Swyddi Yn PDC

Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer system Recriwtio ar y We Grŵp Prifysgol De Cymru

Swyddi Yn PDC Amdanom ni
a member of University catering staff, standing behind a hot food counter serving a burger and chips

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://ce0091li.webitrent.com/ce0091li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=94222C74F88ACD44CB94CF17A901E636&WVID=4597166Rdv&LANG=CYM

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Midland HR (MHR), cyflenwr system Recriwtio ar y We Grŵp PDC ac fe'i gweinyddir gan Dîm Systemau AD PDC. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Pa mor hygyrch mae'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • mae rhai o'r tudalennau'n cynnwys tablau gosodiad, a all gyflwyno materion yn ymwneud â threfn darllen a llywio.
  • mae rhai o'r tudalennau yn cynnwys dolenni nad oes eu hangen neu rai cyfagos, a allai arwain at lywio ychwanegol a dieisiau.
  • mae rhai o'r tudalennau yn cynnwys trinwyr digwyddiadau sy'n dibynnu ar ddyfais, nad yw'n ymddangos eu bod yn hygyrch i ddefnyddwyr llygoden a bysellfwrdd.
  • mae gan rai tudalennau deitlau tudalennau coll neu nid ydynt yn ddisgrifiadol, a all fod yn broblem i rai darllenwyr sgrin.

nid oes gan rai tudalennau briodwedd iaith iddynt, a allai effeithio ar sut mae darllenwyr sgrin yn darllen cynnwys y dudalen.

Mae gan system Recriwtio ar y We Grŵp Prifysgol De Cymru’r trafferthion canlynol

Rydym yn gwybod bod rhannau o'r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch.

Gallwch weld rhestr lawn o unrhyw drafferthion rydym yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran cynnwys nad yw'n hygyrch y datganiad hwn.

Fformatau gwahanol

Rydym wedi cynllunio ein cynnwys i fod mor hygyrch â phosibl. Fodd bynnag, os byddwch yn dod ar draws rhwystrau, gallwch ofyn am fformatau gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.

Adborth a manylion cyswllt

Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad hygyrchedd gan gynnwys:

  • Os ydych yn cael trafferth gyda chyrchu gwybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
  • Os dewch o hyd i broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y datganiad hwn
  • Os oes gennych adborth cadarnhaol ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.

Wrth gysylltu â ni, rhowch:

  • Gyfeiriad gwe'r dudalen lle daethoch ar draws y broblem.
  • Disgrifiad o'r broblem (ac a oedd hyn o ddyfais symudol neu fwrdd gwaith).
  • Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe a ddefnyddiwyd.
  • Manylion unrhyw dechnoleg gynorthwyol a ddefnyddiwyd  (er enghraifft, darllenydd sgrin).

E-bostiwch [email protected].

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n ateb gofynion hygyrchedd, e-bostiwch [email protected].

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHA) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (CHCG) fersiwn 2.2 oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Rydym yn profi hygyrchedd ein gwefan yn ffurfiol yn rheolaidd yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (CHCG) fersiwn 2.2.

Efallai na fydd rhai rhannau o'r wefan yn gweithio i bawb. Isod mae materion hysbys y mae angen i ni naill ai eu trwsio, na allwn eu trwsio, neu nad oes angen i ni eu trwsio ar hyn o bryd. Os dewch o hyd i rywbeth nad yw'n gweithio yr ydym wedi'i golli, cofiwch gysylltu â ni.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Rydym wedi nodi'r hyn rydym yn ei wneud i ddatrys y trafferthion a'r dyddiadau penodedig i ddatrys y materion.

Efallai y bydd angen i ni weithio gyda chyflenwyr trydydd parti i ddatrys rhai problemau.

System Recriwtio ar y We Grŵp Prifysgol De Cymru

https://ce0091li.webitrent.com/ce0091li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=3677555D2006BB11D5A2310C51E5288A&WVID=4597166Rdv&LANG=CYM

Tudalen Canlyniadau Chwilio Rolau ARIA: Nid yw'r rolau ARIA ar y dudalen canlyniadau chwilio wedi'u nythu'n gywir o fewn eu helfennau rhiant. Mae hyn yn methu â chwrdd â Chanllaw CHCG 2.0 1.3.1: Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel AA). 

Bydd y mater yn cael ei ddatrys erbyn: 31.01.2025

Trafferthion â Chyferbyniad Dogfennau PDF: Mae rhai dogfennau PDF yn defnyddio lliwiau nad ydynt yn bodloni'r gofynion cyferbyniad lleiaf. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â Chanllaw CHCG 2.0 1.4.3: Cyferbyniad (Lleiafswm) (Lefel AA).

Bydd y mater yn cael ei ddatrys erbyn: 31.01.2025

Teitlau Tudalen Dogfennau PDF: Mae gan rai disgrifiadau swydd sydd ar ffurf dogfen PDF deitlau tudalen anghywir neu goll, i ddisgrifio cynnwys y ddogfen yn glir. Nid yw hyn yn bodloni CHCG 2.0 Canllaw 2.4.2: Teitl Tudalen (Lefel A).

Bydd y mater yn cael ei ddatrys erbyn: 31.01.2025

Tagiau Amgen ar Goll mewn Dogfennau PDF: Mae rhai disgrifiadau swydd sydd ar ffurf dogfen PDF yn cynnwys ffigurau heb destun amgen priodol. Mae hyn yn methu â bodloni CHCG 2.0 Canllaw 1.1.1: Cynnwys nad yw'n destun (Lefel A).

Bydd y mater yn cael ei ddatrys erbyn: 31.01.2025

Bydd unrhyw ddogfennau PDF newydd yr ydym yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.

Os dewch o hyd i fater nad ydym wedi ei adnabod eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r ffyrdd a ddisgrifir yn adran 'Adrodd ar broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon' y datganiad hwn.

Gwneir gwelliannau parhaus yn ddeinamig drwy gydol y flwyddyn yn dilyn adborth drwy ein prosesau archwilio parhaus a'n defnyddwyr.

Baich anghymesur

Nid ydym yn hawlio baich anghymesur ar gyfer y wefan hon

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

Ein prosesau profi

Profwyd sampl gynrychioliadol o dudalennau'r wefan ynghyd â sampl o'r dogfennau o bob rhan o'r wefan yn erbyn canllawiau CHCG 2.1 AA gan ddefnyddio offer awtomataidd axe DevTools Pro v4.10.0) ar borwyr Google Chrome.

Ar gyfer elfennau trydydd parti, rydym wedi cael datganiadau hygyrchedd gan gyflenwyr yn uniongyrchol (lle bynnag y bo modd).

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae Prifysgol De Cymru yn gwneud y canlynol er mwyn gwella hygyrchedd:

  • Rydym yn datblygu Polisi Hygyrchedd Digidol
  • Mae gennym Weithgor Hygyrchedd Digidol er mwyn monitro a chydlynu Hygyrchedd Digidol ein Gwasanaethau a'n Systemau
  • Rydym yn penodi cyflenwyr i gynorthwyo gyda hyfforddiant hygyrchedd

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 20/08/2024.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 20/08/2024.

Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 20/08/2024.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol.