Prifysgol De Cymru Datganiad Hygyrchedd
Prifysgol De Cymru Datganiad Hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.decymru.ac.uk
Prifysgol De Cymru sy'n gyfrifol am y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- Chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- Llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
- Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae AbilityNet yn darparu cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch mae'r wefan hon
Rydym yn gwybod bod rhannau o'r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch. Gallwch weld rhestr lawn o unrhyw drafferthion rydym yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran cynnwys nad yw'n hygyrch y datganiad hwn.
Fformatau gwahanol
Rydym wedi cynllunio ein cynnwys i fod mor hygyrch â phosibl. Fodd bynnag, os byddwch yn dod ar draws rhwystrau, gallwch ofyn am fformatau gwahanol.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.
Adborth a manylion cyswllt
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.
Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad hygyrchedd gan gynnwys:
- Os ydych yn cael trafferth gyda chyrchu gwybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
- Os dewch o hyd i broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y datganiad hwn
- Os oes gennych adborth ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.
Pan yn cysylltu â ni, darparwch y wybodaeth ganlynol:
- cyfeiriad gwe (URL) y dudalen lle y daethoch o hyd i'r broblem
- beth yw'r broblem, ac oeddech chi'n defnyddio dyfais symudol neu bwrdd gwaith
- enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe roeddech chi'n ei ddefnyddio
- unrhyw dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio, er enghraifft darllenydd sgrin
E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHA) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').
Os nad ydych chi'n hapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae profion yn cael eu cynnal ar y wefan hon ar hyn o bryd ar gyfer cydymffurfiaeth â WCAG 2.1 Lefel AA. Efallai na fydd rhai meysydd yn bodloni'r holl feini prawf llwyddiant eto. Mae profion ar gyfer WCAG 2.2 Lefel AA wedi dechrau, ac rydym yn gweithio tuag at gydymffurfiaeth lawn.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (CHCG) fersiwn 2.1 oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Mae'r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Pryderon Hygyrchedd Byd-eang:
- Diffygion Testun Amgen: Nid oes gan nifer o ddelweddau ar draws y wefan ddisgrifiadau testun amgen priodol, sy’n rhwystr i ddefnyddwyr sy'n dibynnu ar raglenni darllen sgrin.
Mae hyn yn methu CHCG 1.1.1 Cynnwys Nad yw'n Destun (A)
Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus. - Does dim teitl dilys gan rhai o’n dogfennau PDF.
Mae hyn yn methu CHCG 2.4.2 Tudalen a Enwyd (A)
Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus. - Mae angen tagio rhai o'n dogfennau PDF mewn trefn darllen ddilys ar gyfer hygyrchedd.
Mae hyn yn methu CHCG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A).
Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus. - Weithiau, does dim teitlau hygyrch ar ddogfennau wedi’u mewnblannu (iframe). Mae hyn yn methu CHCG:
Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus. - Ar draws y wefan mae yna wahanol fethiannau dangosiad ffocws lle nad yw elfennau'n derbyn dangosiad ffocws amlwg, fel rhai rheolaethau rhyngweithiol nad ydynt yn cael eu dewis yn glir, neu ar adegau, lle mae yna eiconau cyfryngau cymdeithasol anweledig sy'n tarfu ar ffocws a’r daith bysellfwrdd.
Methu CHCG 2.4.7 Ffocws Gweladwy (AA).
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr.
Materion Hygyrchedd Penodol sy'n Gysylltiedig â Chynnwys:
- Rhyngweithioldeb Cyffwrdd Carwselau: Nid yw carwselau arddangos tystebau wedi'u hoptimeiddio ar gyfer rhyngweithioldeb cyffwrdd ar ddyfeisiau llai, gan eu bod heb y gofod a maint targed cyffwrdd angenrheidiol.
Mae hyn yn methu CHCG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A).
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr. - Labelu Llywio Carwselau: Does dim labeli hygyrch ar eiconau llywio o fewn y carwselau tystebau, sy’n golygu nad oes modd eu llywio trwy dechnolegau cynorthwyol.
Mae hyn yn methu CHCG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A).
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr. - Delweddau cyfryngau grid: Pan fydd ein gwefan yn cael ei gweld ar sgriniau bach fel ffonau symudol, mae angen i ni sicrhau nad yw tudalennau'n sgrolio mewn dau ddimensiwn. Mae hyn yn methu CHCG 1.4.10 Ail-lif (AA)
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr. - Penawdau Eitemau mewn Llithryddion Digwyddiadau: Mae teitlau wedi’u codio'n amhriodol ar gyfer eu penawdau. Mae hyn yn methu CHCG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A).
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr.
Offer a Theclynnau Trydydd Parti
Mae ein gwefan yn cynnwys deunydd a swyddogaethau wedi’u darparu gan gyflenwyr trydydd parti. Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wasanaethau’n bodloni safonau hygyrchedd, maer rhai elfennau y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol. Rydym wedi gofyn am ddogfennaeth hygyrchedd gan y cyflenwyr hyn, a’u hadolygu, lle bo’n bosibl.
Mae'r gwasanaethau trydydd parti canlynol yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd:
Unibuddy
Mae ein gwefan yn defnyddio Unibuddy, rhyngwyneb sgwrsio i alluogi darpar fyfyrwyr i anfon negeseuon gwib at Staff a Llysgenhadon cofrestredig dethol. Mae'r offeryn hwn yn cael ei ddatblygu gan drydydd parti ac nid oes gennym reolaeth lawn drosto.
Mae gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer Unibuddy yn seiliedig ar VPAT 2.4 a ddarperir gan AllAble ac fe'i aseswyd fel un sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol, dyddiedig 27/03/2025.
OneTrust
Mae ein gwefan yn defnyddio OneTrust i roi caniatâd cwci i ddefnyddwyr ar gyfer ein cynhyrchion digidol. Mae'r offeryn hwn yn cael ei ddatblygu gan drydydd parti ac nid oes gennym reolaeth lawn drosto.
Mae gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer OneTrust yn seiliedig ar VPAT 2.4 a ddarparwyd gan OneTrust ac fe'i aseswyd fel un sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol, dyddiedig Mai 2025
Issuu
Mae rhai o'n dogfennau yn cael eu cyhoeddi fel llyfrau fflipio ISSUU. Ar gyfer y profiad mwyaf hygyrch, rydym hefyd yn darparu PDF hygyrch o bob dogfen i'w gweld ar-lein neu ei lawrlwytho. Rydym yn uwchlwytho'r un PDF hygyrch i ISSUU, ond efallai na fydd rhai nodweddion hygyrchedd yn cael eu cefnogi'n llawn ar blatfform ISSUU.
Microsoft Forms
Rydym yn defnyddio Microsoft Forms i ddarparu arolygon ar-lein. Mae hwn yn wasanaeth trydydd parti, ac mae rhai agweddau y tu allan i'n rheolaeth uniongyrchol.
Mae'r wybodaeth hygyrchedd isod yn seiliedig ar Adroddiad Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Microsoft – WCAG 2.2 (yn seiliedig ar VPAT® 2.5Rev) ar gyfer Microsoft Forms (Gwe), dyddiedig 29 Tachwedd 2024.
Problemau hygyrchedd hysbys:
- Cyhoeddiadau ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin: Mae rhai rheolaethau nad ydynt yn datgelu eu cyflwr yn rhaglennol nac yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Er enghraifft, ar dudalen y porth mae'r botymau Gwedd Rhestr a Gwedd Teils heb y cyflwr gwiriad-aria sydd ei angen, ac mae cydrannau tab yn cyhoeddi eu mynegai ddwywaith. Mae hyn yn methu WCAG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A).
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Os dewch o hyd i fater nad ydym wedi ei adnabod eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r ffyrdd a ddisgrifir yn adran 'Adrodd ar broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon' y datganiad hwn.
Gwneir gwelliannau parhaus yn ddeinamig drwy gydol y flwyddyn yn dilyn adborth drwy ein prosesau archwilio parhaus a'n defnyddwyr.
Baich anghymesur
Nid ydym yn hawlio baich anghymesur ar gyfer y wefan hon.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae Prifysgol De Cymru yn gwneud y canlynol er mwyn gwella hygyrchedd:
- Rydym yn datblygu Polisi Hygyrchedd Digidol.
- Mae gennym Weithgor Hygyrchedd Digidol er mwyn monitro a chydlynu Hygyrchedd Digidol ein Gwasanaethau a'n Systemau
Deddf Hygyrchedd Ewropeaidd (EAA)
Er bod y wefan hon wedi'i chynllunio i fodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â Lefel AA WCAG 2.2, rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein cynnwys a'n gwasanaethau yn unol â Deddf Hygyrchedd Ewropeaidd (EAA), a ddaw i rym ar 28 Mehefin 2025.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon dechnegol EN 301 549 v.3.2.1. Gweler yr adran Cynnwys nad yw'n hygyrch am fwy o fanylion.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Profwyd tudalennau a dogfennau o bob rhan o'r wefan yn erbyn CHCG 2.1 AA gan ddefnyddio Axe DevTools Pro fersiwn 4.10.3 a Chrome Lighthouse 12.8.2. Cynhaliwyd y profion ar Mac OSX a Windows o fewn Firefox a Chrome. NVDAv2025.3.1.
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 01/10/2024.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 22/08/2025.
Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 03/11/2025.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol.
Hygyrchedd Digidol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os ydych chi'n profi unrhyw anhawster, cysylltwch â ni.
[email protected]