Cyrsiau DPP
Gall cyrsiau DPP iechyd yn PDC sicrhau eich bod yn diweddaru eich sgiliau, yn cynyddu eich dealltwriaeth o bynciau newydd a hyd yn oed eich helpu i fentro i feysydd newydd. Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu am bynciau gan gynnwys presgripsiynu annibynnol, darllen Electrocardiogramau a gofalu am gleifion â dementia.
Gweld Cyrsiau Gwneud Cais/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/subject-nursing-classroom-49333.jpg)
Mae gyrfa mewn gofal iechyd yn un hynod werth chweil, ac mae technegau'n datblygu ac yn gwella'n barhaus wrth I ni wneud darganfyddiadau newydd.
Cyrsiau
Pam astudio gyda PDC?
-
Mae ein Canolfan Efelychiadau Clinigol yn ail-greu amgylcheddau clinigol at ddibenion addysg a hyfforddiant. Mae'r rhain yn cynnwys dau fae pedwar gwely i efelychu lleoliad ysbyty, cyfleusterau pediatrig a mamolaeth pwrpasol, gan gynnwys uned gofal arbennig i fabanod, amgylchedd gofal dwys ac adran achosion brys gydag efelychydd ambiwlans â’r offer i gyd.
-
Mae ein staff addysgu i gyd wedi gweithio yn y maes ers blynyddoedd lawer ac mae ganddynt ystod eang o brofiad ac arbenigedd y byddant yn eu trosglwyddo i chi. Mae'r Brifysgol yn ymfalchïo yn y gefnogaeth y mae'n ei rhoi i fyfyrwyr ar ei graddau nyrsio, yn ymarferol ac yn emosiynol. Mae gan bob myfyriwr diwtor personol a goruchwyliwr modiwl sy'n gallu cynnig arweiniad a chymorth ychwanegol.
-
Mae ein cyrsiau nyrsio yn cwmpasu'r rhan fwyaf o agweddau ar y proffesiynau gofal iechyd. O ddod yn nyrs gofrestredig i deilwra eich gyrfa at broffesiwn gofal iechyd penodol, gall PDC eich helpu i gymryd y cam nesaf. Gallwch arbenigo mewn maes penodol, datblygu sgiliau arwain a rheoli a hyd yn oed astudio addysg yn ymwneud â theorïau gofal iechyd.
Sut i wneud cais
Bydd gan bob cwrs ei bwynt cyswllt ei hun a bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i'r tiwtor a enwir ar dudalen y cwrs.
Ewch i'ch cwrs dewisol i wneud cais