Sgrinio Dyslecsia ac Asesiadau
Gall myfyrwyr â Dyslecsia neu Anawsterau Dysgu Penodol eraill gael gafael ar ystod o gymorth ac offer yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol.
Os oes gennych ddyslecsia, anhawster dysgu penodol neu anabledd arall, gwnewch apwyntiad gyda Chynghorydd Anabledd. (Os ydych chi'n astudio yn un o'n colegau partner, cysylltwch â'ch coleg).
Sylwch: Nid yw'r brifysgol yn darparu gwasanaethau diagnostig mewn perthynas ag ADhD, Awtistiaetha nac anableddau iechyd meddwl, synhwyraidd neu gorfforol eraill. Rydym yn argymell eich bod yn trafod pryderon o'r fath gyda'ch meddyg teulu yn y lle cyntaf ac yn ceisio atgyfeiriad priodol gan y GIG. Os ydych yn oedolyn ac yn meddwl eich bod yn awtistig, ond heb ddiagnosis, efallai y bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gallu cynnig asesiad diagnostig i chi.
Y Broses Sgrinio ac Asesu
Cyn y gallwch gael asesiad diagnostig ffurfiol, rhaid i chi fod wedi cael prawf llygaid o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hwn yn ofyniad gorfodol i ddiystyru unrhyw gyflyrau llygaid gweledol neu strwythurol sylfaenol a allai fod yn effeithio ar eich darllen neu ddysgu.
- Os oes gennych gynllun cymorth ar hyn o bryd, cysylltwch â ni yn [email protected] cyn dechrau'r broses asesu.
- Os nad oes gennych gynllun cymorth cyfredol a gallwch gadarnhau eich bod wedi cael prawf llygaid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, cwblhewch yr holiadur sgrinio a dilynwch y camau nesaf isod.
Sylwer: dim ond os gallwch gadarnhau eich bod wedi cael prawf llygaid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf y gallwn drefnu asesiad.
Cwblhewch y gwiriwr quickscan cyflym
Os yw canlyniadau'r gwiriwr yn dangos dyslecsia posibl, anfonwch eich canlyniadau at [email protected] a bydd y tîm yn cysylltu â chi i drafod y camau priodol nesaf.
Gall myfyrwyr cofrestredig PDC sy'n astudio o leiaf 60 credyd sydd angen asesiad llawn, fod yn gymwys i dderbyn asesiad a ariennir trwy ein
Bwrsariaeth Profi Diagnostig (mae cyllid bwrsariaeth yn gyfyngedig ac nid yw cymorth gyda ffioedd asesu wedi'i warantu).
Os yw'n briodol, gwneir atgyfeiriad at ein partner PAM Wellness, a fydd yn cysylltu â chi i drefnu asesiad llawn.