Ysgol Busnes ac Arloesi, Caerdydd

Rydyn ni’n helpu myfyrwyr i ddod ag arloesedd i'r byd go iawn trwy ddysgu ochr yn ochr ag arbenigwyr diwydiant yng Nghaerdydd, fel eich bod yn graddio'n barod i adeiladu gyrfa neu fusnes.

Gweld ein cyrsiau Neilltuwch lle ar ddiwrnod agored
Interior design student sitting in a studio using a laptop and smiling.
student-25

Lle mae arweinwyr yn dysgu trwy wneud

Galw sylfaenwyr busnesau’r dyfodol, pobl sydd am ddringo’r ysgol gyrfa a rhoi hwb i fusnes, pobl sy’n creu ac yn dylanwadu ar y farchnad. Yn barod i ymdrochi ym myd go iawn Rheoli Busnes, Cyfrifeg a Chyllid neu Farchnata a Hysbysebu?

Mae ein modiwlau ymarferol yn eich rhoi mewn sefyllfaoedd busnes go iawn o'r diwrnod cyntaf un. Mae hynny'n golygu briffiau byw a’r heriau sy’n wynebu’r byd go iawn, y cyfan wedi’u gosod gan weithwyr proffesiynol y diwydiant. Erbyn i chi raddio o'r Ysgol Busnes ac Arloesi, Caerdydd, bydd gennych brofiad a gradd.


Pam astudio gyda ni?

Cwrdd â'r bobl bwysig

Rydyn ni wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, lle mae Cymru'n gwneud busnes. Rydyn ni wedi'n hamgylchynu gan y cyflogwyr, y mentoriaid a a’r cyfleoedd sy'n troi cysylltiadau yn yrfaoedd.

Dechrau yma. Lansio lle bynnag sy’n gweithio i chi

Beth bynnag rydych chi am ei adeiladu, bydd y rhwydwaith a'r arbenigedd entrepreneuraidd sydd eu hangen arnoch ar gael i chi.

Paratoi at yr hyn sydd nesaf

Gyda modiwlau fel Busnes 4.0 a’r Rhedfa i Newid, byddwch yn graddio'n barod i ymuno â’r byd busnes cyfoes.

Dysgu. Arwain. Gwneud.

Mae ein modiwlau ymarferol yn eich rhoi mewn sefyllfaoedd busnes go iawn o'r diwrnod cyntaf un. Mae hynny'n golygu briffiau byw o’r diwydiant, amserlenni busnes a chyflogwyr go iawn o'r cychwyn cyntaf.

Beth allwch chi ei astudio

Lecturer surveying students in the Trading Room, accounting data is displayed on the classroom board.

Cyfrifeg a Chyllid

Astudiwch i gael cydnabyddiaeth broffesiynol gyda chyrff cyfrifyddu byd-eang blaenllaw a datblygwch y sgiliau sydd wir eu hangen yn y byd gwaith yn ein Canolfan Fasnachu Ariannol - mae’r fantolen yn fwy na ffigurau pan fôn nhw’n datrys problemau go iawn.

Business and Management student, wearing a suit, smiling.

Busnes a Rheoli

Gallwch Adeiladu eich Busnes Cyntaf ym mlwyddyn un.  Byddwch yn Newid y Byd yn yr ail flwyddyn, gan ddatrys problemau go iawn wedi’u gosod gan bartneriaid diwydiant. Ac wedyn gallwch adeiladu eich gradd o amgylch y busnes – neu yrfa – o’ch dewis a mentro ar daith bersonol i chi.

A student with pink and brown hair is sitting in a studio, working on a laptop and smiling.

Marchnata a Hysbysebu

Cewch weithio ar friffiau byw ar gyfer brandiau fel Nike a Google cyn i chi raddio hyd yn oed.

Pam PDC?

Caerdydd

Mae ein cyrsiau wedi'u lleoli yng nghanol Caerdydd, gan sicrhau bod gennych fynediad at ein partneriaid ar garreg ein drws yn y brifddinas.  

Campws Caerdydd

Ymchwil

Rydyn ni’n falch o fod yn arloeswyr newid yng Nghymru a’r tu hwnt. Rydyn ni’n cymhwyso ein gwybodaeth a'n hymchwil i broblemau go iawn sy'n wynebu pobl a busnesau.

Archwiliodd un o'n prosiectau diweddar dwf y farchnad gwisgoedd priodas ail-law ac mae ein hymchwil wedi llunio polisi Llywodraeth Cymru ar entrepreneuriaeth fenywaidd, gan gefnogi mwy na 400 o entrepreneuriaid benywaidd a gwella cefnogaeth i fusnesau.

Ymchwil

Cyfnewidfa PDC

Cyfnewidfa PDC yw drws ffrynt ein hymgysylltu â busnes. Mae ein tîm o Reolwyr Ymgysylltu yn barod i helpu gydag ystod o heriau busnes trwy ddefnyddio talent, arbenigedd a chyfleusterau PDC.

Cyfnewidfa PDC

Dyfodol Graddedigion

Dyfodol Graddedigion yw ein ffair gyrfaoedd, sydd â’r nod o hybu cyflogadwyedd a chysylltu myfyrwyr yn uniongyrchol â diwydiant.  Gan ddod ag ystod eang o gyflogwyr at ei gilydd, mae'r digwyddiad yn helpu myfyrwyr i ystyried cyfleoedd, cael mewnwelediad i wahanol feysydd, ac adeiladu'r hyder a'r cysylltiadau sydd eu hangen ar gyfer eu camau nesaf.

Y Stiwdio Sefydlu

Diben y Stiwdio Sefydlu yw helpu i ddatblygu a thyfu syniadau busnes newydd. Gall myfyrwyr sydd ag angerdd dros entrepreneuriaeth gael cyngor ar sut i ddechrau eu busnesau eu hunain a thyfu eu rhwydwaith trwy amrywiol ddigwyddiadau.

Stiwdio Sefydlu

Pam PDC?

#3 yn y DU

PDC yw Rhif 3 yn y DU am nifer y graddedigion sy'n dal i redeg eu busnes eu hunain.  Gwneud, yn ogystal â dweud.

HE Business and Community Interaction (HE-BCI) Survey 2024/25
  • Mae PDC ymhlith 50 sefydliad gorau’r DU o ran pŵer ymchwil yn y Times Higher Education.

Pam PDC?

Ar y brig yng nghymru

ar gyfer busnesau newydd am y 6ed flwyddyn yn olynol, ac yn y 7ed safle yn y DU.

Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
  • Mae PDC ymhlith 50 sefydliad gorau’r DU o ran pŵer ymchwil yn y Times Higher Education.


UN O’R PETHAU RWY’N EI WERTHFAWROGI FWYAF AM ASTUDIO BUSNES YW CYMHWYSO’R CYSYNIADAU RYDYN NI’N EU DYSGU YN Y BYD GO IAWN

Sumaya Khan

BA (Anrh) Busnes a Rheoli