Cyngor ar Anabledd
Mae'r Tîm Cyngor ar Anabledd yn helpu pobl ag anableddau i drosglwyddo i fywyd yn y Brifysgol, ac yn eu cefnogi yn ystod eu hamser fel myfyrwyr PDC.
Os ydych yn niwrowahanol neu os oes gennych anabledd corfforol, synhwyraidd, iechyd meddwl neu anweledig, byddwn yn gweithio gyda chi i ystyried eich anghenion unigol, darparu gwybodaeth, trafod 'addasiadau rhesymol', a'ch helpu i wneud cais am y cymorth sydd ei angen arnoch.
Myfyrwyr Newydd PDC
Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl, fel y gallwn sicrhau bod addasiadau a chymorth priodol ar waith o ddechrau eich cwrs.
Cysylltwch â ni cyn i'ch cwrs ddechrau drwy e-bostio [email protected].
Cwblhewch y Llwybr Cyngor a Chymorth i Anabledd (mae angen mewngofnodi) pan fyddwch wedi sefydlu eich cyfrif TG USW.
Myfyrwyr Coleg Partner - cysylltwch â'ch coleg partner yn uniongyrchol i gael cymorth anabledd.
Cysylltu â ni
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01443 654070, 10am-12pm, dydd Llun i ddydd Gwener (yn ystod y tymor yn unig)
Sesiynau galw heibio: (yn ystod y tymor yn unig)
Ardal Gynghori Caerdydd, 10am-1pm, dydd Mawrth a dydd Iau
Ardal Gynghori Casnewydd, 10am-1pm, Dydd Mawrth
Ardal Gynghori Trefforest, 10am-1pm, dydd Llun a dydd Mercher
Datganiad Preifatrwydd - rydym yn defnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein ar gyfer trefnu apwyntiadau a pheth rhyngweithio cefnogi. Gweler Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnyddio Gwybodaeth Bersonol.
Blodyn Haul Anableddau Cudd – mae PDC yn falch o gefnogi Blodyn Haul Anableddau Cudd. Gellir casglu laniard o'r Ardal Gynghori.