EFFAITH YMCHWIL AC ARLOESI
Mae ein hymchwil yn anelu at wneud gwahaniaeth, gan newid bywydau a’r byd er gwell.
Ein Strategaeth Amdanom niRydym yn darparu atebion i heriau go iawn y mae’r gymdeithas a’r economi yn eu hwynebu, gydag ymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i helpu busnesau, cymunedau, a llunwyr polisïau.
Galluoedd Ymchwil Rhagorol yn Rhyngwladol
Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad cyflymach a buddsoddiad yn ein meysydd ymchwil sydd ag enw da yn rhyngwladol, ac sy'n cael effaith fawr ar amgylchedd cynaliadwy; trosedd, diogelwch a chyfiawnder; iechyd a llesiant, a chreadigol.
Datblygir arfer pedagogaidd arloesol â ffocws, gan gynnwys defnydd o dechnolegau newydd.
Effaith Ymchwil ac Arloesi
Bydd ein timau ymchwil amlddisgyblaethol yn canolbwyntio ar ddarparu atebion perthnasol ac effeithiol i broblemau sy'n effeithio ar gymdeithas a'r economi.
Bydd dysgu ac addysgu yn seiliedig ar fewnwelediadau a thystiolaeth o'n heffaith ymchwil ac arloesi mewn diwydiant a'r gymuned.
Byddwn yn cefnogi, meithrin ac arddangos talent ac uchelgais ein hymchwil a’n harloesedd.
Cyfnewid Gwybodaeth a Sgiliau er Budd Myfyrwyr a Phartneriaid Strategol
Bydd ein partneriaethau strategol sylweddol yn mynd i'r afael â heriau byd-eang ac yn gweithredu fel catalyddion ar gyfer dylanwad a chefnogaeth ehangach.
Bydd ein gwaith cydweithredol yn canolbwyntio ar greu lefelau uwch o gynhyrchiant, arloesedd ac effaith economaidd.
Bydd yn gweithredu fel pont ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr, cyflogwyr a buddiannau cymunedol.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ysbrydoli a chefnogi entrepreneuriaeth myfyrwyr.