/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/campus-exterior-glyntaff-alfred-russell-wallace-sunshine-7472.jpg)
Arweinwyr Diogelu PDC
Swyddog Diogelu Arweiniol: William Callaway
Ysgrifennydd y Brifysgol a Chlerc y Llywodraethwyr
01443 654171 / 07824 597939
[email protected]
Prif Swyddog Diogelu: Zoe Durrant
Prif Swyddog Pobl a Chynhwysiant
07733 426783
[email protected]
Prif Swyddog Diogelu: Sharon Jones
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr
07954 365979
[email protected]
Mae'r polisi hwn yn bodoli'n benodol i gefnogi Prifysgol De Cymru wrth gyflawni ei rhwymedigaethau'n ymwneud â Diogelu Plant ac Oedolion sy’n Wynebu Risg fel yr amlinellir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan.
Mae diogelu yn golygu atal ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, ac addysgu'r rhai o'u cwmpas i adnabod yr arwyddion a'r peryglon boed yn dod ar eu traws drwy addysgu, neu gyflawni ymchwil, gwaith allgymorth neu weithgareddau eraill dan arweiniad y Brifysgol, ar neu oddi ar y campws.
Unigolyn o dan 18 oed yw plentyn.
Mae’r term oedolyn sy’n wynebu risg yn disgrifio unrhyw un dros 18 oed sy'n dioddef neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac sydd ag anghenion gofal a chymorth (boed yn cael eu diwallu gan yr awdurdod ai peidio) ac o ganlyniad i'r anghenion hynny yn anabl i’w amddiffyn ei hun rhag y cam-drin neu'r esgeulustod na'r risg ohono.
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel i bob aelod o gymuned PDC, gan gynnwys myfyrwyr, cydweithwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr ac ni fyddwn yn goddef camdriniaeth o unrhyw fath yn erbyn unrhyw un.
Mae'r Polisi hwn a'i ddogfennau canllaw cysylltiedig yn nodi cyfrifoldebau, prosesau a gweithdrefnau PDC yn gysylltiedig â diogelu. Mae PDC wedi ymrwymo i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch materion diogelu'n ymwneud â phlant ac oedolion sy’n wynebu risg, hyrwyddo arfer da, a chynorthwyo cymuned PDC i ymateb mewn ffordd wybodus a hyderus.
Mae'n rhaid i bob cydweithiwr, myfyriwr a gwirfoddolwr sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg ymgyfarwyddo â'r gweithdrefnau cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a reoleiddir. (Beth yw Gweithgaredd a Reoleiddir)
Mae Strategaeth Llesiant Prifysgol De Cymru yn ddogfen sy’n ategu’r Polisi Diogelu hwn ac sy'n defnyddio’r term Diogelu yn ehangach, ac yn dynodi mesurau i amddiffyn iechyd, lles a hawliau dynol unigolion. Gall cydweithwyr PDC weld copi o'r Strategaeth Lles ar Cyswllt.
Mae'n bwysig nodi nad oes drws anghywir i fynd drwyddo o ran codi pryderon, ac mae gan unigolion sawl llwybr y gallant eu dilyn i godi pryderon. Dylid parhau i adrodd am unrhyw bryderon sy'n ymwneud â cham-drin (gan gynnwys cam-drin rhywiol a thrais) nad ydynt yn dod o fewn y diffiniad o ddiogelu a nodir yn y polisi hwn fel y gellir rhoi camau priodol ar waith, gan gynnwys darparu cymorth. Gall unigolion godi pryderon (neu ymateb) yn y Gymraeg.
Mae gwybodaeth lawn ar gael yma (Sut ydw i'n codi pryder?).
Pan fo lleoliadau neu sefydliadau eisoes wedi'u cofrestru, eu rheoleiddio a'u harchwilio, dylent ddilyn y gofynion statudol a’r trefniadau diogelu sydd eisoes yn berthnasol iddyn nhw.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r unigolion canlynol, boed ar gampws PDC neu yn rhywle arall sy'n ymgymryd â gweithgareddau dan arweiniad y Brifysgol ac sy’n ymwneud â'n rhyngweithio â phlant ac oedolion sy’n wynebu risg sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau yn gysylltiedig â'r Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys ein gweithgareddau craidd yn addysgu ac ymchwilio, neu er enghraifft, weithgareddau chwaraeon, cynlluniau gwyliau, prosiectau gwirfoddoli, allgymorth ac ehangu cyfranogiad dan arweiniad y brifysgol (Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl: cod ymarfer diogelu)
- plant (o dan 18 oed) ac oedolion sy’n wynebu risg sy'n fyfyrwyr cofrestredig neu sy'n gwneud cais i fod yn fyfyrwyr yn PDC
- Rhieni a gwarcheidwaid ymgeiswyr a myfyrwyr o dan 18 oed (Gweithio'n ddiogel gyda phlant ac oedolion sy’n wynebu risg)
- Unrhyw aelod o Gymuned PDC, gan gynnwys pob cydweithiwr, gweithiwr, myfyriwr, cyfranogwr ymchwil, gwirfoddolwr ac ymwelydd gan gynnwys y cydweithwyr hynny a allai fod o dan 18 oed neu'n oedolion sy’n wynebu risg
Os bydd y gweithgaredd a arweinir gan y brifysgol yn cael ei gynnal gan sefydliad arall yn eu cyfleusterau eu hunain, bydd Polisi Diogelu a gweithdrefnau cysylltiedig y sefydliad hwnnw fel arfer yn cael blaenoriaeth. Fodd bynnag, rhaid i aelodau o'r Brifysgol sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni hynny hefyd fod yn ymwybodol o, a gweithredu yn unol â, Pholisi Diogelu'r Brifysgol i'r graddau y mae hyn yn bosibl yn yr amgylchiadau.
Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i sicrhau ein bod yn trin pawb â gofal. Felly, dylem roi gwybod (dolen) am unrhyw bryderon a allai fod gennym fod plant neu oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu cam-drin a bod plant ac oedolion sy’n wynebu risg ac sy'n ymgysylltu â'n cydweithwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr yn ystod ein gweithgareddau gwaith a phrifysgol, yn gwneud hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Mae'n rhaid i aelodau unigol o gymuned y Brifysgol:
- Sicrhau bod plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu trin â pharch ac yn cael eu cefnogi pryd bynnag y byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a arweinir gan y brifysgol
- Sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau i ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg, boed yn gweithredu fel cydweithwyr cyflogedig gan y brifysgol neu'n cefnogi gweithgaredd a arweinir gan y brifysgol yn ddi-dâl fel gwirfoddolwr
- Sicrhau eu bod yn ymwybodol o sut i roi gwybod am bryder diogelu.
Sut ydw i'n gwybod a allai rhywbeth fod yn bryder/mater diogelu?
Pwy allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, a phwy allai weithio gyda nhw?
Gellir dod o hyd i wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau diogelu penodol eraill yn PDC drwy’r dolenni canlynol:
- Beth yw rôl y Grŵp Llywio Diogelu (GLlD) a phwy yw’r aelodau?
- Pwy yw'r Swyddog Diogelu Arweiniol ac am beth mae'n gyfrifol?
- Pwy yw'r Prif Swyddogion Diogelu ac am beth maen nhw’n gyfrifol?
- Beth mae'r Swyddogion Diogelu Dynodedig (SDD) a'r Dirprwy Swyddogion Diogelu Dynodedig (DSDD) yn ei wneud?
- A oes rôl ddiogelu benodol ar gyfer gweithgareddau ymchwil?
- Pa gyfrifoldebau sydd gan Gyfadrannau Academaidd ac Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol mewn perthynas â diogelu?
- Nid oes gennyf rôl ddiogelu benodol. Oes gennyf gyfrifoldeb dros ddiogelu?
Mae'n hynod bwysig bod unrhyw bryderon diogelu yn cael eu hadrodd yn brydlon fel y gellir rhoi camau priodol ar waith.
Mae sawl llwybr i godi pryderon diogelu.
- Yn uniongyrchol gyda'r Gyfadran, Adran neu Swyddogion Diogelu'r Brifysgol.
- Gyda Arweinwyr Prevent eich Coleg, Adran neu Brifysgol. Gall cydweithwyr PDC weld rhestr o arweinwyr Prevent ar Cyswllt.
- Os ydych chi'n poeni am les neu ddiogelwch cydweithiwr, dylech roi gwybod i'w rheolwr llinell neu AD, neu ei godi drwy'r system Adrodd a Chymorth.
- Os ydych chi'n poeni am les neu ddiogelwch myfyriwr, dylech roi gwybod i'w Tiwtor Arweiniol, neu ei godi drwy'r system Adrodd a Chymorth.
Gall myfyriwr neu gydweithiwr ddod yn oedolyn sy’n wynebu risg ar unrhyw adeg. Efallai y byddwch yn sylwi ar newid mewn pryd a gwedd neu ymddygiad, presenoldeb neu berfformiad. Er nad yw'r rhain o reidrwydd yn dangos cam-drin neu esgeulustod, gallant awgrymu bod lle i boeni.
Gallwch ddefnyddio'r dolenni canlynol i gael mynediad at wybodaeth benodol i'ch helpu i benderfynu pa gamau y mae angen i chi eu dilyn:
- Pryd y gellid ystyried rhywbeth yn honiad diogelu?
- Beth ddylwn i ei wneud os bydd rhywun yn dweud rhywbeth a allai fod yn fater diogelu wrtha i?
- Sut ydw i'n rhoi gwybod am bryder diogelu a pha wybodaeth sydd ei hangen arnaf?
- Beth sy'n digwydd os yw'r datgeliad yn gysylltiedig â honiadau hanesyddol o gamdriniaeth/camdriniaeth nad oedd yn ddiweddar?
- Beth sy'n digwydd os bydd rhannu gwybodaeth yn torri cyfrinachedd neu GDPR?
- Beth os oes gen i bryderon diogelu am gydweithiwr ond yn poeni am eu codi?
- Beth sy'n digwydd os oes honiadau yn erbyn neu amheuaeth o gamdriniaeth gan aelod o'r Brifysgol?
- Beth os ydw i'n poeni am rywun yn cael ei gam-drin nad yw'n rhan o gymuned y Brifysgol?
- Beth sy'n digwydd os oes honiadau o gam-drin gan unigolyn o sefydliad allanol sy'n defnyddio cyfleusterau PDC?
Mae pryderon diogelu yn ddifrifol o ran eu natur, a gall fod yn achos pryder i aelodau o gymuned y Brifysgol sy'n gweithio gydag unigolion neu grwpiau "sy’n wynebu risg."
Rydym yn cydnabod y gall pobl ifanc fod mewn perygl o gael eu tynnu i ideolegau eithafol a all arwain at risg o radicaleiddio. Yng nghyd-destun Polisi Diogelu'r Brifysgol, ystyrir bod y risg o gael eich tynnu i ideolegau eithafol a radicaleiddio yn bryder diogelu sylweddol sydd o bwys cyfartal â mathau eraill o gam-drin plant ac oedolion sy’n wynebu risg. Byddai pryder diogelu o'r math hwn hefyd yn dod o fewn cwmpas PREVENT.
Mae canllawiau ar gael i'ch helpu i sicrhau eich bod yn gallu gweithio mewn ffordd ddiogel gyda phlant a/neu oedolion sy’n wynebu risg. Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael mynediad at y canllawiau:
Mae cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr PDC wedi'u cynllunio gyda grŵp defnyddwyr oedolion yn bennaf mewn golwg. Felly, tybir bod myfyrwyr dan 18 oed yn gymwys i wneud penderfyniadau ynghylch eu data personol ac mae angen eu caniatâd, yn yr un modd â gydag oedolion, mewn perthynas ag unrhyw fater diogelu data.
O ystyried hyn, ni fydd PDC fel arfer yn rhannu neu'n trafod gwybodaeth bersonol myfyrwyr o dan 18 oed gydag unrhyw drydydd parti, gan gynnwys rhieni neu warcheidwaid, oni bai bod y myfyriwr wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig neu ei fod yn argyfwng neu'n bryder diogelu difrifol.
Bydd y Swyddogion Diogelu Dynodedig yn penderfynu a yw'r mater diogelu yn cael ei ystyried yn ddifrifol a/neu angen gweithredu ar frys, ac a ddylid cysylltu â'r perthynas agosaf, rhiant/gwarcheidwad a/neu gyswllt brys heb ganiatâd.
Er mwyn sicrhau cysondeb a chydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol, ni ddisgwylir y bydd Cyfadrannau neu adrannau Gwasanaethau Proffesiynol yn datblygu gweithdrefnau lleol sy'n gwyro oddi wrth y polisi canolog oni bai y gallant ddangos angen penodol i wneud hynny. Lle nodir angen am weithdrefn leol, rhaid cymeradwyo hyn gan y Prif Swyddog Diogelu neu'r Swyddog Diogelu Arweiniol a chaiff ei adrodd i'r Grŵp Llywio Diogelu.
Beth yw'r gofynion hyfforddi ar gyfer pobl sydd â rôl ddiogelu benodol?
Mae'n ofynnol i unrhyw aelod o PDC a fydd yn cynllunio gweithgareddau gyda/ar gyfer plant neu oedolion sy’n wynebu risg ymgymryd â hyfforddiant priodol fel y’i nodir gan y Brifysgol.
Mae hyfforddiant yn orfodol i'r rhai sydd â rolau diogelu wedi eu nodi. Mae angen hyfforddiant ar gyfer pob categori Swyddogion Diogelu a rhaid ei adnewyddu bob dwy flynedd ac wrth i bolisïau a gweithdrefnau gael eu newid yn sylweddol.
Bydd pob cydweithiwr perthnasol yn cael hyfforddiant yn ymwneud â diogelu ac yn gallu adnabod ac adrodd am bob pryder i’r person priodol cyn gynted ag y byddant yn codi.
Bydd cofnod o'r holl hyfforddiant diogelu a wneir gan gydweithwyr yn cael ei gadw ar iTrent.
- Mae'r nodau allweddol sy'n rhan o’r polisi hwn wedi'u nodi mewn deddfwriaeth ddiogelu, sy'n;
- Deddf Diogelu Data 1998
- Deddf Hawliau Dynol 1998
- Deddf Plant 1989
- Mewn Dwylo Diogel (Llywodraeth Cymru 2000)
- Deddf Plant 2004
- Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu plant 2004
- Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008
- Diogelu Plant mewn Addysg (DIES 2004)
- Diogelu Plant: Fframwaith ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch (2007), Deddf Troseddau Rhywiol 2003
- Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006
- Polisi a Gweithdrefnau Dros Dro Cymru ar gyfer Diogelu Oedolion sy'n Agored i Niwed (2013)
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2004
- Deddf Priodas dan Orfod 2007
- Deddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008.
- Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
- Deddf Troseddau Difrifol 2015
Mae gan y Brifysgol strwythur diogelu sydd wedi'i ddiffinio'n glir, ac sy'n cael ei lywodraethu gan y Grŵp Llywio Diogelu. Mae'r Grŵp Llywio yn cynnwys cydweithwyr allweddol sydd â chyfrifoldebau diogelu dynodedig.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/08-august/Diagram_Polisi_Diogelu.jpg)
Dyddiad Cyhoeddi |
Disgrifiad o’r Diwygiadau |
Perchennog |
Cymeradwywyd |
Dyddiad |
Tachwedd |
Ail Rhifyn |
William Callaway, Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr Llywodraethu, Cyfraith a Sicrwydd |
Grŵp |
Medi 2019 |
Mân Ddiwygiadau ar gyfer cyhoeddi allanol |
Ionawr 2019 Sharon Jones, Prif Swyddog Diogelu |
Medi 2019 |
||
Gorffennaf |
Gwelliannau i gynnwys prentisiaid a diweddaru dolenni cyswllt |
Medi 2019 |
||
Hydref |
Rhagair amlinellol o ddisgwyliadau a goblygiadau prosiectau Lles, Iechyd a Diogelu ar gyfer adolygiad y polisi Diogelu |
William Callaway, Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr Llywodraethu, Cyfraith a Sicrwydd |
Grŵp Llywio Diogelu, Hydref 21 |
Mawrth 2022 – Mehefin 2023 Adolygwyd a diwygiwyd gan ymgynghorydd. Ymgynghoriad rhanddeiliaid PDC cyn cyhoeddi. |
Awst |
Polisi diwygiedig a dogfennau gwybodaeth ategol |
William Callaway, Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr Llywodraethu, Cyfraith a Sicrwydd |
Gweithrediaeth y Brifysgol, Gorffennaf 2023 |
Gorffennaf 2024 (Yn aros i gael ei gymeradwyo ym mis Chwefror 2025) |