Newidiadau Polisi a Defnydd Byd-eang o Dechnoleg Adfer Gwastraff Gynaliadwy
Mae Ymchwil yn Ysgogi Datblygiadau mewn Treulio Anaerobig.
Ymchwil yn PDC Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/research-case-study-sustainable-waste-resource-recovery-technologies.jpg)
Mae Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi gwneud gwaith ymchwil hollbwysig a arweiniodd at newidiadau polisi a datblygu seilwaith trin gwastraff newydd yn y Deyrnas Unedig, yn Ewrop ac yn rhyngwladol.
Arweiniodd y gwaith ymchwil at greu seilwaith treulio anaerobig o’r radd flaenaf mewn saith canolfan adfer gwastraff bwyd. Arweiniodd hefyd at arbedion ôl-troed carbon o 660 kt CO2e y flwyddyn, nes bod Cymru yn drydydd yn y byd am ei chyfraddau ailgylchu dinesig uchel.
Defnyddiodd y Deyrnas Unedig 683 o weithfeydd Treulio Anaerobig (TA) a’r rheini’n cyflenwi 4.1 TWh o drydan y flwyddyn, sy’n gallu pweru 1.3M o gartrefi a chyflogi tua 10,000 o bobl yn uniongyrchol. Mae diwydiant TA yn y Deyrnas Unedig wedi arwain at ostyngiad o tua 5.1
Mt CO2e/y flwyddyn mewn allyriadau, sy’n cyfateb i 1% o gyfanswm allyriadau'r Deyrnas Unedig.
Cyfrannodd ymchwil PDC hefyd at gymhwyso 93 o weithfeydd TA o dan yr Ardystiad Bio-wrtaith gan sicrhau arbediad o £5.4M y flwyddyn.
Defnyddiwyd methodolegau a ddatblygwyd gan nifer o gwmnïau i ysgogi cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd masnachol gyda dros 30% o berfformiadau gwell. Galluogodd ymchwil fuddsoddiad o £140M mewn cyfleusterau TA datblygedig, a gostyngiad o dros 85% mewn costau cludo slwtsh. Disgwylir arbedion sylweddol ar glystyryddion hefyd. At hynny, mae ymchwil PDC wedi arwain at gynnydd o dros 400% yn y defnydd o weithfeydd TA ym Malaysia.
Cysylltu
Professor Sandra Esteves
Teaches: Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy
Associate Professor Tim Patterson
Teaches: Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy