Ymchwil

Polisi a Thechnoleg i Ddatblygu Nwy Adnewyddadwy

Mae Ymchwil yn Ysgogi Twf Biomethan, sy'n Effeithio ar y Sector Ynni.

Ymchwil yn PDC Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021
Llun o bibellau nwy gyda chae yn y cefndir.

Mae Prifysgol De Cymru wedi bod yn allweddol wrth alluogi newidiadau polisi a chymhelliant ariannol yn yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi arwain at gyflenwi 2.4 biliwn m3/y flwyddyn o fiomethan at ddefnydd y grid a thrafnidiaeth. Mae’r gwaith hefyd wedi hyrwyddo defnydd ymhellach i ffwrdd.

Galluogodd y gwaith ymchwil gyflenwr technoleg i gynyddu’i drosiant blynyddol o €1.5M i €25M gan ehangu i gael presenoldeb yn fyd-eang a darparu 720,000 m3/d o fiomethan. Arbedodd hynny 122 ktonnes o CO2/y flwyddyn, gyda gwariant cyfalaf cynnar o €75M gan gynhyrchwyr.

Yn y Deyrnas Unedig, mae gwariant cyfalaf y sector wedi bod yn £1.5bn, gyda refeniw cysylltiedig o £450M y flwyddyn, ac mae’n cyflogi 1000 o bobl yn uniongyrchol. Er enghraifft, mae dosbarthwr rhwydwaith nwy yn y Deyrnas Unedig yn cael biomethan i’w rwydwaith o 19 o safleoedd biomethan ac mae'n cyflenwi 1.7 TWh o ynni carbon isel, sy’n cyfateb i'r galw am wres mewn dros 140,000 o gartrefi. Mae hynny’n golygu gostyngiad 300 ktonnesCO2e/y flwyddyn yn ôl-troed carbon y dosbarthwr.

 

Cysylltu

Professor Sandra Esteves
Teaches: Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy

Associate Professor Tim Patterson
Teaches: Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy

Effaith Ymchwil PDC

Placeholder Image 1