Datganiad Hygyrchedd UniLife

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i UniLife, porth i fyfyrwyr PDC. Dyma'r brif ffordd mae'r Brifysgol yn cyfathrebu â myfyrwyr presennol, trwy newyddion, hyrwyddiadau, hysbysiadau a mwy. https://unilife.southwales.ac.uk


 

Prifysgol De Cymru sy'n gyfrifol am y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio offeryn hygyrchedd tu allan i'n gwefan 

  • Chwyddo hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae AbilityNet yn darparu cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch mae'r wefan hon

Mae gwefan UniLife yn defnyddio MyDay, rhaglen trydydd parti wedi’i datblygu gan Collabco Ltd. ac nid o dan ein rheolaeth lawn. Mae MyDay yn gampws digidol addasadwy sy'n casglu, arddangos a gwthio gwybodaeth o wahanol systemau TG.  

Mae gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer y datganiad hwn yn seiliedig ar y datganiad hygyrchedd a gyhoeddwyd ganddynt ar 24 Ebrill 2025.

https://collabco.elevio.help/en/articles/341-2025-accessibility-statement-for-myday-developed-by-ready-education

Mae'r materion hygyrchedd canlynol yn bresennol:

  • Testun amgen delweddau heb ei ddefnyddio'n gywir mewn mannau
  • Mae problemau strwythur penawdau ar rai tudalennau 
  • Mae gan rai tudalennau broblemau gyda rheolaethau nad ydynt yn cael eu gweithredu neu eu labelu'n gywir
  • Mae rhai elfennau testun a di-destun heb gyferbyniad digonol
  • Mae problemau cyflwyno ac eglurder gyda dolenni testun 
  • Mae rhai elfennau rhai tudalennau’n anhygyrch drwy'r bysellfwrdd
  • Nid oes dangosydd ffocws yn weladwy ar gyfer un neu ddau o dudalennau
  • Mae rhai elfennau rhyngweithiol â labeli rhaglennol aneglur neu rai sydd ar goll yn llwyr ac mae rôl a chyflwr rhai elfennau hefyd yn aneglur

Fformatau gwahanol

Rydym wedi cynllunio ein cynnwys i fod mor hygyrch â phosibl. Fodd bynnag, os byddwch yn dod ar draws rhwystrau, gallwch ofyn am fformatau gwahanol.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.

Adborth a manylion cyswllt

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad hygyrchedd gan gynnwys:

  • Os ydych yn cael trafferth gyda chyrchu gwybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
  • Os dewch o hyd i broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y datganiad hwn
  • Os oes gennych adborth cadarnhaol ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.

Wrth gysylltu â ni, rhowch:

  • Gyfeiriad gwe'r dudalen lle daethoch ar draws y broblem.
  • Disgrifiad o'r broblem (ac a oedd hyn o ddyfais symudol neu fwrdd gwaith).
  • Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe a ddefnyddiwyd.
  • Manylion unrhyw dechnoleg gynorthwyol a ddefnyddiwyd  (er enghraifft, darllenydd sgrin).

E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.

Enforcement procedure

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHA) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Os nad ydych chi'n hapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Myday wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (CHCG) fersiwn 2.2 oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r rhesymau sy’n egluro pam nad ydynt yn hygyrch i'w gweld mewn Datganiad Hygyrchedd a gyhoeddwyd gan MyDay yn yr adran "Meysydd nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd".  

Datganiad Hygyrchedd MyDay wedi'i ddiweddaru ddiwethaf: 24 Ebrill 25 

https://collabco.elevio.help/en/articles/341-2025-accessibility-statement-for-myday-developed-by-ready-education

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Os byddwch yn dod o hyd i broblem nad yw wedi'i nodi, cysylltwch â ni drwy un o’r ffyrdd a ddisgrifir yn adran 'Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon' y datganiad hwn.

Gwneir gwelliannau parhaus yn ddeinamig drwy gydol y flwyddyn yn dilyn adborth drwy ein prosesau archwilio parhaus a'n defnyddwyr.

Baich anghymesur

Nid ydym yn hawlio baich anghymesur ar gyfer y wefan hon.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

Deddf Hygyrchedd Ewropeaidd (EAA)

Er bod y wefan hon wedi'i chynllunio i fodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â Lefel AA WCAG 2.2, rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein cynnwys a'n gwasanaethau yn unol â Deddf Hygyrchedd Ewropeaidd (EAA), a ddaw i rym ar 28 Mehefin 2025.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon dechnegol EN 301 549 v.3.2.1. Gweler yr adran Cynnwys nad yw'n hygyrch am fwy o fanylion.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae Prifysgol De Cymru yn gwneud y canlynol er mwyn gwella hygyrchedd:

  • Rydym yn datblygu Polisi Hygyrchedd Digidol
  • Mae gennym Weithgor Hygyrchedd Digidol er mwyn monitro a chydlynu Hygyrchedd Digidol ein Gwasanaethau a'n Systemau

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Profwyd sampl cynrychioliadol o dudalennau o holl feysydd y wefan yn erbyn canllawiau WCAG 2.2 AA gan ddefnyddio offer awtomataidd (axe DevTools Pro v4.4.2 a Microsoft Accessibility Insights) ar borwyr Google Chrome a Firefox ar Mac OSX a Windows.

Yn ogystal â'n profion ni, fe wnaeth cyflenwr llwyfan MyDay brofion cydymffurfiaeth â WCAG f2.2 lefel A a lefel AA gan ddefnyddio Web Usability.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 01/10/2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 24/11/2025.

Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 24/11/2025.

Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 24/04/2025 gan Collabco.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol.

Hygyrchedd Digidol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os ydych chi'n profi unrhyw anhawster, cysylltwch â ni.

[email protected]