Mae'n hynod bwysig bod unrhyw bryderon diogelu yn cael eu hadrodd yn brydlon fel y gellir rhoi camau priodol ar waith.
Mae sawl llwybr i godi pryderon diogelu.
- Yn uniongyrchol gyda Chyfadrannau, Adrannau neu Swyddogion Diogelu'r Brifysgol.
- Gydag Arweinwyr Prevent Cyfadrannau, Adrannau neu’r Brifysgol.
- Os ydych chi'n poeni am les neu ddiogelwch cydweithiwr, dylech roi gwybod i'w reolwr llinell neu AD, neu godi’r pryder drwy'r system Adrodd a Chymorth.
- Os ydych chi'n poeni am les neu ddiogelwch myfyriwr, dylech roi gwybod i'w Tiwtor Arweiniol, neu godi’r pryder drwy'r system Adrodd a Chymorth.
Gallai myfyriwr neu gydweithiwr ddod yn Oedolyn sy'n Wynebu Risg ar unrhyw adeg yn ystod eu cyfnod yn PDC. Efallai y byddwch yn sylwi ar newid mewn pryd a gwedd neu ymddygiad, presenoldeb neu berfformiad. Er nad yw'r rhain o reidrwydd yn dangos cam-drin neu esgeulustod, gallant awgrymu bod lle i bryderu.
Cofiwch y gall methu â rhannu gwybodaeth roi plentyn neu oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin a'i esgeuluso, ac mae'n nodwedd gyffredin o adolygiadau ymarfer oedolion. Er y gall gwybodaeth heb gyd-destun ymddangos yn ddibwys, gall gyfrannu, ynghyd â gwybodaeth o ffynonellau eraill, at ymdrechion i ddiogelu oedolyn sy’n wynebu risg.
Gallwch ddefnyddio'r adnoddau canlynol i'ch helpu i benderfynu pa gamau y mae angen i chi eu rhoi ar waith:
Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu pobl
Enghreifftiau o ymarfer: NSPCC
Ceisio cyngor asiantaeth a thrafodaethau cychwynnol
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen atodedig i gasglu gwybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch wrth adrodd am eich pryder.
Gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant
Mae gweithgareddau a reoleiddir gyda phlentyn yn cynnwys:
- Addysgu neu hyfforddi plant heb oruchwyliaeth (addysg/hyfforddiant yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer plant, nid cyrsiau wedi'u hanelu at/eu cyflwyno i fyfyrwyr sydd dros 18 oed yn bennaf), gan yr un person yn aml (unwaith yr wythnos neu'n amlach), neu am 4 diwrnod neu ragor mewn cyfnod o 30 diwrnod, neu dros nos (2am tan 6am)
- Gofal (personol ac iechyd) neu oruchwylio plant
- Cyngor neu arweiniad yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer plant sy'n ymwneud â'u lles corfforol, emosiynol neu addysgol os yw'r un person yn ei gyflawni'n aml (fel uchod)
- Cymedroli gwasanaeth cyfathrebu rhyngweithiol electronig cyhoeddus sy'n debygol o gael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf gan blant, gan yr un person yn aml (fel uchod)
- Gyrru cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio i gludo plant
Gweithgaredd a reoleiddir gydag oedolion sy’n wynebu risg
Mae gweithgarwch a reoleiddir gydag Oedolion sy’n Wynebu Risg yn cynnwys:
- Gofal personol (cymorth corfforol gyda bwyta neu yfed, defnyddio’r tolied, ymolchi, bathio, gwisgo, gofal ceg neu groen, gwallt neu ewinedd oherwydd oedran, salwch neu anabledd
- Gofal Iechyd (gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu berson sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth gweithiwr gofal iechyd proffesiynol)
- Gwaith cymdeithasol
- Cymorth gyda materion dydd i ddydd gan gynnwys trin arian parod
- Gyrru'r oedolyn i apwyntiadau at ddibenion: gofal iechyd, gofal personol neu waith cymdeithasol oherwydd oedran, salwch neu anabledd
- Pobl sydd â phŵer atwrnai parhaol neu barhaus o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (DGM), dirprwy o dan y DGM, Eiriolwr Iechyd Meddwl/Capasiti Annibynnol mewn perthynas â'r unigolyn.
Mae'r tabl canlynol yn rhoi diffiniadau ac enghreifftiau o wahanol fathau o bryderon diogelu:
Pryderon lles:
Yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i risg hunanladdiad, hunan-niweidio, anghenion iechyd meddwl heb eu trin, mynd ar goll, cam-drin domestig, camfanteisio, hunan-esgeulustod difrifol, risg digartrefedd, neu gam-drin rhywiol
Camdriniaeth:
Mae camdriniaeth yn golygu cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae'n cynnwys cam-drin sy'n digwydd mewn unrhyw leoliad, boed mewn annedd breifat, sefydliad neu unrhyw le arall).
Mae cam-drin yn golygu trin rhywun yn wael. Gall rhywun gam-drin neu esgeuluso plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg drwy achosi niwed neu drwy fethu â gweithredu i atal niwed. Gall cam-drin ddigwydd mewn teulu neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol gan bobl maen nhw’n eu hadnabod neu, yn fwy anaml, gan eraill. Gall camdriniaeth hefyd fod ar ffurf hunan-niweidio. Gall camdriniaeth ddigwydd yn gyfan gwbl ar-lein, neu gellir defnyddio technoleg i hwyluso cam-drin all-lein.
Gall camdriniaeth fod ar wahanol ffurfiau ac mae'n cynnwys cam-drin corfforol, cam-drin rhywiol, cam-drin emosiynol ac esgeuluso.
Esgeuluso:
Mae esgeuluso yn golygu methu â diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol unigolyn, sy'n debygol o arwain at amharu ar les y person, er enghraifft amharu ar iechyd y person neu, yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Anwybyddu anghenion gofal meddygol neu gorfforol
- Methu â darparu mynediad at wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysgol priodol
- atal hanfodion bywyd fel meddyginiaeth, maeth digonol a gwres
- Methu ag amddiffyn rhag niwed corfforol neu berygl
Cam-drin corfforol:
Mae cam-drin corfforol yn ffurf ar gamdriniaeth all gynnwys taro, ysgwyd, taflu, slapio, gwthio, cicio, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu neu achosi niwed corfforol i blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg. Gall niwed corfforol hefyd gael ei achosi pan fydd rhiant neu ofalwr yn ffugio symptomau salwch mewn plentyn neu oedolion sy’n wynebu risg, neu eu hachosi’n fwriadol.
Ymhlith y dangosyddion posibl mae:
- anafiadau cyson
- toriadau anesboniadwy neu anarferol i esgyrn
- cleisiau, briwiau, llosgiadau, sgaldiau, marciau brathu anesboniadwy
Cam-drin emosiynol:
Cam-drin emosiynol (neu seicolegol) sy’n achosi effeithiau andwyol difrifol a pharhaus ar ddatblygiad emosiynol neu les yw cam-drin emosiynol parhaus. Gall gynnwys:
- cyfleu i berson ei fod yn ddiwerth neu'n ddigariad, yn annigonol neu'n cael ei werthfawrogi ddim ond i'r graddau y mae’n diwallu anghenion person arall
- Disgwyliadau amhriodol o ran oedran neu ddatblygiad yn cael eu gosod ar blant
- Achosi i berson deimlo'n ofnus neu mewn perygl yn aml, er enghraifft drwy fod yn dyst i drais domestig yn y cartref, neu gael ei fwlio, ei ecsbloetio neu ei lygru
- Bygythiadau o niwed neu adael
- Amddifadu o gysylltiad
- Codi cywilydd, beio, rheoli
- Dychryn, gorfodi
- Aflonyddu
- Cam-drin geiriol
- Gorfodi ynysu cymdeithasol – atal rhywun rhag cael mynediad at wasanaethau, cyfleoedd addysgol a chymdeithasol a gweld ffrindiau
Mae rhyw lefel o gam-drin emosiynol ynghlwm wrth bob ffurf ar gam-drin plentyn, er y gall ddigwydd ar ei ben ei hun.
Ymhlith dangosyddion posibl mae:
- Diffyg hyder neu hunanhyder
- Anhawster i reoli emosiynau
- Trafferth creu neu gynnal perthynas
Cam-drin rhywiol:
Mae cam-drin rhywiol plentyn yn golygu gorfodi neu hudo plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p'un a yw'r plentyn yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ai peidio. Gall y gweithgareddau gynnwys gweithgareddau cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu anhreiddiol. Gallant gynnwys gweithgareddau nad ydynt yn golygu cyswllt corfforol, megis cael plant i edrych ar ddeunydd pornograffig neu wylio gweithgareddau rhywiol, neu fod ynghlwm wrth y gwaith o’u cynhyrchu, neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol.
Oedolion sy’n Wynebu Risg – gall cam-drin rhywiol gynnwys trais neu ymosodiad rhyw neu weithredoedd rhywiol nad yw'r oedolyn sy’n wynebu risg wedi rhoi caniatâd iddynt, neu lle nad yw'n gallu rhoi cydsyniad gwybodus, neu pan fo dan bwysau i gydsynio. Gall hyn gynnwys cyswllt corfforol neu gam-drin digyswllt (e.e. cyffwrdd, mastyrbio, tynnu lluniau, profocio rhywiol, cyffwrdd amhriodol).
Gall cam-drin oedolion yn rhywiol gael ei gyflawni gan oedolyn beth bynnag fo’i ryw a/neu hunaniaeth rhywedd, a gall plant eraill hefyd fod yn gyfrifol am gam-drin rhywiol.
Ymhlith y dangosyddion posibl mae:
- Dangos gwybodaeth neu ddiddordeb mewn gweithredoedd rhywiol amhriodol i oedran
- Defnyddio iaith rywiol neu feddu ar wybodaeth rywiol y tu hwnt i'w blynyddoedd
- Gofyn i eraill ymddwyn yn rhywiol neu chwarae gemau rhywiol
- Problemau iechyd rhywiol corfforol, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol neu feichiogrwydd dan oed
- Newid mewn ymddygiad fel mynd yn ynysig neu newid i bryd a gwedd
- Gall fod yn anoddach nodi dangosyddion cam-drin posibl mewn oedolion nag mewn plant
Camfanteisio rhywiol ar blant
Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn ffurf ar gam-drin plant yn rhywiol. Mae'n digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn manteisio ar anghydbwysedd pŵer i orfodi neu dwyllo plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, neu ddylanwadu arno i wneud hynny, naill ai’n gyfnewid am rywbeth y mae'r dioddefwr ei angen neu ei eisiau a/neu am fantais ariannol neu ‘wella’ statws y cyflawnwr. Efallai bydd dioddefwr wedi cael ei ecsbloetio'n rhywiol hyd yn oed os yw'r gweithgaredd rhywiol yn ymddangos yn gydsyniol. Gall hefyd ddigwydd trwy ddefnyddio technoleg.
Ymhlith dangosyddion posibl mae:
- Ymddangos gydag anrhegion anesboniadwy neu eiddo newydd
- Ymwneud â phobl ifanc eraill sydd ynghlwm wrth gamfanteisio
- Bod â chariad/cariadon hŷn
- Newidiadau mewn iechyd meddwl a lles
- Camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
- Yn absennol o addysg
Cam-drin ariannol neu faterol:
Gall hyn gynnwys dwyn, twyllo, camfanteisio, rhoi pwysau ar berson mewn cysylltiad ag ewyllysiau, eiddo neu etifeddiaeth neu drafodion ariannol, neu gamddefnyddio neu gamgyfeddu eiddo, meddiannau neu fudd-daliadau.
Ymhlith y dangosyddion posibl mae:
- Gweithgaredd anarferol mewn cyfrifon banc
- Biliau heb eu talu
- Prinder arian anesboniadwy
Cam-drin ar-lein:
Cam-drin ar-lein yw unrhyw fath o gamdriniaeth sy'n digwydd ar y we, boed drwy rwydweithiau cymdeithasol, chwarae gemau ar-lein neu ddefnyddio ffonau symudol. Gall plant ac oedolion sy’n wynebu risg ddioddef seiberfwlio, hudo, cam-drin rhywiol, camfanteisio rhywiol neu gam-drin emosiynol. Gallant fod mewn perygl o gamdriniaeth ar-lein gan bobl y maen nhw’n eu hadnabod, yn ogystal â gan ddieithriaid. Gall cam-drin ar-lein fod yn rhan o gamdriniaeth sydd hefyd yn digwydd yn y byd go iawn, neu gall y camdriniaeth ddigwydd ar-lein yn unig. Gall plant ac oedolion sy’n wynebu risg deimlo nad oes modd dianc rhag camdriniaeth ar-lein - gall camdrinwyr gysylltu â nhw ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, gall y gamdriniaeth ymdreiddio i lefydd diogel fel eu hystafelloedd gwely, a gall delweddau a fideos gael eu storio a'u rhannu gyda phobl eraill.
Cam-drin domestig:
Mae camdriniaeth ddomestig yn cynnwys unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad sy’n rheoli, gorfodi neu fygwth, neu sy’n dreisgar neu gamdriniol, rhwng rhai sy’n 16 oed neu'n hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu'n aelodau o'r teulu, waeth beth fo'u rhyw neu rywioldeb. Gall hyn gynnwys cam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol, rhywiol ac ariannol.
Ymhlith y dangosyddion posibl mae:
- Hunan-barch isel
- Teimlo mai eu bai nhw yw'r cam-drin pan nad yw hynny’n wir
- Tystiolaeth gorfforol o drais fel cleisio, briwiau, esgyrn wedi torri
- Ofn ymyrraeth allanol
- Ynysu rhag ffrindiau neu deulu
- Mynediad cyfyngedig at arian
Caethwasiaeth fodern:
- Mae'r term 'caethwasiaeth fodern' yn cynnwys ystod eang o fathau o ecsbloetio, y mae llawer ohonynt yn digwydd gyda'i gilydd. Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Camfanteisio rhywiol
- Caethiwed domestig
- Llafur dan orfodaeth
- Camfanteisio troseddol
- Mathau eraill o gamfanteisio: tynnu organau; gorfodi i gardota; twyll budd-daliadau dan orfodaeth; priodas dan orfodaeth; mabwysiadu anghyfreithlon
Ymhlith y dangosyddion posibl mae:
- Y dioddefwr yn ymddangos fel pe bai dan reolaeth rhywun arall ac yn amharod i ryngweithio ag eraill
- Yn meddu ar ychydig iawn o eiddo personol
- Ddim yn gallu symud o gwmpas yn rhydd
- Amharodrwydd i siarad â dieithriaid neu'r awdurdodau
- Ymddangos yn ofnus, yn ynysig, neu ddangos arwyddion o gam-drin corfforol neu seicolegol
Cam-drin camwahaniaethol:
Cam-drin yn seiliedig ar agweddau camwahaniaethol a gormesol tuag at bobl ar sail anabledd, rhywedd, hunaniaeth ac ailbennu rhywedd, oedran, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol a chredoau gwleidyddol.
Gall fod yn nodwedd o unrhyw fath o gamdriniaeth ac mae'n ei amlygu ei hun fel cam-drin/ymosod corfforol, cam-drin/ymosod rhywiol, cam-drin ariannol/dwyn, esgeuluso a cham-drin/aflonyddu seicolegol. Mae'n cynnwys cam-drin geiriol a sylwadau hiliol, rhywiaethol, homoffobig neu’n ymwneud ag oedran, neu jôcs neu unrhyw fath arall o aflonyddu.
Am ragor o wybodaeth: Beth yw camwahaniaethu? | Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (equalityhumanrights.com)
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)
FGM yw pan fydd organau cenhedlu benywod yn cael eu newid neu eu tynnu’n fwriadol am resymau nad ydynt yn rhai meddygol. Fe'i gelwir hefyd yn 'enwaedu benywaidd' neu’n 'dorri', ond mae ganddo lawer o enwau eraill.
Mae FGM yn ffurf ar gam-drin plant. Mae'n beryglus ac yn drosedd yn y DU. Rydyn ni'n gwybod:
- Nad oes rhesymau meddygol dros FGM
- Ei fod yn cael ei wneud yn aml gan rywun heb unrhyw hyfforddiant meddygol, gan ddefnyddio offerynnau fel cyllyll, ffleimiau, sisyrnau, gwydr neu lafnau rasel
- Yn anaml iawn y rhoddir triniaeth anesthetig neu antiseptig i blant ac yn aml maent yn cael eu rhwystro’n gorffol rhag gwrthsefyll y gweithredoedd hyn
- Ei fod yn cael ei ddefnyddio i reoli rhywioldeb menywod a gall achosi niwed hirdymor i iechyd corfforol ac emosiynol.
Gall FGM ddigwydd ar wahanol adegau ym mywyd merch neu fenyw, gan gynnwys:
- Pan fydd babi’n cael ei eni
- Yn ystod plentyndod neu yn yr arddegau
- Ychydig cyn priodi
- Yn ystod beichiogrwydd
Efallai y bydd plentyn sydd mewn perygl o FGM yn gofyn i chi am help. Ond efallai na fydd rhai plant yn gwybod beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Felly, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r arwyddion.
Ymhlith dangosyddion posibl o FGM mae:
- Perthynas neu rywun sy'n cael ei adnabod fel 'torrwr' yn ymweld o dramor
- Achlysur neu seremoni arbennig yn digwydd lle mae merch yn 'dod yn fenyw' neu'n 'paratoi at briodi'
- Perthynas benywaidd, fel mam, chwaer neu fodryb wedi cael FGM
- Teulu’n trefnu gwyliau hir dramor neu'n ymweld â theulu dramor yn ystod gwyliau'r haf
- Merch yn absennol am gyfnod hir neu annisgwyl o'r ysgol
- Merch yn cael trafferth cadw i fyny yn yr ysgol
- Merch yn ffoi o’r cartref – neu'n bwriadu ffoi o'i chartref
Ymhlith arwyddion y gallai FGM fod wedi digwydd:
- Cael trafferth cerdded, sefyll neu eistedd
- Treulio mwy o amser yn yr ystafell ymolchi neu'r toiled
- Ymddangos yn dawel, yn bryderus neu'n isel
- Ymddwyn yn wahanol ar ôl absenoldeb o'r ysgol neu'r coleg
- Amharodrwydd i fynd at y meddyg neu gael archwiliadau meddygol arferol
- Gofyn am help - er efallai nad ydyn nhw'n sôn yn benodol am y broblem oherwydd bod ofn neu gywilydd arnynt
Child:
- Mae cyfeiriadau at "plentyn" neu "plant" yn golygu unrhyw un o dan 18 oed.
Oedolion sy’n wynebu risg:
- Mae'r Brifysgol yn seilio ei diffiniad o "oedolyn sy’n wynebu risg" ar yr hyn a ddefnyddir o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) a Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan ac yn diffinio oedolyn sy’n wynebu risg fel rhywun dros 18 oed sydd:
- yn dioddef neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso;
- ag anghenion gofal a chymorth (boed yr awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio), ac
- O ganlyniad i'r anghenion hynny heb allu ei amddiffyn ei hun rhag y cam-drin neu'r esgeulustod na'r risg ohono.
- Rhywun 18 oed neu hŷn sy'n derbyn neu a allai fod angen gwasanaethau gofal cymunedol oherwydd anabledd, oedran neu salwch ac o ganlyniad i'r anghenion hynny, na allant ofalu amdanynt eu hunain neu nad ydynt yn gallu eu hamddiffyn eu hunain rhag niwed neu ecsbloetio sylweddol. Gall hyn ymwneud â lles corfforol, meddyliol neu seicolegol neu'r potensial i gael eu tynnu i ecsploetiaeth a gweithgarwch rhywiol, ariannol neu droseddol.
- Efallai y bydd pobl ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl, pobl hŷn a phobl anabl yn dod o fewn y diffiniad hwn.
'Gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg':
- Mae ‘Gweithio gyda Phlant neu Oedolion sy’n Wynebu Risg’ yn cynnwys pob ymgysylltiad â phlant ac oedolion sy’n wynebu risg, boed mewn swyddogaeth broffesiynol mewn cysylltiad â gwaith y Brifysgol, neu yn ystod gweithgareddau eraill a arweinir gan y Brifysgol ac a gefnogir gan aelodau o'r Brifysgol boed yn gweithio mewn swydd â thâl neu heb dâl.
Mae gan y GLlD gyfrifoldeb penodol i hyrwyddo arferion diogelu da a sicrhau bod gan y Brifysgol Bolisi Diogelu addas at ei ddiben a gweithdrefnau cysylltiedig sy'n cael eu hadolygu bob blwyddyn o leiaf (ac ar sail "anghenion") ac, os oes angen, eu diwygio i fodloni gofynion rheoleiddiol esblygol a chanllawiau arfer gorau perthnasol.
Bydd Grŵp Llywio Diogelu y Brifysgol yn sicrhau bod:
- y polisi hwn a'r gweithdrefnau, y cyngor a'r canllawiau cysylltiedig yn addas at eu diben ac yn ddigonol i sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni ei rhwymedigaethau statudol ac yn cydymffurfio ag arfer da yn gyffredinol a lle bo'n rhesymol bosibl, gyda chanllawiau diogelu a gyhoeddir gan gyrff statudol perthnasol sy'n ymwneud â materion o'r fath
- adrannau Academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol yn ymwybodol o'u dyletswyddau o dan Bolisi Diogelu'r Brifysgol ac yn derbyn unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnynt i drefnu hyfforddiant ac arweiniad priodol ar ddatblygu eu gweithdrefnau'n gysylltiedig â diogelu
- hyfforddiant diogelu priodol ar gael i aelodau o'r Brifysgol sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n wynebu risg, boed hynny'n uniongyrchol yn ystod eu gwaith, neu'n anuniongyrchol drwy gymryd rhan yn y broses o ddethol cydweithwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant ac oedolion sy’n wynebu risg
- prosesau a gweithdrefnau ar waith ar gyfer gwiriadau recriwtio perthnasol a bod y rhain yn cael eu cynnal ar gyfer rolau perthnasol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Gwiriadau GDG lle caniateir hynny'n gyfreithlon, Tystysgrifau Ymddygiad Da, Gorchmynion Gwahardd Athrawon, agweddau diogelu ar weithdrefnau Ymddygiad Myfyrwyr a Phriodoldeb i Ymarfer, a bod unrhyw faterion sy'n codi o'r gwiriadau hyn yn cael eu datrys cyn dechrau ymgysylltu â phlant neu oedolion sy’n wynebu risg
- llwybrau i adrodd am neu atgyfeirio pryderon diogelu yn cael eu harwyddo'n glir, yn hygyrch ac yn cael eu monitro'n briodol
- pryderon diogelu a adroddir yn cael eu hadolygu, y ceisir arweiniad arbenigol ac y rhoddir camau priodol ar waith i uwchgyfeirio’n fewnol a/neu i'r asiantaeth allanol berthnasol o fewn amserlenni statudol
- atgyfeiriadau yn cael eu paratoi a'u cyflwyno fel y bo'n briodol i Estyn/Ofsted, Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol (LADO), yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) a/neu Fwrdd Diogelu Plant neu Oedolion yr Awdurdod Lleol
Mae'r Grŵp Llywio Diogelu yn cynnwys y Swyddog Diogelu Arweiniol (SDA), sy'n cadeirio'r grŵp, a'r Prif Swyddogion Diogelu (PSD).
Mae'r Swyddog Diogelu Arweiniol (SDA) yn aelod o Uwch Dîm Rheoli'r Brifysgol ac ar hyn o bryd yn Ysgrifennydd y Brifysgol.
Mae gan yr SDA atebolrwydd cyffredinol a chyfrifoldeb strategol dros ddiogelu grwpiau agored i niwed yn y Brifysgol.
- Yn atebol i Dîm Gweithrediaeth a Chorff Llywodraethu’r Brifysgol am bolisi ac arferion diogelu PDC
- Sicrhau bod strwythurau priodol ar waith i gyflawni cyfrifoldebau diogelu
- Datblygu gweithdrefnau, arferion a chanllawiau ar gyfer diogelu drwy’r Brifysgol gyfan, yn cydymffurfio â gweithdrefnau Bwrdd Diogelu Plant Lleol
- Cadeirio’r GLlD
- Sicrhau bod diogelu’n cael y flaenoriaeth uchaf ar y lefel uchaf yn y Brifysgol
- Ymgymryd â hyfforddiant diogelu ar lefel briodol
- Sicrhau bod cyllid ac adnoddau dynol (gan gynnwys datblygu cydweithwyr a hyfforddiant) ar gael i gyflawni cyfrifoldebau diogelu
- Sicrhau bod gweithdrefnau ar waith ar gyfer rheoli honiadau, chwythu'r chwiban ac arferion recriwtio diogel
- Sicrhau bod cofnodion diogel o bryderon Diogelu Grwpiau Agored i Niwed yn cael eu cadw a'u rhannu'n briodol
- Creu cysylltiadau gydag asiantaethau allanol perthnasol
- Nodi'r Prif Swyddogion Diogelu
- Sicrhau bod systemau monitro ac adolygu ar waith i ymgorffori canllawiau a deddfwriaeth newydd ac i brofi systemau presennol
- Gweithredu fel ffynhonnell cymorth, cyngor ac arbenigedd i holl aelodau cymuned PDC ar faterion diogelu
Mae gan y Brifysgol ddau PSD, sydd â chyfrifoldeb strategol dros oruchwylio gwaith gweithredu'r Polisi Diogelu yn y Brifysgol a darparu arweinyddiaeth a chymorth i Swyddogion Diogelu Dynodedig i ymgymryd â'u rôl o fewn eu meysydd cyfrifoldeb. Y Cyfarwyddwr Pobl a Chynhwysiant yw hwn mewn perthynas ag unigolion sy'n gweithio yn y Brifysgol neu ar ei rhan, a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr mewn perthynas â myfyrwyr. Mae'r PSDau hefyd yn dirprwyo ar ran y SDA.
- Dirprwyo ar ran y SDA yn strwythur uwch reolwyr y Brifysgol
- Derbyn atgyfeiriadau sydd wedi cael eu huwchgyfeirio o lefel Swyddog Diogelu Dynodedig
- Cysylltu â'r SDA i'w hysbysu am unrhyw faterion ac ymchwiliadau parhaus
- Dyfeisio'r modd y caiff y polisi ei weithredu, ei fonitro a'i fireinio
- Sicrhau bod y polisi yn hygyrch i gydweithwyr a'u bod yn derbyn gwybodaeth briodol sy'n berthnasol i'w rôl er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu
- Atgyfeirio achosion o amau neu honiadau o gamdriniaeth sydd wedi’u huwchgyfeirio o lefel Swyddog Diogelu Dynodedig i'r asiantaethau ymchwilio perthnasol a rhoi gwybod am atgyfeiriadau o'r fath i'r SDA
- Cadw cofnodion manwl, cywir a diogel o atgyfeiriadau/pryderon
Yn y cyfadrannau a'r adrannau gwasanaeth proffesiynol lle mae rhaglenni neu weithgareddau lle mae cydweithwyr, myfyrwyr, prentisiaid neu wirfoddolwyr yn gweithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n wynebu risg perygl yn rhan o'u rolau, penodir un neu ragor o Swyddogion Diogelu Dynodedig i fod â chyfrifoldeb dros ddiogelu o fewn y rhaglen neu'r gweithgaredd hwnnw. Fel arfer, y Swyddog Diogelu Dynodedig fydd trefnydd neu gydlynydd y rhaglen neu'r gweithgaredd.
Dylid penodi Swyddogion Diogelu Dynodedig yn benodol ar gyfer Prentisiaethau ac o fewn Recriwtio Myfyrwyr.
Yn dibynnu ar faint y gweithgaredd sy'n effeithio ar Blant neu Oedolion sy’n Wynebu Risg, ar gyfer pob Swyddog Diogelu Dynodedig, gellir cael un neu ragor o Ddirprwyon enwebedig i gefnogi'r Swyddog Diogelu Dynodedig.
- Derbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau neu achosion gan gydweithwyr neu fyfyrwyr yn nheulu PDC
- Atgyfeirio achosion o amau neu honiadau o gamdriniaeth i'r asiantaethau ymchwilio perthnasol fel y gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu
- Rhoi gwybod am atgyfeiriadau i’r SDA / PSD pan fydd angen eu huwchgyfeirio a chadw'r SDA / PSD yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn achosion y bydd Swyddog Diogelu Dynodedig yn eu rheoli.
- Gweithredu fel ffynhonnell cymorth, cyngor ac arbenigedd i gydweithwyr
- Sicrhau bod rhaglenni gweithgareddau’n cael eu cynllunio, eu trefnu a'u darparu yn unol â'r polisi hwn
- Ymgymryd ag asesiadau risg diogelu ar gyfer gweithgareddau a gwneud awgrymiadau ar gyfer addasiadau rhesymol (e.e. cwricwlwm neu asesu)
- Derbyn hyfforddiant perthnasol a phriodol i ymgymryd â'r rôl
- Trefnu hyfforddiant, sefydlu a chyfarwyddyd ar gyfer pob cydweithiwr a gwirfoddolwr o fewn Teulu PDC sy'n briodol ar gyfer y rhaglenni neu weithgareddau dan sylw, gan gynnwys tynnu sylw at y polisi hwn
- Sicrhau bod pob cydweithiwr perthnasol yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n cwmpasu diogelu (Lefel 1) a'u bod yn gallu adnabod ac adrodd wrth y person priodol gynted ac y cânt eu codi
Cadw cofnodion ysgrifenedig manwl, cywir a diogel o atgyfeiriadau/pryderon
Ar gyfer gweithgareddau ymchwil, cyfrifoldeb Pennaeth yr Ysgol fydd sicrhau bod Swyddog Diogelu Dynodedig yn cael ei benodi ar gyfer unrhyw weithgareddau ymchwil sy'n ymwneud â Phlant neu Oedolion sy’n Wynebu Risg. Fel arfer, y SDD fydd y person sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros y gweithgaredd. Gall y Swyddog Dynodedig benodi Dirprwy SDD sy'n ymwneud â’r gweithgaredd o ddydd i ddydd i gefnogi'r SDD.
Mae materion pwysig i'w hystyried wrth weithio gyda grwpiau agored i niwed ar brosiect ymchwil:
- Mae'n rhaid i Bwyllgor Moeseg y Gyfadran/Hyrwyddwr Moeseg y Brifysgol/Pwyllgor Moeseg y Brifysgol, gyda'r Prif Adlofnodwr GDG, ystyried a oes angen datgeliad GDG ar unrhyw un sy'n gweithio gyda grwpiau agored i niwed fel rhan o brosiect ymchwil (boed yn gydweithiwr yn Nheulu PDC neu’n fyfyriwr) .
- Rhaid i bob ymchwil sy'n cynnwys grwpiau agored i niwed gael cymeradwyaeth gan Bwyllgor/Hyrwyddwr Moeseg y Gyfadran berthnasol a bod yn gyson â pholisi'r Brifysgol ar foeseg ymchwil.
- Dylai'r ymchwilydd sicrhau bod caniatâd gwybodus wedi'i gael gan rieni plant o dan 18 oed. Dylid rhoi cyfle i blant hefyd gydsynio i gymryd rhan, ond mae caniatâd rhieni yn hanfodol.
- Bydd unrhyw weithgaredd ymchwil yn parchu hawl yr unigolyn i gyfrinachedd ac yn cydymffurfio ag unrhyw god moeseg perthnasol sy'n berthnasol i'r math o ymchwil sy'n cael ei gynnal.
- Dylai'r ymchwilydd fonitro effaith yr ymchwil ar yr unigolyn er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo'n gyfforddus wrth barhau â'r ymchwil.
- Lle bynnag y bo'n bosibl, dylai hebryngydd o'r un rhyw fod yn bresennol bob amser yn ystod yr ymchwil.
Er mwyn cyflawni ein cyfrifoldeb diogelu tuag at Blant ac Oedolion sy’n Wynebu Risg Perygl o dan y polisi hwn, rhaid i adrannau Academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol sy'n gweithio gyda Phlant ac Oedolion sy’n Wynebu Risg sicrhau bod unigolion sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ar gael, a bod gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod yr adran yn gallu cydymffurfio â Pholisi Diogelu'r Brifysgol.
Deellir bod lefel yr ymgysylltiad â Phlant ac Oedolion sy’n Wynebu Risg Perygl yn amrywio'n sylweddol rhwng adrannau. Darperir canllawiau isod ar y trefniadau fyddai'n briodol mewn ystod o amgylchiadau penodol, ond dylai adrannau hefyd ofyn am gyngor gan Dîm Diogelu'r Brifysgol.
Rhaid i gyfadrannau ac adrannau sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg:
- Benodi SDD
- Penodi Arweinydd Diogelu Adrannol (ADA) os oes gan yr adran raglen helaeth yn gweithio gyda Phlant ac Oedolion sy’n Wynebu Risg. Gall yr ADA hefyd weithredu fel y SDD
- Sicrhau bod cyllid yn cael ei neilltuo i dalu unigolion sydd wedi'u hyfforddi'n briodol i gefnogi gwaith y gyfadran/adran gyda phlant ac oedolion sy’n wynebu risg
- Sicrhau bod cydweithwyr, myfyrwyr, prentisiaid a gwirfoddolwyr y gyfadran/adran sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu dethol neu eu recriwtio yn unol ag arfer gorau Recriwtio Mwy Diogel ac wedyn yn derbyn hyfforddiant diogelu priodol sy'n cael ei ddiweddaru o leiaf bob blwyddyn.
- Sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i gofnodi gwaith yr adran gyda phlant ac oedolion sy’n wynebu risg a rhoi gwybod i GLlD y Brifysgol am y gweithgaredd hwn
- Sicrhau bod Asesiad Risg Diogelu priodol yn cael ei wneud a bod unrhyw gamau a nodwyd gan yr asesiad risg yn cael eu cwblhau cyn i'r gweithgaredd ddechrau. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys ffurflenni caniatâd rhieni (gofalwyr), gwybodaeth gyswllt, alergenau a chyfyngiadau dietegol, cytundeb defnydd derbyniol o TG, ac ati
- Sicrhau bod cydweithwyr, myfyrwyr, prentisiaid a gwirfoddolwyr y gyfadran/adran sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n wynebu risg yn gyfarwydd â gweithdrefnau diogelu'r gyfadran/adran a'r Brifysgol o ran adrodd ac uwchgyfeirio pryderon sy’n gysylltiedig â diogelu
Yn ogystal, mae'n rhaid i gyfadrannau sy'n cynnig rhaglenni prentisiaethau:
- Sicrhau bod gan brentisiaid ymwybyddiaeth o ddiogelu a PREVENT, a'u bod yn deall sut i gael mynediad at wasanaethau cymorth yn y Brifysgol
- Cyfathrebu’n agored â chyflogwyr ynghylch diogelwch a lles prentisiaid
- Sicrhau bod cyflogwyr y maen nhw’n gweithio gyda nhw yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau diogelu a PREVENT, gyda chymorth gan dimau Prentisiaeth Gradd a Diogelu lle bo hynny'n briodol
Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i sicrhau ein bod yn trin pawb â pharch. Felly, dylem roi gwybod am unrhyw bryderon a allai fod gennym fod Plant neu Oedolion sy’n Wynebu Risg yn cael eu cam-drin a bod Plant ac Oedolion sy’n Wynebu Risg ac sy'n ymgysylltu â'n cydweithwyr, ein myfyrwyr a'n gwirfoddolwyr yn ystod ein gweithgareddau dan arweiniad y gweithle a’r Brifysgol, yn gwneud hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Mae'n rhaid i aelodau unigol o gymuned y Brifysgol:
- Sicrhau bod Plant ac Oedolion sy’n Wynebu Risg yn cael eu trin â pharch ac yn cael eu cefnogi pryd bynnag y byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a arweinir gan y brifysgol
- Ymgymryd â hyfforddiant priodol cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd dan arweiniad y brifysgol sy'n cynnwys Plant neu Oedolion sy’n Wynebu Risg
- Sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau i ddiogelu Plant ac Oedolion sy’n Wynebu Risg, boed yn gweithio i'r Brifysgol neu yn y Brifysgol mewn swydd â thâl neu'n cefnogi gweithgarwch dan arweiniad y brifysgol yn ddi-dâl fel gwirfoddolwr
- Sicrhau eu bod yn ymwybodol o sut i adrodd am bryder diogelu.
Dyma pan fo person, yn honedig, wedi:
- Ymddwyn mewn ffordd sydd wedi niweidio, a allai fod wedi niweidio, neu a allai arwain at niwed i blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg
- O bosibl wedi cyflawni trosedd neu’n bwriadu cyflawni trosedd yn erbyn neu sy'n gysylltiedig â phlentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg
- Wedi ymddwyn tuag at Blentyn neu Oedolion sy’n Wynebu Risg mewn ffordd sy'n awgrymu ei fod yn addas neu y byddai'n anaddas i weithio gyda Phlant neu Oedolion sy’n Wynebu Risg
Gallai'r honiad:
- Gynnwys plentyn/plant neu oedolyn/oedolion
- Bod heb ddioddefwr wedi’i nodi’n uniongyrchol fel y cyfryw. Er enghraifft, os yw rhywun yn edrych ar ddelweddau camdriniol o blant ar-lein neu'n defnyddio'r rhyngrwyd i feithrin perthynas amhriodol â phlant.
- Bod yn ymwneud ag unrhyw fath o gamdriniaeth
- Bod yn ymwneud â pherson nad yw bellach yn gweithio neu'n astudio yn PDC (a elwir yn 'honiad hanesyddol neu nad yw’n ddiweddar')
- Cynnwys pryder am blentyn aelod o Deulu neu fyfyriwr PDC
- Cynnwys pryder am blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg ac sy'n cyfrannu at ymchwil
Gall honiad diogelu godi pan fo:
- Plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg yn gwneud datgeliad ei hun
- Trydydd parti yn adrodd am, neu'n gwneud honiad am, rywun arall
- Ymddygiad niweidiol yn cael ei weld
- PDC yn cael gwybod gan yr heddlu neu'r awdurdod lleol bod unigolyn yn destun amddiffyn plentyn/oedolyn a/neu ymchwiliad troseddol
- Os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi’n uniongyrchol am bryder ynghylch eu diogelwch, dylech wneud y canlynol:
- Aros yn ddigynnwrf
- Cynigiwch sicrwydd eu bod wedi gwneud y peth iawn wrth ddweud wrthoch chi
- Gwrandewch yn astud a dangoswch eich bod yn cymryd yr hyn sy’n cael ei ddweud wrthoch chi’n cael ei gymryd o ddifrif
- Peidiwch â thorri ar draws y person pan fydd yn cofio digwyddiadau arwyddocaol
- Os ydynt o dan 18 oed, esboniwch fod gennych gyfrifoldeb i ddweud wrth rywun arall am yr hyn y dywedwyd wrthych oherwydd eich bod am eu cadw'n ddiogel.
- Os yw'n oedolyn sy’n wynebu risg, mae'n arfer da cael caniatâd yr unigolyn i rannu eich pryder. Os yw gwybodaeth wedi'i rhannu â chi yn gyfrinachol, gall pryder diogelu olygu bod cyfiawnhad dros rannu'r wybodaeth heb gydsyniad.
- Eglurwch wrthyn nhw beth fydd yn digwydd nesaf
- Gwnewch gofnod llawn o'r hyn a ddwedir ac a wneir. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen casglu gwybodaeth neu gallwch gofnodi drwy'r system Adrodd a Chymorth, er na ddylai hyn oedi cyn adrodd am y pryder wrth y Swyddog Diogelu Dynodedig.
- Peidiwch â/ag:
- thorri ar draws neu eu hatal rhag siarad yn rhydd
- ymateb yn gryf, er enghraifft, drwy ddweud "mae hynny'n ofnadwy" neu "sut y gallai rhywun wneud hynny?"
- neidio i gasgliadau am yr hyn a ddigwyddodd neu bwy sydd ar fai
- gofyn cwestiynau arweiniol i gael rhagor o wybodaeth; gallwch ofyn cwestiynau i egluro mwy, er enghraifft "Ydych chi'n dweud wrtha i bod...?" a defnyddio eu geiriau eu hunain
- addo cyfrinachedd
- trafodwch y pryder gydag unrhyw un neu rai oni bai bod ganddynt rôl ddiogelu yn y Brifysgol
- ceisio ymchwilio i unrhyw un o'r honiadau
- Dylai'r cofnod gynnwys:
- Disgrifiad yr unigolyn o'r hyn sydd wedi digwydd
- Natur yr honiad neu'r pryder
- Disgrifiad o unrhyw anaf corfforol gweladwy (ni ddylid tynnu dillad i archwilio'r anaf)
- Cofnod gair am air o'r datgeliad, y gellid ei ddefnyddio yn ddiweddarach mewn achos troseddol. Felly, mae'n hanfodol bod yr hyn sy'n cael ei ddatgelu yn cael ei gofnodi mor gywir â phosibl. Rhaid drafftio'r cofnod yng ngeiriau'r person ac ni ddylai gynnwys rhagdybiaethau na barn pobl eraill
- Unrhyw ddyddiadau, amseroedd neu leoedd
- Unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddiol
Dylid adrodd unrhyw bryderon neu ddatgeliad diogelu yn brydlon i’r Swyddog Diogelu Dynodedig. Dylai'r SDD / DSDD adrodd am y pryder ar unwaith i'r SDA neu'r PSD a fydd yn rhoi’r camau priodol ar waith.
Mae gan y Swyddog Diogelu Arweiniol a'r Prif Swyddog Diogelu gyfrifoldeb i weithredu ar ran y Brifysgol wrth ddelio â honiadau neu amheuaeth o gamdriniaeth neu esgeulustod. Bydd hyn yn cynnwys atgyfeirio'r mater at yr awdurdodau statudol priodol (yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol) fydd yn asesu'r wybodaeth ac yn penderfynu a oes angen ymchwiliad gan yr heddlu a/neu reoleiddiwr iechyd a gofal cymdeithasol, cyn i'r Brifysgol ystyried a ddylid rhoi cychwyn ar unrhyw un neu rai o'i gweithdrefnau mewnol eraill h.y. disgyblu, diswyddo staff, Rheoliadau a Gweithdrefnau Ymddygiad Myfyrwyr a Rheoliadau a Gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer.
Os yw'r pryder o natur ddifrifol iawn ac yn codi y tu allan i oriau swyddfa arferol (gyda'r nos a dros y penwythnos), dylid cysylltu’n uniongyrchol â Thîm Dyletswydd Argyfwng y gwasanaethau cymdeithasol perthnasol.
Lle mae gweithgareddau allgymorth, er enghraifft mewn ysgol neu ysbyty, dylid cyfeirio cam-drin a adroddir neu a amheuir at SDD yr ysgol neu'r ysbyty. Disgwyliad PDC yw y rhoddir gwybod am unrhyw atgyfeiriad o'r fath i sylw Swyddog Diogelu Arweiniol y Brifysgol gan yr ysgol neu'r Swyddog Diogelu Dynodedig yr ysgol neu’r ysbyty.
Gall derbyn datgeliad fod yn anodd i'r person yr adroddir amdano wrtho. Cynigir cefnogaeth briodol i unrhyw un sy'n derbyn datgeliad, fel arfer drwy’r drefn rheolwyr llinell.
Gall myfyrwyr neu gydweithwyr ddatgelu eu bod yn destun cam-drin hanesyddol gan rywun y tu allan i PDC. Gall rhai honiadau o gam-drin hanesyddol godi pryderon y gallai eraill fod yn wynebu risg. Os yw'r unigolyn wedi darparu digon o wybodaeth i adnabod y cyflawnwr honedig, efallai y bydd gan PDC rwymedigaeth i rannu'r wybodaeth hon gyda'r awdurdodau perthnasol.
Mae gan PDC ddyletswydd i rannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill i ddiogelu Plant ac Oedolion sy’n Wynebu Risg.
Bydd PDC yn gofyn am ganiatâd gan y plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg ac sy’n adrodd am y pryder cyn rhannu'r wybodaeth ddiogelu yn gyfrinachol i awdurdod neu asiantaeth allanol. Fodd bynnag, gellir rhannu gwybodaeth heb gydsyniad os yw PDC yn credu bod rheswm da dros wneud hynny, ac y bydd rhannu gwybodaeth yn gwella diogelwch plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg mewn modd amserol. Ni ddylid ystyried cyfreithiau a rheoliadau diogelu data fel rhwystr rhag rhannu gwybodaeth ddiogelu.
Pan fydd PDC yn penderfynu rhannu gwybodaeth heb ganiatâd, bydd cofnod yn cael ei gadw o'r drafodaeth a'r broses a gafwyd i benderfynu rhannu'r wybodaeth honno.
Dylid rhannu gwybodaeth ar sail angen gwybod yn unig, fel y bernir gan y Swyddog Diogelu Dynodedig / Prif Swyddog Diogelu/Swyddog Diogelu Arweiniol ac ar ôl cael cyngor gan dîm cyfreithiol PDC.
Mae chwythu'r chwiban yn agwedd bwysig ar sefydliad diogel lle anogir cydweithwyr, mentoriaid myfyrwyr a gwirfoddolwyr i rannu pryderon dilys am ymddygiad cydweithiwr, yn gyfrinachol, gyda Phrif Swyddog Diogelu.
Mae gweithio gyda Phlant neu Oedolion sy’n Wynebu Risg yn rhoi'r rhai sy'n gweithio i deulu PDC mewn safle o bŵer. Er mwyn cadw ymddiriedaeth plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg, mae'n hanfodol bod pob cam rhesymol yn cael ei roi ar waith i sicrhau bod y pŵer hwn yn cael ei arfer yn gyfrifol.
Efallai y bydd sefyllfaoedd lle mae gan gydweithwyr neu wirfoddolwyr bryderon dilys am ymddygiad cydweithiwr tuag at blentyn neu oedolyn. Mae gan bob aelod o'r Brifysgol yr hawl a'r cyfrifoldeb i godi pryderon, heb ragfarnu eu safbwynt eu hunain, ynghylch ymddygiad cydweithwyr, rheolwyr, gwirfoddolwyr, myfyrwyr neu eraill, a allai fod yn niweidiol i'r rhai sydd yn eu gofal, a bydd yn derbyn y cymorth priodol wrth wneud hynny.
Bydd y Brifysgol yn cefnogi ac yn amddiffyn y cydweithwyr a'r myfyrwyr hynny sy'n codi pryderon y credant sy'n wir (sydd hefyd yn cael eu gwneud er budd y cyhoedd). Gall y pryderon gynnwys amheuon o gam-drin neu bryderon am gydweithwyr a'u gweithredoedd.
Gall hyn fod yn fater anodd iawn i ymdrin ag ef. Gall fod yn anodd derbyn y gall cydweithiwr niweidio plentyn neu oedolyn. Efallai hefyd bod yr ymddygiad sy'n achosi pryder yn arfer gwael yn hytrach nag yn gam-drin. Dylid rhoi gwybod yn gyntaf i'r Swyddog Diogelu Dynodedig am unrhyw bryderon.
Mae'n bwysig bod unrhyw ymateb yn cael ei gydlynu'n iawn a bod digwyddiadau'n cael eu rheoli yn y drefn gywir. At y diben hwn, ni fydd PDC yn rhoi unrhyw gamau pellach ar waith yn erbyn aelod o'r Brifysgol heb gyngor yr asiantaethau ymchwilio (e.e. yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol), ac eithrio pan fo angen gweithredu camau o'r fath i amddiffyn plentyn neu oedolyn.
Os yw'r pryder, ar ôl ystyried ac unrhyw ymgynghoriad, yn amlwg ynglŷn ag arfer gwael yn hytrach na cham-drin, bydd y Brifysgol yn gweithredu’r camau angenrheidiol i gynghori, rheoli neu gychwyn camau disgyblu yn erbyn yr aelod o'r Brifysgol y gwnaed yr honiad amdano.
Waeth beth fydd canlyniad unrhyw ymchwiliadau gan yr heddlu neu wasanaethau cymdeithasol, gall y Brifysgol ystyried camau disgyblu yn unol â'i gweithdrefn ddisgyblu.
Yn sgil eu cyswllt â phlentyn neu oedolyn, gall aelodau o'r Brifysgol bryderu bod person yn cael ei gam-drin gan rywun sydd heb gysylltiad â'r Brifysgol. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai'r unigolyn roi gwybod i'r Swyddog Diogelu Dynodedig.
Gall y swyddog Diogelu Dynodedig ofyn am gyngor gan y Prif Swyddogion Diogelu neu’r Swyddog Diogelu Arweiniol i benderfynu ar ddull gweithredu ac adrodd priodol.
Gallai plentyn neu oedolyn sydd ar y campws drwy sefydliad allanol wneud honiad o gam-drin i aelod o'r Brifysgol am oedolyn sy'n aelod o'r sefydliad allanol hwnnw. Yn y sefyllfa hon, rhaid i'r aelod o'r Brifysgol adrodd yr honiad i'r Swyddog Diogelu Dynodedig.
Bydd y Swyddog Diogelu Dynodedig yn rhoi gwybod i'r sefydliad allanol am y mater a bydd yn hysbysu'r Swyddog Diogelu Arweiniol o hynny.
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i'r sefydliad ddilyn ei bolisi diogelu ei hun a bydd angen cadarnhad bod y camau priodol wedi'u gweithredu. Yn ogystal, bydd y Swyddog Diogelu Arweiniol yn ystyried a ddylid caniatáu i'r sefydliad allanol barhau i ddefnyddio'r cyfleusterau yn ystod cyfnod yr ymchwiliad a c wedi hynny.