Datganiad Hygyrchedd: Blackboard Ultra
Datganiad Hygyrchedd: Blackboard Ultra
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Blackboard (https://unilearn.southwales.ac.uk/ultra/institution-page), yr Amgylchedd Dysgu Rhithiol (VLE) a gefnogir yn ganolog ar gyfer Prifysgol De Cymru.
Hygyrchedd Blackboard Ultra
Mae Blackboard yn drydydd parti sydd bellach yn cael ei ddylunio a'i ddatblygu yn unol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.2 Lefel AA.
Mae Blackboard yn darparu gwybodaeth am ymagwedd y cwmni at hygyrchedd ar y dudalen we hon: Blackboard Learn Accessibility Overview.
Pa mor hygyrch yw platform Blackboard?
Wrth ddefnyddio Blackboard Learn dylech allu:
- Fel arfer, newid maint testun hyd at 200%. Fodd bynnag, mae'r prif ardal cynnwys ar rai paneli yn fach iawn pan fydd y porwr yn cael ei chwyddo i 200%, gan ei gwneud hi'n anodd ei ddarllen a'i ddefnyddio. Llywio’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin.
- Llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
Mae Blackboard yn cydymffurfio'n rhannol â WCAG 2.2 ac Adran 508. Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:
- Nid yw'r modd tywyll ar gael eto, ond mae ar fap ffordd Blackboard.
- Nid yw rhai rheolyddion yn gwbl weithredadwy gyda'r bysellfwrdd.
- Nid yw rhai penawdau gweledol wedi'u marcio fel penawdau.
- Mae rhai marciau tabl data yn anghywir.
- Mae rhai gweithredoedd (fel aildrefnu cynnwys ar gyfer hyfforddwyr) yn gofyn am symudiadau llusgo neu fod ganddynt reolaethau nad ydynt yn bodloni gofynion maint targed (WCAG 2.5.7, 2.5.8)
- Nid yw rhai awgrymiadau cymorth, moddolau a rheolaethau yn gwbl hygyrch gydda’r bysellfwrdd (2.1.1)
- Ar gyfer defnyddwyr darllenydd sgrin, mae problemau gyda strwythur semantig, penawdau coll, a labelu ARIA anghyson yn achosi dryswch.
- Mae rhai problemau gyda newid maint testun (1.4.4), ail-lif ar sgriniau golwg bach, a dangosyddion ffocws cyferbyniad isel (1.4.3) yn lleihau defnyddioldeb. Dim modd tywyll ar gael.
I gael manylion am ba mor dda mae Blackboard Learn yn cydymffurfio â safonau WCAG, edrychwch ar Adroddiad Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Blackboard (ACR) (dyddiedig Awst 2024).
Pa mor hygyrch yw’r cynnwys sydd ar gael ar Blackboard?
Oddi ar mis Mehefin 2024 rydym wedi bod yn defnyddio’r Ultra Course View. Fodd bynnag, mae modiwlau a chyrsiau etifeddiaeth yn parhau i fod yn yr Original Course View, lle gall fod problemau hygyrchedd ynghylch dyluniad gweledol a chyferbyniad lliw mewn modiwlau sydd wedi'u personoli gan staff cyflwyno modiwlau.
Mae cynnwys dysgu o fewn modiwlau a chyrsiau Blackboard yn cael ei greu a'i uwchlwytho gan amrywiaeth eang o staff cymorth academaidd a gweinyddol, felly gall hygyrchedd y cynnwys hwn amrywio yn unol â hynny.
Rydym yn ymwybodol:
- Efallai na fydd ffeiliau PDF hŷn (ffeiliau PDF wedi'u sganio) yn hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin.
- Efallai na fydd dogfennau Word a ffeiliau eraill yn gwbl hygyrch; penawdau ar goll, neu sy'n cynnwys delweddau heb ddisgrifiad (Testun Amgen).
- Efallai nad oes capsiynau neu drawsgrifiadau i fideos.
Er mwyn cefnogi defnyddwyr, mae ategyn Blackboard Ally yn cynnig lawrlwythiadau fformat amgen i fyfyrwyr i gefnogi gydag unrhyw ddeunydd dysgu nad yw'n gwbl hygyrch. Mae gan hwn ei ddatganiad hygyrchedd ei hun: Hygyrchedd yn Ally.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Offer trydydd parti
Mae rhai offer, cynnwys a/neu ymarferoldeb trydydd parti wedi'u hintegreiddio i'n hamgylchedd dysgu rhithiol ar Blackboard, ac mae gan y rhain eu datganiadau hygyrchedd eu hunain.
Pan fyddwn yn dewis cynnwys neu ymarferoldeb trydydd parti ar yr amgylchedd Blackboard Learn, rydym yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn bodloni safonau hygyrchedd.
Lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni gynnwys cynnwys neu swyddogaethau trydydd parti, ni allwn yn rhesymol dderbyn cyfrifoldeb am sicrhau ei fod yn bodloni safonau hygyrchedd.
Turnitin
Gwybodaeth hygyrchedd Turnitin. Mae hyn yn cynnwys dogfennau VPAT ar gyfer:
- Feedback Studio LTI Rhyngwyneb Rheoli Aseiniadau Myfyrwyr.
- Feedback Studio Adborth i Fyfyrwyr a Rhyngwyneb Graddio Ar-lein.
- Rhyngwyneb Adroddiad Tebygrwydd Turnitin Feedback Studio Adroddiad Tebygrwydd Testun yn Unig Draft Coach.
- Er nad yw Turnitin Feedback Studio ar hyn o bryd yn cydymffurfio’n llwyr â WCAG 2.0 AA, gallwch ddefnyddio'r adroddiad testun yn unig ar gyfer gwell profiad gyda thechnoleg gynorthwyol a Turnitin. Gweler y canllaw Turnitin - Cyrchu'r Adroddiad Tebygrwydd testun yn unig.
LearnSci
Defnyddir deunyddiau LearnSci ar rai cyrsiau sy'n seiliedig ar Wyddoniaeth. Datganiad Hygyrchedd LearnSci.
Padlet
Bydd rhai modiwlau yn cynnwys Padlet fel adnodd trafod/gweithgareddau cydweithredol. Gweler y Datganiad Hygyrchedd Padlet.
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, dylech allu cael hyn gan ddefnyddio Blackboard Ally. Gall hyn ddarparu cynnwys mewn ystod o fformatau, gan gynnwys:
- PDF gyda thagiau
- HTML
- ePub
- Braille electronig
- Ffeil sain MP3
- Beeline Reader (ar gyfer darllen haws a chyflymach ar y sgrin)
- Microsoft Immersive Reader
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gyrchu Blackboard, neu offer fel Turnitin sydd wedi'u hintegreiddio i Blackboard, cysylltwch â'r gwasanaethau TG: Desg Wasanaeth : Cymorth PDC / USW Support.
Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad hygyrchedd, gan gynnwys:
- Os ydych chi'n profi problemau gyda chael mynediad at wybodaeth neu ddefnyddio'r wefan.
- Os ydych chi'n dod o hyd i broblem hygyrchedd sydd heb ei rhestru ar y datganiad hwn.
- Os oes gennych adborth cadarnhaol ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.
Wrth gysylltu â ni, nodwch y canlynol:
- Cyfeiriad gwe y dudalen lle gwnaethoch ddod o hyd i'r broblem.
- Disgrifiad o'r broblem (ac a oedd hyn ar y fersiwn symudol neu fwrdd gwaith).
- Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe sy'n cael ei ddefnyddio.
- Manylion unrhyw dechnoleg gynorthwyol sy'n cael ei defnyddio (er enghraifft, darllenydd sgrin).
Y manylion cyswllt yw:
E-bost - [email protected]
Cysylltu â ni - https://www.decymru.ac.uk/cysylltu-a-ni/
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Deddf Hygyrchedd Ewrop (EAA)
Er bod y wefan hon wedi'i chynllunio i fodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018, sy'n ei gwneud yn ofynnol cydymffurfio â WCAG 2.2 Lefel AA, rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein cynnwys a'n gwasanaethau yn unol â Deddf Hygyrchedd Ewrop (EAA), a ddaeth i rym ar 28 Mehefin 2025.
Statws cydymffurfio
Mae Amgylchedd Dysgu Rhithiol Blackboard yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir o dan y pennawd "diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd".
Yn seiliedig ar Adroddiad Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Blackboard (ACR) (dyddiedig Awst 2024).
Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn monitro ein hamgylchedd dysgu rhithiol yn barhaus ar gyfer hygyrchedd.
Mae PDC yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hygyrchedd, ac yn helpu staff i wella eu dealltwriaeth o hygyrchedd digidol a dylunio deunyddiau addysgu a dysgu i fod yn hygyrch – mae hyn yn cynnwys hyrwyddo gwiriwr Hygyrchedd Blackboard Ally:
- Myfyrwyr: Ally - Prifysgol De Cymru
- Staff: Rheoliadau Hygyrchedd Digidol
Prosesau Profi
Profwyd platfform gwefan Blackboard Learn gan Blackboard Inc. ac mae'r canlyniadau ar gael yn Adroddiad Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Blackboard (29 Awst 2024).
Mae profion hygyrchedd hefyd yn cael eu cynnal yn fewnol ar sampl o dudalennau gan ddefnyddio offer awtomataidd, yn ogystal â phrofi â llaw.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 24ain o Dachwedd 2025.
Hygyrchedd Digidol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os ydych chi'n profi unrhyw anhawster, cysylltwch â ni.
[email protected]