Telerau ac Amodau Tynnu Tewcyn
Dyma'r hyrwyddwr: Prifysgol De Cymru, Heol Llanilltud, Trefforest, Pontypridd CF37 1DL, Adran Myfyrwyr y Dyfodol, Tîm Recriwtio Myfyrwyr, y cyfeirir atynt fel (“y Brifysgol”).
Teitl y wobr yw Gwobr Ymholwyr PDC 2025.
Telerau ac Amodau
Mae’r Brifysgol yn gwahodd pob Ymholwr i gymryd rhan yng Ngwobr Ymholwyr PDC 2025. Yn y Wobr hon (ystyr “Ymholwr/Ymholwyr”) yw rhywun nad yw wedi gwneud cais i astudio yn y Brifysgol, neu heb gofrestru fel myfyriwr yno ar hyn o bryd.
Y Rheolau
1. Sut mae cymryd rhan
- Rydym yn cynnal cyfres o wobrau a fydd ar gael rhwng 1 Medi 2025 a 6 Gorffennaf 2026. Mae cyfanswm o 3 gwobr, ac mae manylion pob gwobr wedi’u nodi yn Amod 3. Y Wobr, Manylion y Wobr (tabl)
- Mae cyfyngiad o un cais am bob gwobr i bob unigolyn. Does dim modd i chi gael eich dewis fel enillydd mwy nag un wobr. Os byddwch yn ennill gwobr, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer gwobrau yn y dyfodol. Ni dderbynnir ceisiadau ar ran rhywun arall.
- I gymryd rhan yn y wobr, llenwch y ffurflen Microsoft rydych wedi'i chael gan eich ysgol a/neu goleg drwy ddigwyddiadau’r Brifysgol.
- Mae cymryd rhan yng Ngwobr Ymholwyr PDC 2025 am ddim a does dim rhaid i chi brynu dim byd.
- Ni dderbynnir unrhyw geisiadau ar ôl y Dyddiad Cau.
- Drwy gyflwyno cais am wobr i gystadleuaeth Gwobr Ymholwyr PDC 2025 rydych chi’n cytuno i’r telerau ac amodau hyn.
- Bydd y rheini sydd wedi ennill yn cael eu tynnu ar hap o'r holl geisiadau cymwys o fewn dyddiadau'r wobr berthnasol.
2. Cymhwysedd
- Dim ond i Ymholwyr 14 oed a hŷn y mae’r wobr ar agor, a rhaid gallu dilysu eu cymhwysedd gyda’r data sydd gan y Brifysgol amdanynt, ac eithrio gweithwyr y Brifysgol neu unrhyw gwmnïau cysylltiedig, yn ogystal ag aelodau agos o’u teuluoedd agos neu aelwydydd. Gall rhieni neu warcheidwaid gymryd rhan ar ran plentyn, a rhaid i'r rhai dan 16 oed gael caniatâd ysgrifenedig gan riant neu warcheidwad i gymryd rhan a hawlio gwobr.
- Nid ydych yn gymwys i gymryd rhan yn y Wobr hon os ydych chi wedi gwneud cais, neu wedi cael cynnig, i astudio yn y Brifysgol.
- Wrth gymryd rhan yn y wobr, rydych chi'n cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny ac yn gymwys i hawlio unrhyw wobr y gallech chi ei hennill.
- Mae'r Brifysgol yn cadw'r holl hawliau i’ch gwahardd os yw eich ymddygiad yn groes i ysbryd neu fwriad y wobr, neu os ydych yn cael eich ystyried yn anghymwys yn unol â chofnodion y Brifysgol.
3. Y Wobr
- Y Brifysgol sy'n darparu’r wobr. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ddisodli'r wobr â gwobr arall o’r un gwerth neu werth uwch os yw amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol yn gwneud hynny'n angenrheidiol.
- Nid oes unrhyw wobr amgen ar gael ac nid yw’r wobr yn agored i drafodaeth, ei chyfnewid, na'i throsglwyddo, ac ni chynigir unrhyw arian parod yn ei lle. Nid yw defnydd y Brifysgol o frandiau penodol fel gwobrau yn awgrymu unrhyw gysylltiad na chefnogaeth i'r brandiau hynny.
- Nid yw'r Brifysgol yn darparu unrhyw fath o gymorth ymarferol ar gyfer y wobr; mae'r wobr ar gael "fel y mae". Gall y darparwr perthnasol gyhoeddi ei delerau a'i amodau ei hun i’r gwobrau. I dderbyn y wobr, rhaid i’r enillydd hefyd dderbyn unrhyw delerau ac amodau perthnasol i’r wobr (er enghraifft, telerau ac amodau cerdyn rhodd).
Manylion y Wobr
|
Gwobr |
Disgrifiad o’r Wobr |
Nifer yr “Enillwyr” |
“Dyddiad agor” |
“Dyddiad cau” |
“Dyddiad cyhoeddi” |
Ble i gasglu'r wobr |
|
1 |
Cerdyn rhodd One4All gwerth £200 |
1 |
1st Medi 2025 |
1 Rhagfyr 2025 |
8 Rhagfyr 2025 |
Wedi'i bostio i gyfeiriad cartref yr enillydd neu os yw’r enillydd yn lleol bydd yn cael ei ddosbarthu i’w ysgol neu goleg oni bai y cytunir ar drefniadau eraill. |
|
2 |
Cerdyn rhodd One4All gwerth £200 |
1 |
2 Rhagfyr 2025 |
23 Mawrth 2026 |
30 Mawrth 2026 |
Wedi'i bostio i gyfeiriad cartref yr enillydd neu os yw’r enillydd yn lleol bydd yn cael ei ddosbarthu i’w ysgol neu goleg oni bai y cytunir ar drefniadau eraill.
|
|
3 |
Cerdyn rhodd One4All gwerth £200 |
1 |
24 Mawrth 2026 |
6 Gorffennaf 2026 |
13 Gorffennaf 2026 |
Wedi'i bostio i gyfeiriad cartref yr enillydd neu os yw’r enillydd yn lleol bydd yn cael ei ddosbarthu i’w ysgol neu goleg oni bai y cytunir ar drefniadau eraill.
|
4. Cyhoeddi'r Enillydd
- Mae penderfyniad y Brifysgol yn derfynol ac ni fydd yn cynnal unrhyw ohebiaeth na thrafodaeth.
- Bydd y Brifysgol yn cysylltu â’r enillydd drwy’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddir ar gyfer y cais am wobr cyn gynted ag y bydd yn ymarferol i wneud hynny neu ar ôl y Dyddiad Cyhoeddi. Ni fydd y Brifysgol yn newid yr wybodaeth gyswllt hon ar ôl i’r cais am wobr gael ei gyflwyno a bydd yr holl ohebiaeth a wneir yn cael ei chynnal gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost y mae’r Brifysgol wedi'i ddarparu.
- Ar y Dyddiad Cyhoeddi, bydd cyfenw a sir yr enillydd/enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar wefan Ysgolion a Cholegau - Prifysgol De Cymru ar ôl iddynt dderbyn y wobr. Mae cymryd rhan yn y wobr yn golygu eich bod yn cytuno i ddatgelu eich enw fel enillydd y wobr fel hyn. Os ydych chi’n gwrthod gadael i’ch gwybodaeth gael ei chyhoeddi, e-bostiwch ni yn [email protected].
- Enillydd raffl gwobr 1: Elliott, Casnewydd
- Enillydd raffl gwobr 1: Leo, Bristol
5. Hawlio'r Wobr
- Os byddwch chi'n ennill gwobr, bydd gennych 72 awr i hawlio'r wobr o'r adeg pan gafodd yr e-bost ei anfon atoch neu ar ôl y Dyddiad Cyhoeddi drwy ymateb i'r e-bost a gawsoch gennym i’r cyfeiriad y gwnaethoch ei roi yn ystod y broses ddilysu (a ddisgrifir yn Amod 2). Oni fyddwch yn hawlio eich gwobr erbyn yr amser hwn ni fydd eich hawliad yn ddilys.
- Does dim modd i drydydd parti hawlio’r wobr ar eich rhan.
- Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i gysylltu â’r enillydd. Os nad oes modd cael gafael ar yr enillydd neu os nad yw ar gael neu os nad yw wedi hawlio’r wobr o fewn yr amser a nodwyd, mae gan y Brifysgol yr hawl i gynnig y wobr i'r ymgeisydd cymwys nesaf a ddewiswyd o'r ceisiadau ail orau a ddaeth i law cyn Dyddiad Cau'r wobr berthnasol.
- Nid yw’r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os nad ydych chi’n gallu hawlio’r wobr.
- Bydd y Brifysgol yn trefnu bod y wobr yn cael ei dosbarthu/casglu drwy gytundeb ar y cyd, o fewn 14 diwrnod i’r Dyddiad Cyhoeddi, ac eithrio pan mae trefniadau dosbarthu wedi'u hamlinellu yn Amod 3. Y Wobr, Manylion y Wobr.
6. Cyfyngiad Cyfrifoldeb
- I'r graddau y caniateir gan y gyfraith, ni fydd y Brifysgol, ei hasiantau na’i dosbarthwyr mewn unrhyw amgylchiadau'n gyfrifol nac yn atebol am ad-dalu unrhyw gyfranogwr, enillydd na thrydydd parti, ac eithrio yn achos anaf corfforol neu farwolaeth sy'n deillio'n uniongyrchol o esgeulustod y Brifysgol. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
7. Diogelu Data
- Bydd y Brifysgol yn cadw gwybodaeth bersonol at ddibenion y wobr hon ac yn ei storio a'i defnyddio yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol neu: Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnydd o Wybodaeth Bersonol cyffredinol | Prifysgol De Cymru. Gweler hefyd Amod 4, o ran dilysu a chyhoeddi enillwyr gwobrau.
8. Telerau Cyffredinol
- Os oes unrhyw reswm dros gredu bod unrhyw un o’r telerau a'r amodau hyn wedi’u torri, gall y Brifysgol, yn unol â'i disgresiwn ei hun, gadw'r hawl i'ch eithrio chi rhag cymryd rhan yn y wobr.
- Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gael gwared, gwahardd, canslo, neu ddiwygio'r wobr lle bo angen.
- Cynhelir y telerau a'r amodau hyn dan gyfraith Saesneg, ac rydych chi a’r Brifysgol yn cytuno i ddim ond defnyddio llysoedd Cymru a Lloegr.
- Os bydd unrhyw anghytuno, mae penderfyniad y Brifysgol yn derfynol.