Cyrsiau Blwyddyn Sylfaen

Enillwch y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch ar gyfer addysg uwch.

Gweld pob cwrs
Students studying on a laptop and talking.

Beth yw blwyddyn sylfaen?

Blwyddyn ychwanegol o astudio cyn gradd israddedig lawn yw blwyddyn sylfaen. Maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr nad oes ganddynt y graddau ar hyn o bryd i fynd yn syth ymlaen i radd neu fyfyrwyr sy'n ystyried dychwelyd i addysg. 

Yn ystod blwyddyn sylfaen, byddwch yn ennill dealltwriaeth o'ch maes astudio ac yn datblygu sgiliau academaidd allweddol a hyder sydd eu hangen i symud ymlaen i'r rhaglen radd tair blynedd lawn. Os byddwch yn cwblhau eich blwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen yn syth i flwyddyn gyntaf gradd mewn pwnc cysylltiedig.

Manteision Allweddol

Llwybr Mynediad Amgen

Mae blwyddyn sylfaen yn eich helpu i ennill y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gradd os nad ydych yn bodloni'r gofynion mynediad.

Meithrin Hyder

Bydd gennych fwy o amser i ddod i arfer â dulliau a disgwyliadau astudio ac asesu ar lefel prifysgol.

Gwella Sgiliau Academaidd

Bydd astudio blwyddyn sylfaen yn eich helpu i ddysgu sut i gydbwyso astudio, dyddiadau cau a dysgu annibynnol.

Amgylchedd Cefnogol

Mae blynyddoedd sylfaen yn hwyluso'r newid i addysg uwch, gan roi amser i chi ofyn cwestiynau ac ymgartrefu, yn enwedig os ydych chi'n dychwelyd i addysg.


Faint mae blwyddyn sylfaen yn costio? 

Mae'r ffi dysgu i fyfyrwyr y DU ar flynyddoedd sylfaen yn amrywio o £5,760 i £9,790, yn dibynnu ar y cwrs. Bydd ffioedd ar gyfer blynyddoedd dilynol y cwrs gradd yn cael eu codi yn unol â'n ffioedd israddedig cartref amser llawn safonol. Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, lle bo'n berthnasol, mae'r ffi blwyddyn sylfaen yn amrywio o £16,800 to £17,200.

Edrychwch ar dudalen y cwrs perthnasol i gael gwybodaeth fanwl am y ffioedd penodol sy'n berthnasol i'ch cwrs ac i gadarnhau cymhwysedd ar gyfer y ffioedd a nodwyd.

Gallwch wirio ein am y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd

Sut i ddod o hyd i flynyddoedd sylfaen

Gallwch bori cyrsiau sy'n cynnig blwyddyn sylfaen ar wefan PDC. Chwiliwch am flynyddoedd sylfaen gan ddefnyddio ein blwch chwilio am gyrsiau neu cliciwch ar y ddolen isod i weld pob cwrs blwyddyn sylfaen. 

Gweld pob cwrs blwyddyn sylfaen

GWNEUD CAIS NAWR

Ni ddylai gwneud cais i brifysgol fod yn brofiad brawychus. O ddod o hyd i'r cwrs cywir i sut i gyflwyno'r cais perffaith, mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni.

Gwneud cais i PDC