFGEM, KESS, ac ERDF. Enillodd ein proses Ffatri VFA Wobr Lettinga 2022, y grŵp ymchwil cyntaf i gyflawni hyn yn y DU.

Cynhyrchu Biopolymerau Cynaliadwy 
Mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y DU ac Ewrop, mae SERC yn datblygu technolegau i gynhyrchu plastigau bioddiraddadwy sy'n deillio o natur (e.e. PHA) o fiomas. Mae'r prosiectau'n cynnwys SuPERPHA, Biopol4Life, BEACON+, a RES-URBIS. Rydym hefyd yn rhan o hyb ymchwil IDRIC y DU, sydd â ffocws ar drosi deunyddiau gwastraff yn PHA.

Cynhyrchu Protein Celloedd Sengl 
Rydym yn trosi nwyon a maetholion C1 ac N2 o eplesu a gweddillion treulio anaerobig i gynhyrchu proteinau celloedd sengl a chymysg. Cefnogir y gwaith hwn gan brosiectau fel SuperPHA, SMART CIRCLE, BioPol4Life, BEACON+, a'r CO2BioPol a ariennir gan EPSRC.

Adfer Maetholion a Metelau
Rydym yn adfer maetholion fel Nitrogen, Ffosfforws a Photasiwm o garthffosiaeth, slyri, eplesau a gweddillion treulio, gyda phartneriaid fel Dŵr Cymru, GP Biotec, a Bryn Power. Rydym hefyd yn adfer Sinc a Thun o gynhyrchion dur mewn cydweithrediad â Tata a 7-Steel. Dyfarnwyd prosiect dan arweiniad Dr Christian Laycock, ar wrteithiau silicon organig cynaliadwy i’w rhyddhau’n araf (SIFER) yn Brosiect Ymchwil STEM y Flwyddyn yng Ngwobrau STEM Cymru 2024.

Trawsnewid CO2 trwy Catalysis Homogenaidd 
Mae SERC yn trawsnewid CO2 yn gemegol i fod yn gemegau gwerthfawr gan ddefnyddio mecanweithiau cydweithredol ligand. Rydym wedi sicrhau £756K o gyllid drwy SER CYMRU, Hwb Catalysis y DU, IDRIC, a chynllun KESS.

Rydym yn arwain prosiect ymchwil mawr gyda busnes arbenigol yn Ne Cymru i drawsnewid ailgylchu trwy dechnoleg arloesol. Mae ein tîm, dan arweiniad Dr Nildo Costa, yn gweithio gyda Dragon Recycling Solutions o Dredegar ar ôl ennill £197,600 gan y diwydiant cyfleustodau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwaith ailgylchu ar gyfer batris mesuryddion trydan a nwy wedi eu defnyddio. Bydd yr ymchwil yn helpu’r gwaith o ddatblygu systemau deallus i wella prosesau'r cwmni.

Trosi CO2 drwy  Gatalysis Homogenaidd
Mae SERC yn trosi CO2 i gemegau gwerthfawr drwy ddefnyddio mecanweithiau cydweithredol ligand.

Cysylltwch â'r tîm yn [email protected] i drafod y prosiectau hyn neu gyfleoedd newydd.

Ymchwil Ynni Hydrogen

Cynhyrchu Hydrogen 
Mae SERC yn arloesi gydag ymchwil ym maes cynhyrchu hydrogen, yn cwmpasu dulliau biolegol a thechnolegau electrolytig fel electrolysis alcalïaidd, PEM, AEM, ac Ocsid Solet. Rydym hefyd yn archwilio electrolysis a chyd-electrolysis tymheredd isel ac uchel, ochr yn ochr â chynhyrchu thermocemegol ac ailffurfio biomas/bionwy gyda Shell.

Storio Hydrogen 
Rydym yn gweithio ar ddulliau storio hydrogen datblygedig, gan gynnwys systemau pwysedd uchel hyd at 1,000 bar a storio ar ffurf hylif ar gyfer hedfan. Mae ein gwaith gyda Hydro Quebec, a masnacheiddio patentau PDC wedi denu gwerth tua £400K o fuddsoddiadau.

Arweiniodd Dr Nildo Costa ein gwaith ar brosiect Newid i Sero Net, oedd â’r nod o gyflymu'r gwaith i ddatblygu adeiladau sero-net. Arweiniwyd y prosiect gan Brifysgol Abertawe gyda Phrifysgol Caerdydd a PDC, mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru, a Diwydiant Sero Net Cymru.

Ffocws y gwaith oedd cynhyrchu ynni glân a deunyddiau cynaliadwy a lleihau allyriadau tai gwydr o'r amgylchedd adeiledig. Mae Dr Costa yn ymchwilio i’r defnydd o ddeunyddiau graffitig wedi'u hailgylchu o hen fatris i'w defnyddio mewn deunyddiau storio hydrogen.

Cynhyrchu Hydrogen Biolegol
Mae SERC yn cymryd rhan mewn prosiectau mawr yn yr UE a'r DU ar hydrogen biolegol, gan gynnwys rhaglenni UKRC SUGERGEN a BEIS H2BECCS. Rydym yn arwain ymchwil ac yn cyfrannu at bolisi drwy'r Gymdeithas Frenhinol a'r Asiantaeth Ynni Ryngwladol.

Puro a Chywasgu Hydrogen
Rydym yn arbenigo mewn echdynnu, puro a chywasgu hydrogen, gyda phrosiectau a gefnogir gan FLEXIS ac IDRIC. Mae ffocws ein cydweithrediadau â Skyre (UDA) a Hyet (NL) ar ddulliau electrocemegol datblygedig. Rydym hefyd yn cefnogi cerbydau a llenwi silindrau hydrogen yn y DU.

Economeg a Modelau Busnes Hydrogen
Mae SERC yn dadansoddi economeg hydrogen i gefnogi ei ddefnyddio ar raddfa fawr a llywio polisïau Llywodraeth y DU, gan gynnwys y Strategaeth Hydrogen a chynllunio rhanbarthol Cymru a Llwybr Cyflenwi Hydrogen Porth y Gorllewin.

Ymchwil Cemeg Cynaliadwy

Systemau Bio-electrocemegol (SBEau) 
Mae SBEau yn defnyddio celloedd microbaidd i drin gwastraff, adfer metelau, a throsi cemegau, gan weithredu fel batris bach neu adweithyddion. Mae SERC wedi arwain datblygiadau yn y maes hwn ers 2003, gan gynnwys prosiectau fel Supergen BIOFCs, NERC a chonsortia UKRI. Yr Athro Richard Dinsdale yw Cadeirydd yr Academi Beirianneg Frenhinol mewn Technolegau sy'n Dod i'r Amlwg. Fel rhan o'r rôl hon, mae'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol o ddiwydiant i ddatblygu a masnacheiddio systemau bioelectrocemegol microbaidd ar gyfer trin gwastraff ac adfer adnoddau.

Adfer Deunyddiau a Metelau Strategol
Mae ein hymchwil SBE yn dangos addewid o ran trin dŵr, adfer metel, a throsi carbon gwastraff. Mae'r prosiectau allweddol yn cynnwys adfer copr a sinc, gyda chefnogaeth UKRI ac ERDF KESS.

Trawsnewid Cemegau
Rydym yn arbenigo mewn trawsnewid moleciwlau cynaliadwy, fel CO2 a H2, gan ddefnyddio strategaethau cydweithredol ligand, gyda 10 cyhoeddiad dros wyth mlynedd. 

Gwahanu a Chreu Gwerth i Gemegau
Rydym yn datblygu technolegau gwahanu ar gyfer asidau brasterog anweddol o eplesu a chyfansoddion aromatig o dar Nwyon Ffyrnau Golosg (NFfG). Mae ein gwaith hefyd yn cynnwys cynhyrchu cyfansoddion ffenolig microbaidd o nwyon gwastraff ac adfer lignin ar gyfer ewynnau cynaliadwy mewn partneriaeth â Tata a Bryn Power.

Cemeg Deunyddiau i’w Defnyddio’n Gynaliadwy gyda Phrosesau Eraill 
Mae SERC yn ymchwilio i ddeunyddiau sy'n seiliedig ar garbon ar gyfer eu defnyddio gyda phethau fel gwahanu olew/dŵr a storio hydrogen. Mae'r ymchwil hon wedi arwain at bum cyhoeddiad a £100K o gyllid gan KEIF a KESS.

Systemau Ynni Cynaliadwy

Storio Ynni
Mae ffocws ymchwil SERC ar hydrogen fel datrysiad storio ar gyfer ynni adnewyddadwy, gan gynnwys systemau gwynt-hydrogen a chydbwyso rhwydweithiau trydan. Mae cydweithrediadau ag ITM Power, SSE, a Chorfforaeth Grid Gwladwriaeth Tsieina yn parhau, gydag ymgysylltu gweithredol â'r diwydiant trwy raglen Clwstwr Diwydiannol De Cymru (CDDC).

Systemau Celloedd Tanwydd
Ffocws ein hymchwil celloedd tanwydd yw defnyddio celloedd ocsid solid (COCau) i drosi nwyon gwastraff diwydiannol - fel y rhai o gynhyrchu dur - yn drydan, gwres a hydrogen glân. Mae'r gwaith hwn yn helpu i leihau allyriadau ac adfer ynni gwerthfawr o nwyon a fyddai fel arall yn cael eu gwastraffu. Mae ein hymchwil yn ymchwilio i sut mae cyfansoddiad tanwydd yn effeithio ar berfformiad SOFC ac yn archwilio datrysiadau i heriau technegol fel cronni carbon a gwenwyn sylffwr. Y nod yw cefnogi prosesau diwydiannol glanach, mwy effeithlon a chyflymu'r trawsnewid i systemau ynni carbon isel.

Modelu Systemau Ynni
Mae SERC yn modelu systemau ynni ar gyfer datgarboneiddio ac effeithlonrwydd, yn cydweithio â Chorfforaeth Grid Gwladwriaeth Tsieina, Prifysgol Birmingham (IDRIC), a phartneriaid CDDC. Rydym yn canolbwyntio ar dwf systemau trydan, piblinellau CO2, trawsnewidiadau hydrogen, a modelu dulliau rheoli datblygedig ar gyfer morlynnoedd llanw.

Trin Gwastraff a Dŵr Gwastraff

Treulio Anaerobig
Ers dros 30 mlynedd, mae SERC wedi arwain ymchwil mewn treulio anaerobig (TA), gyda ffocws ar ynni cynaliadwy, cemegau a deunyddiau o ddŵr gwastraff a ffrydiau gwastraff. Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys system eplesu ar raddfa beilot ar gyfer gwastraff bwyd diwydiannol gydag Unilever a chyfraniadau at brosiectau wedi’u hariannu gan yr UE ac EPSRC. Rydym bellach yn archwilio TA â chymorth golau i wella effeithlonrwydd a chynhyrchedd metabolitau, gyda chefnogaeth prosiectau BEACON+ a SMART CIRCLE.

Dadansoddi, Monitro a Rheoli Amgylcheddol
Mae SERC yn datblygu technegau a thechnolegau synhwyro ar gyfer monitro amgylcheddol a chanfod llygredd, gan gynnwys GC-IMS, FT-NIR, UPLC MS-MS, a HS-GC.

Systemau Eplesu Aerobig
Mae ein proses OXYHYWATER yn defnyddio ocsigen electrolytig o hydrogen adnewyddadwy ar gyfer trin carthffosiaeth yn effeithlon, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan Ddŵr Cymru mewn fformat cynwysyddion.

Cynhyrchu Bioynni
Yn ogystal ag ymchwilio i ddulliau i greu cymaint â phosibl o biomethan, rydym yn ymchwilio i gynhyrchu nwyon alcan uwch (ethan, propan, bwtan), sydd ar hyn o bryd yn y cam ymchwil cynnar.

Modelu a Rheoli Biobrosesau
Sefydlodd SERC Headspace GC fel y safon ar gyfer mesur ABA mewn TA ac mae'n symud tuag at electrofforesis capilarïau ar gyfer dadansoddiadau cenhedlaeth nesaf, sydd wedi’i dreialu’n llwyddiannus gyda Dŵr Cymru.

Dadansoddi Amgylcheddol

Dadansoddiadau Cylch Bywyd (DCB)
Mae SERC yn defnyddio dulliau DCB i asesu effeithiau amgylcheddol prosesau fel treulio anaerobig, cynhyrchu hydrogen a chynhyrchu PHA. Mae ein hastudiaethau wedi dylanwadu ar bolisi, gan gynnwys ACD seilwaith bionwy ar gyfer Llywodraeth Cymru a arweiniodd at greu hybiau trin gwastraff bwyd yng Nghymru, sydd bellach yn fodel yn Lloegr a'r UE.

Asesiadau Techno-Economaidd
Rydym yn gwerthuso graddau twf a defnydd diwydiannol technolegau o fewn cyd-destunau economaidd a pholisïau’r presennol a’r dyfodol. Fe wnaeth ein hymchwil lywio Adroddiad JRC y Comisiwn Ewropeaidd yn 2014 ar gynaliadwyedd biomethan, gan lywio cynlluniau cymhelliant y DU a'r UE. Mae'r gwaith hwn wedi sbarduno datblygiadau seilwaith, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, arbedion nwyon tŷ gwydr, a chreu swyddi. Mae ein hymchwil yn parhau i ddylanwadu ar bolisi a datblygiad.

PROSIECTAU ALLWEDDOL

OXYHYWater - Proses Trin Dŵr Gwastraff Sero Net Newydd

Mae OXYHYWATER yn system trin dŵr gwastraff newydd sy'n defnyddio ocsigen pur, yn hytrach nag aer atmosfferig, i brosesu dŵr gwastraff. Mae canlyniadau cynnar yn dangos bod y dull arloesol hwn nid yn unig yn gwella effeithlonrwydd ond hefyd yn darparu manteision amgylcheddol niferus.

Rhagor o wybodaeth

Gwrteithiau cynaliadwy silicon organig i’w rhyddhau’n araf (SIFER)

Mae ymchwilwyr PDC yn arloesi datblygiad SIFER (Gwrtaith wedi'i gyfoethogi gan silicon), gwrtaith organig yn deillio o weddillion treulio anaerobig, sy'n cadw maetholion ac yn eu rhyddhau'n araf.

Rhagor o wybodaeth

Monitro ABA mewn Amser Real i Gynyddu Bionwy o Dreulio Anaerobig ar gyfer Gwresogi Adeiladau

Nod y prosiect ymchwil hwn yw gwella dulliau cynhyrchu bionwy trwy fonitro asidau brasterog anweddol (ABAau) mewn amser real yn ystod prosesau treulio anaerobig (TA). Y ffocws yw defnyddio technoleg VFASENSE i wneud systemau AD yn fwy sefydlog ac effeithlon.

Rhagor o wybodaeth

Uwch Glwstwr y Gorllewin ar gyfer Effaith Hydrogen ar Dechnolegau’r Dyfodol (GW Shift)

Gan ddod â phartneriaid academaidd, dinesig a diwydiannol at ei gilydd, nod y prosiect yw hyrwyddo twf gwyrdd trwy hydrogen, gan wneud rhanbarth De-orllewin Lloegr a De Cymru yn un blaenllaw yn economi hydrogen a chefnogi nodau datgarboneiddio'r DU o ran y môr, y ffyrdd, y rheilffyrdd, yr awyrofod a chemegau.

Rhagor o wybodaeth

Her Torri Drwodd Dŵr OFWAT - Trawsnewid Cydbwysedd Ynni Trin Dŵr Gwastraff

Prosiect sy’n cydweithredu â chwmnïau dŵr y DU i ddangos a gwerthuso proses trin dŵr gwastraff tymheredd isel newydd sydd yn lleihau'r ynni sy’n cael ei ddefnyddio i drin carthffosiaeth yn sylweddol, ac hefyd yn galluogi adfer ffosfforws ac amonia, a lleihau faint o laid gweddilliol sy’n cael ei gynhyrchu.

Rhagor o wybodaeth

NutriReValorise

Gweithgareddau ymchwil a datblygu cydweithredol, rhannu gwybodaeth a lledaenu targedig, yn gysylltiedig â ffyrdd newydd o wella gwaith rheoli maetholion yn yr economi wledig.

E-Hance: Peirianneg Proses Bio-Electrocemegol ar gyfer Lleihau Carbon ac Adfer Adnoddau:

Nod y prosiect hwn yw hyrwyddo'r ddealltwriaeth o systemau bioelectrocemegol microbaidd (SBE) er mwyn hwyluso eu gweithrediad a’u tyfu i allu trin dŵr gwastraff mewn ffordd ddatblygedig, ynghyd ag adfer metel a dal a throsi carbon.

CYDWEITHREDIADAU A PHARTNERIAETHAU

Mae SERC yn cael ei gydnabod ledled y byd am ei arbenigedd mewn ymchwil ym maes yr amgylchedd cynaliadwy, sy’n ysgogi cydweithrediadau effeithiol â phartneriaid o diwydiannau a llywodraethau. Rydym wedi gweithio gyda channoedd o gwmnïau trwy gyrff cyllido mawr fel ERDF, Horizon Europe, UKRI, a BEIS. Mae SERC hefyd yn cyflawni rôl  allweddol yn hybiau ymchwil y DU ac mae ganddo bartneriaid mewn dros 100 o brifysgolion yn Ewrop a sefydliadau byd-eang blaenllaw.

Mae cydweithrediadau allweddol yn cynnwys:

Clwstwr Diwydiannol De Cymru (CDDC/SWIC)
Wedi'i lansio yn 2019 o gydweithrediad SERC â Tata Steel ar brosiect FLEXIS, mae Clwstwr Diwydiannol De Cymru (CDDC) yn ymateb i Strategaeth Datgarboneiddio Diwydiannol Llywodraeth y DU. Nod CDDC, dan arweiniad academaidd SERC, yw cyflawni sero net erbyn y 2040au ac mae'n cynnwys dros 40 o ddiwydiannau mawr yng Nghymru. Y targed yw  gostyngiad o 16 miliwn tunnell o CO2 bob blwyddyn. Mae awdurdodau lleol allweddol a Llywodraeth Cymru yn aelodau gweithredol. Mewn llai na phedair blynedd, mae SWIC wedi sicrhau mwy na £52M mewn prosiectau, gyda thua hanner wedi’i ariannu gan ddiwydiant. 

Canolfan Ymchwil ac Arloesi Datgarboneiddio Diwydiannol (IDRIC)
Mae IDRIC yn rhaglen werth £20M sy'n cefnogi Her Datgarboneiddio Diwydiannol y DU, dan arweiniad Prifysgol Heriot-Watt. Mae SERC wedi bod yn allweddol yn i’r gwaith o’i sefydlu, gan feithrin cydweithio rhwng partneriaid diwydiannol CDDC a grwpiau ymchwil ledled y DU. Ers 2021, mae SERC wedi sicrhau saith prosiect ymchwil trwy IDRIC ac mae'n parhau i eirioli gyda'r llywodraeth a'r diwydiant dros ei barhad er mwyn sicrhau cefnogaeth barhaus i ddatgarboneiddio diwydiannol.

Consortiwm H2SHIFT
Mae H2SHIFT yn brosiect dan arweiniad SNAM, cwmni nwy naturiol mwyaf Ewrop, i sefydlu hyb arloesi ar gyfer technolegau cynhyrchu hydrogen. Gyda 15 o bartneriaid diwydiannol ac academaidd, bydd H2SHIFT yn bwynt mynediad sengl ar gyfer ymchwil a phrofion hydrogen. Bydd SERC, yr unig bartner yn y DU, yn uwchraddio eu cyfleusterau electrolysis hydrogen yn y Ganolfan Hydrogen i brofi a datblygu electrolyddion Pilenni Cyfnewid Anion gydag arweinwyr diwydiant, busnesau newydd, a busnesau bach a chanolig, gan gyflymu technolegau cynhyrchu hydrogen newydd.

  • Prifysgol Caerdydd, Cymru
    • Yr Ysgol Beirianneg
    • Y Sefydliad Sero Net
    • Adran Cemeg
    • Ysgol Pensaernïaeth Cymru
  • Prifysgol Abertawe, Cymru
    • Ysgol Peirianneg
    • ESRI

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Newcastle, Lloegr
    • Ysgol y Gwyddorau Naturiol ac Amgylcheddol

  • Prifysgol Barcelona, Sbaen
  • Prifysgol Newydd Lisbon, Portiwgal
  • Prifysgol Dechnegol Denmarc, Denmarc
  • Prifysgol Roma "La Sapienza", yr Eidal
    • Peirianneg Gemegol

  • Prifysgol Ca Foscari Fenis, yr Eidal
  • Prifysgol Verona, yr Eidal
    • Adran Biotechnoleg

  • Prifysgol Bologna, yr Eidal
  • Prifysgol Sheffield Hallam
    • Adran y Biowyddorau a Chemeg

  • Prifysgol Southampton
  • Y Gwasanaeth Crisialeg Cenedlaethol

  • Prifysgol Bryste
  • Ysgol Cemeg
  • CSIC, Sbaen
  • Universiti Tenaga Nasional, Malaysia
  • TU Wien, Awstria
  • Prifysgol Genedlaethol JeonBuk
  • Prifysgol Rhydychen
    • Adran Cemeg

  • UCL
  • Prifysgol Dechnegol Munich
  • Prifysgol Manceinion
  • Prifysgol Wageningen
  • Prifysgol Glasgow
  • KAIST
  • Prifysgol Cork
    • Peirianneg Sifil

  • Prifysgol Birmingham
  • Coleg Imperial Llundain
  • Prifysgol Heriot Watt
  • Prifysgol Caerfaddon
  • Prifysgol Caerwysg
  • Prifysgol Plymouth
  • Prifysgol Caeredin
  • Prifysgol Caer
  • Prifysgol Sheffield
  • Prifysgol Loughborough
  • Politecnico Di Milano
  • Politecnico Di Torino
  • Institut de Recerca de L'Energia de Catalunya (IREC)

  • Agua do Tejo Atlantico, Portiwgal
  • Air Liquide, Ffrainc
  • Airbus, DU
  • AkzoNobel, DU a NL
  • Aliaxis, FfR a'r DU
  • Ashwell Biomass Solutions, DU
  • Porthladdoedd Prydain 
  • Cymdeithas y Diwydiannau Bio-Seiliedig a Bioddiraddadwy, DU
  • BioInicia, Sbaen
  • Biotrend, Portiwgal
  • BOC, DU
  • Nwy Prydain, DU
  • Bryn Power
  • Capital Law
  • Celsa Steel
  • CNR-IRSA, Yr Eidal
  • Cydffederasiwn y Diwydiannau Papur
  • Costain
  • Dow Silicone
  • Dragon LNG
  • Dragon Recycling
  • On, DU
  • EDF, DU
  • Energy Systems Catapult
  • Epal-Empresa Portuguesa Das Aguas Livres , Portiwgal
  • ERM
  • FRE-Energy
  • GAS GmbH, Yr Almaen
  • GE Capital Aviation Services, DU
  • Glass Futures
  • Glass Technology Services
  • GP Biotec
  • Grants Bio-Tech Ltd, Cenya
  • Honda, Japan
  • Hydro Quebec
  • IBM
  • IMSPEX, Cymru
  • InnoEXC Partners, y Swistir
  • Institute National de la Recherche Agronomique, Ffrainc
  • Intelligent Energy, DU
  • IQE, DU
  • ITM Power, DU
  • Lightsource BP
  • Marubeni
  • Mi-Plast, Croatia
  • Mott MacDonald, DU
  • Grid Cenedlaethol
  • Diwydiant Sero Net Cymru
  • GIG Cymru a Lloegr
  • Northumbrian Water, DU
  • Nouryon, NL
  • Offshore Energy Catapult
  • Perpetuus Carbon Technologies
  • Physis SRL, Yr Eidal
  • Porthladd Aberdaugleddau
  • Premier Foods, DU
  • Protium Green Solutions
  • Riversimple, DU
  • Rockwool
  • Bathdy Brenhinol
  • RWE
  • SABIO, Yr Eidal
  • Scottish and Southern Energy, Yr Alban
  • Shell
  • Siemens Energy
  • SNAM
  • Softer, Yr Eidal
  • Tarmac
  • Tata Steel, Cymru
  • Thames Water, DU
  • Toshiba, Japan
  • Vale
  • Valero
  • Jet Venturi Jet Pumps, DU
  • Cyfleustodau Wales & West, Cymru
  • Fforwm Modurol Cymru, Cymru
  • Dŵr Cymru, Cymru
  • Western Power Distribution, DU
  • Yuasa, Cymru

MAE GWEITHIO GYDA PDC WEDI BOD YN BROFIAD DA IAWN. MAE WEDI BOD YN HAWDD IAWN CAEL PETHAU WEDI'U CYMERADWYO A'U CYCHWYN.

Dr Thomas Delaney

Prif Swyddog Gweithredol HyWaves

AR ÔL DATBLYGU A PHROFI AR RADDFA LAI, MAE CYFLEUSTER SOLAR I HYDROGEN MWY O FAINT YN CAEL EI SEFYDLU YNG NGHANOLFAN HYDROGEN PDC DIOLCH YN RHANNOL I GYLLID GWERTH £386,000 GAN INNOVATE UK FEL RHAN O RAGLEN PWYNT LANSIO SERO NET DE-ORLLEWIN CYMRU.

Dr Thomas Delaney

Prif Swyddog Gweithredol HyWaves

MAE HON YN FOMENT HOLLBWYSIG I'R TÎM CYFAN SYDD WEDI GALLUOGI HYN I DDIGWYDD YN PROTIUM, PDC, FCSL AC ENAPTER.

Jon Constable

Prif Swyddog Asedau a Pheirianneg gyda Protium

O DDECHRAU MIS EBRILL BYDD GENNYM EIN CYFLEUSTER CYNHYRCHU HYDROGEN CYNTAF I WEITHREDU'N FASNACHOL, Â’R GALLU I GYFLENWI CYNWYSYDDION HYDROGEN GWYRDD I GWSMERIAID.

Jon Constable

Prif Swyddog Asedau a Pheirianneg gyda Protium

RYDYM YN FALCH O FOD WEDI CYRRAEDD Y PWYNT HWN LLE GALLWN WNEUD I DDATGARBONEIDDIO DDIGWYDD I DDIWYDIANT A GALLWN NAWR GANOLBWYNTIO AR GYNLLUNIAU TYMOR HIRACH I EHANGU GWEITHREDIADAU.

Jon Constable

Prif Swyddog Asedau a Pheirianneg gyda Protium

student-25

Gweithio gyda ni

Mae SERC yn cydweithio â phartneriaid diwydiannol o bob maint i ddatblygu datrysiadau cynaliadwy ac i fasnacheiddio ymchwil trwy batentau, trwyddedu, a chwmnïau deillio sy'n barod i'r diwydiant. Rydym hefyd yn cynorthwyo llunwyr polisi i gasglu tystiolaeth i lywio datrysiadau i ddiwydiannau penodol yn well.

I ddysgu mwy neu i drafod cydweithrediadau posibl, cysylltwch â'r Athro Alan Guwy yn [email protected].


Gweithio gyda phartneriaid

Mae GYA SERC wedi gweithio gyda llawer o bartneriaid diwydiannol ar waith masnacheiddio gan gynnwys:

Datrysiadau Storio Hydrogen

Mae SERC, mewn cydweithrediad â Hydro Quebec, yn datblygu deunyddiau storio hydrogen capasiti uchel dan batent gan ddefnyddio hydridau metel pontio. Gallai'r deunyddiau hyn storio hyd at 10.5% hydrogen yn ôl pwysau, gan ragori ar darged terfynol yr Adran Ynni. Ffocws y gwaith yw deunyddiau mandyllog isel gyda hydridau metel pontio rhes gyntaf, a galluogi storio hydrogen moleciwlaidd trwy ryngweithiadau o fath Kubas.

Ariennir yr ymchwil hon gan PDC, Hydro Quebec, a FLEXIS (£367,845) ac mae'n cynnwys nifer o bartneriaid diwydiannol ac academaidd. Y nod yw creu deunyddiau storio hydrogen mwy effeithlon a chadarn ar gyfer defnydd masnachol.

Synhwyrydd ABA

Mae SERC wedi datblygu synhwyrydd ar-lein newydd ar gyfer mesur cynhyrchiant cemegau llwyfannu gwerthfawr. Mae'r dechnoleg hon, o'r enw VFAsense, yn cyfuno electrofforesis capilari â dysgu peirianegol ac mae eisoes wedi'i datblygu i lefel profi ar raddfa lawn. Mae SERC yn datblygu llwybrau i'r farchnad a'r posibilrwydd ar gyfer cwmni deillio yn seiliedig ar y dechnoleg hon. 

Gwrtaith Cynaliadwy

Mae SIFER yn dechnoleg trosi gwastraff organig, sy'n galluogi dad-ddyfrio gwastraff organig yn lân ac yn gydymffurfiol. Mae’n cynhyrchu gwrtaith organig y gellir ei storio a’i ryddhau’n araf, wedi'i gyfoethogi â silicon. Wedi'i ddatblygu drwy brosiectau KESSII, FLEXISApp, SRIF a PDC, mae'n cynnig ffordd newydd ac arloesol o reoli gwastraff organig a defnyddio gwrtaith yn y DU, a gallai gefnogi newid i systemau amaethyddol mwy cynaliadwy, cylchol a gwydn.

Systemau biomethaneiddio

Masnacheiddio ED sy'n gysylltiedig â systemau biomethaneiddio, gydag ICURe a Chymrodoriaeth Menter yr Academi Beirianneg Frenhinol. Mae’n adeiladu ar ymchwil prawf cynnar o’r cysyniad, rhaglen ymchwil PhD, a nifer o brosiectau ymchwil cydweithredol diwydiannol (BBSRC / BEIS, IUK, ERDF / WG / SMART).

Cyfleusterau

Mae ein 14 labordy sydd â chyfarpar da ar Gampws Trefforest yn cefnogi biobrosesau microbaidd ar raddfa fach, gan gynnwys ymchwil eplesu (1-100 L) a datblygu systemau prototeip. Mae gennym offer o'r radd flaenaf ar gyfer dadansoddi cemegol, biolegol a genomig. 

Rydym yn arloesi mewn ymchwil ar raddfa beilot, gan gynnwys systemau bioadweithio uwch a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg. Mae ein Canolfan Ymchwil Hydrogen ym Mharc Ynni Baglan a’r tair system eplesu mewn cynwysyddion sy’n cael eu treialu yn Nhrefforest a Baglan yn enghraifft o hyn.

Mae ein system eplesu C1, sy'n cael ei gweithredu ar safle Port Talbot TATA Steel, yn trosi nwy ffwrnesi chwyth yn asidau brasterog anweddol, a bydd system beilot OXYHYWATER, sy'n defnyddio ocsigen pur ar gyfer trin dŵr gwastraff, yn cael ei defnyddio gan Dŵr Cymru. Bydd cyfleusterau peilot newydd yn Bryn Power yn canolbwyntio ar eplesu ar gyfer adfer ynni, polymerau, proteinau un gell, a maetholion. 

Mae SERC wedi sefydlu cyfleuster blaenllaw y DU ar gyfer ymchwil hydrogen ar raddfa beilot ar safle 1.3 erw o'r radd flaenaf ym Mharc Ynni Baglan, Port Talbot. Mae'r Ganolfan yn cynnwys cyfleusterau soffistigedig ar gyfer cynhyrchu (electrolysis a thermocemegol), cywasgu, puro, storio hydrogen, a phrofi celloedd tanwydd PEM. Mae hefyd yn cefnogi gwaith ar danwydd hydrogen ar gyfer cerbydau, profi cydrannau, a phrosiectau arloesol fel cylchoedd gwres-bŵer CO2 Trawsgritigol, H2ACE ar gyfer trosi CO2-gemegol, ac OxyHyH2O ar gyfer trin dŵr gwastraff yn well.

Mae SERC yn gallu darparu rigiau treulio anaerobig ar gyfer prosesau swp, lled-barhaus a pharhaus, gyda chyfarpar offer monitro a dadansoddi amser real. Mae ein cyfleusterau eplesu a storio ynni C1 yn cynnwys CSTRau, adweithyddion colofn, adweithyddion baffl tiwbaidd, adweithyddion brasterog osgiliadol, a systemau bioffilm newydd, sy'n amrywio o 0.5 i 20 litr ac yn gweithredu hyd at bwysau 10 bar. Mae'r systemau hyn yn cefnogi trosi hydrogen a chynhyrchu methan, alcanau, cemegau, polymerau a phroteinau.

Mae gan SERC ffocws ar ddatblygu offer dadansoddi soffistigedig ar gyfer systemau cynaliadwy. Gwnaeth prosiect diweddar Innovate UK, mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol byd-eang a gwneuthurwr offer o Gymru, ganfod ffordd o adnabod bio-metabolynnau a halogiad mewn munudau - gan wella'n sylweddol ar y 48 awr sydd ei angen ar gyfer y dulliau platio a Dipslide presennol. Mae'r arloesedd hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer systemau trin a monitro dŵr y genhedlaeth nesaf, gan ddarparu ffordd o fesur ansawdd dŵr o ran biohalogiad mewn amser real.

Mae’r rhain yn labordai sydd newydd gael eu hadnewyddu ac sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gwaith gyda chemeg synthetig a synthesis deunyddiau. Mae ynddyn nhw gyfarparu Schlenklines, blwch menig awyrgylch anadweithiol, adweithyddion pwysau, ac offer soffistigedig fel sbectromedrau is-goch, TGA-DSC, BET, a PCT ar gyfer capasiti storio hydrogen.

Mae gan ein labordai offer profi celloedd tanwydd ocsid solet ar gyfer nodweddu celloedd planar yn electrocemegol gan ddefnyddio cyfuniadau tanwydd cymhleth. Rydym yn cynnig monitro nwy amser real, profion pentwr byr ar gyfer systemau aml-gell, a dadansoddiadau ex-situ o ficrostrwythur a chyfansoddiad electrodau gan ddefnyddio SEM ac EDS.

Wedi'i leoli ar Gampws Glyn-taff, mae ein labordy biosystemau o'r radd flaenaf yn cynnwys bioadweithyddion wedi'u hadeiladu'n arbennig ar gyfer datblygu technolegau cynhyrchu microbaidd ac adfer cynhyrchion gwerthfawr fel tanwydd cynaliadwy a biopolymerau. Mae'r labordy hefyd yn gwasanaethu fel mainc brawf ar gyfer systemau mesur soffistigedig, gan gynnwys ein VFASense ar gyfer monitro ABA ar-lein.

Mae SERC yn gweithredu bioadweithyddion 100L ar raddfa arddangos wedi'u lleoli mewn cynwysyddion llongau i'w defnyddio'n hawdd. Mae'r rhain yn cynnwys H2ACE ar gyfer trosi hydrogen gwyrdd a CO2 yn asid asetig, BIOACE ar gyfer trosi biomas yn asidau brasterog anweddol, ac Oxyhywater ar gyfer trin dŵr gwastraff mewn ffordd ynni-effeithlon.

Mae'r dadansoddwr VFASENSE, a ddefnyddir mewn safleoedd fel Dŵr Cymru a TATA, yn mesur ABAau mewn systemau anaerobig. Yn dilyn prosiect llwyddiannus Innovate UK, bydd synwyryddion biohalogi prototeip yn cael eu hanfon i safleoedd 10 o gwsmeriaid, yn dangos  cynnydd sylweddol yn y gwaith o symud o lefel labordy i lefel defnydd llawr gwald.

Mae gan y ganolfan amrywiaeth o adweithyddion celloedd tanwydd microbaidd a bioelectrocemegol, yn amrywio o 50ml i 500litr, ac adweithyddion wedi'u ffurfweddu naill ai fel unedau trin dŵr gwastraff newydd neu adweithyddion bioelectrosynthesis. Mae'r offer yn cynnwys systemau potentiostats ac EIS i ddadansoddi systemau bioelectrocemegol naill ai fel adweithyddion proses neu biosynwyryddion.

Mae cyfleusterau ymchwil SERC, sy’n adnabyddus ledled y byd ac wedi hen arfer â chael eu defnyddio gan ddiwydiant, ar gael i'w llogi, gan gynnig cydweithrediadau labordy a phrosiectau peilot gyda phartneriaid academaidd, llywodraethol a diwydiannol.  Cysylltwch â'r Athro Alan Guwy drwy [email protected].


Addysgu wedi’i lywio gan ymchwil

Mae SERC yn ymgorffori ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol i gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys ein gradd meistr mewn ynni adnewyddadwy a thechnoleg gynaliadwy, gan gynnig profiad a mewnwelediadau unigryw i fyfyrwyr.

Mae'r Athro Cysylltiol Christian Laycock, er enghraifft, yn ymgorffori ei ymchwil arloesol yn y modiwlau a thraethodau hir Adfer Adnoddau Diwydiannol, sy’n rhan o'r MSc Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Gynaliadwy. Yn y modiwl Adfer Adnoddau Diwydiannol, mae myfyrwyr yn dod i ddeall materion yn ymwneud ag adfer nwyon gwastraff diwydiannol ac effeithlonrwydd ynni trwy ddarlithoedd ac astudiaethau achos. Mae prosiectau traethawd hir yn mynd i'r afael â heriau yn y byd go iawn, gan gynnwys gwerthuso perfformiad SOC o dan amodau nwy gwastraff neu archwilio rôl SIFER mewn amaethyddiaeth gynaliadwy.

Mae Dr Stephen Carr yn ymgorffori dysgu ac allbynnau o brosiectau ymchwil mewn sawl modiwl o'r MSc Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys y modiwl traethawd hir, lle mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau sy'n seiliedig ar ddata ymchwil go iawn. Yn ogystal, mae myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â’r prosiect HyWaves a ariennir gan Innovate UK, sy'n ymchwilio i systemau electrolysyddion-PV ar gyfer cynhyrchu hydrogen, a phartneriaeth Protium Green Solutions, sy'n darparu profiad ymarferol gydag offer electrolyseiddio go iawn.

Trwy'r gweithgareddau ymchwil hyn, mae myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol mewn datrys problemau, dadansoddi data, a modelu. Maen nhw’n dod i ddeall yr heriau sy’n wynebu diwydiannau ar hyn o  bryd ac maen nhw’n cael cyfle i gyflwyno eu canfyddiadau i bartneriaid diwydiannol. Mae'r dull hwn sy'n seiliedig ar ymchwil yn pontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i'w gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd.

Graddau ymchwil ôl-radd

Myfyrwyr ymchwil

Mae ein tîm amlddisgyblaethol profiadol yn goruchwylio myfyrwyr PhD a graddau ymchwil mewn meysydd fel bioleg, biocemeg, cemeg, peirianneg amgylcheddol, ac ynni adnewyddadwy. Trwy weithio â phartneriaid diwydiannol blaenllaw, rydym yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn ennill sgiliau ymarferol a phrofiad yn y byd go iawn mewn ymchwil gynaliadwy.

Gyda chyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf a chysylltiadau diwydiannol cryf, mae SERC yn cynnig amgylchedd delfrydol i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd weithio ar brosiectau arloesol sy'n cael effaith yn y byd go iawn.

Darllen stori Arnaud