Campws Caerdydd
Astudiwch, crëwch a chydweithiwch ar Gampws Caerdydd yng nghanol dinas sydd wedi'i llunio gan greadigrwydd, diwylliant a'r diwydiannau rydych chi am fod yn rhan ohonynt.
Cyfarwyddiadau i'r campws Lawrlwythwch fap o'r campws
Campws wedi'i adeiladu ar gyfer crewyr.
Yng nghanol Caerdydd, rydych chi wedi'ch amgylchynu gan ddinas sy'n byw ac yn anadlu creadigrwydd.
O gemau a dylunio i ffasiwn a ffilm, byddwch yn astudio mewn mannau sydd wedi'u llunio gan y diwydiannau rydych chi am fod yn rhan ohonynt, gyda chyfleoedd i gydweithio â chyflogwyr blaenllaw gan gynnwys y BBC a Bad Wolf ar hyd y ffordd.
Mae stiwdios, mannau addysgu a mannau cymdeithasol wedi'u cynllunio i symud syniadau ymlaen p'un a ydych chi'n datblygu cysyniadau cynnar, yn cydweithio ar waith grŵp, neu'n paratoi prosiectau terfynol.
O'ch prosiect cyntaf i'ch arddangosfa derfynol, byddwch yn rhan o gymuned sy'n gydweithredol, yn uchelgeisiol ac yn gwneud i bethau ddigwydd yn gyson.
Ewch ar daith rithwir o amgylch y campws
Pam Trefforest
Creadigrwydd a chyfle
Dinas wedi'i llunio gan syniadau, o sîn gyfryngau ffyniannus i gynhyrchu byw, dylunio a diwydiannau sgrin. Mae gwaith creadigol yn rhan o fywyd bob dydd yma, ar y sgrin, ar y llwyfan ac ar draws y ddinas.
Dinas sydd byth yn cysgu
Mae cerddoriaeth fyw, gwyliau, orielau a bywyd nos yn rhoi digon i chi ei brofi. P'un a ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth neu amser i ymlacio, mae'r cyfan o fewn cyrraedd.
Dewch yn rhan o Gaerdydd
Gydag egni prifddinas ond sy’n teimlo fel rhywle a ddaw yn gyfarwydd yn gyflym iawn, mae Caerdydd yn fan lle gallwch ddod o hyd i'ch rhythm a chreu eich profiadau personol eich hun.
Eich cartref oddi cartref
Gallwch fyw’n agos at y campws a’r ddinas, gyda phopeth sydd ei angen arnoch o fewn pellter cerdded. Dewiswch o lety sydd wedi'i gynllunio i deimlo'n gyfforddus, yn gymdeithasol ac yn hawdd ymgartrefu ynddo gyda mannau cyffredin sy'n eich helpu i gwrdd â phobl a theimlo'n rhan o'r gymuned o'r diwrnod cyntaf.
Archwiliwch y campws
Dewch i gael blas ar fywyd yng Nghampws Caerdydd cyn i chi gyrraedd.
Ewch ar daith rithwir a gweld y mannau creadigol, y stiwdios a'r cyfleusterau lle byddwch yn astudio ac yn cydweithio.
Cyfarwyddiadau i Gampws Caerdydd
Mae cyrraedd Campws Caerdydd yn syml. Gyda lleoliad canolog a chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, mae'n hawdd cyrraedd o ble bynnag yr ydych yn teithio.
Prifysgol De Cymru
86–88 Stryd Adam
Caerdydd
CF24 2FN
Y Deyrnas Unedig
Ffôn: +44 (0)345 576 0101
E-bost: [email protected]
Mae Campws Caerdydd yn hawdd ei gyrraedd o'r M4.
- Gadewch yr M4 wrth gyffordd 29, 32 neu 33 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer canol dinas Caerdydd.
- Ewch ymlaen tuag at Stryd Adam
Mae maes parcio mawr gyferbyn â champws Caerdydd ar Stryd Adam. Mae parcio ychwanegol ar gael ar Heol Knox, taith gerdded fer i ffwrdd.
Cod post ar gyfer y llyw lloeren: CF24 2FN
Mae Campws Caerdydd o fewn pellter cerdded i brif orsafoedd trên y ddinas.
- Mae gorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd, tua 5 munud ar droed.
- Mae gorsaf Caerdydd Canolog tua 10 munud ar droed
- Mae gwasanaethau rheolaidd yn rhedeg o bob cwr o Dde Cymru a'r DU
Mae gan Gaerdydd digon o wasanaethau bysiau cenedlaethol.
- Mae gwasanaethau National Express yn cyrraedd Gerddi Sophia
- Mae gwasanaethau Megabus yn stopio ar Ffordd y Brenin
Mae'r ddau o fewn pellter cerdded i'r campws
Mae modd cyrraedd Caerdydd o sawl maes awyr mawr.
- Mae Maes Awyr Caerdydd tua 11 milltir i ffwrdd, gyda chysylltiadau bws a rheilffordd.
- Mae Maes Awyr Bryste yn cynnig gwasanaethau rheolaidd ac ychydig dros awr i ffwrdd.
- Mae Heathrow Llundain tua 2.5 awr mewn car.
Bywyd myfyrwyr a chymorth
Archwiliwch y mannau, y gymuned a'r profiadau sy'n llunio bywyd myfyrwyr yn PDC.
Dysgwch fwy am gostau byw nodweddiadol myfyrwyr a'r cymorth ariannol sydd ar gael.
Gallwch gael y cymorth sydd ei angen arnoch, o les a chyllid i sgiliau astudio a gyrfaoedd.