Campws Trefforest

Ewch ati i astudio, byw a chymdeithasu ar Gampws Trefforest. Cymuned glos wedi'i hamgylchynu gan fryniau gwyrdd a thirweddau agored De Cymru, gyda Chaerdydd ond taith fer i ffwrdd.

Cyfarwyddiadau i'r campws Lawrlwythwch fap o'r campws
three students walking from the Treforest students union building

Popeth sydd ei angen arnoch chi, i gyd mewn un lle.

Wedi'i leoli ychydig y tu allan i dref farchnad gyfeillgar Pontypridd, mae Campws Trefforest yn dod â phopeth at ei gilydd ar un campws. Mae'r mannau addysgu, cymorth a chymdeithasu i gyd mewn un lle, felly gallwch dreulio llai o amser yn symud o gwmpas a mwy o amser yn mynd ati i wneud pethau.

P'un a ydych chi'n mynd i ddarlith, yn cwrdd â ffrindiau neu'n dod o hyd i le i ganolbwyntio, mae popeth yn union lle mae ei angen arnoch chi, gan eich helpu i ymgartrefu'n gyflym a gwneud y gorau o'ch amser.

Ewch ar daith rithwir o amgylch y campws

Pam Trefforest

Three students stood leaning on railing on Treforest campus

Popeth mewn un lle

Mae Trefforest yn cynnig teimlad campws prifysgol traddodiadol, gyda mannau addysgu, llyfrgelloedd, caffis, campfa a llety myfyrwyr i gyd o fewn pellter cerdded.

A student smiling while shopping in Cardiff.

Cysylltiadau da

Dim ond taith fer ar drên o Drefforest yw Caerdydd, gan roi mynediad hawdd i chi at gerddoriaeth fyw, digwyddiadau chwaraeon mawr, bwyd gwych, gwyliau a bywyd nos.

Two students examining the underside of an aircraft on campus.

Lle i ganolbwyntio

O labordai seicoleg i lysoedd ffug a chyfleusterau peirianneg, byddwch yn dysgu mewn mannau o safon broffesiynol wedi'u cynllunio i adlewyrchu'r byd go iawn.

Bywyd campws

Close up shot equipment at the gym
A group of students happily chatting over a drink in sunny window of a restaurant in Pontypridd.
Two students studying in the Treforest library.
Placeholder Image 1
Placeholder Image 1
A student playing pool in the students union.

Students are sat on colourful steps, looking at a phone, outside the accommodation hub.

Eich cartref oddi cartref

Ar Gampws Trefforest, mae'r llety o fewn pellter cerdded i fannau addysgu, cymdeithasu a chyfleusterau. Gyda biliau wedi'u cynnwys a chymuned gefnogol o'ch cwmpas, mae popeth wedi'i sefydlu i'ch helpu i deimlo'n gartrefol o'r diwrnod cyntaf.

Archwiliwch y campws

Dewch i gael blas ar fywyd yn Nhrefforest cyn i chi gyrraedd.

Ewch ar daith rithwir ac archwiliwch y mannau lle byddwch yn astudio, ymlacio a chymdeithasu, o gyfleusterau addysgu a chaffis i fannau chwaraeon ac amgylchoedd gwyrdd.


Cyfarwyddiadau i Gampws Trefforest

Mae Campws Trefforest yn hawdd i'w gyrraedd, boed yn teithio mewn car, trên neu awyren. Gyda gwasanaethau trên rheolaidd a chysylltiadau ffyrdd da, mae'n syml cynllunio'ch taith a chyrraedd y campws yn rhwydd.

Prifysgol De Cymru
Llantwit Road
Pontypridd
CF37 1DL
Y Deyrnas Unedig

Ffôn: +44 (0)345 576 0101

E-bost: [email protected]

Cyfarwyddiadau ar Google Maps.

Mae’n hawdd cyrraedd Campws Trefforest o’r M4 a’r A470.

  • O'r M4, gadwech gyffordd 32 ac ymunwch â'r A470 i'r gogledd tuag at Ferthyr Tudful a Phontypridd.
  • Ar ôl tua 6 milltir, fe welwch arwyddion ar gyfer yr A473 (Llantrisant) a Phrifysgol De Cymru
  • Dilynwch yr allanfa gyntaf oddi ar y gylchfan, ar draws y bont, yna trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion i fyny'r bryn i'r campws 

Os ydych chi'n teithio tua'r de ar yr A470:

  • Cymerwch allanfa’r A4223 tuag at Bontypridd
  • Dilynwch arwyddion ar gyfer yr A4058, yna ymunwch â’r A473 tuag at y Brifysgol

Mae parcio i ymwelwyr gyferbyn â’r prif gampws.

Cod post ar gyfer y llyw lloeren: CF37 1DL

Mae Campws Trefforest â chysylltiadau rheilffyrdd da, gyda gwasanaethau rheolaidd o Gaerdydd.

  • Mae trenau uniongyrchol yn rhedeg o Gaerdydd Canolog a Heol y Frenhines, Caerdydd
  • Mae'r amser teithio nodweddiadol tua 20 munud
  • Yr orsaf agosaf yw Trefforest, dim ond taith gerdded fer o'r campws

Archwiliwch amseroedd trenau ar Drafnidiaeth Cymru.

Mae Campws Trefforest yn hygyrch o sawl maes awyr mawr.

Bywyd myfyrwyr a chymorth

A group of students happily chatting over a drink in sunny window of a restaurant in Pontypridd.

Bywyd myfyrwyr

Archwiliwch y mannau, y gymuned a'r profiadau sy'n llunio bywyd myfyrwyr yn PDC.

Two students walking around the students union shop picking up groceries

Costau byw

Dysgwch fwy am gostau byw nodweddiadol myfyrwyr a'r cymorth ariannol sydd ar gael.

student sat on campus in treforest

Cymorth i fyfyrwyr

Sicrhewch y cymorth sydd ei angen arnoch, o les a chyllid i sgiliau astudio a gyrfaoedd.